-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
Dewis Mis
Chwilio
Archif Dyddiol: 11 Ionawr 2012
blithdraphlith: Scotland v England : Cameron’s nemesis
Mae Alex Salmond yn athrylith o wleidydd. Mae wedi llwyddo i rwbio trwynau’r tories yn y baw unwaith yn rhagor. Mae o wedi outflankio grym y wladwriaeth Brydeinig sy’n anhygoel o gamp. Mae ei neges wedi bod yn glir fel grisial o’r dechre, ag ma hyn i gyd yn dangos pa mor ysgafn droed a […] Parhau i ddarllen
Paned a Chacen: Blwyddyn Newydd Dda!
Helo a blwyddyn newydd dda i chi gyd. Wel pwy feddylia ei bod hi bron yn flwyddyn ers i mi ddechrau’r blog yma. Pan grëais i’r blog, doeddwn i ddim yn disgwyl y busawn i’n blogio rhyw lawer. Ond dwi wedi cael cymaint o fwynhad, yr unig beth sy’n fy stopio rhag blogio mwy yw’r […] Parhau i ddarllen
Be wyddwn i am y llanw mawr hallt?: "Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod"
Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod,A’u bygwth â’r Injan GochSydd ym Mhwllheli,Ni feddyliais hynny’n od,Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod. Parhau i ddarllen
Be wyddwn i am y llanw mawr hallt?: "Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod"
Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod,A’u bygwth â’r Injan GochSydd ym Mhwllheli,Ni feddyliais hynny’n od,Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod. Parhau i ddarllen
Be wyddwn i am y llanw mawr hallt?: "Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod"
Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod,A’u bygwth â’r Injan GochSydd ym Mhwllheli,Ni feddyliais hynny’n od,Pan oeddwn yn ifanc ac yn dal malwod. Parhau i ddarllen
Pop Cymru: Cowbois Rhos Botwnnog, Y Gweddillion 13:01:12 #gigspc
Y LlangollenBethesda13:01:122100http://www.facebook.com/events/333825546635711/ Parhau i ddarllen
fel y moroedd: o hawaii
Mae’r gŵr yn ymweld â’i rieni yn Hawaii ers dyddiau. Amcan y daith ydy eu helpu cymaint ag y sy’n bosibl. Mae tad y gŵr newydd droi’n 91 oed. Er ei fod o’n gymharol iach a byw’n annibynnol (mae o’n dal i yrru!) mae o angen cymorth wrth reswm. Dydy m… Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!
11eg Ionawr 2012 – Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Braf oedd cael croesawu pawb yn ol yn dilyn Nadolig dedwydd iawn. Y Cartref yw thema mis Ionawr a dyma lun o gartrefi plant Dechrau Da anifer o greaduriaid eraill sydd yn byw yn Nhrefor! Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: GRWP ARWAIN ADDOLIAD
9fed Ionawr 2012 – mae’r Grwp Arwain Addoliad yn barod i gyflwyno oedfa newydd ar y thema ‘Llawenydd’ nos Sul 15fed Ionawr am 5.30 o’r gloch. Diolch i bawb am gefnogi. Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Mac Llew
Wel ych chi’n lwcus o gael cofnod o gwbl heddiw, ac un digon byr bydd e, mae arna’i ofn. Bore ‘ma fe dorrodd yr hen gyfrifiadur i lawr – ei galon neu ei ymennydd wedi rhoi’r gorau iddi a rhyw sŵn rhyfedd fel haid o wenyn (neu un wenynen ddig iawn) yn dod o’r berfeddion. […] Parhau i ddarllen
Ein Caerdydd: Rhaglen deledu ‘Cofio Dinas’ (S4C 12.1.12)
Fel hogyn bach yn byw ar fferm ar lethrau Dyffryn Clwyd, cefais fy mesmeru am y tro cyntaf gan oleuadau llachar ein prifddinas wrth wylio’r gyfres deledu Dinas, y Dallas … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
dotCYM: Meini prawf y Llywodraeth yn ffafrio Nominet
Ar y 9fed o Ragfyr 2011, gwahoddodd Llywodraeth Cymru ddarpar ymgeiswyr am barth-lefel uchaf i Gymru i gyflwyno eu cynigion
Mae’r hysbysiad a’r meini prawf yn wahanol iawn i’r hyn a ddisgwylir:
Crëwyd dotCYM er mwyn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar barth lefel-uchaf i Gymru a’r gymuned Gymreig ledled y byd ac mae wedi bod […] Parhau i ddarllen
blithdraphlith: Iran
Drychwch be sy’n digwydd yn Iran? Mae’r rhyfel covert wedi hen ddechre. Mae’r Unol Daleithau wedi hen arfer ymyrryd dan y radar mewn gwledydd eraill, state sponsored terrorism ma nhw’n galw fo pan ma’i gelynion yn neud o,ond ‘covert operations’ ydio os na’r iancs yn potas. Darllenwch hwn: http://www.guardian.co.uk/world/2012/jan/11/bomb-kills-iranian-nuclear-scientist Parhau i ddarllen
Blog C2 - BBC Cymru: Noson gerddoriaeth ydy nos Fercher….
Helo! Heno am 8 – Haydon Hughes o Land of Bingo ac Y Pencadlys fydd yn dewis ‘Caneuon i…’ heno ac Owain Gruffudd fydd yn trafod Newyddion y Sin.
Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Profi’r ategyn Storify ar WordPress
Dw i’n profi’r ategyn Storify newydd ar gyfer WordPress. View the story “Stori prawf: gelynau cyhoeddus” on Storify Storified by Carl Morris Wed, Jan 11 2012 05:00:14 · 603 views 1 9 Stori prawf: gelynau cyhoeddus like 0 Share Email Embed trafodaeth am Public Enemies Share BBC Public Enemies Trailer sharpcoldlipsx Thu, Dec 29 2011 […] Parhau i ddarllen
Hen Rech Flin: Blogiadur
Mae’r Blogiadur yn ceisio bod yn ffynhonnell ar gyfer pob blog Cymraeg (mae adran Gymreig ar ei chyfer hefyd) sy’n cael ei gyhoeddi. Bu nifer o sylwadau i fy mhost blaenorol gan bobl sydd a phroffil yn y blogosffer, ac yn ol Golwg bu ymatebion eraill n… Parhau i ddarllen
Daily Post Cymraeg - Blogiau - Angharad Tomos: Angharad Tomos: Ionawr 11
MAE’R Calan yn gyfnod i roi cynnig ar bethau newydd, felly dyna rydw i wedi bod yn ei wneud yn ystod saith diwrnod cyntaf 2012. Ar ddydd Calan ei hun, euthum i Blygain Llanerfyl. Rhwystrodd yr eira fi rhag cyrraedd unrhyw Blygain am ddwy flynedd,… Parhau i ddarllen