-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archif Misol: Rhagfyr 2009
Pin Dwr Trefor: BORE COFFI : OFFERYNNOL
Tachwedd 26 – yn ein Bore Coffi heddiw fe gawsom wledd offerynnol gan blant Ysgol yr Eifl. Tuba, Corn, Clarinet, Recorders a chanu. Roedd y Festri yn llawn i weld talentau ardderchog plant y pentref. Diolch yn fawr iawn i’r plant a’u hyfforddwyr. Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: OPERATION CHRISTMAS CHILD
Eleni anfonwyd hyd at 60 o becynnau i Operation Christmas Child. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfranodd i’r ymdrech hon. Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: CINIO NADOLIG CLWB GWAU
30 Tachwedd – aeth 12 o’r Clwb Gwau i Caffi’r Eifl Llanaelhaearn i gael cinio Nadolig. Cafwyd hwyl yno yng nghwmni ein gilydd a trefnwyd cwis gwau gan Llinos. Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: FFAIR NADOLIG : ADRAN YR URDD A CLWB HWYL A SBRI
28 Tachwedd – dyma fore hwyliog a llawn gweithgareddau yn Y Ganolfan. Trefnwyd gan Adran yr Urdd a Clwb Hwyl a Sbri. Roedd gennym grefftwyr lleol a byrddau gwerthu gan y Clwb Gwau a’r Grwp Cefnogi. Roedd awyrgylch caffi yn y Neuadd a digon o weithgared… Parhau i ddarllen
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cefnogwch ‘Ar Redadeg’ ar Facebook
Mae grŵp ‘Ar Redadeg’ (y ras fawr i godi arian i’r Llydaweg) bellach ar Facebook: Ar Redadeg 2010
Beth am ymuno i ddangos eich cefnogaeth?
Wedi ei seilio ar batrwm ‘Korrika’ Gwlad y Basg, ras gyfnewid a gynhelir bob yn ail flwyddyn yw’r ‘Re… Parhau i ddarllen
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Peggy, Jonathan a Matthew – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Peggy, Jonathan a Matthew – Canolfan y Celfyddydau, AberystwythOriginally uploaded by bara-koukougLlond llaw o bobl a aeth i wrando ar Dom Duff yn Aberystwyth. Dyma ambell un o’r gynulleidfa’n mwynhau gwydraid / panaid yn ystod yr egwyl. Mae dau lun ar… Parhau i ddarllen
Morfablog: Canllawiau Twpsynod a Blogiau Newydd
The Cadw Swn guide to speaking Welsh painlessly and easily.
Idiots’ Guide
I’ve met a few idiots who speak Cymraeg. Some even mutate in the right places and conjugate their prepositions. They wouldn’t know
a preposition if you covered it in lard and pushed it through their letterbox. You’re obviously not an idiot, but here’s [...] Parhau i ddarllen
Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Llongyfarchiadau Jamie!
Llongyfarchiadau mawr i Dr Jamie Medhurst ar ennill grant Rhwydweithio Ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) gwerth bron £34,000. Mae’r rhwydwaith rhyngwladol hwn, o’r enw ‘British quality, American chaos? Transnational discourses and interactions in the history of British and North American broadcasting, c.1922-1962′ yn dod ag ysgolheigion, ymchwilwyr ac archifwyr at ei [...]
Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Newid hinsawdd, eto
Yn syth ar ol sgwenu’r cofnod dwytha, fe es am dro o amgylch y blogosffer Cymraeg, a dod ar draws y cofnod yma gan Hen Rech Flin. Mae’n gwneud y pwynt diddorol yma”Gan nad ydwyf yn wyddonydd nac yn fab i wyddonydd y mae’n anodd imi wneud sylw teg am y … Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Yr Athro Andrew Watson – Arwr go iawn.
Flynyddoedd yn ol, roeddwn i’n digwydd bod yn gwylio Newsnight pan ddaeth Michael Howard ben-ben a Jeremy Paxman, gyda Paxman yn ail-adrodd yr un cwestiwn 14 o weithiau. Bob tro dwi’n gweld y clip yn cael ei chwarae ar raglenni hanes, dwi’n cofio’r wef… Parhau i ddarllen
pyst-cymraeg « WordPress.com Tag Feed: Dim problem…
Mae bwrdd banc RBS wedi bygwth ymddiswyddo os bydd Llywodraeth Prydain yn eu rhwystro rhag dalu tali Parhau i ddarllen
pyst-cymraeg « WordPress.com Tag Feed: Dim problem…
Mae bwrdd banc RBS wedi bygwth ymddiswyddo os bydd Llywodraeth Prydain yn eu rhwystro rhag dalu tali Parhau i ddarllen
Morfablog: Mewn Twll
Dim ond dau gofnod a hanner sydd yna, ond mae’r Twll yn edrych fel y bydd yn werth cadw llygad arno. Gweler y cofnodion ar gerddoriaeth electronig yr 20 mlynedd diwetha a’r sefyllfa sîn ffilm yng Nghymru.
Hefyd: mae gyda nhw forfeirch.
Parhau i ddarllen
shitclic: Cracyrs Dolig?
Clawr Nadolig 1951Mae’r manylion am arlwy teledyddol yr ŵyl yn dechrau ymddangos bob yn dipyn, ac ar yr olwg gyntaf, mae mor apelgar â nut roast i ginio Dolig. Dwi’n edrych ymlaen at ffarwél fawr olaf David Tennant a Gavin and Stacey (wel, tan s… Parhau i ddarllen
Storïau Tir Du: Achub cam yr amhersonol
Yn ddiweddar, dechreuodd rhywun edefyn o dan y teitl “pucker Welsh” ar ForumWales yn cwyno bod y Gymraeg wedi mynd yn anodd ei deall. Un o Fôn ydoedd ond bu’n byw yn Lloegr am flynyddoedd cyn dychwelyd i’r Ynys i fyw.
Ei gwyn oedd na allai ddeall Cymraeg cyhoeddus. Bu mewn darlith ar hanes capeli, meddai, [...]
Parhau i ddarllen
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Pump myfyriwr yn ymprydio dros ymgyrchydd
Mae pump myfyriwr prifysgol Aberystwyth yn ymprydio am 24 awr heddiw (Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr) i ddangos cyd-gefnogaeth i ymgyrchydd a garcharwyd ar ôl iddo dargedu siopau mawrion yng ngogledd Cymru. Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau… Parhau i ddarllen
shitclic: Siarad babis
Mae’n bnawn Sul oer a gwlyb, drannoeth y Gêm, ac roeddwn i’n chwilio am rywbeth i godi’r galon. Diolch byth fod clasur comedi Cymreig yn saff ym mol y peiriant recordio. Do, fe ddarllenoch chi’n iawn y tro cyntaf. Clasur comedi Cymreig. Diolch… Parhau i ddarllen
Y Twll: Ffilmiau yng Nghymru: Oes yr Addewid?
Mae bod yn film-geek yng Nghymru yn gallu bod yn brofiad hynod fasocistaidd ar adegau, yn enwedig os yw’r film-geek dan sylw wrth ei bodd gyda gallu’r cyfrwng poblogaidd hwn i gyffroi cynulleidfaoedd a chyfathrebu negeseuon di-ri, ac ar dân i weld ei diwylliant ei hun yn cael cynrhychiolaeth ar y sgrîn fawr.
Safon amrywiol iawn [...] Parhau i ddarllen
Maes Rhos Rhyfel: Ar werth ar ôl 5 miliwn o eiriau
MAE awdur yn ofalus iawn o’i offer. Mae rhai awduron yn sgrifennu gyda phensil a phapur, eraill gyda inc mewn llyfrau nodiadau crand. Mae eraill – y rhan fwya’r dyddiau yma, debyg – yn sgrifennu ar gyfrifiadur. Rydwi’n defnyddio laptop 10 oed sydd yn pwyso bron gymaint a bricsen. Ond dyna’r teclyn dwi’n hoffi. Sgwn [...]
Parhau i ddarllen
Y Twll: Y 20 Gorau Electronica 1989 – 2009
Yn y bôn mae’r term ‘electronica’ yn cyfeirio at unrhyw gerddoriaeth sydd wedi cael ei gynhyrchu trwy gyfrwng electroneg. Yn ôl yn y 1950au a’r 1960au roedd cyfansoddwyr fel Karlheinz Stockhausen a Iannis Xenakis yn gwthio’r amlen gyda’u harbrofion mewn musique concrete gan ddefnyddio cyfarpar electroneg gynnar a chwarae o gwmpas efo peiriannau recordio a [...] Parhau i ddarllen
Y Twll: Yr Enedigaeth
Cyfarchion a chroeso.
Parhau i ddarllen
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Ychydig Ffeithiau am Diwan ( y mudiad ysgolion Llydaweg )ac am ei argyfwng ariannol
Mae’r mudiad ysgolion Llydaweg, Diwan (Egino), bellach yn 30 oed. Mae ganddo 3,209 o ddisgyblion, 341 o staff, a 116 o swyddi cyflogedig amser llawn. Bu cynnydd o 4.32% yn nifer y disgyblion pan ailagorodd yr ysgolion ym mis Medi, 2009.… Parhau i ddarllen
Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Rhodri Meilir
Yn ystod yr wythnsoau diwethaf, gwelwyd un arall o’n cyn-fyfyrwyr yn dychwelyd i Aberystwyth er mwyn ffilmio cyfres newydd sbon ar gyfer S4C. Bu Rhodri Meilir yn astudio yn yr Adran rhwng 1997-2000, ac erbyn hyn mae’n actor llwyddiannus. Mae e wedi gweithio ym myd theatr a theledu, ac wedi ymddangos yn Y Pris (Fiction [...]
Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Llongyfarchiadau Carwyn Jones
O’r diwedd, fe all Carwyn roi’r gorau i smalio ei fod yn aelod o’r Blaid Lafur, a datgelu mae cynllwyn cenedlaetholgar oedd ei ymgais i gipio’r arweinyddiaeth, er mwyn rhoi Nashi yn swyddfa’r Prif Weinidog.Wel, ddim cweit. Ond dwi yn falch nad yr un o’… Parhau i ddarllen
Gofod: Shwmae Shwmae Ceri Cunnington?
Ceri Cunnington gymerodd rhan yn ein holiadur ‘Shwmae Shwmae’ wythnos dwetha ar Gofod – lle ma pob cwestiwn yn gân Cymraeg. Dyma ei atebion yn llawn.Shwmae Shwmae?Yn reddfol dwi isho deud Iawn, ie ie, ond, yh – Iawn. Ie, ie!Bing Bong be?Ydy’r gân gyn… Parhau i ddarllen








