-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archif Misol: Mawrth 2010
Adenydd Celtaidd: Dawn French
Fy hoff comedïwraig erioed, credu, yw Dawn French. Ddim llai na ardderchog yw hi…
Parhau i ddarllen
Metastwnsh: Diwrnod Ada Lovelace: Holi Sioned Edwards
Fel rhan o ddiwrnod Ada Lovelace, fe wnes i benderfynnu gofyn wrth ein Sioned ni sut mae hi’n defnyddio technoleg a sut mae wedi newid ei bywyd. Dyma’r canlyniadau:
Beth yw dy hoff ddarn o dechnoleg, a sut mae wedi gwella dy fywyd?
Www, un anodd – ond ar hyn o bryd dwi wedi gwirioni ar fy [...] Parhau i ddarllen
Glo Man: Teledwraig brysur – Alex Jones
Yn rhifyn Ionawr o Glo Mân fe gyfeiriais at Alex Jones o Dycroes sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r rhaglen Tocyn gydag Aled Sam. Rhaglenni ar wyliau i deuluoedd yn y gwledydd Celtaidd ydynt.Erbyn hyn mae ganddi dair rhaglen wahanol ar y gweill gan gy… Parhau i ddarllen
shitclic: Y ddinas fawr ddwys
Croeso i Gaerdydd 2010. Prifddinas fodern, gyffrous, 24/7, sy’n hudo Cymry Cymraeg ifanc o’r bröydd traddodiadol i fwynhau’r bywyd bras ar lan afon Taf, ymuno â chlîque CFCanna a thafarn y Fuwch Ddu, llosgi’r cerdyn credyd yn John Lewsyn a slo… Parhau i ddarllen
shitclic: Doctor! Doctor!
Mi fydd Pasg eleni’n golygu lot, lot, mwy na chroesholi ac atgyfodi, wyau siocled a byns y Grog (hot cross buns yn ôl Cysill!!). Bydd tad! Achos nos Sadwrn, 3 Ebrill 2010, bydd Matt Smith (27 oed ac yn debyg i ryw ddarpar athro daearyddiaeth) yn camu… Parhau i ddarllen
shitclic: Bywyd a chyfresi newydd
Mae ’na si bod gwanwyn yn y tir o’r diwedd. Un cliw oedd rhaglen nosweithiol hyfryd Lambing Live ar BBC2, lle’r oedd y cyflwynydd brwd Kate Humble a llond sied o gamerâu yn dangos teulu’r Beavan yn ei chanol hi ar eu fferm yn Llandeilo Gresynn… Parhau i ddarllen
Blog Guto Dafydd: Mae angen tŷ ar ein Prif Weinidog
Fy hun, mi fyddai’n well gen i gael adeilad y Senedd ym Mharc Cathays nag yn y Bae – ac yn adeilad (ffug)hanesyddol ei bensaerniaeth. Yn fy marn i, mi fyddai hynny’n gwneud llawer i seici’r lle, ac yn gwella statws y sefydliad ei hun. Er ei fod yn edrych yn dda mewn lluniau, digon [...]
Parhau i ddarllen
fel y moroedd: hwyaid ar orymdaith
Buodd y gŵr yn Memphis, Tennessee i draddodi darlith mewn prifysgol yn ddiweddar. Roedd o’n aros yng Ngwesty Peabody sy gan atyniad rhyfeddol i’w westeion. (Doedd o ddim yn gwybod amdano nes ei weld o.) Dyma fo’n gyrru llun o’r olygfa neithiwr. Mae’n… Parhau i ddarllen
Copa'r Mynydd: Calon FM – yr ail tro
Es i ddoe, ar ôl i mi gael fy ngwahodd, i siarad â Michelle ar ei rhaglen radio ‘The Bilingual Hour’. Roedd y profiad yn llawer gwell na’r tro cyntaf, pan gytunais i siarad â’r radio. Y tro ‘ma, cafodd y rhaglen ei recordio!! Felly doedd ‘na ddim … Parhau i ddarllen
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Enwau planhigion yn yr ieithoedd Celtaidd
Anfonwyd ataf fanylion gwefan newydd i naturiaethwyr.Bas data enwau cyffredin planhigion yw PlantKeltCeir 47,000 o gyfeiriadau yn yr ieithoedd Celtaidd: Llydaweg, Cymraeg, Cernyweg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg, ac ieithoedd Celtaidd hanesyddol,… Parhau i ddarllen
Be ti Whilia Bachan! : Dechre ‘sgrifennu blog

Iawn wel ble i ddechre bois? Dyma’r tro cyntaf i mi ymgeisio ysgrifennu blog. Dwi ‘di bod yn meddwl amdano fe ers peth tro nawr ond heb eistedd i lawr a chymryd y camau i javascript:void()gychwyn un, Wel dyma fi a wi’n siwr byddwch chi gyd yn dadlau gyda fi ar ôl darllen ambell i gofnod bydd yn dilyn, Ymddiheuraf o flaen llaw os dwi’n eich sarhau chi gyda’m barn cryf a phendant ar nifer o bynciau. Prin yw’r blogiau Cymraeg i gymharu â ieithoedd eraill ond nid yw hynny’n fy mhoenni i, dwi ddim yn deall sut all Gymry-mamiaith ysgrifennu yn uniaith Saesneg ar y sail bod y gynulleidfa’n fwy siwr o fod, ond i fi nid nifer y darllenwyr sy’n bwysig ond yr egwyddor eich bod chi’n cofnodi yn eich mamiaith a sicrhau dyfal parhad iddi. Iawn dyna ddigon ar y cenedlaetholdeb am nawr, ond bydd hynny’n siwr o ddilyn cyn hir, dwi’n genedlaetholwr i’r carn a dwi’n gweud pethe fel dwi’n gweld nhw yn hytrach na cheisio bod yn sebonllyd ac eistedd ar gyrrion farn. Mae braidd yn hwyr felly well i mi gwpla ysgrifennu hwn nawr, ond parhewch i ddarllen byddaf yn ceisio cynnwys oleia’ 3/4 cofnod yr wythnos ar faterion wythnosol sy’n codi a phethau sydd yn fy nghorffi neu’n dod â boddhâd i mi. Gyda llaw dwi’n dueddol o droi’n dafodieithol iawn ar brydie, ond pacha ido os nagych chi’n deall gwedwch yn syth a wnai gynnig cyfieithiad i Gymraeg William Morgan i chi
.
Iawn i’r Cae Sgwâr amdani, Nos da bois.
pyst-cymraeg « WordPress.com Tag Feed: Dyma sut mae eironi yn edrych
Dim yn aml dwi’n blogio am bethau tramor, ond weithiau mae pethau sy’n amhosib i’w Parhau i ddarllen
pyst-cymraeg « WordPress.com Tag Feed: Dyma sut mae eironi yn edrych
Dim yn aml dwi’n blogio am bethau tramor, ond weithiau mae pethau sy’n amhosib i’w Parhau i ddarllen
Blog Guto Dafydd: Defnydd gwleidyddol o groth Samantha Cameron
Mae ychwanegiad newydd at y teulu yn achlysur hapus iawn bob amser, fel y dywedodd Wali Tomos un tro.
Dwi – er fy ngwaethaf – yn reit hoff o bersonoliaethu mewn gwleidyddiaeth. Yn y bôn, cymeriad rhywun ydi’r hyn sydd bwysicaf, a does dim byd yn bod ar adlewyrchu hynny. Os oes gan Gordon Brown broblemau [...]
Parhau i ddarllen
Adenydd Celtaidd: O wel ffŵy!
Yn anfoddus, nid allaf ddefnyddio ‘ffŵy’ bellach. Yn ôl Gareth, yng Nghymru, mae ffŵy ystyr ‘bollocks’! O na! Yn America, mae ffŵy ystyr ‘well I guess that didn’t work – damn now I’ll have to do something else’. Wrth gwrs, cododd hyn y cwestiwn o iaith gwahaniaethau – gwahanwyd dwy wlad gan iaith gyffredin, fel [...]
Parhau i ddarllen
O Bell: Y Tasmaniaid Olaf … a diweddaraf
Blynyddoedd maith yn ol, pan roeddwn yn ifainc, ffol a chwbl lletchwith, roedd’na raglen ddogfen ar BBC Cymru yn olrhain hanes y Tasmaniaid Olaf. Ac roedd hi yn y Gymraeg AC yn y “slot” wedi’r brif newyddion am 9pm. Rhys Jones oedd yn gwneud y rhaglen a wnaeth ddisgrifio’r triniaeth gwarthus o’r Aboriginiaid ar ynys Tasmania [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Y pwll
Ydach chi’n cofio Russell a’i frawd yn fy helpu i wneud pwll i ddenu bywyd gwyllt llynedd? Union flwyddyn yn ôl fel mae’n digwydd … wel, roedd o’n edrych yn eitha i ddechre. Braidd yn fach, a do’n i’m yn siwr am y ffaith bod yr holl rwber yn y golwg, ond duwcs, roedd o’n [...]
Parhau i ddarllen
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Komz brezhoneg er Chapter e Kerdiz, Kembre / Siarad Llydaweg yn Chapter, Treganna (ii)
Komz brezhoneg er Chapter e Kerdiz, Kembre / Siarad Llydaweg yn Chapter, Treganna (ii)Originally uploaded by bara-koukougGwion a Lisa, Cedric, Lena, Richard, Dafydd a Jamie Parhau i ddarllen
Y FFASIWN BETH!: Sgidie
Roedd y post diwethaf yna am Asda’n bach o araith. Ond dyna be sy’n digwydd os dwi’m yn postio am dipyn, na phoenwch, mae gen i luniau o esgidiau arbennig ar eich cyfer. Mae’r esgidiau yma o gaslgiad Balenciaga F/W 2010gan Pierre Hardy. Mae nhw’n… Parhau i ddarllen
Y FFASIWN BETH!: Sgidie
Roedd y post diwethaf yna am Asda’n bach o araith. Ond dyna be sy’n digwydd os dwi’m yn postio am dipyn, na phoenwch, mae gen i luniau o esgidiau arbennig ar eich cyfer. Mae’r esgidiau yma o gaslgiad Balenciaga F/W 2010gan Pierre Hardy. Mae nhw’n… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Croesi’r bysedd …
Dim ond oriau i fynd cyn i hyn basio…dwi’n gobeithio. Parhau i ddarllen
Wierdo: Iwerddon
Mi oedd o’n syniad dddigon syml. Rygbi-Iwerddon-Pyb.Ond wrth sgwrs, doedd pethau ddim mor hawdd a hynny!Yn gyntaf, dwi’n athrawes. Mae hyn yn golygu tra roedd fy ffrindiau yn cyrraedd Dylun ddydd Iau, doeddwn i methu mynd tan ar ôl ysgol ddydd Gwener*… Parhau i ddarllen
Wierdo: Iwerddon
Mi oedd o’n syniad dddigon syml. Rygbi-Iwerddon-Pyb.Ond wrth sgwrs, doedd pethau ddim mor hawdd a hynny!Yn gyntaf, dwi’n athrawes. Mae hyn yn golygu tra roedd fy ffrindiau yn cyrraedd Dylun ddydd Iau, doeddwn i methu mynd tan ar ôl ysgol ddydd Gwener*… Parhau i ddarllen
fel y moroedd: cenhinen pedr yn zushi
Un o’r pethau roeddwn i’n edrych ymlaen ato yn Japan oedd cyfarfod Catharine, Cymraes Gymraeg o Sir Fôn. Mae hi’n byw yn Japan ers 45 mlynedd wedi priodi dyn o Japan. Es i i Zushi, tref fach dwt ar lan y môr i’w chyfarfod a Nagako, ei ffrind Japaneai… Parhau i ddarllen
Glo Man: NEUADD BRYNAMAN – Yma o Hyd
Brian Harries – rheolwr sydd newydd ymddeolTua chan mlynedd yn ôl mynnai’r Pwyllgor a oedd yn Neuadd Gyhoeddus Brynaman bryd hynny mai dyma’r neuadd orau yn yr ardal, un yn siwtio pawb, heb yr un neuadd arall a allai gystadlu a hi. A dyna yw’r farn am… Parhau i ddarllen
fel y moroedd: japan!
Dw i’n ôl wedi treulio wythnos ddymunol yn Japan. Dyma’r tro cyntaf i mi fod yno ers tair blynedd. Treuliais i’r rhan fwyaf o’r amser gyda fy mam a oedd wrthi’n coginio prydau o fwyd blasus drosta i. Roedd yn braf cerdded y ffyrdd cul distaw ger ei ff… Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Rhwygo CD ar Ubuntu
Y meddalwedd diofyn i rwygo cerddoriaeth ar benbwrdd Gnome yw Sound Juicer. Mae’n defnyddio technoleg rhwygo cds CD Paranoia, ac fel rheol bydd wedi ei sefydlu’n barod ar dy system Ubuntu. Mae modd ei lansio drwy fynd i Rhaglenni -> Sain a Fideo -> Audio CD Extractor. Os nag wyt ti’n gallu cael hyd iddo, [...] Parhau i ddarllen
Clecs Cilgwri: Colled….
Teimlais ryw siomedigaeth heddiw wrth ddarganfod bod un o’r blogiau Cymraeg hynaf gan ddysgwr wedi cael ei dileu oddi wrth y rhyngrwyd. Mae ‘na sawl blog sydd heb eu cyffwrdd am fisoedd lawer mae’n siwr (mae gen i un neu ddau heb ei ychwanegu atynt am… Parhau i ddarllen
O Bell: Llafur wrthi
Am 2000 AEDST (sef 2000 Tasmania, 1930 De Awstralia) mae’n ymddangos y bydd patrwm y senedd yn Tasmania fel y ganlyn: Llafur 10, Rhyddfrydwyr 10, Gwyrddion 5 Ac yn Ne Awstralia y darogan yw y bydd Laafur yn ennill. Ewch i wefan yr ABC am y diweddara…daddansoddi gennyf fi ddydd Llun. Ac am ganfed rhaglen y [...]
Parhau i ddarllen
Glo Man: CADAIR EISTEDDFOD YSGOL DYFFRYN AMAN 2010
Uchafbwynt Eisteddfod Ysgol Dyffryn Aman eleni oedd Seremoni Cadeirio’r Llenor a’r dasg eleni oedd creu araith ar unrhyw bwnc cyfoes.A’r enillydd? “Gorymdaith” sef Adam Jones o Lys Watcyn am ei araith ar “Annibyniaeth I Gymru”. Mae Adam y… Parhau i ddarllen
Glo Man: EISTEDDFOD DYFFRYN AMAN 2010
Er yr oerfel, tywynnodd yr haul a chynhesodd y dorf i’r amrywiaeth o gystadlaethau llwyfan. Cafwyd gwledd i’r llygad a’r glust. Y panel beirniaid eleni oedd Mrs Eirwen Thomas, Mr Glynog Davies, Mrs Eira Davies, Mrs Lynne Llewelyn, Mrs Bethan Morg… Parhau i ddarllen
Clecs Cilgwri: Digon i Ddarllen
Wnes i dderbyn pecyn o lyfrau hanner prîs o ‘Gwales’ heddiw, gan cynnwys cwpl o gyfrolau o farddoniaeth a chwpl o nofelau, un gan Toni Bianchi a’r llall gan Meleri Wyn James. Mae gen i ddigon i gadw mi fynd am gwpl o fisoedd mae’n siwr ar ran darlle… Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Billy Wolfe 1924-2010
Un o’r llyfrau gwleidyddol cenedlaethol cyntaf imi ei ddarllen pan yn laslanc oedd Scotland Lives: the Quest for Independence gan Billy Wolfe. Roedd Billy yn ŵr hawddgar ac annwyl a dyn a roddodd oes i ymgyrchu dros yr SNP a CND gyda wen barhaus ar ei wyneb. Ef oedd Cynullydd yr SNP o 1969 i 1979 y cyfnod a welodd y blaid yn troi o fod yn grŵp pwyso dinod i fod yn rym o bwys yn yr Alban.
Trist Parhau i ddarllen
Gwenu dan Fysiau: Let’s all say ‘bore da’ to shy Dave
Yr uchod yw teitl llythyr a ymddangosodd yn y Denbighshire Free Press rhai wythnosau’n ôlAn interesting sequel to your letter sequel to your letter from the Welsh language learner (Free Press, December 17) who complained about Morrisons’ “contempt of … Parhau i ddarllen
Gwenu dan Fysiau: Let’s all say ‘bore da’ to shy Dave
Yr uchod yw teitl llythyr a ymddangosodd yn y Denbighshire Free Press rhai wythnosau’n ôlAn interesting sequel to your letter sequel to your letter from the Welsh language learner (Free Press, December 17) who complained about Morrisons’ “contempt of … Parhau i ddarllen
Maes Rhos Rhyfel: Totley’n wynebu llid Duw
PAN benderfynodd Y Parch David Rhodes, ficer Eglwys yr Holl Saint, Totley, ger Sheffield, wahardd pensiynwyr rhag ymarefer Tai Chi yn neuadd ei eglwys, doedd o ‘mond yn dilyn y Beibl. Mae’r Hollalluog yn reit glir ar gownt ddilynwyr “crefyddau” eraill: “LLADDWCH NHW!” (Exodus 22:20). Yn wir, mae’r Duw’n blwmp ac yn blaen ar y [...]
Parhau i ddarllen
Gwenu dan Fysiau: Torri’r gyfraith wrth dorri syched ieuenctid Sir Ddinbych
Ar ymweliad diweddar i’r gogledd gwelais erthygl yn y Daily Post o dan y pennawd Pubs caught selling alcohol to underage drinkers forced to shut over Easter.Cafodd 11 o dafarndai eu gorfodi i gau am ddeuddydd, chwech ohonynt yn Ninbych. A major operati… Parhau i ddarllen
Gwenu dan Fysiau: Torri’r gyfraith wrth dorri syched ieuenctid Sir Ddinbych
Ar ymweliad diweddar i’r gogledd gwelais erthygl yn y Daily Post o dan y pennawd Pubs caught selling alcohol to underage drinkers forced to shut over Easter.Cafodd 11 o dafarndai eu gorfodi i gau am ddeuddydd, chwech ohonynt yn Ninbych. A major operati… Parhau i ddarllen
Seciwlar: “Nid yw Iesu yn ymladd â chleddyf yn y Beibl”
Ychydig o hiwmor. Dwi’n hoff iawn o’r erthgyglau sy’n ymddangos ar 27b/6, felly o’n i’n meddwl fysa’n werth rhannu yr gyfres ebost fer yma rhwng 27b/6 a “Gwirfoddolwr Cristnogol” yr ysgol leol.
“Nid… Parhau i ddarllen
Adenydd Celtaidd: Too Many Goodbyes
Bydd fy nghyn-gŵr yn cael ei gladdu yng Nghaliffornia heddiw. Dw i’n dal ffeindio i fod anodd credu bod e wedi mynd. Sa i’n gallu i fod yna i reswmau tu hwnt fy rheoli. And that breaks what little of my heart is left. There has been too many deaths in my life of late. [...]
Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Mae amser yn hedfan …
…ac mae Rhys bach wedi tyfu’n dipyn ac yn grwtyn bach llawen sydd wastad gyda gwên ar ei wyneb. Mae Rhiannon hefyd yn mwynhau bywyd gyda babi newydd, ac yn ceisio helpu yn ei modd unigryw. Mae hithau’n dangos iddo sut i chwarae gyda’r teganau neu’n … Parhau i ddarllen
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Sgwrsio yn Llydaweg – yn Aberystwyth
Byddwn ni’n cwrdd ar ddydd Mercher, 24 Mawrth, yn nhafarn y Llong a’r Castell… Dewch os gallwch… tua 4 o’r gloc’h!En em gavout a raimp d’ar merc’her, 24 a viz Meurzh, en ostaleri Ar Vag hag ar C’hastell… Deuit mar gallit… e-tro 4 eur! Parhau i ddarllen
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Diarhebion Llydaweg (vi)
63. Dibaot ar c’halvezA labour hep danvez.Prin yw’r saerA weithia heb ddeunydd.64. Ret eo gortoz ar c’haol da boazhañPa vez c’hoant d’ober soubenn vat.Rhaid aros i’r bresych goginioOs dymunir gwneud cawl da.65. C’hoant dimeziñ ha bevañ… Parhau i ddarllen
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Croesawu llythyr cyfreithwyr am fesur iaith cryfach
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr oddi wrth dros ddwsin o gyfreithwyr yn galw am fesur iaith cryfach heddiw (Dydd Iau, 18 Mawrth). Dyweda’r cyfreithwyr yn eu llythyr agored: “Credwn fod angen datganiad clir a diamwys mewn deddf… Parhau i ddarllen
Blog Guto Dafydd: Bleiddiaid wedi gwisgo fel defaid
Mae dwy farn wedi ymddangos yr wythnos yma – dwy sy’n honni bod o blaid Cymru a’r Gymraeg, ond sydd mewn gwirionedd yn wenwyn Prydeinllyd.
Yn gyntaf, syniad gwirion yr Athro Christie Davies – creu ardal yng Ngwynedd lle na châi ond Cymru Cymraeg fyw. Yn gyntaf, dwi’n weddol siŵr y byddai’r math o bobl fyddai’n [...]
Parhau i ddarllen
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Croesawu llythyr cyfreithwyr am fesur iaith cryfach
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llythyr oddi wrth dros ddwsin o gyfreithwyr yn galw am fesur iaith cryfach heddiw (Dydd Iau, 18 Mawrth). Dyweda’r cyfreithwyr yn eu llythyr agored: “Credwn fod angen datganiad clir a diamwys mewn deddf… Parhau i ddarllen
Clecs Cilgwri: Week in Wythnos allan….
Clywais adroddiadau’r wythnos yma am raglen ‘Week in Week out’, oedd yn trafod sylwadau Christie Davies ynglŷn â dyfodol y Gymraeg. Yn ôl Mr Davies, creu ‘Gaeltacht’ Cymraeg – rhwle yn un o’r broydd Cymraeg sydd ar ôl – yw’r ffordd ymlaen, yn hytr… Parhau i ddarllen







