Oes ganddoch chi flog Saesneg? Fyddech chi'n licio dysgu gair Cymraeg newydd bob dydd i'ch ymwelwyr? Cewch gyda'r ffrwd RSS YMA...:-)

Star Trek Duvet Day

Un diwrnod ffoniodd y stunt choreographer fewn yn sal…

Darllen y post llawn »

Bu uffach o rycshwns yn y tŷ nithwr. Odd Xosé wedi bod mas ar griws gida’r bobol o’i waith a dath e nôl yn feddw racs – yn wath nag ifi wedi ei weld e eriod. Odd Pablo a finna’n watsho The Texas Chain Saw Massacre ar y pryd, ond ar ôl gweld…

Darllen y post llawn »

OpenOffice.org 3

Er nad yw yng nghronfeydd meddalwedd Ubuntu eto, nac yn debygol o fod am dipyn, mae modd i ti lwytho OpenOffice.org 3 Cymraeg ar dy gyfrifiadur Ubuntu, ac mae’n bendant yn werth gwneud. Yn ogystal â medru agor a thrin dogfennau mewn llu o fformatau, gan gynnwys fformat docx newydd Microsoft, mae’r fersiwn hwn yn gyflym a deniadol iawn, ac wrth gwrs mae’n rhad ac am ddim. Diolch i Rhoslyn Prys ac eraill mae hwn, fel fersiynau blaenorol, ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Open Office 3

I lwytho OpenOffice 3 dilyn y cyfarwyddiadau hyn. Byddaf yn tynnu fersiwn blaenorol o OpenOffice (2.4), ond does dim rhaid i ti wneud hynny.

1 Tynnu hen fersiwn o Open Office

Agor y Rheolwr Pecynnau Synaptig, teipia OpenOffice yn y blwch chwilio, marcia pob pecyn sy’n cynnwys y teitl OpenOffice gyda chlec dde -> Mark for removal, a chlicia Apply.

2 Llwytho OpenOffice 3 Cymraeg

Llwytha’r pecyn .deb Cymraeg o fan hyn a’i gadw ar y bwrdd gwaith.

3 Echdynnu a sefydlu

Echdynna’r pecyn gyda chlec dde -> Echdynnu Yma. Agor terfynell a symud i’r ffolder DEBS drwy deipio
cd /home/dy-enw-defnyddiwr/Desktop/DEBS

a phwyso Enter, yna teipia
sudo dpkg -i *.deb

Bydd hyn yn sefydlu OpenOffice 3.

4 Dewislenni

Os wyt ti wedi tynnu yr hen OpenOffice o dy system gallu di greu lanswyr newydd i Open Office drwy ddefnyddio’r terfynell a theipio
cd desktop-integration/
o dy leoliad diwethaf (DEBS), ac yna
sudo dpkg -i openoffice.org3.0-debian-menus_3.0-9354_all.deb
Bydd lanswyr newydd i OpenOffice 3 yn ymddangos o dan Rhaglenni-> Swyddfa.

Comments

Darllen y post llawn »

breuddwydion anodd!

ces i freuddwyd neithiwr lle rown i’n siarad cymraeg. nid taw dyma’r tro cyntaf ifi gael breuddwyd fel ‘na, wrth gwrs – rwy’n cael breuddwydion tebyg yn eitha’ amal ers blynyddau nawr – ond timod be? nhw yw’r breuddwydion anhawsaf y gelli di eu cael, mwn i! bob tro ifi ddihuno ar ôl y fath freuddwyd bydda’ i mor flinedig fel ‘mod i am fynd yn ôl i gysgu’n syth.

mae’n gwneud synnwyr wrth gwrs – os taw gyda chryn drafferth rwyt ti’n dy fynegi dy hunan drwy’r gymraeg yn y dydd, dyna’r profiad y bydd breuddwyd yn ei seilio ei hunan arno ‘fyd. – a dyna fi’n credu erioed fod gallu breuddwydio mewn ail iaith yn rhyw arwydd bod dyn ‘di “cyrradd” o ran dysgu!? … ha!

Darllen y post llawn »

Mae un o gefnogwyr cynharaf cais dotCYM, Peter Black AC, wedi gosod cwestiwn yn y Senedd i’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.
Mae diddordeb a chefnogaeth cyson Peter Black i’r cais yn arwydd bychan ond pwysig arall o’r gefnogaeth draws-bleidiol sydd tuag at parth .cym fel ffordd o uno a brandio cymunedau Cymreig yma [...]

Darllen y post llawn »

cwestiwn

Darllen y post llawn »

Morbid?

Annwyl syr/madamYmddiheuraf am ysgrifennu mor ffurfiol. Mae’n debygol iawn fy mod yn eich adnabod yn dda, ond gan nad ydwyf yn gwybod pwy ydych chi eto oherwydd na allaf weld i’r dyfodol, mi’ch cyfeiriaf tuag atoch yn ffurfiol fel hyn. Mae gennych swyd…

Darllen y post llawn »

Digryndod

Tachwedd 10ed 2008 11:50Newydd fod yn gwneud cryn dipyn o waith ar ffilmiau cartref yn ddiweddar, ag yn meddwl y byswn i’n blogio am Deshaker. Filter ar gyfer VirtualDub ydy Deshaker, sydd yn digrynu fideo drwy gymharu ffram efo’i ffram olynol a dily…

Darllen y post llawn »

Adroddiad i ddilyn – cael problemau ar y We ar hyn o bryd

Darllen y post llawn »

cyrri a kare kano

heno o’r diwedd mae cwpwl o’n ffrindiau newydd ni yn oberlin (bois yn adran ‘mhriod) yn galw draw am noson anime. fi sy’n gwneud y bwyd (cyrri indiaidd gyda bara nan); diolch i anno (evangelion) am yr adloniant – ei gyfres kare kano (”his and her circumstances”).

wel, y disg cyntaf ohoni o leiaf, ac wedyn falle’r trydydd – smo’r ail ddisg ar gael ar netflix o gwbwl. rhyfedd.

Darllen y post llawn »

« Cynt - Nesaf »