Archif Misol: Chwefror 2010

Hen Rech Flin: Dogfen wonci’r Blaid

Mae yna gred gyffredinol mae Plaid Cymru yw’r blaid sydd efo’i bys ar y pỳls parthed defnyddio’r we er mwyn ymgyrch ac er mwyn cysylltu â’i haelodau a’i chefnogwyr. Ond ow! Mae angen i rywun o’r Blaid dysgu sut i osod dogfennau pdf ar y we mewn ffordd ddarllenadwy! Mae’n rhaid bod yn bencampwr gymnasteg i droi dy ben ffordd yma a ffordd arall er mwyn darllen y ddogfen ar gymorth i gyn milwyr.Efo Parhau i ddarllen

BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Bali wisteria …

Y ddynes werthodd y ty i mi yn 2000 blannodd y wisteria yma. Doedd o’m yn rhy hapus yma bryd hynny, ond ers i mi ei anwybyddu’n llwyr, mae o wedi tyfu fel triffid, wedi blodeuo’n ddel, a rwan – sbiwch be mae o wedi neud! Malu fy landar i’n rhacs! Dyma lun agosach [...] Parhau i ddarllen

Ubuntu Cymraeg: iPod Touch ar Ubuntu

Rheoli iPod Touch gyda Rhythmbox

Tan yn ddiweddar roedd bron yn amhosib i ddefnyddio Ubuntu i reoli dyfais iPod Touch. Er gwaetha miloedd o geisiadau i Apple naill ai i greu iTunes ar gyfer Linux, neu i ryddhau digon o’r côd i alluogi cymuned Linux i wneud y gwaith, gwrthod wnaeth y cwmni.

Mae hyn wedi [...] Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Pen draw y byd….

Y Cwn ar Draeth Tywyn ger Tudweiliog…Dyni newydd dychweled o Langwnadl ar ôl cwpl o ddyddiau o dywydd arbennig o braf. Roedd y golygfeydd yn odidog wrth teithio lawr, gyda chopaoedd Eryri o dan eira o hyd, a’r awyr yn las Dydd mercher doedd neb ara… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: mae hi’n gweithio!

Ydy! Mae’r allweddell y collais i siocled poeth arni hi’n gweithio’n braf wedi iddi gael ei golchi o dan y dwsel. Gadewais i hi i sychu am wythnos nes iddi fod yn hollol sych. Dw i’n teipio’r post hwn arni hi a dweud y gwir. Mae hi’n berffaith iawn (a … Parhau i ddarllen

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: System Anrhydeddau i Gymru – Mae’r blog wedi cau bellach

Diolch am eich sylwadau ac am roi barn ar y System Anrhydeddau i Gymru. Mae’r blog wedi cau bellach. Bydd eich sylwadau’n cael eu casglu a’u hystyried gan y Pwyllgor Deisebau yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth. Byddwn yn eich hysbysu ynglŷn â chanlynia… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Tavarn Ty Elise wedi ei dinistrio gan dân

Cafodd un o’r symbolau amlycaf o’r cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw, sef tafarn Ty Elise yn Plouie (Plouyé), nid nepell o An Uhelgoad (Huelgoat) ei ddinistrio mewn tân ar noson 18 Chwefror.

Mae Ty Elise yn fangre gyfarwydd iawn i lawer o bobl … Parhau i ddarllen

Adenydd Celtaidd: Jyst Tipyn Bach Dros Y Ben

Ydyn ni’n cymryd pethau rhy bell?  Mae hon o Pennsylvania yn awgrymu’r ateb.  Mae dosbarth ysgol ym Philadelphia wedi dodi camerâu gwe i mewn gliniaduron myfyrwyr.  Maen nhw’n gallu dechrau’r camerâu yn bell (remotely) a thynnu lluniau o’r myfyrwyr (ac unrhywun arall tu mewn cyrhaeddiad). HEB hysbysiad, HEB gytundeb a HEB ganiatâd.  A gwaeth eto, [...] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: chwarae recorder

Dw i’n rhyw feddwl eisiau chwarae offeryn cerddorol yn ddiweddar. Ond rhaid ymarfer am flynyddoedd i chwarae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddigon da heblaw am hwn, sef recorder. Fe fedr unrhywun ei chwarae fo gyda thipyn o ymdrech. Roeddwn i’n chwarae un p… Parhau i ddarllen

O Bell: Wedi went a wedi dod ‘nol

Ond ychydig ddyddiau wedi i mi flogio am y perthynas rhwng Melbourne a Sydney, fe gefais “wahoddiad” i dreulio ychydig o amser yn y ddinas emerald (Sydney) trwy fy ngwaith.
Rwyf wedi blogio am rhan gyntaf o’m hymweliad yn y Saesneg ac fe fydd ‘na lawer mwy i ddod.
Yn y fan hyn, rwyf am son am y [...] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: un nos ola leuad

Newydd orffen y nofel hon ynghyd y ffilm a fenthycwyd gan Linda. Mae diwedd y stori’n sobor o drist! (Roedd Idris yn iawn.) Roeddwn i am weiddi efo’r dyn. (Does gynno fo ddim enw gyda llaw.) O ran y ffilm, dw i’n gwybod bod rhaid cwtogi unrhyw stori i … Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Debbie’s Coming to Town! Caerfyrddin

Fe fydd Debbie (ar ran y cwmni Debenhams) yn dod i Gaerfyrddin yfory, dydd Mercher 17eg o Chwefror, cyn agoriad swyddogol ei siop fawr crand yn y pasg. Bydd Debbie (sydd yn cael ei chwarae gan Llinos Roberts, aelod o… Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Cryfder rhyngwladol y gwledydd bychain

Un o’r dadleuon a glywir yn aml gan unoliaethwyr yw bod bod yn rhan o wlad fawr gryf yn rhoi llawer mwy o nerth inni ar y llwyfan rhyngwladol na fyddai gan Gymru neu’r Alban fel gwledydd bach annibynnol. Yn y rhifyn cyfredol o’r Scotsman ceir ddadl gan Craig Murray, cyn llysgennad Prydeinig sydd yn troi hynny ar ei ben. Mae Mr Murray yn dadlau nad oes gan y DU unrhyw awdurdod moesol ar lwyfan y Parhau i ddarllen

Glo Man: MURLUN T. LLEW JONES

Dyma furlun hyfryd a grewyd gan Mr Steffan Ebbsworth, athro Celf yn Ysgol Dyffryn Aman, a dau o ddisgyblion yr ysgol, Steffan Morris a Joshua Evans, 7G. Crewyd y llun ar gyfer diwrnod T. Llew Jones ac mae’r murlun yn portreadu rai o brif nofelau’r awdu… Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Darogan etholiad 2010 – record Aberconwy

Un o fanteision cael blog gan bob un o ymgeiswyr mewn etholaeth unigol yw bod dyn yn gallu dilyn adroddiadau am yr ymateb ar y drws gan bob plaid.Yn ôl y son mae Phil, Guto, Mike a Ronnie yn cael ymateb anhygoel!Mae pob un ymgeisydd yn canfod pobl yn cyfnewid teyrngarwch a phob un yn ffyddiog am bleidlais anhygoel o bob bro a phentref eu hymdrechion canfasio. Mae pob un blaid yn darogan Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cam ymlaen i arwyddion dwyieithog

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ofis ar Brezhoneg (Swyddfa’r Llydaweg) ddogfen newydd ar arwyddion dwyieithog. Codwyd yr arwyddion dwyieithog cyntaf yn 1984, ond cymerwyd camau mawr ymlaen oddi ar hynny, ac mae cynifer o arwyddion Llydaweg-Ffrangeg fel y … Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Salmond yn rhan o’r ddadl fawr.

Mae blog SNP Tactical Voting yn adrodd bod cwmni Sky am ganiatáu i Alex Salmond bod yn rhan o’i darllediad hustings yr arweinwyr cyn etholiad San Steffan. Os yw hyn yn gywir mae’n buddugoliaeth fawr i Blaid Genedlaethol yr Alban. Ond lle mae’n gadael Plaid Cymru? A fydd y Blaid yn caniatáu i Salmond cynrychioli’r pleidiau cenedlaethol i gyd, neu a fydd y Blaid yn mynnu ei bod hi’n cael yr un Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Ysgrifennwch lythyr er mwyn yr Ayoreo-Totobiegosode

Mae Indiaid yr Ayoreo-Totobiegosode yn byw yn y Chaco, ehangder maith o goedwigoedd prysglog sydd yn ymestyn o Baragwâi i Folifia a’r Ariannin. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae ranshwyr gwartheg wedi meddiannu ardaloedd eang o’u o’u tiroedd, a bellac… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: picnic yn y gwynt

Mae’n dal yn oer a sobor o wyntog ond heb eira. Mae’n ymddangos fod o’n canolbwyntio ar y Dwyrain ar hyn o bryd (ac Ohio, druan o Antwn!)Mae’n Ddiwrnod yr Arlywyddion heddiw ac mae’r ddau o’r plant yn cael diwrnod i ffwrdd tra bod y rhan fwyaf o’r ysgo… Parhau i ddarllen

Cymry'r Canolbarth: Cadw Cymreictod yn fyw

Mae dysgwyr sy’n byw yn Lloegr ac ambell un Cymro alltud yn cwyno eu bod hi’n anodd cadw Cymreictod yn fyw y tu draw i glawdd Offa ond dros y pythefnos diweddaf yr ydw i wedi cael y cyfle i fynychu pump o weithgareddau Cymraeg eu hiaith, sef 1.) Cyfarf… Parhau i ddarllen

Cymry'r Canolbarth: Cadw Cymreictod yn fyw

Mae dysgwyr sy’n byw yn Lloegr ac ambell un Cymro alltud yn cwyno eu bod hi’n anodd cadw Cymreictod yn fyw y tu draw i glawdd Offa ond dros y pythefnos diweddaf yr ydw i wedi cael y cyfle i fynychu pump o weithgareddau Cymraeg eu hiaith, sef 1.) Cyfarf… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cofio Meriadeg Herrieu

Yn 85 oed, ar 24 Rhagfyr, 2009, bu farw Meriadeg Herrieu, mab i’r awdur Llydaweg Loeiz Herrieu. Gan Meriadeg y trefnwyd cyhoeddi “Dasson ur Galon” (Atsain Calon), llyfr o gerddi a gyfansoddwyd gan ei dad, a hefyd y dyddiadur y cofnododd ei dad yn… Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Llyr neu’r Daleks – Dyna’r Ddewis!

Y mae prawf pendant wedi dod i’r fei y bydd bywyd o dan Lywodraeth Cameron yn drychinebus i’r hil ddynol. Mae Dr Who wedi ymweld â Phrydain Cameron yn ei Dardis, ac wedi dychwelyd i’r amser cyfredol i’n rhybuddio i newid hanes cyn iddi ddigwydd.Nid fi sy’n dweud ond David Jones AS, sydd yn cwyno ar ei flog bod y rhaglen Dr Who yn rhagfarnllyd yn erbyn y Ceidwadwyr. Os nad ydy David Jones ar ochr Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: WoS yn gwadu eistedd ar stori Bates

Bwrw’r Sul diwethaf yr oeddwn ymysg nifer o flogwyr i gwestiynu amseriad adroddiad yn y Wales on Sunday am fistimaners Mick Bates AC wedi noson ar y pop. Yr oeddwn yn teimlo ei fod yn ymddangos fel mwy na chyd-ddigwyddiad bod yr hyn a digwyddodd yn oriau man bora’r 19-20 Ionawr yn cael ei gyhoeddi yn y papur deunaw niwrnod yn niweddarach ar achlysur cynhadledd Gwanwyn y Rhyddfrydwyr Democrataidd Parhau i ddarllen

Wierdo: Sgwennu

Pan oeddwn i’n fach mi oeddwn i eisiau bod yn fardd, fel taid. Mi oeddwn yn ysgrifennu “barddoniaeth” yn aml a roedd nain wrth ei bodd. Mi oedd bobl yn dweud wrthai eu bod yn dda, ac mi oeddwn i am fod mor enwog.Dwni ddim pa mor dda oeddwn i cofiwch, d… Parhau i ddarllen

Wierdo: Sgwennu

Pan oeddwn i’n fach mi oeddwn i eisiau bod yn fardd, fel taid. Mi oeddwn yn ysgrifennu “barddoniaeth” yn aml a roedd nain wrth ei bodd. Mi oedd bobl yn dweud wrthai eu bod yn dda, ac mi oeddwn i am fod mor enwog.Dwni ddim pa mor dda oeddwn i cofiwch, d… Parhau i ddarllen

Glo Man: Lowri Harries – Chwaraeon

Mae Lowri Harries o Stryd Talbot, Rhydaman wedi cael ei dewis gan Glwb Pel-droed Abertawe i fod yn y garfan ar gyfer ei tîm merched dan 12. Mae Lowri wedi cael ei dewis fel un o 20 sydd yn y garfan sy’n cynnwys chwaraewyr gorau Gorllewin Cymru.Y mae… Parhau i ddarllen

Ubuntu Cymraeg: Cuddio testun mewn delwedd neu ffeil sain

Gyda rhaglen Steghide sydd ar gael drwy’r Rheolwr Pecynnau Synaptic mae modd i ti guddio testun neu neges mewn delwedd. Nid dyma’r ffordd orau o gadw gwybodaeth yn gudd a diogel, ond mae’n gallu bod yn hwyl!

Cyn dechrau gwna’n siwr bod gen ti ddelwedd addas ar gyfer cuddio gwybodaeth ynddi, a gwybodaeth mewn ffeil .txt [...] Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

Cyfle Clwb Chware Teg! oedd cyfrannu i’r murlun heno yng nghwmni Hazel Carpenter. Mae’r murlun bellach yn barod i’w osod gyda’i gilydd. Diolch i bawb am gyfrannu yn: Gwyl Pin Dwr, Clwb Gwau, Clwb Chware Teg! ac Ysgol yr Eifl. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

Nos Fercher 10fed cawsom stori Adda ac Efa. Roedd y stori yn ein atgoffa pa mor bwysig ydi rheolau – rheolau yn yr ysgol, rheolau croesi’r ffordd ac yn y blaen. Mae’n bwysig iawn cael braich gryf i ddweud NA! pan mae rhywun yn ceisio ein perswadio i wn… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: GWASANAETH Y MIS

Thema Gwasanaeth y Mis i blant Ysgol yr Eifl ym mis Chwefror oedd Y Creu. Cawsom gyfle i fynd drwy waith y saith diwrnod cyn bod y plant yn cael cyfle i gyfrannu i furlun enfawr fydd yn cael ei osod yn Festri Maesyneuadd. Arweinydd y sesiwn celf oedd… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DAEARGRYN HAITI

Mae’r daeargryn yn Haiti wedi achosi un o’r trychinebau mwyaf a welodd y byd erioed. Mae hefyd wedi cyffwrdd pobl dros y byd. Mae’r her i helpu wedi ysbrydoli pobl i ddefnyddio eu gallu a’u hawydd i helpu mewn llawer ffordd. Yn Nhrefor fe gwasom gyfle … Parhau i ddarllen

Traed Mawr: Traed Mawr 2010-02-14 12:06:00

Hwianderdd y dydd 12Gyrru i GaerGyrru, gyrru, gyrru i Gaer;I briodi merch y maer;Gyrru, gyrru, gyrru adre,Wedi priodi ers diwrnodie. Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Beth fu tynged “Bugaled Breizh”?

Ers chwe blynedd, mae ’na stori sydd yn codi dro ar ôl tro ym mhapurau newyddion Ffrainc, un sydd â’i gwreiddiau yn Llydaw, ac a all eisoes fod yn gyfarwydd i rai ohonoch, sef hanes “Bugaled Breizh”. (“Plant Llydaw”, yw ystyr yr enw, a Parhau i ddarllen

Traed Mawr: Traed Mawr 2010-02-13 19:36:00

Hwiangerdd y dydd 11Sgwrs”Wel,” meddai Wil wrth y wal,Wedodd y wal ddim wrth Wil.. Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: am ddiweddglo…

Shane Williams yn rhoi halen ym mriw yr Alban….Welais i erioed diweddglo mor gyffrous i gêm rygbi! Dyna Gymru yn dri pwynt ar ei ôl gyga dim ond eiliadau i fynd pan gafodd Lee Byrne ei faglu gan un o’r Albanwyr. Gafodd y Sgotyn ei anfon yn syth at… Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Dyma Ronnie

Yn dilyn fy mhost am ymgeiswyr Aberconwy yn blogio mae Ronnie Hughes (Llafur) bellach wedi cychwyn blog:http://ronniehughes.wordpress.com/A mae Guto Bebb wedi symud ei berlau o ddoethineb i:http://aberconwyconservatives.co.uk/category/blogs/ Parhau i ddarllen

O Bell: Harbwr Ahoy!

Mae karma yn beth rhyfedd.
Ond dyddiau ar ol i mi sgwennu pwt o flog am Melbourne a Sydney, dyma fi yn cael “gwahoddiad” gan fy ngwaith i mi dreulio pythefnos yn y ddinas emerald !
Mae’n dair mlynedd ers i mi adael…ac rwyf yn dychwelyd yn ystod cyfnod y Mardi Gras Hoyw a Lesbiaid.
Felly, ffwrdd a [...] Parhau i ddarllen

BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Profi’r pridd

O’r diwedd, dwi wedi bod yn profi’r pridd sydd gen i yn Ffrwd y Gwyllt. Mi brynais i ‘kit’ bychan am £2.99 a mynd ati ddoe. Y cam cynta oedd rhoi pridd hyd at y llinell cynta yn y tiwb fel uchod. Pridd o’r patsh llysiau ar waelod yr ardd oedd hwn, sef pridd [...] Parhau i ddarllen

Traed Mawr: Traed Mawr 2010-02-12 19:23:00

Hwiangerdd y dydd 10I’r YsgolMi af i’r ysgol fory,A’m llyfyr yn fy llaw;Heibio’r Castell Newydd,A’r cloc yn taro naw;Dacw mam yn dyfod,Ar ben y gamfa wen,”A rhywbeth yn ei barclod,A phiser ar ei phen.Mi af i’r ysgol fory,A’m llyfyr yn fy llaw,Heibio’r … Parhau i ddarllen

Morfablog: Gil Scott-Heron

Gwrandewch, wedyn cerwch a phrynu copi.

Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: India

Dyma bost byr iawn, i ddweud fy mod i’n mynd ar wiliau i’r India fory, felly bydd dim unrhyw newyddion o’r blog yma am wythnos o leiaf. Dewch yn ol i glywed am ffasiwn o India wythnos nesaf! Diolch yn fawr Ffion X Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: India

Dyma bost byr iawn, i ddweud fy mod i’n mynd ar wiliau i’r India fory, felly bydd dim unrhyw newyddion o’r blog yma am wythnos o leiaf. Dewch yn ol i glywed am ffasiwn o India wythnos nesaf! Diolch yn fawr Ffion X Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Is-ganghellor Bangor – dim Cymraeg?

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am y proses penodi Is-ganghellor nesaf Prifysgol Bangor gan na ddatgelwyd y gallu i siarad Cymraeg fel sgil dymunol yn yr hysbyseb swydd. Yn yr hysbyseb mae’r brifysgol yn datgelu: “Rhaid i ymgeiswyr… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: llanast

Am lanast. Gollais i siocled poeth ar ‘keyboard’ y cyfrifiadur ac mae o’n cau gweithio. Pam na wnes i golli te yn lle siocled poeth? Rhaid glanhau’r llanast ond does gynnon ni ddim offeryn addas i droi’r sgriwiau bach bach ar y cefn. Dydy’r siop fawr y… Parhau i ddarllen

Y ffasiwn beth!: Alexander McQueen

Trist iawn oedd hi i glywed am farwolaeth y cynllunydd ffasiwn Alexander McQueen heddiw. McQueen oedd un o fy hoff gynllunwyr, ag mae hyn yn golled mawr i’r byd ffasiwn. Roedd o’n enwog iawn am greu sioeau ffasiwn gwefreiddiol, a dillad anghyffredin ia… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Glyn Dŵr

Derbyniais fy ngopi ail-law o ‘Owain Glyndŵr, Trwy ras Duw Tywysog Gymru’ trwy’r post bore ddoe. Mae’r llyfr newydd ei gyfieithu i’r Saesneg, ac er bod y fersiwn Cymraeg gwreiddiol allan o brint (ar hyn o bryd), llwyddais gael hyd i gopi trwy Amazon…. Parhau i ddarllen

Traed Mawr: Traed Mawr 2010-02-11 18:24:00

Hwiangerdd y dydd 9Medde Bibyn wrth Bobyn”A ddoi di i’r coed?” medde Bibyn wrth Bobyn,”A ddoi di i’r coed?” medde Richard wrth Robin,”A ddoi di i’r coed?” medde’r bachgen ei hun,”A ddoi di i’r coed?” medde nhw bod yg un.”Beth wnawn ni yno?” medde Bibyn… Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Peter Hain a’r Genhadaeth Dramor

Digon hawdd yw gwneud hwyl am sylwadau Peter Hain bod Cymru yn wlad weddol gyfoethog a’i gymhariaeth rhwng Cymru a Rwanda. Ar un lefel mae’r sylwadau yn gofyn am dynnu’r pî ohonynt, felly does dim beirniadaeth o’r rhai sydd wedi gwatwar Peter a’i sylwadau.Ond ar lefel arall mae Hain yn gwneud sylw difrifol sydd yn un werth ei hystyried. Er gwaethaf cwynion parhaus am dlodi Cymru o gymharu â GDP Parhau i ddarllen

Traed Mawr: Traed Mawr 2010-02-10 19:50:00

Hwiangerdd y dydd 8Tarw corniogTarw corniog, torri cyrnau,Heglau baglog, higlau byglau;Higlau byglau, heglau baglog,Torri cyrnau tarw corniog.. Parhau i ddarllen