BlogMenai.com: Protest swnllyd y tu allan i’r GPO

Dwi ddim yn meddwl i mi erioed fod yn Nulyn ar b’nawn Sadwrn heb weld gwrthdystiad o rhyw fath y tu allan i’r GPO.  Roedd ‘na un mawr swnllyd a lled hysteraidd heddiw efo dwsinau o geir yn mynd rownd a rownd yn canu eu cyrn ac yn gwneud cymaint o … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Arbrawf Bach

Blog gwleidyddol ydi Blogmenai, ac er fy mod ar fy ffordd i Iwerddon ar fy ngwyliau, mi geisiwn gynhyrchu cyfres o flogiadau byr o ffon symudol sydd a chynnwys gwleidyddol iddynt.

Artics yn ciwio i fynd ar y llong i Iwerddon a geir yn y llun. Maen nhw newydd symud trwy ddiffeithwch o safbwynt y diwydiannau cynhyrchu yng Ngogledd Cymru. Er gwaethaf y ‘drychineb’ economaidd yn y Weriniaeth mae eu hallforion i wledydd ag eithrio’r DU yn £66bn. Y ffigwr cyfatebol i Gymru ydi £1.6bn. Yn wahanol i Brydain mae’r allforion o’r Weriniaeth yn uwch o lawer na’r mewnforion – o gwmpas ddwywaith yn nhermau sterling.

O.N Rydych newydd ddarllen y blogiad cyntaf yn hanes Blogmenai i’w lunio ar fwrdd llong.  

Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Afon Guadamía: Tymor Newydd

A’r glaw mawr wedi peidio o’r diwedd, ddoe aethom ni am dro i lawr llwybr yr afon tua’r môr. Roedd ôl y llifogydd i’w gweld mewn mannau lle’r oedd y dŵr wedierydu o dan y glannau, ond y llwybr ei hun yn dal yn ddiogel. Roeddem ni’n cerdded gyda chyfeillion sy’n byw bywyd dinas, a […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Gwrthrychedd y Bib yn dod i’r amlwg eto

Un o’r themau sy’n tueddu i ailgodi ym Mlogmenai yn aml ydi diffyg gwrthrychedd y Bib.  Am rhyw reswm dyma un o’r ychydig bethau sy’n ennyn cwynion y dyddiau hyn. Beth bynnag mae’n ymddangos bod diffyg gwrthrychedd wedi treiddio i wythiennau’r gor… Parhau i ddarllen

S4C Caban: Dau app addysgiadol newydd

Ar ddydd Gwener 24 Mai bu S4C yn ymweld ag Ysgol yr Hendre, Caernarfon i ddangos dau app addysgiadol newydd i’r disgyblion er mwyn gofyn eu barn. Yno roedd Dona Direidi, un o gymeriadau poblogaidd rhaglenni Cyw, a Rhys Bidder, cyflwynydd …Darllen mwy Parhau i ddarllen

www.participationcymru.org.uk: Pam mae cyfranogiad yn wych

Dyma fy narn olaf o waith i ar gyfer Cyfranogaeth Cymru, ac rydw i eisiau dweud diolch yn fawr i bawb rydw i wedi gweithio gyda dros y tair blynedd diwethaf. Mae fy nghydweithwyr yn Gyfranogaeth Cymru yn unigolion sy’n … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Pethe: O Fenis i Lyfr y Flwyddyn

Er fod y bloc cyntaf o raglenni ‘Pethe’ wedi gorffen am y tro, dwi wedi cael cyfnod prysur yn paratoi at rai o raglenni’r haf, ac mae na ddau achlysur … Parhau i ddarllen

bacpacio: Llosgfynydda

Pwll Poeth a Pocohontas

O’n i’n gorwedd ar ochr pwll poeth (hot springs) yn hanner llewygu’n ara deg bach achos fod y dŵr a oedd yn cael ei gynhesu’n naturiol gan y llosgfynydd bron a bod yn ferwedig. Odd o ddigon poeth i goginio cranc. Ac ar fy ngefn yn yr awyr agored, a mhen i’n troi fel top, a’r nos yn dod yn fuan, dyma fi’n clywed arogl stationery. Odd o fel smelling salts. Mi ddeffres i a meddwl, ‘Pam goblyn mod i’n clywed arogl stationary?’

Pan o’n i’n fach, o’n i wrth fy modd efo Pocohontas, ac odd gen i lwyth o bethau efo lluniau Pocohontas a’i ffrindiau bach arnynhw, yn cynnwys llwyth o bensiliau, preniau mesur, rwbiwrs, papur sgwennu. Ac wrth edrych ar yr olygfa anhygoel o nghwmpas i yn y pwll poeth, roedd o wedi fy atgoffa i o le oedd Pocohontas yn byw, a dyna mae’n siwr ddaeth a’r arogl stationary cryf na i’n ffroenau i. Rhyfedd o fyd.

Pwll Poeth / Hot Springs

Yr olygfa o’r pwll poeth / mynydd Pocohontas

Laguna y Volcan Chicabal
Mi ddois i Guatemala heb syniad i le o’n i am fynd na be o’n i am ei wneud. Yr unig beth o’n i’n bendant isho ei neud oedd gweld Llyn Chicabal, yn crater Llosgfynydd Chicabal – ar ôl gweld lluniau anhygoel o’r lle ar y we. Felly i ffwrdd a mi i ail ddinas fwya Guatemala – Quetzalenango. Wedi ei enwi ar ôl y quetzal sef aderyn cenedlaethol Guatemala, andros o beth bach tlws:

Dwi wedi menthyg y llun ma o’r we rhag ofn chi feddwl mod i wedi datblygu sgiliau tynnu llun dros yr wsos ddwetha.

Ond diolch byth, mae’r bobl leol yn cyfeirio at Quetzalenango fel Xela yn fyr, (“Shela”). A dyma fi yn Xela efo diwrnod i fynd nes gorfod hedfan am adre, a doni’n methu’n lân a dod o hyd i neb i fynd a fi i fyny’r llosgfynydd. 

Felly mi arhosais yn fy ngwely tan 10am, a phenderfynu mynd i’r sw. A bwyta mrecwast o’n i yn edrych mlaen i weld jiraff, pan ddaeth ryw ddyn bach cynhyrfus ata y bwrdd nesa ata i, a bandej enfawr am ei goes.
“Stingray?” gofynais iddo fo, ar ôl cwrdd â gŵr arall yn Belize efo bandij am ei goes yntau ar ol cael ei drywanu gan stingray wrth sgwbadeifio.
“Stingray??” atebodd yntau’n ddryslyd. Sy’n ddigon teg o ystyried fod Xela yn bell iawn, iawn o’r môr, a bron iawn yn 8,000 troedfedd uwch ben lefel y mor.
“No, I fell out of a bus on the way back from Chicabal.”
“CHICABAL?” gwaeddais, yn anwybyddu’r ffaith na allai’r mynyddwr yma fod yn un rhy wych o ystyried ei fod yn disgyn allan o fysus.
“Take me there!” gorchmynais. A felly y bu. Jose oedd ei enw, ac arwain pobl i ben mynyddoedd oedd ei waith. Ar y ffordd allan, dyma herwgipio dyn o’r enw Junior o’n i wedi ei gyfarfod yn y dorm y bore hwnnw, ac i ffwrdd a ni’n tri ar antur.
Chicken Bus – sef hen fysus ysgol o’r UDA wedi cael eu pimpio  ’fyny efo slogans tebyg i Dios es Amor (Duw yw Cariad) a’u peintio, a’u plastro efo sticars o gartŵns. Dyma fysus cyhoeddus De a Chanolbarth America, boncyrs o brofiad cael reid mewn un ohonyn nhw.
Felly ar ôl cael ein sgwosho a’n brysho mewn i dri chicken bus gwahanol dyma lanio ar waelod llosgfynydd Chicabal, a gweld arwydd oedd yn gofyn i ni ofyn i greawdwr y byd am ganiatâd i’w ddringo:
O’n i wedi cymryd tua tri cam i fyny’r llethr 45gradd ac ar fin dechrau cwyno fod y daith yn amhosib pan ddudodd Jose,
“I had a bunch of tourists the other day complaining that the walk was steep! It’s a volcano! What did they imagine, that it was going to be flat? Ha ha!”
“HAHAHA” medde fi ychydig yn rhy uchel, a defnyddio gwerth dau funud o ocsigen yn y broses.
Roedd o’n drec drwy fforest gwmwl i ddechrau, a gwe pryf cop fel llinnellau terfyn bach eironig yn fy nal bob cam. A doedd y daith yn mynd dim haws wrth i ni agosau at uchdwr o bron 9,000 troedfedd. 
I wneud pethau’n waeth roedd niwl trwchus yn cau amdanon ni fel gwlan cotwm, a finnau’n dechrau digaloni na fydden ni’n gweld y golygfeydd anhygoel oedd wedi nenu fi at Lyn Chicabal yn y lle cynta, a finne’n dychmygu gorfod dwyn lluniau Google i’ch diddanu chi.
Ond medde Jose ei fod o’n gallu synhwyro fod natur yn ein hoffi ni, ac y bydde hi’n glir erbyn i ni gyrraedd y top. Odd hyn yn bur anhebygol, ac finnau wedi arfer hefo’r Guatemalaid a’u tafodau aur yn troi pob melyn yn drysor. Erbyn cyrraedd y Mirador (yr olygfan)…roedd na gymaint o niwl nes oedden ni’n edrych fel hyn:
Fi a Jose mewn niwl garw

“Esperar… (aroswch)” meddai Jose yn hyderus, a fi’n chwerthin yn meddwl amdan yr hen guide bach dal i ddeud clwyddau wrthan ni, hyd yn oed ar ôl i ni dalu am ei wasanaeth, ac wedi cyrraedd top y llosgfynydd. 

Ond wir i chi, o fewn munud, roedd y niwl yn codi.
Llyn Chicabal o’r el Mirador
Mae Llyn Chicabal yn sanctaidd i bobl y Maya, a mae nhw’n credu mai Duw ydi’r dŵr. Felly does dim hawl gan neb i nofio na physgota ynddo fo. A roedd yn hawdd coelio fod na rhywbeth goruwchnaturiol ynglŷn â’r llyn wrth i’r niwl godi a gostwng bob dau funud am yr awr gyfan y buon ni yno.
Wythnos cynta Mai mae twristiaid yn cael eu gwahardd rhag dringo Chicabal, gan fod pobl y Maya yn casglu yno i gynnig offrwm i’r Duw, gan aberthu ieir a geifr, a gosod torchau o flodau ar lan y dŵr. Roedden ni’n lwcus i fod yno ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, a dyna di’r esboniad am y lluniau isod. 

Rŵan dwi wedi cyrraedd adre i Gaerdydd. Dwi di cal stopio googlo ‘What time is it in Guatemala’ achos bo fi wedi anghofio watsh. Mae fy mhigiadau mosgito bron a diflannu. A dwi di cael aduniad emosiynol hefo’r potyn Marmite.
Felly diolch am ddarllen, ac adios tan tro nesa.
Hollol Bananas

Marchnad Quetzalenango

Gorsaf Fysus Xela

Cyrion Xela





Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 26 Mai 2013

Darlleniad y Dydd: Barnwyr 5:1-5 (BCND tud.225 / BCN: tud.205)

Bore da a chroeso i’r oedfaon heddiw drannoeth y briodas a’r Pentecost! Sut fywyd oedd hi i’r disgyblion wedyn tybed, wedi iddynt dderbyn nerth yr Ysbryd Glân i gyhoeddi Crist wedi ei gyfodi a bod yr holl fyd bellach i edifarhau, credu a chael eu . . . → Read More: Dydd Sul, 26 Mai 2013

Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

23ain Mai 2013 – dyma noson Y Digwyddiad wedi cyrraedd gan drefnu Noson Coffi.  Yn ystod y noson cawsom weld ffilm o stori Maesyneuadd a hefyd yr un stori ond ar ffurf cartwn.  Roedd Natalie a Peter wedi gwneud cacennau blasus, ac roedd bwrdd… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: GWYL Y GWANWYN

23ain Mai 2013 – Sesiwn cerddorol heddiw yng nghwmni Gwenan Gibbard.  Bu i ni gael datganiadau o hen ffefrynnau.  Cael cyd ganu a hefyd cael cyd ganu Cerdd Dant!  Roedd cyfle i gael tro ar y delyn.  Wythnos nesa byddwn yn mynd i’r G… Parhau i ddarllen

Glo Man: Bananas yn tyfu yng Nghymru!

Yn ystod Pythefnos Masnach Deg mae Sandra Joseph, sy’n ffermwr o Ddwyrain y Caribî, wedi bod yn ymweld ag ysgolion ledled y sir i roi cipolwg prin ar fyd sy’n bell bell o drefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn, sy’n cael ei gynnal dros bythefnos, yn hyrwyddo telerau masnach deg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol drwy ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dalu prisiau cynaliadwy iddynt am eu cynnyrch. Hefyd nod y pythefnos yw hybu amodau gwaith teg a chynaliadwyedd lleol mewn llefydd lle mae hanes o wahaniaethu yn erbyn y cynhyrchwyr tlotaf a lleiaf.

Mae Sandra Joseph wedi bod yn brysur iawn yn trafeilio o amgylch ysgolion Cymru yn rhannu’r neges dros Fasnach Deg a rhoi cipolwg prin ar fyd sy’n bell bell o drefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin. Rydym i gyd yn gwybod bod bananas yn tyfu yn y trofannau, ond tra’n ymweld ag ysgolion Sir Gaerfyrddin cafodd tipyn o sioc i glywed plant yn dweud eu bod wedi gweld coeden fanana, a’r peth rhyfeddaf oedd eu bod wedi ei gweld yn lleol!

Aeth Sandra i weld dros ei hunan. Ie mynd i’r gerddi Botaneg Cenedlaethol oedd angen. Roedd y rhan fwyaf o’r coed dal heb agor dros y gaeaf ond roedd un tu fewn i’r ty gwydr mawr yn dechrau dangos ffrwyth, ac roedd Sandra wrth ei bodd yn cael tynnu un llun yr oedd erioed wedi meddwl y byddai yn ei wneud pan adawodd ei chartref yn St Lucia.

Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Gwneud sioe fawr o wneud dim

Felly mae Mark Antoniw, Owen Smith, Chris Bryant a’n hen gyfaill Leighton Andrews yn benderfynol eu bod am gadw adran damweiniau Ysbyty Frenhinol Morgannwg yn Llantrisant ar agor.  Yn wir  maent mor benderfynol o’i cadw’n agored nes iddynt fy… Parhau i ddarllen

Y Twll: Gŵyl Nyth yng Nghaerdydd: canllaw i’r gerddoriaeth

Ciron o griw Nyth sy’n esbonio pa gerddoriaeth sy’n eich disgwyl ac mae rhagor o wybodaeth ar ddigwyddiad Facebook Gŵyl Nyth. Bydd Gŵyl Nyth yn cael ei gynnal yn Porter’s, Caerdydd dydd Sul. Yn ogystal â cherddoriaeth anhygoel, bydd cyfle … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Meddyliau: Cyfweliad Eisteddfod

Mae gen i gyfweliad Dysgwr y Flwyddyn Eistddfod Sir Ddinbych ddydd Sadwrn. Dwi ddim yn nerfus eto, ond dwi’n gwybod bydda i erbyn hynny… Dwi ddim yn siwr beth byddan nhw eisiau gwybod, dwi ddim yn rhy fodlon i siarad amdana i fy hun nac ymffrostio!Ne… Parhau i ddarllen

S4C Caban: Mistar Urdd a’i app coch, gwyn a gwyrdd

Wrth baratoi ar gyfer miri Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 ym Moncath yr wythnos nesa’, mae app newydd wedi ei ryddhau i’ch helpu chi i fanteisio’n llawn ar holl weithgareddau’r ŵyl.  Mae App yr Urdd yn brosiect newydd sbon …Darllen mwy Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

22ain Mai 2013 – i gloi thema mis Mai adeiladwyd tai ar gyfer y teulu! Dyma dy melyn Tomos, ty Tylwyth Teg Ceris a thy ar gyfer trennau Elis ac Owen.  Y thema nesa fydd Yr Haf a gobeithio y cawn ni fwynhau llawer prynhawn ar lan y mor. Parhau i ddarllen

agssc: Gwyl Wil Sam

Last week, Tŷ Newydd arranged a week-long festival to celebrate the life and work of welsh language author, playwright and scriptwriter, William Samuel Jones, or Wil Sam as he was best known. All the events took place in Llanystumdwy, the village in which he was born and lived. On the Thursday evening, I traveled up [...] Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Lleoliaeth – achubiaeth datganoli?

Datganiad i’r wasg gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Diffyg Democrataidd Sesiwn 2

Lleoliaeth – achubiaeth datganoli?

Ar adeg pan fo’r cyfryngau cenedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru yn methu’n gyson i ymgysylltu pobl Cymru â gwaith y Cynu… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CWIS A CYRI

20fed Mai 2013 – cynhaliwyd cwis a cyri er budd Wythnos Cymorth Cristnogol.  Daeth chwech tim ac roedd marciau pawb yn agos iawn i’r brig.  Thema’r cwis oedd OS – ymgyrch i ymosod ar newyn – Mae digon o fwyd i bawb OS … Rownd 10 oedd meddwl… Parhau i ddarllen

Glo Man: Ffasiwn yn Llandybie

Llongyfarchiadau mawr i Hannah Owen, merch Gary a Deborah Owen, Heol Waunfarlais, Llandybie ar ddod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth dylunio a gwneud siaced dyn arbennig neu “bespoke jacket”.
Myfyriwr ail flwyddyn yw Hannah ym Mhrifysgol Morgannwg, Caerdydd. O ganlyniad i’w champ cafodd wahoddiad i fynd i Lundain i gyfarfod â’r dylunydd Ben Dickens, sy’n gweithio i Farrel, sef cwmni ffasiwn enwog y canwr Robbie Williams.
Bydd Hannah yn cael cyfle i weithio yn stiwdios y cwmni gyda’r siawns o gael “internship”. Ar ben hyn bu Hannah ym Mharis yn ddiweddar yn ymweld â thai ffasiwn byd enwog y ddinas hon. Da iawn Hannah. Gobeithio y cawn gyfle i weld gwaith Hannah ym mhapur Glo Mân yn y dyfodol
.

Parhau i ddarllen

ywers: Gramadeg- y cwestiynau bach anodd!

Yn dilyn y sesiynau hyfforddi dros y penwythnos, dyma’r cyflwyniad ddefnyddiodd Haydn. Bydd clipiau fideo o’r sesiwn yn dilyn yn fuan iawn. Cofiwch os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, neu sylwadau, mae croeso i chi ymateb isod. Croesawn unrhyw sylwadau, … Continue reading  Parhau i ddarllen

Blog C2 porthwr: Guto Bongos ar raglen Ifan Evans

Yn ystod rhaglen Ifan heno ar C2 bydd yr Ap Feistr, Guto Bongos yn trafod apps yr wythnos. Ymhlith yr apps heno mae Bambuser.

Parhau i ddarllen

BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Y LLUNIAU

Parhau i ddarllen

BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Llysiau yn Nantlle

WEDI GWYLLTIO’N GANDRYLL AM FOD WORDPRESS YN DAL I CHWARAE SILI BYGYRS FELLY LLUNIAU A SGRIFEN AR WAHAN, IAWN!!! Do, dwi wedi bod ar ei hôl hi efo’r blogio. Dwi wedi bod yn rhy brysur yn garddio, dyna pam! Dwi wedi bod i fyny ac i lawr fel io-io i Ddyffryn Nantlle, gan mai dim […] Parhau i ddarllen

BLEWOG: Dim Bris Heddiw

Masalaama a G’day ! Dyma atgyfodi’r blog cysglyd yma ryw 11,000km i ffwrdd o’r post blaenorol, ar ol rhywbeth o newid byd :-) Mate.  Yeh, that’ll be right.  Too easy !Wedi gadael Arabia boeth ers 10 mis wan, ag yn mwynhau yn arw bod yn ol mew… Parhau i ddarllen

Llion Gerallt: Er cof am un o fy hoff gerddorion Ray Manzarek o’r Doors

Ailddysgu: Asparagws a’r gog

Ychydig o flynyddoedd yn ol roedd gen i un flanhigyn asbaragws, a roedden ni’n cael dipyn bach – digon i ychwanegu i salad – a roedd o’n gwneud yn iawn felly prynais mwy i wneud gwely asparagws (wel, hanner gwely, i fod yn gywir).  Ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo.  R’on yn meddwl efallai faswn yn tynnu nhw allan er mwyn defnyddio’r bwlch ar gyfer llysiau eraill.  A dwi wedi clywed (oddiwrth y dyn sy’n tyfu a gwerthu llysiau organig yn y farchnad misol) bod asparagws yn tyfu’n iawn gyda blodau, ac wrth gwrs, unwaith mae o wedi gorffen mae o’n edrych yn ddelfrydol gyda’r blodau).  A dyma llun o’r tiwlips – bron wedi gorffen rwan.  Efalle bydd yr asparagws yn mynd yn y gwely yma.




Mae popeth mor wyrdd ar y funud.  A bore Sul, pan roeddwn yn cerdded gyda’r ci (sydd yn cael bywyd braf iawn y dyddiau yma gan mai ci hen ydy o erbyn rwan) mi wnes i aros i dynnu’r llun yma:




 ac wrth sefyll i gymryd y llun, clwyais y gog.  Dwn im sut mae hi yng Nghymru y dyddiau yma, ond fel arfer yn fama dwi’n clywed y gog o leiau unwaith yn y tymor – ond yn aml – dim mwy na hynny.


A dydd Gwener dwi’n mynd i Chelsea – felly efalla bydd lluniau gwahanol yn y blog nesaf!

Parhau i ddarllen

All articles - y-selar.com: Week of Pines allan heddiw

Mae’r gantores Georgia Ruth Williams wedi rhyddhau ei halbwm lawn gyntaf, Week of Pines, heddiw. 
Label Gwymon sydd wedi rhyddhau’r albwm sy’n cynnwys 11 o draciau. 
Recordiwyd Week of Pines yn stiwdio Bryn Derwen gyda Dave Wrench yn cynhyrch… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Chwalfa’r Toriaid yn mynd o ddrwg i waeth

O diar – yn ol y pol diweddaraf (Survation) dim ond 2% sydd rhwng y Toriaid ag UKIP.  Y ffigyrau yn llawn ydi UKIP 22%, Toriaid 24%, Llafur 35% a’r Lib Dems 11%. Yn rhyfedd iawn byddai canlyniad felly yn arwain at y dosbarthiad seddi canlynol – Ll… Parhau i ddarllen

Golwg Trwy'r Lens: Jen & Glen

Llongyfarchiadau mawr i Jen a Glen o Swydd Northampton ar eu priodas ddiweddar yng ngwesty Meifod ym Montnewydd ger Caernarfon.  Dyma ddetholiad o’r lluniau,  cadwch olwg am y lluniau o’r Casino!

Congratulations to Jen & Glen from Northamptonshire on their recent wedding at Meifod country house in Bontnewydd, Caernarfon.   Here’s a brief selection of the images, keep an eye out for the images of the casino!

© Geraint Thomas, Panorama 2013 – Cedwir Pob Hawl – All Rights Reserved

Mae’r Holl luniau a’r deunydd ar y blog hwn yn berchen i Geraint Thomas, cedwir pob hawl.
All images and material is property of Geraint Thomas All Rights Reserved

Parhau i ddarllen

S4C Caban: Amserlen Cyw a Stwnsh yn yr Urdd

Sioe Cyw, Stwnsh Sadwrn, Gwylltio, Y Lifft, Dyma Fi Mae digon i’w weld ym mhabell S4C ac o gwmpas Maes Eisteddod yr Urdd 2013 – 27 Mai i 1 Mehefin.  Clicia yma am gopi o’r amserlen i’w hargraffu a’i chadw   …Darllen mwy Parhau i ddarllen

ywers: Sut i greu Hyperlink i dudalen we?

Sut i greu Hyperlink i dudalen we? Gosodwch eich testun neu lun yn y cyflwyniad yn y ffordd arferol. (Insert- Word Art/ Picture/Text Box) Ewch i’r wefan’da chi eisiau creu dolen iddi a chopiwch y cyfeiriad. (E.e. i wefan Golwg … Continue reading  Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Arnofio – Y Ffug #top #tiwn

Eglwysi Bro Aled: • Y Neges i Philadelffia (Datguddiad 3:7-13) – Aneurin Owen (19.05.2013)

Y Llwyfan: Arwel Lloyd – Gildas

Ar y gweill ar hyn o bryd … Wel y peth mwyaf cyfredol mae’n debyg ydy ail albwm stiwdio Gildas – ‘Sgwennu Stori’, sy’n dod allan ddechrau fis Gorffennaf. Mi wnath hi gael ei recordio rhwng mis Ionawr a Mawrth … Continue reading  Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Beth Gawn ni i Ginio?

Mae pawb yn gorfod bwyta. Yn ôl yr Hitchhiker’s Guide to the Galaxy, mae 3 chyfnod i wareiddiad: yn gyntaf, gofyn ‘sut allwn ni gael rhywbeth i fwyta?’, yn ail, ‘pam fod rhaid inni fwyta?’ ac yn drydydd ‘ble’r awn ni i gael cinio?’ Mae’r rhan fwyaf ohonom ni sy’n siarad Cymraeg yn gyfforddus yn […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Y Toriaid yn dychwelyd i’r dyfodol

Fel mae dyn yn heneiddio mae yna rhywbeth yn braf am weld hen batrymau cyfarwydd yn ail adrodd eu hunain.  Tori blaenllaw yn galw actifyddion ei blaid yn mad, swivel eyed loons, pawb o fewn y blaid honno yn ffraeo efo pawb arall ynglyn ag Ewrop, T… Parhau i ddarllen

BaeColwyn.com: Pram, cytiau newid a hetiau haul ar y Prom

Gyda’r ffotograffydd yn sefyll wrth fynedfa’r pier, dyma lun o’r Prom. Mae ‘na hen bram, cytiau newid a hetiau haul yn helpu i gyfleu’r oes a’r awyrgylch. Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Canmlwyddiant

Dramâu canmlwydd yn ôl a atgyfodir yn y gyfrol hon, a’r gyntaf ohonynt, Beddau’r Proffwydi, o bosib y gryfaf ei hargraff o’r holl ‘hen ddramâu’ Cymraeg, sef  cynnyrch y mudiad drama amatur a welodd lwyddiant mawr yn ystod pedwar degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.  Dramâu yn dibynnu ar elfennau confensiynol ydynt bron  heb eithriad, a […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Stori Fer: Trobwynt

Cyntedd Cofrestrfa Prifysgol Cymru, Caerdydd, 30 Ionawr 1943. Mynd a dod, a’r lle’n llenwi’n raddol. Murmur lleisiau, weithiau’n gryfach, weithiau’n is. Ar hyd un ochr mae bwrdd hir, a phentyrrau o bapurau bychain yn cael eu gosod arno o dipyn i beth. Blychau mawr duon ar y bwrdd ac ar y llawr. Cofrestrydd y Brifysgol […] Parhau i ddarllen

Heddwch a Chyfiawnder: Dam Busters

Ddoe 16 Mai fe ddathlwyd gorchest yr awyrlu  Prydeinig “Dambusters” am ladd 1294 o bobl gyffredin yn nyffryn y Ruhr yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nid wyf yn gallu deall  meddylfryd pobl sy’n medru dathlu a chofio’r fath anfadwaith cythreulig. Trwy’r dydd ddoe bu’r RAF yn trydar y digwyddiad yn gyson […] Parhau i ddarllen

bacpacio: San Pedro a Tops fy Athro Sbaeneg

Ar ol bod yn San Pedro de la Laguna yn 2010, ddois i oddi yno yn meddwl mai breuddwyd oedd y cwbwl. Felly mi es i nol i jecio os oedd o yno…

Mae San Pedro yn un o´r nifer o pentrefi bach cysglyd sydd o gwmpas Llyn Atitlan.

Dau o´r tri llosgfynydd sydd o amgylch y llyn.

Mae´r pentrefi o amgylch y llyn yn gartref i bobl y Maya, ond yn anffodus mae San Pedro wedi ei effeithio fel lot o lefydd eraill o amgylch y llyn gan dwristiaid. Hipis sydd wedi coloneiddio San Pedro. Allwch chi ddim cerdded lawr run stryd heb faglu dros fwyty vegan, neu bobl canol oed hanner noeth efo dreadlocks sydd wedi peidio eu wynebau efo blodau a sgwiglis bach rhyfedd. Mae nhw hefyd yn meddwl bo nhw´n gallu canu, wele ddiwedd post Belize

Ac ymddengys fel bod pawb ond y dewraf o bobl lleol San Pedro wedi hen ddianc o´r lle. Yr unig tri lleol nes i gwrdd a nhw oedd un dyn gwallgo efo craith o dop ei lygaid at ei en, a´i ffrind mwy gwallgo oedd wedi colli ei lygad. Y trydydd ydi hen ddynes fach o´r enw Juanita. Ond peidiwch a chael eich twyllo:
Juanita 
Mae Juanita yn cerdded o amylch San Pedro o fore gwyn tan nos hefo basged drom ar ei phen, yn gwerthu cacenau banana, siocled a choconyt. Mae hi´n edrych yn ddiniwed, ond gwyliwch chi pan fyddwch chi yn cerdded yn y tywyllwch, mi neidith Juanita allan o´r cysgodion efoí llais bach gwichlyd…”Quieres pan…?” (A gymrwch chi fara?) a neith hi ddim gadael i chi ddianc heb brynu o leia tair torth. A hyd yn oed os ydech chi´n hollol sicr fod Juanita wedi mynd i un cyfeiriad i blagio rhywun, a chithau yn rhedeg i´r cyfeiriad arall, mi fydd o´ch blaen chi ymhen dau funud, oherwydd mi all Juanita fod mewn mwy nag un lle ar yr un pryd.
Tyc Tycs yn aros am eu prae
Osgowch y tyc tycs fel gwenyn ar ddiwrnod hel mel
Yr olygfa o do´r hostel
Ac mae tyc-tycs yn bla yn bobman, a´r gyrrwyr yn trio pinsio eich pen-ol chi wrth basio, i´r fath raddau nes mod i´n cario potel enfawr o ddwr fel bat i bob man dwi´n mynd.
Nes i benderfynu mynd i gael gwersi Sbaeneg am chydig o ddyddiau yn San Pedro. Yn benaf i loywi fy ngramadeg. Ond hefyd, gan mod i wedi cwrdd a cwpwl o Iwerddon rai wythnosau´n ol, a fuodd dysgu Sbaeneg yn San Pedro efo athro o´r enw Tops. Roedd y cwpwl wedi rhoi crys lliwgar (anrheg Nadolig anffodus) i Tops, ac wedi gwirioni o´í weld yn gwisgo´r crys ´ma bob diwrnod am y 5 wythnos oedden nhw yn astudio yno. Felly dyma fi´n cerdded heibio´r Language Hub yn llechwraidd, yn gobeithio cael cip ar y crys lliwgar ma. Ond roedd y ty bach melyn yn dawel. Yn sydyn, dyma rhywun yn neidio allan o´r drws.
“AAAAAA” gweiddais, yn meddwl mai Juanita oedd yno yn trio fy mygu efo Pan de Banana. Ond nage, Tops oedd yno!
Roedd Tops yn arogli fel ashtray. Ac yn gwisgo bandana dros ei wallt llwyd, a roedd ei ddanedd yn felyn. Pe bai Tops yn anifail, hyena fyddai o.
Ac fel gweddill trigolion penderfynol San Pedro, doedd dim dianc o´r stryd tu allan i´r Language Hub heb gofrestru ar gyfer gwersi Sbaeneg. Ac yno y bum i am chydig ddyddiau yn gwrando ar straeon Tops am ei fywyd fel plentyn yn Guatemala (ymarfer berfau yn y gorffennol…”Una Vez... un tro…”
Un tro, mi lwyddodd Tops a´i frawd pan oeddwn nhw´n blant i basio´r plismyn arfog yn y Palas ym Mhrifddinas Guatemala ar ddiwrnod cyntaf yr Arlywydd yn ei swydd, a gwneud ffrindiau hefo merched ryw ddiplomydd, ac esgus eu bod yn rhan o´r teulu. A chyn pen dim roedden nhw´n sefyll wrth ymyl yr arlywydd a´i griw ar falconi´r palas yn chwifio i lawr ar y miloedd o bobl oedd wedi dod i weld y sioe!
Mae Tops hefyd yn cofio daeargryn mawr 1976, a darodd am 3am pan oedd pawb yn eu gwelyau. Roedd yn byw yn Guatemela City bryd hynny. Roedd Tops fod i gychwyn yn yr ysgol gynradd y diwrnod canlynol, ac wedi lapio ei lyfrau mewn plastig yn barod i fynd. Ond oherwydd y drychineb, fuodd ´na ddim ysgol am flwyddyn gyfan i neb yn y ddinas, a mi oedd na dros filiwn o bobl yn ddigartref, a phawb yn byw mewn tenti yn parciau´r ddinas. Mae´n cofio gweld adeiladau yn disgyn o´i gwmpas ar y stryd, a chwn yn rhedeg o gwmpas efo darnau o gyrff pobl yn eu cegau. Bu farw dros 20,000 o bobl yn y daeargryn hwnnw. 
Does gen i´m llun o Tops i chi, ond na i chwilio am un!
Dyma luniau o fuwch a bananas a chicken buses i chi yn lle:

Parhau i ddarllen

Cael y System Allan o'm System: Arundhati Roy a herio diwylliannol yng Nghymru

“Dylai ein strategaeth fod – nid yn unig i ymladd Ymerodraeth wyneb yn wyneb ond i warchae arni. Ei hamddifadu o ocsigen. Ei chywilyddio. Ei gwawdio. Gyda’n celf, ein cerddoriaeth, ein llên, ein styfnigwrydd, ein llawenydd, ein hathrylith, ein hymroddiad di-ildio – a’n gallu i adrodd ein storïau ein hunain. Storïau sy’n wahanol i’r rhai […] Parhau i ddarllen

Y Llwyfan: Datganiadau difyr – O ‘ferched y SRG’ i’n ‘traddodiad gwerin ac eisteddfodau bach’

Rhai datganiadau difyr … Dw i’n hoffi cerddoriaeth – o seiniau gwerin i seiniau  clasurol, gwlad ac offerynnol … fe allwn i barhau â’r rhestr am byth. Ond rhag i mi eich diflasu, mi adawai’r gweddill i’ch dychymyg! Mae wedi … Continue reading  Parhau i ddarllen

fel y moroedd: diwedd cyfnod


Roedd seremoni raddio yn yr ysgol neithiwr. Graddiodd fy mab ifancaf efo’r chwe disgybl eraill. Dysgodd tri o fy mhlant iau yn yr ysgol fach honno, a ddoe oedd y diwrnod olaf i ni i gyd. Ysgol Gristnogol hyfryd gyda safon uchel ac athrawon ymroddedig – dw i a’r teulu’n ddiolchgar dros ben iddyn nhw. Wedi’r seremoni, roedd yna ddrama gan holl blant yr ysgol. 

Yfory mi adawa’ i am Fenis. Bydda i’n dysgu Eidaleg ar gwrs am bythefnos, a cheisio nabod y lle cymaint â phosib. Sgrifenna’ i am yr hanes wedi’r siwrnai. Felly hwyl am y tro.


Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: UKIP a’r SNP – Dewch at eich gilydd yn gytûn…


Oes angen ail-frandio UKIP?
Nid fi yw’r cyntaf i nodi bod UKIP yn ymdebygu i ryw fath o Blaid Genedlaethol Lloegr, gan chwarae’r un fath o rôl yng ngwleidyddiaeth y wlad honno ac y mae Plaid Cymru a’r SNP yn ei chwarae yng Nghymru a’r Alban. Dyw polisïau’r pleidiau ddim byd tebyg wrth gwrs, ond mae hynny oherwydd bod tir canol gwleidyddiaeth Cymru a’r Alban ymhell i’r chwith o dir canol Lloegr.
Ond mae pob un o’r pleidiau yn elwa ar bobl sydd wedi cael llond bol ar y prif bleidiau, ac eisiau i’w gwledydd gael rhagor o reolaeth dros eu materion eu hunain. Mae Plaid a’r SNP eisiau llai o ymyrraeth gan San Steffan, ac UKIP eisiau llai o ymyrraeth o Frwsel.
Serch hynny dyw UKIP ddim yn fodlon cyfaddef mai plaid i Loegr yn bennaf ydyw. Hynny er bod cefnogaeth y blaid yn yr Alban tua 2% yn unig. (Er bod cefnogaeth y blaid yn uwch yng Nghymru rwy’n siwr bod hynny i raddau yn adlewyrchu y ffaith bod canran uwch o bobl sy’n ystyried eu hunain yn Saesnon yn byw yma.) Mae’r map i’r chwith yn awgrymu bod cefnogaeth y blaid ar ei gryfaf y pellaf o Gymru a’r Alban yr ydych chi’n mynd. Mae Farage ei hun wrth ei fodd yn chwarae rhan y ‘Little Englander’ sy’n darllen y Daily Express ac yn mwynhau peint yn ei dafarn lleol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae polisi UKIP wedi symud o fod eisiau diddymu y Cynulliad a Senedd yr Alban, i fod eisiau sefydlu Senedd i Loegr sydd â’r un grymoedd a nhw.

Fe ddylai Plaid Cymru, yr SNP ac UKIP allu dod ymlaen â’i gilydd. Roedd yn ddiddorol felly gweld Farage yn cael ei alw’n ‘nazi scum’ gan brotestwyr yng Nghaeredin, ac yntau yn eu galw nhw’n ‘fascist scum’ yn ôl. Dydw i ddim yn credu bod yr un o’r ddwy ochr wedi ymateb mewn ffordd gytbwys fan hyn. Rwy’n credu fod perygl bod pleidiau cenedlaetholgar yn dechrau cyfeirio at ei gilydd gan ddefnyddio’r union ieithwedd ddilornus sydd wedi ei ddatblygu gan bleidiau mawr er mwyn wfftio bygythiad pleidiau fel y nhw. Oni ddylai arweinydd UKIP o bawb allu cydymdeimlo â dymuniad gwlad am ragor o hunanreolaeth, ac i’r gwrthwyneb?
Y cyfan sydd angen digwydd mewn gwirionedd yw bod UKIP yn cymryd y cam naturiol ac yn gollwng yr ‘UK’ ac ychwanegu ‘E’, ac fe fydd y pleidiau cenedlaetholgar yma yn gallu dod ymlaen yn gytûn.

Parhau i ddarllen

Pethe: Pethe… Mr Huw

Yr wythnos hon Mr Huw sy’n enwi tri pheth celfyddydol sydd ar y gweill ganddo.  Dyma oedd ganddo i’w ddweud… Gwyl Gerddoriaeth Primavera Wsos nesa’ mi fydda’ i’n mynd i Farcelona i fwynhau … Parhau i ddarllen

S4C Caban: Chris Coleman yn hyfforddi hogia’ Llanberis

Cafodd hogia’ Clwb Pêl-droed Llanberis sesiwn hyfforddi gwahanol iawn i’r arfer ddechrau mis Mai, pan ddaeth hyfforddwr Cymru, Chris Coleman i’w harwain nhw drwy’r ymarferion.  Roedd y sesiwn yn cael ei ffilmio ar gyfer cyfres newydd CPD Clwb Pêl-droed Malcs …Darllen mwy Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 19 Mai 2013

Darlleniad y Dydd: Barnwyr 2:6-10 (BCND tud.222 / BCN: tud.202)

Mae’r darlleniad heddiw yn un i’n sobri. Hanes sydd yma o’r hyn a ddigwyddodd i Joshua a oedd wedi dilyn Moses fel arweinydd ac a oedd wedi cael dod â’r genedl i mewn i wlad yr addewid. Roedd Duw wedi ei lwyddo trwy fuddugoliaethau mawr . . . → Read More: Dydd Sul, 19 Mai 2013

Parhau i ddarllen