Archif Misol: Chwefror 2010

fel y moroedd: cyfarchion

Dydd Gŵyl Dewi Sant Hapus i chi i gyd! O bydded i’r hen iaith barhau.Dw i a dau o fy mhlant yn sefyll wrth fedd Evan Jones, Cymro a oedd yn genhadwr ymroddedig dros lwyth Cherokees. Parhau i ddarllen

Beibl Datblygu: Erthygl Plan B (2008)

Soniais i am yr erthygl yn cylchgrawn Plan B sbel yn ôl, gan addo lanlwytho copi llawn o’r erthygl. Wpsi. Diolch i Carl Morris, felly, am hala copi o’r PDF ata i. Rhowch glec ar y llun isod i’w darllen. Mae PDFs pob rhifyn o Plan B – sydd erbyn hyn wedi peidio â bod, [...] Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Gŵyl Ddewi Penbedw….

Mi es i i ŵyl Ddewi Cymdeithas Cymry Birkenhead nos wener, noson a gafodd ei chynnal mewn gwesty hyfryd yn Wallasey. Roedd Ieuan ap Sion o Res y Cae, Sir y Fflint yn wneud yr adloniant, rhywun dwi’n cofio cyfarfod cwpl o weithiau draw yn y Llong Ucha… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

Cwis gafwyd yn y Clwb nos Iau 25ain Chwefror. Roedd rowndiau ar fwyd a diod, daearyddiaeth, Y Beibl, Cymru ac enwogion. Rhwng pob rownd roedd cyfle i gyflawni tasgau 10 munud a dyma’r ddau dim yn gwisgo dwy aelod mewn ffrogiau priodas. Ydych chi erioed… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: BORE COFFI

Roedd Bore Coffi dydd Iau 25ain Chwefror er budd y British Heart Foundation. Cawsom gwmni plant Ysgol yr Eifl yn cyflwyno lobsgows ar ein cyfer o ddoniau sgwrsio, canu, llefaru a chwarae offerynnau. Llongyfarchiadau mawr am lobsgows blasus iawn a phob … Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

Adar oedd yn cael y sylw nos Fercher 24ain. Daeth Jenny atom i ddangos i ni sut i wneud bwyd adar i’w osod yn yr ardd. Dyma ni i gyd yn cymysgu’r bwyd sych o hadau a chyrains gyda chaws, afal a lard! Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Wedi 3

Ddoe es i lawr i Lanelli i siarad am y blog ar Wedi 3. Ga’i ddiolch yn fawr am y croeso cynnes gan bawb yno. A diolch yn arbenning i Lowri am drefnu popeth ac am ddangos diddordeb yn y blog! Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Wedi 3

Ddoe es i lawr i Lanelli i siarad am y blog ar Wedi 3. Ga’i ddiolch yn fawr am y croeso cynnes gan bawb yno. A diolch yn arbenning i Lowri am drefnu popeth ac am ddangos diddordeb yn y blog! Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: LFW

Mae’n ddrwg gen i fod y post yma mor hwyr, ond dyma ddechrau ar ddydd 1af LFW. Sioe cyntaf yr wythnos oedd Paul Costelloe am 9:30 y bore. Bydda i’n son ychydig am fy hoff sioeau o bob dydd.Dechreuodd y sioe gyda dillad aur moethus, yna dillad du ag gla… Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: LFW

Mae’n ddrwg gen i fod y post yma mor hwyr, ond dyma ddechrau ar ddydd 1af LFW. Sioe cyntaf yr wythnos oedd Paul Costelloe am 9:30 y bore. Bydda i’n son ychydig am fy hoff sioeau o bob dydd.Dechreuodd y sioe gyda dillad aur moethus, yna dillad du ag gla… Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Amser maith

EWADD, blwyddyn newydd dda a ballu. Mae hi wedi bod yn amser maith ers i mi sgwennu’r blog yma. Mae rhywun yn diogi braidd dros y Dolig, dwi’n meddwl. Wel, drwy gydol Ionawr a Chwefror hefyd, yn amlwg. Beth bynnag, dwi heb fod yn gyfangwbl ddiog. Fis Ionawr, mi roeddwn i ar brosiect sgrifennu efo’r [...] Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cyfieithu awtomatig o’r Llydaweg i’r Ffrangeg ac i’r Gymraeg

Mae Ofis ar Brezhoneg, gyda chymorth Prompsit Language Engineering wedi datblygu teclyn cyfieithu awtomatig Llydaweg-Ffrangeg. Mae i’w weld, a’i ddefnyddio, ar wefan y sefydliad hwnnw:http://www.ofis-bzh.org/bzh/ressources_linguistiques/index-troerofis… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Siarad Llydaweg yn Aberystwyth

Bydd cyfle i gwrdd i siarad Llydaweg ar ddydd Mercher, 3 Mawrth, 2010, tua 4 y prynhawn yn nhafarn y Llong a’r Castell, Aberystwyth – croeso i bawb Parhau i ddarllen

Glo Man: Cydmeithas Gellimanwydd

Nos fercher 27 Ionawr cawsom nos o hwyl a dyfalu yng nghwmni Edwyn Williams. Roedd Edwyn wedi paratoi cwis cyfoes gan gynnwys rowndiau ar Newyddion, Ble yng Nghymru, Beth yw Hwn, Cerddoriaeth, Pwy yw’r Wyneb a Dyfalwch y Llyfr. Roedd pedwar tim brwd yn… Parhau i ddarllen

Glo Man: Masnach Deg Rhydaman

Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn Rhydaman yn ystod pythefnos Masnach Deg. Dyma rhai o’r pethau sydd ar y gweill.Dydd Mercher 24 Chwefror – Parti y “mad hatter” yn Ystafell De Benwig, 2activ8.Gwener 5 Mawrth – “Diwrnod Haf Masnach Deg yn Rhyda… Parhau i ddarllen

Traed Mawr: Traed Mawr 2010-02-26 22:40:00

Hwiangerdd dydd 13Sion a SiânSion a Sian, oddeutu’r tan,Yn bwyta blawd ac eisin man Parhau i ddarllen

fel y moroedd: lle maen nhw wedi mynd?

Dw i wedi dyfeisio modd i sgrifennu nodiau’r caneuon i lawr yn Japaneg er mwyn chwarae fy recorder. Maen nhw’n haws o lawer i’w defnyddio na’r nodiau cerddoriaeth fel G, F, C a ballu. Dw i wedi casglu ryw ddau ddwsin o ganeuon Cymreig, Japaneaidd, Amer… Parhau i ddarllen

Copa'r Mynydd: Noson i ddsysgwyr Wrecsam

Ar ôl amser hir o fod yn gaeth yn y tŷ yn ystod y gaeaf oeraf ers tipyn, cefais i ddiwrnod hir ddoe. Es i i’r brifysgol yn y bore, ac yn ystod y prynhawn roedd gen i diwtorial i fynd dros waith a fydd yn gwblhau un modiwl arall y gradd sylfaenol. A… Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Elfyn Llwyd: top y ‘trending topics’

Er bod Twitter yn gallu ypsetio rhywun, mi fedr o gael effaith dda hefyd.
Ar ochr eich tudalen, mi gewch chi weld y deg peth y mae pobl yn ei drafod fwyaf ar Twitter. Ac ar hyn o bryd, drwy Brydain gyfan, yr hyn sydd ar feddwl Twitwyr ydi: Arweinydd Seneddol y Blaid, Elfyn Llwyd.
Mae hyn [...] Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Burberry Prorsum

Heddiw oedd diwrnod olaf LFW. Bysai’n gwneud synnwyr i mi ddechrau drwy son am fy hoff sioe o ddiwrnod cyntaf yr wythos ond dwi am wneud bethau yn hydynoed fwy cymleth, drwy ddechrau son am y sioe sydd wedi bod yn cael y mwyaf o sylw dros yr wythnosau … Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Burberry Prorsum

Heddiw oedd diwrnod olaf LFW. Bysai’n gwneud synnwyr i mi ddechrau drwy son am fy hoff sioe o ddiwrnod cyntaf yr wythos ond dwi am wneud bethau yn hydynoed fwy cymleth, drwy ddechrau son am y sioe sydd wedi bod yn cael y mwyaf o sylw dros yr wythnosau … Parhau i ddarllen

Glo Man: SIOE STRYD GWYL DDEWI RHYDAMAN

Blog Guto Dafydd: Cael fy harasio gan AC

Rydan ni wedi clywed am antics bwliaidd Gordon Brown yn ddiweddar – yn taflu ysgrifenyddesau o’u cadeiriau ac ati.
Roeddwn i’n meddwl bod pethau’n well yng Nghymru. Ond fe’m siociwyd pan dderbyniais neges bersonol (mewn mwy nag un ystyr) ar Twitter heno – gan Alun Davies AC. Dydi’r iaith na’r syniad yn y neges ddim i’r [...] Parhau i ddarllen

Glo Man: Hamlet a Llandybie

Beth dywedwch ydyw’r cysylltiad rhwng Hamlet a Llandybie? “Hamlet” yw un o ddramau enwocaf Shakespeare. Hamlet oedd Tywysog Denmarc a roedd yn byw yng nghastell Helsnigor. Mae un o dimau gorau rygbi Denmarc yn Helsnigor ac mae un o hoelion with y… Parhau i ddarllen

Y Twll: Daw Slavoj Žižek i Gaerdydd

Ar Ddydd Mercher , Mawrth 3ydd 2010, caiff Brifysgol Caerdydd y fraint o groesawi Slavoj Žižek, un o ffigurau mwyaf adnabyddus y byd athroniaeth fodern i’r ddinas er mwyn trafod ei lyfr newydd First as Tragedy, Then as Farce. Mae Žižek, yn wreddiol o Slovenia, nid yn unig yn enwog am ei gyfraniad helaeth i’r [...] Parhau i ddarllen

O Bell: Mater o adael

Mae’r oes ddigidol yn ein galluogi ni i ddysgu am bethau – mae’n rhaid i ni fod yn fodlon i ddysgu i ddechreu wrth gwrs !
Dwi’n ddigon ffodus i gael gweld cynnyrch S4C a BBC Alba o’m cadair ym Melbourne.  Rhaid i mi ddweud fod Alba’n cynnig cynnyrch penigamp, mae straeon o’r ynysoedd a’r tir [...] Parhau i ddarllen

Cymraeg yn Lloegr : Tsiec mêt…. ennill a cholli

Roedd colli Rhodri Morgan yn anffoddus iawn, mae wedi sefydlu y Gymraeg fel iaith o statws yn y cynulliad. Roedd e’n symud yn rhwydd o un iaith i’r llall, ateb yn iaith y cwestiwnydd a pharatoi ei sgwrs yn ddwyieithog. Rhaid i ni aros i weld beth m… Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Help efo traethawd

Fel rhan o ‘ngradd ym Mangor, dwi’n cymryd modiwl sy’n edrych ar y berthynas rhwng llenyddiaeth ac athroniaeth wleidyddol. Mae gen i draethawd i’w wneud ar gyfer y modiwl, ond dwi’n cael trafferth mawr wrth ymgodymu ag o. Roeddwn i’n meddwl efallai y gallai darllenwyr fy mlog fy helpu i ddeall yr hyn sydd dan [...] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: nia

Dw i’n mwynhau gwrando ar y rhaglen Nia ar Radio Cymru bob dydd yn ddiweddar. (Rhaid cyfaddef mod i’n sgipio’r rhan fwyaf o’r gerddoriaeth i arbed amser.) Dw i wrth fy modd efo’i hacen Benllech ac mae hi’n swnio’n debyg iawn i Linda.Mae yna westeion am… Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Dim ysgrif ddydd Mercher.

Dwi’n eithriadol o brysur, felly mae’n rhaid i bwynt polisi rhif 4 aros tan yr wythnos nesaf. Mae’n ddrwg gen i!
Parhau i ddarllen

Adnoddau Ar-lein yn y Gymraeg: phpBB Cymraeg

Rwyf wedi dechrau ar brosiect i wneud y gwaith o gyfieithu phpBB yn haws ac i’w ddosbarthu ‘mysg nifer o cyfieithwyr. Mae’r dull wedi’i ysbrydoli o fformat poedit a launchpad. Mwy o wybodaeth i ddilyn unwaith i mi ei ddatblygu’n bellach. Parhau i ddarllen

Adnoddau Ar-lein yn y Gymraeg: Stop

Dwi wedi stopio’r cywaith ‘trefnydd’ am nawr tra fy mod yn edrych ar ffordd arall o wneud hyn. Bydd ‘pregmatch’ os bosib yn welliant. Diolch i Huw am yr awgrym. Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Topshop

Er mai cwmniau ‘designer’ sydd fel arfer yn dangos y pethau bydden yn gwisgo, siopau’r stryd fawr yw’r rhai sydd yn gadael i ni gael copiau rhad o be welwn ar y sioeau diweddara. Dwi’n meddwl mai y prif siopau ar y stryd fawr y dyddiau yma yw Topshop, … Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Topshop

Er mai cwmniau ‘designer’ sydd fel arfer yn dangos y pethau bydden yn gwisgo, siopau’r stryd fawr yw’r rhai sydd yn gadael i ni gael copiau rhad o be welwn ar y sioeau diweddara. Dwi’n meddwl mai y prif siopau ar y stryd fawr y dyddiau yma yw Topshop, … Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Baftas

Mae gen i lawer o ddal i fyny i wneud gyda sioeau ffasiwn Efrog Newydd a rwan Llundain hefyd, ond dwi’n meddwl y ‘na i ddewis fy hoff gasgliadau ar ddiwedd yr wythnos a son amdanyn nhw’n unig, oherwydd bod cymaint o sioeau! Dyma bost am bwy wisgod… Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Baftas

Mae gen i lawer o ddal i fyny i wneud gyda sioeau ffasiwn Efrog Newydd a rwan Llundain hefyd, ond dwi’n meddwl y ‘na i ddewis fy hoff gasgliadau ar ddiwedd yr wythnos a son amdanyn nhw’n unig, oherwydd bod cymaint o sioeau! Dyma bost am bwy wisgod… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cystadlu brwd i gyfansoddi haiku

Mae cystadleuaeth haiku gŵyl Taol Kurun yn Kemperle (Quimperlé) newydd ei chynnal. Bernez Tangi, Brigitte Kloareg a Malo Bouessel du Bourg oedd y panel a fu’n beirniadu’r cynigion.Daeth 350 haiku i law, gan 184 o gystadleuwyr ac mewn pedair iaith… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Comisiynydd Hawliau Dynol a’r Gymraeg, Cymdeithas yn gofyn am eglurhad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn am eglurhad wrth y Comisiynydd Hawliau Dynol am ei sylwadau yngl?n â’r iaith Gymraeg, ar ôl iddi ddweud mewn cyfweliad nad oedd gan ‘y Comisiwn Cydraddoldeb ddim cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg’. Fe… Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Gohebu gwleidyddol diduedd

Ar Facebook mae yna ambell i grŵp megis Ban Jonathan Davies from Scottish rugby matches a Jonathan Davies is an irritatingly biased and squeaky prat, sydd wedi eu sefydlu gan Albanwyr a oedd yn anhapus efo’r ffordd yr oedd Jonathan yn dangos tuedd wrth sylwebu ar gêm rygbi Cymru v Yr Alban yr wythnos diwethaf. Mae’r rhai sydd ddim yn hoffi Jonathan yn credu dyla gohebwyr y BBC bod yn gwbl Parhau i ddarllen

fel y moroedd: dal i fwynhau

Dal i fwynhau chwarae recorder dw i. Dw i am drio cân ar ôl y llall. Yr un dw i wrthi ar hyn o bryd ydy Bugeilio’r Gwenith Gwyn. Mae’r alaw i’r dim i recoder. Clywais hi’n cael ei chanu amser maith yn ôl. Mae’r amser yn cerddedd. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gaeaf yn y bore.

Ces i dipyn o fraw’r bore’ma. Wrth i mi godi i gynnau’r tân yn y lolfa mi sylwais i ar y golau llachar y tu allan. Roeddwn feddwl bod y wawr yn y gynnar y bore’ma, ond wrth edrych allan trwy’r ffenest mi welais i fod storm eira yn chwythu dros Belper… Parhau i ddarllen

Ubuntu Cymraeg: Golygu fideo ar Ubuntu a systemau Linux eraill

Un peth sydd wedi bod yn anodd iawn wrth ddefnyddio Linux yn y gorffennol yw cael hyd i olygydd fideo o safon. Mae rhaglenni fel Cinelerra a Kino wedi bod ar gael ers amser, ac mae cryfderau a gwendidau i’r rhain. Serch hynny, mae dwy raglen sydd wedi cael eu datblygu’n frwd yn ddiweddar, sef [...] Parhau i ddarllen

Glo Man: Yr Eisteddfod Genedlaethol

Fe glywsom sôn yn ddiweddar bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Ddyffryn Aman yn 2014 a bod yna bosibilrwydd y byddai yn cael ei lleoli yn y Coopers uwchben Tycroes. Mae y newyddion hyn yn dwyn fy meddwl yn ôl at Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman … Parhau i ddarllen

Glo Man: Pensiynwyr y pentref

Rhai o blant ysgol y pentre fu’n diddanu’r aelodau ddechrau’r flwyddyn. Cafwyd amrywiol eitemau ganddynt sef côr, unawdwyr, grwpiau offerynnol a dawnsio modern. Prifathro newydd yr ysgol, Mr. Paul Mainwaring, oedd yng ngofal y plant ac yn cael e… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

Dathlu Blwyddyn Newydd y Tsineaid fu Clwb Chware Teg! yn ystod Hanner Tymor. Pa ffordd well i wneud hyn na mynd am bryd o fwyd Tsineaidd wrth gwrs! Wrth i ni fwynhau’r bwyd cawsom gyfle hefyd i ddysgu dipyn bach am ddathliadau’r Flwyddyn Newydd. Wrth d… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: MWY o HWYL a SBRI

Dau fore llawn gweithgareddau ar gyfer y plant yn y Ganolfan yn ystod Hanner Tymor. Diolch i Kelly a Miriam am drefnu’r holl weithgareddau ar gyfer y plant, ac am gynnal y gweithgareddau hwyliog. Roedd gemau, rasys, gemau parasiwt a celf a chrefft. Ca… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Janig, Peggy a Niclas ar eu ffordd i mewn i’r tŷ bwyta / Poent merenn e devezh-studi Kevredigezh Kembre-Breizh e Dolgellau

Janig, Peggy a Nic ar eu ffordd i mewn i’r tŷ bwyta / Poent merenn e devezh-studi Kevredigezh Kembre-Breizh e DolgellauOriginally uploaded by bara-koukoug Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Tecwyn Evans, Is-lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cymru-Llydaw yn nhŷ bwyta T H Roberts, Dolgellau

Tecwyn Evans, Is-lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cymru-Llydaw yn nhŷ bwyta T H Roberts, DolgellauOriginally uploaded by bara-koukoug Parhau i ddarllen

Glo Man: Gŵyl y Gannwyll

Cathryn Thomas (Trysorydd Cor Scarlets), Sandra Davies (Cor Merched Lleisiau’r Cwm ac Ymchwil Llid yr Ymennydd), Alys Lewis (Cor Cantata), Catrin Hughes (Cyfarwyddwr Cerdd y tri Cor)Ar Nos Sadwrn Rhagfyr 5ed cynhaliwyd cyngerdd i godi arian tuag at Ymc… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Ysgol undydd Cymdeithas Cymru-Llydaw, yn Nolgellau – 20 Chwefror 2010

Lod eus ur gentel gant Janig Bodiou, e devezh-studi Kevredigezh Kembre – Breizh, e Dolgellau, d’an 20 a viz C’hwevrer 2010Originally uploaded by bara-koukougAr 20 Chwefror, cafwyd diwrnod difyr yn siarad Cymraeg a Llydaweg yn Nhŷ Siamas, Dolgellau… Parhau i ddarllen