Beth ydy’r Blogiadur?

Mae’r Blogiadur yn gasgliad o wahanol blogiau a ffrydau RSS/Atom – byddwch yn gweld cyfraniadau llawer o wahanol blogiau yn fan hyn, a lluniau oddi ar Flickr.com, ac unrhyw gyfraniadau Cymraeg diddorol eraill y cawn hyd ohonynt!

Os ydych yn awyddus i weld unrhywbeth arall wedi’i gynnwys yn fan hyn, rhowch wybod trwy anfon e-bost at aran[at]sgwarnog.com.

Fel arall, gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen cyfraniadau diweddaraf i’r byd blogio Cymraeg i gyd o dan yr un to…:-)

Tra bod chdi wrthi, beth ydy ‘Blog’?

Mae Blog yn dalfyrriad ar gyfer Weblog (neu Weflog!). Yn syml, mae’n ffordd hawdd i bobl ysgrifennu hynny maen nhw eisiau ar y We. Mae’r cynnwys yn medru bod fel dyddiadur personol, neu yn canolbwyntio ar bwnc penodol, neu gyfuniad o’r ddau. Mae rhai pobl yn ysgrifennu blog trwy bersona, ac yn creu cymeriadau ffug, tra bod eraill yn adrodd ar y byd o’u cwmpas.

I gychwyn Blog, cewch ddefnyddio Wordpress.com neu blogger.com (mae edefyn ar

Maes-E am sut i’w Gymreigio), neu Nireblog (sydd ar gael yn y Gymraeg eisoes) neu, os oes ganddoch fynediad at eich lle eich hunan ar y We, cewch ddefnyddio meddalwedd blogio, megis WordPress – mae pecyn Cymreg ar gyfer WordPress ar gael ar Slebog.net.

Ac i ddarllen beth mae pobl eraill yn ysgrifennu yn eu blogiau, dach chi wedi cyrraedd y lle iawn yn barod…;-) Bydd clicio ar benawdau cyfraniadau ar Blogiadur.com yn mynd â chi i’r blog gwreiddiol priodol, lle bydd modd i chi gyfrannu sylwadau eich hunain ar beth maen nhw wedi ysgrifennu.

O, a hoffech chi roi dolen cyswllt i’r Blogiadur ar eich blog chi?

Defnyddiwch y côd o dan y llun i’w rhoi ar eich blog…:-)