Archif Dyddiol: 31 Mawrth 2010

Pethe » Blog: Eisteddfod Yr Hoelion Wyth

Dim ond googlo ‘Hoelen Wyth’ wnes i gan sylwi ar ein hoffter o ddefnyddio’r  (gor-ddefnyddio’r?) dywediad. Mewn erthyglau neu flogiau caiff yna bobol eu dyrchafu’n hoelion wyth yn eu cymunedau neu eu cylchoedd o hyd. Mae erthyglau coffa’n defnyddio’r disgrifiad yn amal, gan daro’r hoelen ar ei phen yn amal o wneud wrth …mwy Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Cyn-fyfyriwr: Alun Saunders

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2001 es i hyfforddi fel Actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers hynny dwi wedi bod yn gweithio fel Actor ac Awdur Sgriptiau broffesiynol i gwmnïau fel Clwyd Theatr Cymru, Theatr na n’Og, BBC Radio 4, Teledu Apollo, Fiction Factory a Wales Theatre Company. Cefais amser [...] Parhau i ddarllen

Blog Guto Dafydd: Ysgrifau dydd Mercher: Amaethyddiaeth

7. Amaethyddiaeth a ddylai fod yn brif ddiwydiant Cymru ac yn sylfaen ei gwareiddiad. Mae dwy ffordd o fynd o gylch y pwynt polisi hwn. Yn gyntaf, mae o’n alwad i ddefnyddio adnoddau Cymru mewn modd cyfrifol, ac yn ail mae o’n alwad i ni wneud rhywbeth. Yn ein dyddiau ni, mae’n anodd dychmygu ffarmio’n [...] Parhau i ddarllen

Metastwnsh: Llais synthetig Cymraeg newydd ar gael

Nôl yn 2006, datblygwyd y llais synthetig Cymraeg masnachol cyntaf yn Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor (lle dwi’n gweithio) yn dilyn project WISPR (Welsh and Irish Speech Processing Resources).  Mae’r lleisiau hyn yn cymryd testun ysgrifenedig fel mewnbwn ac yn ei lefaru fel bod modd gwrando arno yn hytrach na’i ddarllen. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus [...] Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Arestio Gwilym Euros

Fel Cai yr wyf wedi cael ambell i gais i drafod y stori bod Gwilym Euros wedi cael ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o ymosod. Fel mae’n digwydd rwy’n gwybod dim mwy am yr hanes na sydd wedi ei gynnwys ar wefan y BBC, sydd yn brin iawn o fanylion.

Yn wahanol i Cai nid ydwyf yn credu bod y stori yn un nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol a gwleidyddiaeth. O feddwl yn ôl am straeon am DI yn parcio ei Parhau i ddarllen