Mae’n rhyfedd faint o bethau y gall dyn eu gwneud mewn un diwrnod sy’n dweud nad ydw i wedi gorffen gyda hanes y diwrnod cyntaf o’r gwyliau eto. Wrth deithio yn ôl o Thetford ar yr A11 dyma llygad RO yn cael ei dynnu gan enw lle nad oeddwn i erioed wedi clywed amdano o’r [...]

Darllen y post llawn »

Bem vindo a Thetford Norfolk!

Mae ‘na un peth arall wnaeth fy nharo i am Thetford, roeddwn i’n clywed pobol yn siarad Portwgeeg dros y dref i gyd. Wrth gerdded yn ôl i’r lle roedd y car wedi’i barcio dyma basio siop a oedd yn arbenigo mewn pethau Portwgeaidd. Enw’r siop oedd O Celeiro ac roedd [...]

Darllen y post llawn »

Bechigalw

Dros yr haf, derbyniodd pob aelod o’r dosbarth efo Ned llythyr trwy’r post. Roedd ei lythyr yn llawn o newyddion, ac roedd ‘na ddarn o waith cartref yn yr amlen hefyd. Anfonodd Ned gopi o bedair tudalen (maint A5) o stori o’r enw ‘Siop y Gonol’ …

Darllen y post llawn »

Ymddengys bod y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegrwedi dewis arweinydd newydd - Caroline Lucas, aelod yn senedd Ewrop yn Ne Ddwyrain Lloegr. Dirprwy Ms Lucas fydd Adrian RamseyLlongyfarchiadau ac ati. Beth bynnag mae rhywun yn ei feddwl am bolisiau’r B…

Darllen y post llawn »

Os wyt ti’n gyfarwydd â doc Mac OSX sy’n cynnwys lanswyr wedi eu hanimeiddio efallai y bydd diddordeb gen ti yn Cairo-dock. Mae Cairo-dock yn cynnig yr un math o brofiadau i ddefnyddiwr Ubuntu, ac wrth gwrs, mae’n rhad ac am ddim ac yn hawdd iawn i’w sefydlu.

Mae’r cyfarwyddiadau hyn ar gyfer sefydlu Cairo-dock drwy’r Cronfeydd Meddalwedd ar system Ubuntu 8.04 (Hardy). Mae gwybodaeth am ffyrdd eraill o’i sefydlu ar systemau gwahanol ar wefan Cymuned Ubuntu.

1 - Cronfa Meddalwedd

Mae gan Cairo-dock gronfa meddalwedd ei hun, felly ychwanega hwn at dy system drwy agor terfynell  a theipio:
$ sudo gedit /etc/apt/sources.list

Ychwanega’r côd canlynol ar waelod y ffeil sy’n agor, ei cadw a’i cau:
deb http://repository.cairo-dock.org/ubuntu hardy cairo-dock

2 - Allwedd GPG

I ychwanegu’r allwedd gpg agor terfynell a gludo’r canlynol cyn pwyso enter:
$ wget -q http://repository.cairo-dock.org/ubuntu/cairo-dock.gpg -O- | sudo apt-key add -

3 Llwytho’r meddalwedd

Agor terfynell a theipia’r canlynol, un ar y tro:
$ sudo apt-get update
$ sudo apt-get install cairo-dock cairo-dock-plugins

4 Cychwyn Cairo-dock

Mae modd lansio Cairo-dock o Rhaglenni-> Offer System-> Cairo-Dock neu drwy’r terfynell gyda’r gorchymyn
$ cairo-dock

I ychwanegu Cairo-dock at y rhaglenni sy’n cychwyn gyda’r system dilyn y cyfarwyddiadau sydd ar ddiwedd y cofnod hwn, gan roi cairo-dock yn lle conky.

5 Cymreigio ac addasu Cairo-dock

Mae modd i ti addasu Cairo-dock mewn cannoedd o ffyrdd gwahanol.

  • Llusga lansiwr i’r doc i’w ychwanegu at Cairo-dock.
  • I newid enw lansiwr yn Cairo-dock rho glec dde iddo a chlec i Modify this launcher. Rho deitl Cymraeg y rhaglen yn Launcher’s name.
  • Rho glec dde i’r doc ac yna Cairo-Dock -> Configure neu Cairo-Dock-> Themes i gael addasu’r thema, ac ymddygiad popeth arall.

6 Gwybodaeth bellach

Gwefan Cairo-dock (Ffrangeg)
Wiki Saesneg
Cymuned Ubuntu

Cairo-dock ar fy system i!

Cairo-dock

Comments

Darllen y post llawn »

Michael Fabricant

Mae stori ryfedd yn y Guardian heddiw am yr aelod seneddol Torïaidd, Michael Fabricant, yn cael ei ddal gan filwyr yn Colombia oedd yn meddwl fod y gwynnwr coffi oedd ganddo yn ei feddiant yn gocaîn ac yn ei orfodi i’w fwyta. Roedd ar wyliau cerdded yn Colombia, ond mae’n cyfaddef
“It took some explanation, as [...]

Darllen y post llawn »

Ysgolhaig o fri a ffugiwr mwyaf Cymru a ddyfeisiodd “Gorsedd y Beirdd” a”i seremoni sy”n parhau i ddenu miloedd hyd heddiw.

Darllen y post llawn »

Rah Rah Rah!

O’n i’n teimlo’n ‘rah rah rah’ iawn ddoe, achos cymres i ran mewn yacht race!Yn Vava’u, ma’ nhw’n cael ras o’r fath bob dydd Gwener, a ddoe o’n i’n nabod criw o fechgyn lleol sy’n gweithio ‘da cychod, ac o’n nhw’n rasio, felly ges i a Hannah wahoddiad …

Darllen y post llawn »

lle mae bedd John?

Mae Dr. Hunter yn credu bod bedd John B. Jones yn Denver. Ond beth am fap y fynwent? A hanes First Baptist Church?Mi es i lyfrgell y brifysgol y bore ma i chwilio am erthyglau hen papur newydd ar ficroffilm. Dwedodd yr erthygl mai yn Denver mae bedd Jo…

Darllen y post llawn »

Ceir y dyfodol?

Rhestr o 6 car gwyrdd. Pa mor bell ydyn ni o weld ceir fel hyn ar y ffyrdd, tybed?

Darllen y post llawn »

Geiriaduron Cymraeg

Dwi wedi bod yn chwilio am eiriadur Cymraeg newydd yn diweddar. Am ryw rheswm, dim clem pam, mae ‘na llawer iawn ar gael yn Asia….

Kinokuniya, Orchard Road, Singapore:

(File between Urdu & Vietnamese…)
Friendship Store, Beijing, China:

(Dau gwahanol geiriadur Cymraeg yma…)
Xidan Bookstore, Beijing, China:

Dwi hefyd wedi gweld geiriadurion a llyfrau ramadeg Cymraeg yn Borders, ar Orchard Road, [...]

Darllen y post llawn »

Prawf Bechdel

Beth yw Prawf Bechdel? Mae’n dod o gartwn gan Alison Bechdel, o 1985:

Yn y bôn, mae ffilm yn pasio’r prawf:

Os oes o leia dwy ferch ynddi, sy’n
Siarad â’i gilydd
Am rybeth ar wahan i ddyn

O ystyried y ffilmiau dw i wedi gwylio yn diweddar, sdim lot sy wedi newid ers yr wythdegau.

Edge of Love - dwy [...]

Darllen y post llawn »

Dw i’n cymryd y bydd bron pawb sy’n darllen y Blog yn gyfarwydd erbyn hyn a gwefan Cymraeg newydd y Daily Post. Does dim angen dweud bod hwn yn ddatblygiad i’w groesawi. Yr hyn sy’n ddiddorol yw cymhellion y cwmni….

Darllen y post llawn »

Pontypool

Pontypool, y mwfi.
Says the director during a break from post-production duties, “When I tell people, ‘Oh yeah, it’s about how the English language gets infected with a virus,’ they say, ‘Wha?’ But it catches their attention. I tell them again and maybe go on to say, ‘Yeah, yeah, the first words to be infected are [...]

Darllen y post llawn »

Pam ar y ddaear y mae pobol yn tanseilio eu dadleuon eu hun trwy ddweud pethau hurt? Mae ‘na ffrae leol ym Miwmares heddiw ar ôl i swyddogion iechyd amgylcheddol y cyngior rybuddio’r Eglwys i beidio chwarae’r clychau’n ormodol ar…

Darllen y post llawn »

Ydy “Croeso Cymru” wedi rhoi i fyny? Mae’n anodd peidio dod i’r casgliad hwnnw wrth ymweld â’i gwefan Cymraeg. Er bod yr hafan yn ddigon prydferth yr olwg does dim un o’r dolenni i adrannau eraill y gwefan yn gweithio…

Darllen y post llawn »

Taith Mis Medi

Bob mis Medi , fe fyddwn yn crwydro i le arbennig. Llynedd, y Rockies ddaru ein denu , ond eleni da ni di trefnu i fynd ar daith i America. Tair noson ar y Coral Princess o Vancouver i LA, wedyn ……..

Darllen y post llawn »

Twll mewn un arall :)

Dim i fi ond i’m gwr ! A’r peth mwya rhyfedda ydi ei fod o wedi digwydd ar yr un twll, sef #15 yng nghwrs golff Longlands. Felly be di’r tebygolrwydd o hyn i ddigwydd o fewn ychydig o wythnosau i’w gilydd ?Llongyfarchiadau i ti cariad …xx

Darllen y post llawn »

wrth nyrsio ‘nhroed i…

llwyddais i dorri ‘nhroed chwith ddoe so bore ‘ma bues i yn y feddygfa yn cael triniaeth. roedd rhaid i fi seiclo adref wedyn dan wisgo’r sblint esgid enfawr ar ‘nhroed!

dywedodd y meddyg wrthyf taw gwylio lot o My-HiME yw’r peth gorau ar gyfer troed ‘di ei thorri.

a siocled.

rwy’n ceisio canlyn ei hargymelliadau’n ofalus er mwyn gwella cyn gynted ag y bo modd.

Darllen y post llawn »

Ffisegydd dylanwadol a “thad y gell danwydd”.

Darllen y post llawn »

Nesaf »