Oes ganddoch chi flog Saesneg? Fyddech chi'n licio dysgu gair Cymraeg newydd bob dydd i'ch ymwelwyr? Cewch gyda'r ffrwd RSS YMA...:-)
Oes ganddoch chi flog Saesneg? Fyddech chi'n licio dysgu gair Cymraeg newydd bob dydd i'ch ymwelwyr? Cewch gyda'r ffrwd RSS YMA...:-)Murray-Mania!
Jul 2il, 2009 gan Glyn Wise
Mae rhaid i mi gyfaddef mae Murray-Mania wedi fy nharo. Rydw i wrth fy modd gyda tenis, yn ei wylio fel sach o datws o flaen y teledu am 24 awr. Mae’n hen bryd i Brydeinwr guro Wimbledon, mae yna 73 o flynyddoedd wedi bod ers i Fred Perry ennill, felly come on Andy!
Mae o’n chwarae’n dda, yn gyflym, yn bwerus a llawn sgiliau ar y cwrt. Er mai ef yw’r ail ffefryn i guro’r bencampwriaeth, rwy’n siwr y byddai’n curo Federer yn y ffeinal gyda cefnogaeth y dorf.
Ond, dweud hynny, mae’n rhaid iddo guro Roddick neu Hewitt yn y rownd gyn-derfynol. O safbwynt y merched, rwy’n siwr mai Venus Wiliams sydd am guro. . Gall Serena (ei chwaer) fod yn or-hyderus weithiau, rwyn gobeithio y byddai Venus yn ei rhoid yn ei lle!
Ers bod adref, mi agorais y parc ym Mlaenau Ffestiniog. Cefais dlws o gadair wedi ei wneud o lechen am hybu fy mhentref. Tra oeddwn yno dechreuais y rasus 100m i blant a roeddwn yn beirniadu gystadleuaeth gwisg ffansi. Mae’n waith anodd iawn pan fo mamau y plant i gyd tu ôl i mi. Cefais amser gwych a mae’r parc werth ei weld.
Yfory, fyddai’n mynd i Lundain i chwarae bingo gyda’r Daily Mirror - Peidiwch gofyn! Yna, fyddai ar BBLB gyda George Lamb. Edrych ymlaen yn fawr ac yna mi fyddai’n hedfan i Hng Kong ar fy ngwyliau. Tydi bywyd yn gret!
Llais Gwynedd a Thai Fforddiadwy
Jul 2il, 2009 gan Dyfrig
Neithiwr, yng nghyfarfod Pwyllgor Ardal Arfon, fe wnaeth Cyng. Aeron Jones (Llais Gwynedd) ddatgan mae “Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy”, gan wrthwynebu cais i glirio tomen lechi yn Talysarn er mwyn codi stad o dai yno. Dwi ddim yn siwr beth yn union mae…
Peiriant Pres y Pleidiau
Jul 2il, 2009 gan Vaughan Roderick
Ers i’r holl fusnes treuliau ‘ma gychwyn rwyf wedi derbyn ambell i e-bost yn tynnu sylw at gamweddau honedig hwn a’r llall. Yn ddieithriad rwyf wedi gwneud ymholiadau ynghylch y cyhuddiad, ac rwyf wedi cynnwys ambell i un sydd wedi ei brofi mewn adroddiadau’n crynhoi’r holl helbulon.
Mae’n ddigon hawdd i unrhyw un sydd a’r amser, yr ewyllys a gallu i ganfod straeon o’r fath wrth fynd trwy fanylion y treuliau sydd wedi eu cyhoeddi. Mae’n ddilys i wneud hynny er fy mod yn synhwyro mai cymhellion gwleidyddol sy’n sbarduno rhai i wneud y gwaith.
Yn bersonol, mae gen i fwy o ddiddordeb mewn gwendidau strwythurol a phatrymau o weithredu nac mewn achosion o drachwant personol. Dros y pythefnos diwethaf mae fy nghydweithwyr wedi treulio cannoedd o oriau yn ymchwilio i union y fath yna o batrwm.
Yr hyn oedd yn ein diddori oedd nid unigolion yn cyfoethogi eu hun trwy eu treuliau ond tystiolaeth bod pleidiau’n ariannu eu hun o bwrs y wlad. Rydym wedi casglu llwyth o dystiolaeth ynghylch y ffordd y mae aelodau seneddol a chynulliad yn rhenti swyddfeydd o’u pleidiau. Mewn rhai achosion mae’n ymddangos bod yr aelodau yn talu pris ymhell dros bris y farchnad am swyddfa mewn adeilad sy’n eiddo i’w plaid. Rydym wedi cyhoeddi rhai o’n canfyddiadau’r bore ‘ma ac mae ‘na fwy o fanylion i ddod.
Mae ‘na ddadl ddilys i gael dros ariannu pleidiau (yn rhannol o leiaf) o’r coffrau cyhoeddus. Mae hynny’n digwydd mewn sawl gwlad. Hyd yn oed yn y wlad yma mae’r gwrthbleidiau yn derbyn cymorth ariannol i dalu am ymchwil ac wrth gwrs mae gan Aelodau Seneddol eu lwfansau cyfathrebu. Mae’r rheiny yn ddadleuol ond o leiaf fe gafodd y system ei mabwysiadu’n ddemocrataidd ac mae’r rheolau yn eglur. Mae sefyllfa’r swyddfeydd yn fwy amwys. Heb os mae ‘na achosion lle nad yw’r blaid yn elwa o’r trefniant ond mae ‘na eraill lle mae’n ymddangos bod y gwrthwyneb yn wir. Fe fydd hi’n ddiddorol gweld beth sy’ gan Roger Jones a’i banel i ddweud am yr arfer yn eu hargymhellion wythnos nesaf.
34 - Tommy Cooper (219 bleidleisiau)
Jul 2il, 2009 gan 100ArwyrCymru - Arwr y Dydd
Dyn naturiol ddoniol oedd yn un o hoff ddigrifwyr Prydain.
WTF
Jul 1af, 2009 gan Hogyn o Rachub
Cefnogaeth y Toriaid yn chwalu
Jul 1af, 2009 gan menaiblog
Yn yr Alban hynny yw. Yn ol pol TNS System 3 diweddar dyma sut mae pethau’n edrych yn yr Alban ar hyn o bryd:Senedd yr Alban - EtholaethauSNP - 39% (+6)Llafur - 32% (-)Toriaid - 12% (-5)Lib Dems - 11% (-5)Eraill - 7% (+5)Senedd yr Alban - RhanbarthauS…
Anweledig
Jul 1af, 2009 gan Vaughan Roderick
Sori, os oeddech chi’n disgwyl post am “Sombreros yn y Glaw”! Politics sy gen i eto mae gen i ofn.
Mae aelodau’r cynulliad, yn enwedig y Torïaid ac ambell i aelod Llafur, mewn tymer gwael y prynhawn yma. Wel, lle anghyffyrddus o boeth yw’r siambr yn y tywydd ‘ma ond ni dyna’r unig beth sy’n corddi’r aelodau.
Mae Ieuan Wyn Jones yn mynd dan groen mwy a mwy o aelodau’r dyddiau hyn. Yn ystod ei sesiwn gwestiynau fe fu’n rhaid galw am drefn droeon wrth i aelodau gwyno am oedi yn y cynllun i wella Ffordd Blaenau’r Cymoedd. Mae aelodau fel Huw Lewis ac Alun Davies wedi bod yn colbio Ieuan yn gyson ynghylch y pwnc a heddiw roedd Ieuan o’r farn bod Huw wedi dod yn agos iawn at ei gyhuddo o ddweud celwydd.
Roedd Ieuan yr un mor ymosodol wrth ymateb gan hawlio am y canfed tro (neu o leiaf mae’n teimlo fel y canfed tro) ei fod yn glynu at yr amserlen a luniwyd gan y llywodraeth Lafur diwethaf. Roedd Huw, wrth gwrs yn is-weinidog yn y llywodraeth honno. Hwyrach y bydd y ffrae yma’n tawelu ar ôl cynhadledd ddewis Llafur Blaenau Gwent ac ethol arweinydd newydd Llafur Cymru! Mae’n anodd osgoi’r teimlad weithiau bod Huw ac Alun (a Leighton Andrews efallai) yn cystadlu a’i gilydd am y teitl “Mistar Blaenau’r Cymoedd,2009″!
Roeddwn i’n cymryd y byddai pethau’n tawelu ar ôl i Ieuan adael y siambr. Trafod adroddiad gan y Pwyllgor Menter ynghylch ymateb y llywodraeth i’r argyfwng economaidd oedd y pwnc nesaf ar yr agenda. Os oedd presenoldeb ac atebion Ieuan wedi gwylltio rhai roedd ei absenoldeb o’r ddadl hon yn cynddeiriogi eraill. “Busnes pwysig” oedd esboniad John Griffiths o feinciau’r llywodraeth.
“Anghwrtais”, “gwarthus”, “pathetig”. Roedd y cwynion o feinciau’r gwrthbleidiau bron yn ddiddiwedd. Mae cadeirydd y pwyllgor, Gareth Jones, yn aelod o Blaid Cymru ac yn ddyn hynod gwrtais ond cyfaddefodd ei fod wedi “synnu braidd”.
Ydy’r gwrthbleidiau yn targedu Ieuan? Wrth gwrs eu bod nhw. Oedd hi’n gamgymeriad i Ieuan golli’r ddadl? Oedd, mwy na thebyg. Ydy Ieuan yn stryglo i ddelio a phortffolio mor enfawr? Efallai.
Gyda llaw roedd y Dirprwy Brif Weinidog mewn cynhadledd ynglŷn â’r argyfwng ariannol yn ystod y ddadl- mewn gwesty sydd a’r “Air Conditioning” mwyaf modern! Yn fwy diddorol efallai yn yr agenda gwreiddiol roedd Ieuan i fod i siarad am 4.15. toc wedi’r ddadl yn y Cynulliad. Am ryw reswm cafodd yr agenda ei newid gan ei gwneud hi’n amhosib iddo fynychu’r ddadl. Neu dyna mae rhai yn dweud,ta beth*!
* Mae pobol eraill yn dweud pethau eraill, wrth gwrs, gan nodi nad y llywodraeth wnaeth lunio agenda’r gynhadledd (er siawns ei bod wedi cytuno) a chan hawlio na fyddai chwarter awr y naill ffordd neu’r llall wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o safbwynt mynychu’r ddadl.
.
Michael Jackson
Jul 1af, 2009 gan Criw C2
Doeddwn i ddim yn ffan enfawr o Michael Jackson (er mai Bad oedd yr albym gynta i mi ei brynu erioed), ond byddai’n anodd iawn gwadu ei gyfraniad, felly nos Wener dwytha nes i benderfynnu peidio darlledu’r rhaglen Lisa roedde ni wedi ei recordio yn barod, ac yn hytrach gwneud rhaglen fyw i ddathlu cerddoriaeth Michael Jackson, yn nghwmni 3 cerddor Cymraeg sy’n ffans enfawr - Eilir Pierce, Dewi Foulkes a Dyl Mei.
Mae’r stori am fam Eilir yn rhwygo ei bosteri Michael Jackson yn arbennig o ddoniol, ynglyn a honiadau Dyl Mei fod Jackson wedi “prynu” y moonwalk gan hogyn bach yn Brazil
Glasonbury, SFA, a Llwybr Llaethog
Jul 1af, 2009 gan Criw C2
Helo bawb
Am resymau hir-wyntog a chymleth, mae na newid i amserlen C2 yn yr wythnos nesa. Felly, os da chi am glywed hynt a helynt Huw Stephens yn Glastonbury, caneuon newydd Llwybr Llaethog, neu gyfweliad hefo’r SFA, gwnewch nodyn yn eich dyddiadur!
Nos Iau Gorffennaf 2 - Huw Stephens yn Glastonbury
Nos Wener Gorffennaf 3 - Huw Stephens yn Glastonbury
Nos Lun Gorffennaf 6 - Lisa Gwilym yn cyflwyno tracia newydd gan Llwybr Llaethog
Nos Fawrth Gorffennaf 7 - Lisa Gwilym yn holi Daf Ieuan o’r SFA am eu cynlluniau dros yr haf.
Ac yn ol i’r drefn arferol ar ol hynny!
Diolch
Gar
Carlo - 40 mlynedd o lyfu tin
Jul 1af, 2009 gan Hogyn o Rachub
Felly deugain mlynedd yn ôl cafodd Carlo ei arwisgo yng Nghaernarfon. Efo rhywfaint o lwc, welwn ni mo’r fath daeogrwydd eto. Os daw, gobeithio y ceir protest a gwrthsefyll a gwrthwynebwyd fel y gwelwyd y tro diwethaf. Tybed a fydd gan Gymru’r egn…
64 - William Price (114 bleidleisiau)
Jul 1af, 2009 gan 100ArwyrCymru - Arwr y Dydd
Doctor, Archdderwydd hunan benodedig ac arloeswr amlosgi yn y Gorllewin.
Polisi derbyn sylwadau
Jun 30ain, 2009 gan menaiblog
Efallai bod angen i mi ddweud gair neu ddau ynglyn a chyhoeddi sylwadau darllenwyr.Hyd yn ddiweddar roeddwn yn hapus i gyhoeddi sylwadau heb eu gwirio er mwyn hyrwyddo trafodaeth wleidyddol.Nid wyf mewn sefyllfa i wneud hynny ar hyn o bryd oherwydd bod…
Yr ail-bit newydd!
Jun 30ain, 2009 gan Robin Owain
Helo bawb!
Newydd adael stiwdio chwyslyd C2 am wythnos arall, ac yr wythnos yma - yn ogystal a’ch cyflwyno i fand ‘Gwyliwch y Gofod’ newydd sbon - mi oedd yna ail-bit newydd ar y rhaglen.
Beth yw’r ail-bit newydd yma? Wel bob wythnos ar raglen Magi ar C2, mi fydda’i yn son rhywfaint am fideo gan fand Cymraeg sydd i’w wylio ar y wê - fideo gwahanol bob wythnos. Fel mae’r llygoden-beth bach yn yn ei ddweud yn yr hysbyseb yna ar y teledu… “Simples!”
Y fideo gafodd y fraint o fod y cyntaf un yn y slot newydd yma, oedd Genod Droog - Dal Ni Lawr. Rhaid i fi gyfaddef mai hwn yw un o’n hoff fideos i gan fand Cymraeg ERIOED! Mae o dal yn neud i fi chwerthin yn uchel wrth ei wylio fo, ac mae’n dangos ffraethineb a hiwmor y band i’r dim - band oedd mor hynod o cŵl, ond eto ddim yn cymryd eu hunain rhy o ddifri.
Ges i sgwrs efo Ed Holden o’r band ar y rhaglen, a mi soniodd o ychydig am gefndir y fideo - gath o ei ffilmio ar gyfer cyfres ‘Bandit ar S4C’ nol yn 2007 - un o fideos cyntaf y band, os na Y fideo cyntaf, ac fe gafodd ei gyfarwyddo gan Daf Palfrey (o Hanner Pei).
Cafodd ei ffilmio mewn canolfan hamdden yn Sblot, Caerdydd, ac yn dangos stori y band mewn twrnament badminton o’r 80au - tydw’i wir ddim yn llwyddo i gyfleu pa mor wych yw’r fideo yma drwy sgwennu amdano, felly pam na ewch chii draw i’w wylio drostoch eich hunain:
Fideo Genod Droog - Dal Ni Lawr RHYBUDD IAITH!!
Nos Fawrth nesaf, bydd gen i fand ‘Gwyliwch y Gofod’ newydd sbon, a mi fydda’i yn rhoi sylw i fideo arall sydd i’w weld a’r y wê. O, a gyda llaw - dwi’n rhoi rhybudd iaith ar y fideo yma, gan fod yr iaith ychydig yn gref mewn mannau.
Tan y tro nesa,
Rob.
Beth ddaw o bleidleisiau UKIP a’r pleidiau ‘llai’ eraill?
Jun 30ain, 2009 gan menaiblog
Sefydlwyd patrwm mewn etholiadau Ewrop diweddar bod pleidiau megis UKIP neu’r Gwyrddion yn perfformio’n gryf, ond bod eu pleidlais yn dychwelyd at y prif bleidiau erbyn yr etholiad cyffredinol canlynol.’Dydi’r ffaith i batrwm ymsefydlu ddim yn golygu e…
Golwg 360 beta fersiwn 2
Jun 30ain, 2009 gan dafydd
Mae gwefan Golwg 360 yn ‘cael ei hail-ddylunio’, un tudalen ar y tro. Dyma’r neges ddoe:
Mae gwefan Golwg360 yn cael ei hail-ddylunio. Rydyn ni hefyd yn ffreshau Lle Pawb. Felly, bydd yr is-wefannau yn diflannu am ychydig ddyddiau’n awr ac yn dod yn ôl ddydd Gwener, Gorffennaf 3 – gyda’r tudalennau newyddion ar eu newydd [...]
Y Chwyldro Twitter- yr angen am adnewyddiad democrataidd?
Jun 30ain, 2009 gan Metastwnsh
Mae Bethan Jenkins AC wedi cytuno i ysgrifennu erthygl i metastwnsh.com ar rôl Twitter mewn adnewyddiad democrataidd. Felly diolch i ti Bethan! – Aled Wyn
Yfory byddaf yn cyflwyno dadl fer yn y Cynulliad i drafod sut mae defnydd o’r we a thechnoleg wedi esblygu, a’u heffaith ar systemau democrataidd. Dwi ddim am ddweud gormod am [...]
Rhwydweithio
Jun 30ain, 2009 gan Vaughan Roderick
Fe fyddai unrhyw un call allan yn yr ardd yn mwynhau’r tywydd yma! Os ydych chi’n gaeth i gyfrifiadur dyma gasgliad bach o ddolenni i’ch difyrru.
Dyddiau drwg y Canol Oesoedd Scotsman
Meddygon Cymru’n clodfori’r cynulliad BMA
Bradychu’r Blaned New York Times
Mae fy mhartner yn dod o Faleisia. Mwy na hynny mae’n aelod o’r “bumiputra” yr
ychydig dros hanner hynny o’r boblogaeth sydd yn mwynhau breintiau arbennig oherwydd ei bod yn cael eu hystyried yn Faleaid o ran eu hethnigrwydd. Mae’n system ryfedd ac anodd ei hamddiffyn. Ta beth, mae’n ymddangos bod y drefn yn dechrau gwegian
Sydney Morning Herald
Daily Star (KL)
Yn y sylwadau roedd Siôn Aled yn hiraethu am y gyfres deledu “Adam Adamant”. Dyma flas ohoni;
Ac yn olaf Gwerthu iâ i Siberia! NZ Herald
Gwylio’r Cloc
Jun 30ain, 2009 gan Vaughan Roderick
Mae’r Pwyllgor Dethol wedi cwblhau ei ystyriaeth o’r LCO iaith ac mewn datganiad heddiw mae cadeirydd y pwyllgor yn datgan y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn gwyliau’r haf. Fe fydd Uwch-bwyllgor Cymru yn ystyried yr adroddiad cyn i Swyddfa Cymru a Llywodraeth y Cynulliad gytuno ar y geiriad terfynol. Fe fydd y gorchymyn wedyn yn cael ei drafod ar lawr Tŷ’r Cyffredin.
Ond oni fydd hi’n anodd sicrhau’r amser seneddol angenrheidiol? “Dim problem” medd ffynhonnell. Mae’n debyg bod ‘na hen ddigon o amser seneddol ar gael… ar gyfer popeth ac eithrio preifateiddio’r Post Brenhinol, hynny yw.
Gyda llaw ymhlith yr aelodau seneddol sydd wedi arwyddo’r cynnig seneddol yn gwrthwynebu’r mesur hwnnw mae Peter Hain. Er tegwch, roedd Peter wedi llofnodi’r cynnig cyn iddo ddychwelyd i’r Cabinet. Serch hynny, mae’n annhebyg bod aelod Castell Nedd (sy’n gyn swyddog gyda’r Undeb Cyfathrebu) yn ei ddagrau ynghylch tro pedol Peter Mandelson!. .
Hwyl Gwyl Cefni
Jun 30ain, 2009 gan Hywel

Nôl yn fy hen dref, ar gyfer darlledu o Ŵyl Cefni, yng nghysgod y Town Hall, lle byddwn i’n mynd ar Nos Sadwrn, i jeifio, i sŵn yr Anglesey Strangers, a’r Tom Lennon Trio. Trio unigryw- ‘roedd ‘na bedwar ohonyn nhw.

Ac i brofi fod hon yn Ŵyl sy’n dennu’r sêr, roedd Sam Tan wedi galw draw gan obeithio, cael tocyn ar gyfer y bandiau-Sibrydion a Racehorses yn eu plith nhw- oedd
yn perfformio ar y sgwar gyda’r nos.
Gadewch i mi wybod am ddigwyddiadau yn eich ardal chi, dros yr ha’, ac fe fydd y fan a fi yn y fan a’r lle. hywel@bbc.co uk
“Ffilmio HD o fewn cyrraedd amaturiaid” – adolygiad o’r Sony HDR-SR10E
Jun 30ain, 2009 gan Metastwnsh
Dwi wedi cael gafael ar gamera HD Sony sef yr HDR-SR10E. Roedd e’n gwerthu am £695 pan ddaeth e allan llynedd, mae e dal yn £489 gyda Amazon ond fe lwyddais i gael ex-display am £345! Ar ben hynny fe lwyddes i off-setio’r gost drwy werthu fy hen gamera fideo a lenses ar ebay. Ta [...]







