Archif Misol: Mawrth 2010

Pethe » Blog: Eisteddfod Yr Hoelion Wyth

Dim ond googlo ‘Hoelen Wyth’ wnes i gan sylwi ar ein hoffter o ddefnyddio’r  (gor-ddefnyddio’r?) dywediad. Mewn erthyglau neu flogiau caiff yna bobol eu dyrchafu’n hoelion wyth yn eu cymunedau neu eu cylchoedd o hyd. Mae erthyglau coffa’n defnyddio’r disgrifiad yn amal, gan daro’r hoelen ar ei phen yn amal o wneud wrth …mwy Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Cyn-fyfyriwr: Alun Saunders

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2001 es i hyfforddi fel Actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers hynny dwi wedi bod yn gweithio fel Actor ac Awdur Sgriptiau broffesiynol i gwmnïau fel Clwyd Theatr Cymru, Theatr na n’Og, BBC Radio 4, Teledu Apollo, Fiction Factory a Wales Theatre Company. Cefais amser [...] Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Ysgrifau dydd Mercher: Amaethyddiaeth

7. Amaethyddiaeth a ddylai fod yn brif ddiwydiant Cymru ac yn sylfaen ei gwareiddiad. Mae dwy ffordd o fynd o gylch y pwynt polisi hwn. Yn gyntaf, mae o’n alwad i ddefnyddio adnoddau Cymru mewn modd cyfrifol, ac yn ail mae o’n alwad i ni wneud rhywbeth. Yn ein dyddiau ni, mae’n anodd dychmygu ffarmio’n [...] Parhau i ddarllen

Metastwnsh: Llais synthetig Cymraeg newydd ar gael

Nôl yn 2006, datblygwyd y llais synthetig Cymraeg masnachol cyntaf yn Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor (lle dwi’n gweithio) yn dilyn project WISPR (Welsh and Irish Speech Processing Resources).  Mae’r lleisiau hyn yn cymryd testun ysgrifenedig fel mewnbwn ac yn ei lefaru fel bod modd gwrando arno yn hytrach na’i ddarllen. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus [...] Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Arestio Gwilym Euros

Fel Cai yr wyf wedi cael ambell i gais i drafod y stori bod Gwilym Euros wedi cael ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o ymosod. Fel mae’n digwydd rwy’n gwybod dim mwy am yr hanes na sydd wedi ei gynnwys ar wefan y BBC, sydd yn brin iawn o fanylion.

Yn wahanol i Cai nid ydwyf yn credu bod y stori yn un nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol a gwleidyddiaeth. O feddwl yn ôl am straeon am DI yn parcio ei Parhau i ddarllen

fel y moroedd: haul ac awyr las

Dw i newydd orffen y llyfr hwn gan Cathrin Williams. Llyfr am ei phrofiadau a gafodd hi ym Mhatagonia ydy hwn. Treuliodd hi flwyddyn gron draw yn 1990 a 1991 yn dysgu dosbarthiadau Cymraeg sawl tro’r wythnos a phregethu o dro i dro wedi cael ei swyno g… Parhau i ddarllen

Broch yng Nghod: Y Gweriniaethwyr a’r werinos

Mae ‘na hynodrwyddau gwleidyddol am yr UDA dwi’n dal i fethu ag eu deall nhw, er fy mod wedi bod yn byw yn yr wlad hon ers ugain mlynedd. Ymhlith y pethau mwyaf anodd i fi eu deall ydy’r paranoia am ddiwygio neu wella’r cyfundrefn gofal iechyd. Yn ysto… Parhau i ddarllen

BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Grifft, paneli a Rich 2 Olwyn

Jest i brofi bod y llyffant wedi ffansio fy mhwll i … dim ond un hyd yma, ond does wybod be ddaw yn yr holl law ma. Mi wnai gymryd llun o’r ‘rhaeadr’ fechan toc achos dwi wedi penderfynu bod angen rhyw fath o gerflun neu rhywbeth ar ei ben o a dwi isio syniadau! [...] Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Alcohol yn yr Urdd – a Christnogaeth

NODYN: Mae’r post isod yn rhyw fath o barhad o drafodaeth ar flogiau Rhys Llwyd a Dyfed Wyn Roberts. Dyma’r postiau perthnasol: Rhys Llwyd: Guto Dafydd ac Alun Lenny Dyfed Wyn Roberts: Alcohol a’r enaid clwyfus Fedr y cyfryngau ddim gadael i ddadl wirion alcohol yn yr Urdd farw’n dawel a disylw. Neithiwr, roedd yn [...] Parhau i ddarllen

Metastwnsh: S4C ‘Clirlun’ yn darlledu ar 30 Ebrill 2010

S4C Clirlun ydi’r enw a ddewiswyd drwy gystadleuaeth i wylwyr y sianel ar gyfer gwasanaeth MU (Manylder Uchel) newydd S4C fydd yn lansio ar y 30 Ebrill 2010. Rhaid cyfaddef nad ydi’r enw’n rhy wael, ond efallai y bydd y cyfieithwyr yn ein mysg yn poeni y bydd ‘clirlun’ rwan yn dod yn derm de [...] Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Freeview+ a S4C

Ers i deledu troi yn unigryw digidol yn y parthau hyn yr wyf wedi cael gafael ar flwch Freeview+. Mae’r blwch yn caniatáu imi recordio rhaglen unigol ar bob sianel, a chyfres o raglenni ar y rhan fwyaf o sianeli. Un o’r sianeli lle nad oes modd imi recordio cyfres yw S4C!

Pe bawn yn mynd ar fordaith rownd y byd a dod adref gan ddymuno dal i fyny efo’r hyn a methais o Eastenders byddai’r cyfan Parhau i ddarllen

Metastwnsh: Adolygiad: App iPhone “Dr Cocos a Salwch Snobs”

Ddydd Iau diwethaf es ati i edrych eto am sdwff Cymraeg ar Siop Apps Apple ar gyfer yr iPhone. Sylwais nod nifer o bethau newydd yno ers y tro diwethaf i mi chwilio (tua 6 mis yn ôl pan lawrlwythais y cymhwysiad Learn Welsh i weld sut beth oedd o). Roedd y rhan fwyaf [...] Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Dadl y Cangellorion

Am 8 heno ar Channel 4, mi fydd y tri gwleidydd sy’n dymuno bod yn ganghellor y trysorlys ar ôl yr etholiad yn mynd benben: Alistair Darling, y canghellor presennol; George Osborne o’r Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwr Vince Cable. Yr economi yw’r pwnc pwysicaf yn yr etholiad hwn, ac mae pôl piniwn newydd ddangos bod Llafur [...] Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Tro Wyau’r Pasg Cilgwri….

rhai o’r beiciau yn pasio trwy West KirbyCynhalwyd y ‘Wirral Egg Run’ dydd sul, sef y gorymdaith blynyddol o feiciau modur sy’n cludo wyau Pasg at ysbytai lleol a chodi arian ar eu rhan. Mae’r peth wedi tyfu’n aruthrol dros y flynyddoedd gyda tua 10,00… Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Dulyn

Dwi ac @lisahumph off i Ddulyn y penwythnos yma. Mae blogMenai wedi fy rhybuddio’n barod mai dydd Gwener y groglith ydi’r unig ddiwrnod o’r flwyddyn pan mae’r tafarnau’n cau yno – nid bod hynny’n mennu gormod arna i! Ond beth ddylen ni ei wneud yno? Beth fyddech chi’n ei awgrymu? Unrhyw syniadau? Parhau i ddarllen

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Diweddariad

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau ar 23 Mawrth, ystyriodd y Pwyllgor grynodeb o’ch ymatebion i gwestiynau a ofynnwyd ar y blog hwn. Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i anfon crynodeb o’r ymatebion at y Prif Weinidog a’r Llywydd gan ofyn iddynt am eu barn ar eich sylwadau.  Yn ogystal, bydd y Pwyllgor yn [...] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: diwedd y gaeaf

Beth sy’n cyfleu diwedd y gaeaf i chi? I mi – ein llosgwr logiau oer. Roedden ni’n llosgi’n logiau olaf ni ddoe ac mae’r llosgwr heb dân bellach. Mae gynno fo olwg braidd yn drist. Does dim rhaid cludo logiau o’r garej na chadw’r tân na llnau’r llud… Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Adolygiad o Chwilys

Chefais i mo fy siomi gan Chwilys. Mae gan Non Meleri Hughes adolygiad da ohoni ar wefan Tu Chwith – mae o’n gyflawn, yn gynhwysfawr ac yn gwneud cyfiawnder â’r ddrama. Mae’n bleser darllen adolygiad o’r fath safon – mae’n beth prin. Byddai’n werth ei ddarllen cyn mynd i weld y ddrama – ac yn [...] Parhau i ddarllen

BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: y pwll neithiwr

Tydi o’n ddel! A ddeuddydd wedi ei gwblhau, roedd na lyffant wedi galw a gadael blob reit dda o rifft llyffant ynddo fo. Wir yr! Gewch chi lun o hwnnw fory neu drennydd. Jest isio rhannu fy hyfryd bwll efo chi! Parhau i ddarllen

Copa'r Mynydd: Cyflwyniad i’r Celtiaid

Ar ôl i mi dreulio pob bore dydd Sadwrn ym mis Mawrth ar y cwrs ‘Cyfieithu ar y Pryd’ roedd ‘na dipyn o newid ddoe pan es i ar gwrs am y Celtiaid. Siôn Aled oedd y tiwtor unwaith eto a chawsom ni ddiwrnod arbennig o ddiddorol. Yn ôl y cyfarwyddiau… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Y Celtiaid ac arwyddion o’r Gwanwyn

Mi ges i benwythnos diddorol iawn. Ar ddydd Gwener mi wnes i yrru draw i Swydd Caer. Ar y ffordd mi wnes i fynd trwy ganol Leek. Mae’na hen groes Gristnogol yno. Yn ôl y son mae hi’n Groes o’r Cyfnod Sacsoniad, ond i mi mae hi’n edrych fel Croes Celt… Parhau i ddarllen

Wierdo: Miwsic

Mae’r miwsic yn cychwyn ac yn sydun maer bobl feddw gysglyd o’ng nghwmpas yn cychwyn dawnsio. Mae cerddediad yn troin gamau cymleth yn swn y banjo a pawb fel petai nhwn canur gan sydd yn fy suo i a fi yn unig. Pawb iw gweld yn rhan or nodau ar mŵd yn… Parhau i ddarllen

Wierdo: Miwsic

Mae’r miwsic yn cychwyn ac yn sydun maer bobl feddw gysglyd o’ng nghwmpas yn cychwyn dawnsio. Mae cerddediad yn troin gamau cymleth yn swn y banjo a pawb fel petai nhwn canur gan sydd yn fy suo i a fi yn unig. Pawb iw gweld yn rhan or nodau ar mŵd yn… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : Dod i arfer â’r blog ma!

Yffach sai’n hapus, Sgrifennes i gofnod bach neis yn sôn am Gymreictod ac mae’r cyfan wedi diflannu rhywsut a s’dim clem ‘da fi pam? Wi’n eitha da â Chyfrifiaduron hefyd felly nid diffyg dealltwriaeth mohoni. Wel sai’n mynd i sgrifennu’r un cofnod et… Parhau i ddarllen

O Bell: Frwm frwm

Cyfarchion o bencadlys y Grand Prix. Mae Melbourne yn llawn dynion ifainc a chanol oed yn gwisgo crysau lliwgar gyda hysbysebion drostynt, y rhain yw selogion y ceir cyflym. Mae’na Awstraliwr gyda siawns go dda o gipio’r faner du a gwyn – Mark Webber yw hwnnw.  Amser a ddengys (Postwyd am 1230 amser Melbourne 28/03/2010). [...] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: bbc vocab

Teclyn hwylus gallai fo fod. Ond yn aml iawn dydy BBC Vocab ddim yn dangos ystyr geiriau mwy anodd tra bydd o’n esbonio rhai syml.Pa ddysgwr sy’n ddigon profiadol i ddarllen newyddion Cymraeg ddim yn gwybod beth ydy Cymru? Ond dydy gair fel ‘crebachu’ … Parhau i ddarllen

Glo Man: EISTEDDFOD TREF RHYDAMAN

Cadi                                         &n… Parhau i ddarllen

shitclic: Bws i Nunlla

Wedi pinacl fawr Gŵyl Ddewi ar S4C, a phleidlais gyhoeddus a buddugol gan bobl Llanrwst, sori CYMRU, fydd Cân i Gymru ddim yn mynd ymlaen i Eurovision y Celtiaid wedi’r cwbl. Yn ôl y sôn, tydi’r cyfansoddwr, y Bonwr Tan Lan ddim yn gallu ffordd… Parhau i ddarllen

Be ti Whilia Bachan! : S4C i ddarlledu Sesiwn lawn y Cynulliad ar y brif Sianel??? Beth?

Cawsom ddatganiad heddi bod S4C yn mynd i ddarlledu sesiynnau llawn o’r Cynulliad ar nosweithiau Mawrth,Mercher a Iau yn ôl gwefan s4c ac mae’n dweud y canlynol ar wefan golwg.

Yn dilyn trafodaeth yn y Senedd ddydd Mawrth, 23 Mawrth, mae S4C yn cadar… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

25 Mawrth cawsom gemau allan o lyfr Storiau Duw. Edrych ar gyfiawnder a maddeuant Duw drwy stori’r plau yn yr Aifft. Bu gemau cardiau, pel ac actio. Roedd y sgetsys yn llwyddiannus iawn gan ddangos i ni bod Duw yn rhoi llawer mwy nag un cyfle i ni wel… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

Cynhaliwyd Oedfa Masnachdeg ar gyfer y teulu, nos Fercher 24ain Mawrth. Roedd y plant wrthi’n brysur ers 5 o’r gloch yn addurno cacennau gyda siocled Masnachdeg yn barod ar gyfer paned cymunedol ar ol y gwasanaeth. Roedd hefyd siocled Masnachdeg yn y f… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: BANER Y CREAD

Mae’r gwaith o osod yr holl ddarnau grewyd ar gyfer y faner yn mynd o nerth i nerth, ac mae Hazel Carpenter yn brysur gwblhau’r cyfanwaith. Mae cyfraniadau gan blant Ysgol yr Eifl, Gwyl Pin Dwr, y Clwb Gwau a Chlwb Chware Teg! Edrychwn ymlaen am ddador… Parhau i ddarllen

Pethe » Blog: Mynwenta mwy!

Na, dw i heb fod yn loetran mewn mynwent ers y blog dwetha. Mae un mynwent yr wthnos yn ddigon! Ond mae’n amlwg bod fy meddwl ymhlith y beddau o hyd, er bod dweud hynny’n morbid mae’n siwr. (Morbid yn air derbyniol Cymraeg yn ôl y Bruce – ar ôl afiach ac angladdol, sydd ddim …mwy Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Dwy olwg ar y Times

Mae’r Times wedi cyhoeddi eu bod nhw am godi £1 y dydd neu £2 yr wythnos i ddefnyddio’u gwefan. Pa wallgofddyn gafodd y syniad hwn, dwi ddim yn gwybod – mae’n boncyrs. Ddim fel’na mae’r we yn gweithio.
Ond ar y llaw arall, maen nhw’n profi eu hathrylith hefyd. Diolch i @elliwgwawr a @mrchrisaddison am dynnu [...] Parhau i ddarllen

shitclic: Radio Rwtsh

Dyma fwrw golwg achlysurol ar berlau ieithyddol Radio Cymru. Mewn eitem ar oleuadau traffig diddiwedd – sori, ffordd osgoi’r Bontnewydd-ar-wy, Powys – ar y Post Cyntaf y bore ’ma, dywedodd ein Dirprwy Brif Weinidog hoff fod ei lywodraeth yn ymrwy… Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Maxi

Yn bersonol dwi’n meddwl dyle pawb wisgo ffrogiau drwy’r flwyddyn. Y prif reswm dwi mor hoff o ffrogiau yw eu bod nhw mor hawdd i’w gwisgo fel mae nhw’n dweud. Mae ‘na rywbeth hamddenol iawn am ffrogiau. Dim ond taflu un ymlaen, adio ‘sgidiau, bag ac e… Parhau i ddarllen

Y FFASIWN BETH!: Maxi

Yn bersonol dwi’n meddwl dyle pawb wisgo ffrogiau drwy’r flwyddyn. Y prif reswm dwi mor hoff o ffrogiau yw eu bod nhw mor hawdd i’w gwisgo fel mae nhw’n dweud. Mae ‘na rywbeth hamddenol iawn am ffrogiau. Dim ond taflu un ymlaen, adio ‘sgidiau, bag ac e… Parhau i ddarllen

shitclic: Cwlwm (newyddion) Celtaidd

“Noswaith dda. Dyma newyddion Cymru o stiwdios Bangor, Gogledd Iwerddon…”Swnio’n wirion bost? Ddim felly, yn sgil cyhoeddiad yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan heddiw mai partneriaeth rhwng darlledwr newyddion annibynn… Parhau i ddarllen

shitclic: Ddy Ff**** Countdown!

Roedd ‘na wynebau cochion ar raglen gwis fytholwyrdd Channel 4 wythnos hon pan ymddangosodd y llythrennau canlynol ar y bwrdd. Unrhyw awgrymiadau? Parhau i ddarllen

Delynlocks: Hysbyseb Swydd – Saer Clo

Dan ni’n chwilio am unigolyn sy’n onest, ac efo’r gallu i weithio’n galed ac yn ddiffwdan, fel Saer Clo. Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi staff, ond yn amlwg, byddai profiad yn y maes yn fantais. Bydd y cyflog yn ddibynnol ar brofiad, ac ar yr hyn y gallwch ddod i’r cwmni. Bydd lleoliad y swydd [...] Parhau i ddarllen

shitclic: Cymdogion chwarter canrif

Gyda sylw mawr i ben-blwydd arbennig sioe sebon y Cocnis, mae ond yn iawn i’r Aussies gael mensh hefyd. Ydy, mae’n chwarter canrif ers i gymdogion clên Ramsay Street o Felbourne braf, gyrraedd ein cartrefi, gyda bêbs mewn bicini, pishyns efo pyrm… Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Penwythnos gwerth chweil yng Ngwynedd

Un o fanteision byw yn y rhan hon o’r byd ydi bod yna ddigwyddiadau diwylliannol cyson yn digwydd yma. Mae’r penwythnos hwn yn un arbennig o brysur, a rhag ofn eich bod heb glywed am rai o’r digwyddiadau hyn, o’n i’n meddwl swn i’n sôn!
Heno ma, am 6 30, dwi’n bwriadu mynd i Palas Print [...] Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Codi’r dreth ar seidr: proffwydoliaeth Plethyn

Dwi wedi credu ers tro bod geiriau caneuon y band gwerin ardderchog Plethyn yn gymorth i ddeall bywyd yn well. Yn wir, maen nhw fel rhyw fath o time-warp y talai i haneswyr eu hastudio ymhen canrif. Ac wrth wrando ar y Gyllideb ddoe, yr hyn y bydd y rhan fwyaf o bobl wedi rhyfeddu [...] Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Rhagor am yr etholiadau lleol yn Llydaw

Yn département y Liger-Atlantel (Loire-Atlantique), yn ne-ddwyrain Llydaw, cafwyd y math arferol o gystadlu, sef rhwng y dde (UMP) a’r chwith (PS), ond yng ngweddill Llydaw ’roedd y sefyllfa’n eithaf unigryw, gan fod tair ochr i’r ymgiprys: y … Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Caersaint….

Mi ddes i at ddiweddglo Caersaint heddiw, y llyfr Cymraeg hiraf i mi ddarllen hyd yn hyn (tua 370tud). Wnes i’w fwynhau rhaid i mi ddweud, ac er nad ydwi’n cyfarwydd â phob twll a chornel o Gaernarfon, welais luniau yn fy meddwl wrth darllen yn adlew… Parhau i ddarllen

Metastwnsh: Diwrnod Ada Lovelace: Elen Rhys

Ar y 19eg o Hydref, 2009, bu farw Elen Rhys wedi salwch. Hoffwn i sgwennu’r cofnod hwn ar Ddiwrnod Ada Lovelace – diwrnod rhynglwadol i ddathlu merchaid mewn technoleg a gwyddoniaeth – mewn teyrnged iddi hi a’i gwaith ym maes defnydd technoleg ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion.
Bu Elen yn brif weithredwr Cwmni Acen Cyf [...] Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Komz brezhoneg en ostaleri ‘Ar Vag hag ar C’hastell’ / Siarad Llydawegyn nhafarn ‘Y Llong a’r Castell’

Komz brezhoneg en ostaleri ‘Ar Vag hag ar C’hastell’ / Siarad Llydaweg yn nhafarn ‘Y Llong a’r Castell’Originally uploaded by bara-koukoug Parhau i ddarllen

Glo Man: CYNGERDD APEL HAITI – DONIAU DINEFWR

Blog Guto Dafydd: Ysgrifau dydd Mercher: y teulu a pherchentyaeth

6. Dylai teuluoedd mewn cenedl fod yn rhydd, yn ddiogel, ac mor annibynnol ag y galler. Er mwyn peri hynny rhaid deddfu a chynllunio i rannu meddiant yn helaeth iawn, oblegid dyn a chanddo feddiant yn unig a eill fod yn ddyn rhydd. Dylai meddiant fod wedi ei wasgaru mor helaeth [...] Parhau i ddarllen

shitclic: Bobol bach!

Peidiwch â chyffroi na chredu’n ormodol mewn beirniaid teledu. ‘Ffernols celwyddog ydyn nhw. Achos pan ddatgelodd Derfel, adolygydd teledu Leri a Daf ar Radio Cymru yn ddiweddar, fod wyneb cyfarwydd o’r gorffennol yn dychwelyd i Gwmderi, mi aeth f… Parhau i ddarllen