-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archif Misol: Chwefror 2012
S4C Caban: “Silver Surfers” yn bwrw eu pleidlais
Mae’r bleidlais i ddarganfod Emyn i Gymru 2012 wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
Lowri Haf Cooke: Mynd am ddip yn y ddinas
Wel, pwy sy ganddon ni fan hyn? Y dair chwaer Cooke ar un o’u teithiau cyntaf i wlad estron; traeth Cefalu, Sicilia 1982. Lleucu druan yn ei dagrau a Catrin ei hefaill yn ddigon bodlon ei byd. A pwy sy’n lolian yn … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
rhysllwyd.com: Dweud eich Dweud – 27 Chwefror 2012
Dyma oedd fy Nweud fy Nweud olaf mis yma: Roedd hi’n hyfryd clywed ar y newyddion dros y penwythnos fod y bytholwyrdd Nelson Mandela yn cryfhau ar ôl triniaeth fechan. Er fod Mandela wedi ymddeol o fywyd cyhoeddus ers tro … Continue reading → Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Y Llew Gwyn
Mae angen stori i gynhesu’ch calon chi weithiau ’does? Mae hon wedi bod gen i ers tipyn ar fenthyg ond dim ond yr wythnos yma wnes i gyrraedd i’w darllen, a wir, roedd hi jyst be ro’n i angen. Michael Morpugo ydy’r awdur – enw sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar oherwydd llwyddiant [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Y Llew Gwyn
Mae angen stori i gynhesu’ch calon chi weithiau ’does? Mae hon wedi bod gen i ers tipyn ar fenthyg ond dim ond yr wythnos yma wnes i gyrraedd i’w darllen, a wir, roedd hi jyst be ro’n i angen. Michael Morpugo ydy’r awdur – enw sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar oherwydd llwyddiant [...]
Parhau i ddarllen
O Bell: Buddugoliaeth go iawn
Ennillodd Julia Gillard arweinyddiaeth y Blaid Lafur Awstraliaidd (swydd Prif Weinidog y wlad) ym mis Mehefin 2010 heb ennill bleidlais. Ffurfiodd hi lywodraeth lleiafrifol wythnosau yn ddiweddarach wedi iddi hi a’i phlaid methu a pherswadio digon o etholwyr eu bod … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
Dyddlyfr y Bachan Main: Pentref Wales, Iowa
Yn haf 2007 bûm ddwywaith ym mhentref Wales ar bwys Red Oak – dwy wibdaith mewn gwirionedd, ond yn ystod y deugain munud yr oeddwn yn y pentref cefais dynnu rhyw gant a hanner o luniau bob tro. Dyma’r lluniau o’r ddau ymweliad: http://www.youtube.com… Parhau i ddarllen
fel y moroedd: seren ffilm!
Mae yna ffilm newydd sbon, sef Act of Valor. Brian sy’n ffrind i fy mab hynaf yn actio ynddo, hynny ydy cafodd ran fach fach fel extra. Roedd o eisiau ymuno â SEAL a chael ei hyfforddi am gyfnod. Tra oedd o wrthi, daeth y criw ffilm at yr hyfford… Parhau i ddarllen
city lights...: tipyn bach o blentyndod
Maria Magdalena SzmatułaDwi newydd ddod yn ôl o’r arddangosfa lluniau i lyfrau plant. Mae 32 celfyddydwr ifanc yn dangos eu dehongliad nhw o storiau enwog, yn enwedig, Pwyleg. Maen nhw’n lliwgar a perth. Maen nhw gallu mynd â po… Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: ‘Nid y Fi Wnaeth’
Rwy’n mynd i aros gyda hanes dug Palma heddiw eto. Penwythnos gwael gafodd e mae’n siŵr, yn gorfod teithio nôl o’r UDA lle mae’n byw a treulio deuddydd cyfan yn ateb cwestiynau gan farnwr a chyfreithwyr eraill. Yr esgusodion arferol a gafwyd gan fab-yng-nghyfraith brenin Sbaen: nid fi oedd yn gyfrifol (am symudiadau arian oedd [...]
Parhau i ddarllen
Ailddysgu: Dechrau’r gwanwyn yn yr ardd?
Mae’r tywydd yn fendigedig y penwythnos ymaf – a dyma fi efo ryw byg a dim yn teimlo’d ddigon da i fynd allan i’r ardd………ond ddoe mi lwyddiais i blannu hadau ffa, ac i docio’r mafion (roeddwn wedi dechrau ond dim wedi gorffen). Sylwais wrth gwne… Parhau i ddarllen
fideobobdydd: Yr Ods – Siân (ar Bandit)
Yr Ods yn canu’r gan Siân (oddi ar yr albym ‘Troi a Throsi) ar y Bandit ola erioed.
Parhau i ddarllen
Dyl Mei.: Heather Jones – Tua’r gorllewin (To the west) Another…
Heather Jones – Tua’r gorllewin (To the west)
Another track from the forgotten compilation “Cofio”. The compilation was produced by Eurof Williams from whats credited as a original idea by Geraint Jarman, from what i gather it’s a gang of musicians covering each others songs, this is a cover of a Ac eraill song, the group who featured Tecwyn Ifan, Cleif Harpwood, Phil Bach, Iestyn Garlick and Alun Sbardur Hughes.
*Photo is the view from my local cafe in Caernarfon.
O Bell: Ar drothwy y drychineb nesaf
Cynhelir pleidlais ar arweinyddiaeth y Blaid Lafur Awstraliaidd bore fory (dydd Llun y 27ain Chwefror) ond nid diwedd y mater fydd canlyniad y bleidlais honno. Fel yr wyf wedi blogio o’r blaen, mae gwreiddiau’r frwydr rhwng Julia Gillard a Kevin … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
fel y moroedd: dysgu drwy wefan ikea
Mae’n ddiddorol a defnyddiol – des i ar draws wefan siop IKEA yn yr Eidal, yn Brescia i fod yn benodol. (Dw i’n dilyn cwrs Eidaleg ar y we a drefnwyd gan gyngor Brescia.) Mae’r gwersi’n seiliedig ar deulu yn Brescia, a heddiw aethon nhw i IKEA i brynu … Parhau i ddarllen
Dyddlyfr y Bachan Main: Yr Arloeswyr
Yn ddiweddar yr wyf wedi bod yn rhoi trefn ar rai o’r lluniau a wneuthum bron bum mlynedd yn ôl, yn haf 2007, yn Iowa.Dyma rai o feddau Mynwent Riverside, yn Spencer, Clay County, a llawer yn eu plith yn eiddo Cymry’r cylch. http://www.youtube.com… Parhau i ddarllen
Pop Cymru: Sengl newydd Breichiau Hir
Mi fydd y sengl “Peil o Esgyrn” yn cael ei ryddhau ar y 5ed o Fawrth. Mi fydd yn rhan o EP newydd y band.Mwy o newyddion yn fuan Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Dug mewn Trafferth
Dechreuad hir a manwl i ddug Palma o flaen barnwyr Ynysoedd y Baleares heddiw. O 10.00 tan 14.00, ac wedyn o 15.30 tan nawr, mae Iñaki Urdangarin wedi bod yn ystafell y llys yn ateb cwestiynau am ei fusnesau. Diddorol taw busnesau yw’r gair sy’n cael ei ddefnyddio nawr, achos o’r blaen sôn am sefydliadau [...]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Mae’n altro yma …
Dyna’r ardd pnawn ‘ma – chydig o haul yn gneud gwahaniaeth tydi? Mymryn o liw o’r diwedd. Mae’r grug yn edrych yn dda, ac mae’r daffs y pen arall a’r eirlysiau yn hyfryd. Dechre meddwl am ffilmio rwan. Bu Rhian, y cynhyrchydd acw ddydd Mawrth i weld sut siap oedd ar bethe ac i drafod [...]
Parhau i ddarllen
rhysllwyd.com: Hen ffilm am UMCA yn cynnwys Dicw a Rocet – gwych
Mae hwn yn hollol wych! Yn arbennig os ydych chi’n adnabod y bobl sydd ynddo fe fel Dicw a Rocet! Mae’r ail ffilm lawr yn arbennig o ddoniol… Diddorol hefyd mae’r un her ac ymgyrchoedd oedd UMCA yn ei wynebu … Continue reading → Parhau i ddarllen
fel y moroedd: staff dinas ar eich gwasanaeth yn yr eira
Dan ni’n cael gaeaf mwyn iawn yma yn Oklahoma tra mae’n bwrw eira o ddifrif yng ngogledd Japan. Wedi cael dros 1.5 medr o eira yn Aomori, aeth 190 o staff swyddfa’r ddinas i gael gwared â’r eira ar doeau tai henoed ac anabledd. Roedd dynes oedrannus y… Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Pigion i’r Penwythnos
Nid pawb sy’n cael aros mewn palas y noson cyn iddo fynd i flaen ei well, ond dyna lle bydd dug Palma, Iñaki Urdangarin, yn aros heno. Bydd ef a’i wraig, y dywysoges Cristina, merch brenin Sbaen yn hedfan o Madrid heno i Mallorca ac yn treulio’r nos mewn un o’r palasau llai sydd gan [...]
Parhau i ddarllen
Blog C2 - BBC Cymru: Blur neu Oasis? Pollard neu Chips?
Neithiwr fe gadeiriodd Daniel Glyn un o ddadleuon mawr ein hoes ni - pa fand oedd y gorau Oasis neu Blur? Yn dadlau’r achos dros y ddau fand roedd Ioan Pollard a Barry ‘Chips’ Thomas. Ding ding,… ffeit deg os gwelwch yn dda…
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you’re reading via RSS, you’ll need to visit the blog to access this content.
Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!
23ain Chwefror 2012 – Noson Het! gemau a gwybodaeth. Roedd gan pob gorsaf het daflen i’w llenwi – Cryfderau; Gwendidau; Creadigrwydd; Meddwl am feddwl; Teimladau; Gwybodaeth. Gyda’r taflenni hyn fe fydd modd creu rhaglen i’r clwb o’r Pasg hyd yr haf. … Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI
22ain Chwefror 2012 – parhau gyda’n stori Porthi’r 5000. Roedd ein dwylo toes wedi sychu felly roedd angen eu paentio! Bu Heledd ac Alaw yn dechrau ar y llun mawr ar gyfer y wal! Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!
9fed Chwefror 2012 – Noson Cenhedloedd! Y dasg heno oedd creu gwlad ddelfrydol i fyw. Creu siap, arfordir, tirwedd, traddodiadau, ffyrdd o fyw, dathliadau, pedair rheol ar gyfer y wlad a dwy reol ar gyfer mewnfudwyr. Roedd angen baner ar y wlad a hef… Parhau i ddarllen
shitclic: Angerdd y Gêm
O Rwmania, Castell-nedd ac Aber… Parhau i ddarllen
Ailddysgu: Yr iaith
Mae na dipyn o ddadl wedi bod yn ddiweddar ynglyn a’r iaith yn dilyn adroddiad ein bod ni’n colli 3,000 o siadawyr Cymraeg bob blwyddyn. Dwi’n cytuno’n llwyr efo Bethan Gwanas am yr angen i gynorthwyo’r rhai sydd yn dysgu Cymraeg wedi symud i Gymru…. Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 26 Chwefror 2012
Mae Dydd Gŵyl Dewi ar y gorwel a’r genedl yn dathlu ei gyfraniad a’n hetifeddiaeth Gristnogol unwaith eto. Diolchwn i Dduw – Tad yr holl genhedloedd (Effesiaid 3:15) am hanes ein cenedl ac am waith ei ras yn ein plith dros yr holl ganrifoedd. Sut mae pethau erbyn hyn dybed? Sut ’dach chi’n ei gweld . . . → Read More: Dydd Sul, 26 Chwefror 2012 Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: World Book Night – rhan 2
Wel, coeliwch neu beidio ond dwi’n cael rhannu llyfrau ar Ebrill 23ain – wedi gwirioni! Deud dim mwy ar y funud, jyst ’mod i wrth y modd, ac ydy, mae o’n un o’r tri ddewisais i.
Parhau i ddarllen
fel y moroedd: rhaglen orig
Gwyliais i raglen ar fywyd y diweddar Orig Williams, diolch i Linda am y DVD. Wedi darllen ei hunangofiant, sef Cario’r Ddraig, roeddwn i’n awyddus i’w gweld. Braf gweld iddo gario’r Ddraig Goch i’r gornestau’n llythrennol. Roedd lluniau o’r reslwyr cr… Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Claddu’r Pysgodyn
Dyma ni nawr yn ail ddiwrnod y Grawys – er nad oes llawer o bobl fan hyn yn ymprydio rhag bwyd da na gwinoedd y dyddiau hyn. Ganrifoedd yn ôl (ganrif hyd yn oed) pan oedd pobl yn cymryd rheolau’r eglwys o ddifri, roedd bwyta cig a bwydydd moethus yn waharddedig, a dyna sut ddechreuodd [...]
Parhau i ddarllen
Blog C2 - BBC Cymru: Sesiwn Unnos Gwyl Dewi
Dwi wastad wedi bod ychydig yn genfigenus o Huw Evans… Pam? Well, am ei fod yn gerddor gwych yn un peth, ond yn bennaf oherwydd mai fo sydd wedi cael cyflwyno cyfresi Sesiwn Unnos ar hyd y blynyddoedd!
Ond, mae Huw Evans yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd, yn teithio hefo Cate le Bon, sy’n golygu mod i’n cael y fraint a’r anrhydedd o gyflwyno Sesiwn Unnos Gwyl Dewi 2012!
Dwi’n edrych ymlaen yn arw, achos mae Sesiwn Unnos wastad wedi bod yn un o fy hoff raglenni i, ac mae’n brosiect hynod o uchelgeisiol a chreadigol. Dwi ‘mond yn gobeithio y bydda i’n gallu aros yn effro drwy’r nos!
Fe ges i’r pleser o gyhoeddi’r rhestr artistiaid ar y rhaglen neithiwr, a chael sgwrs hefo un o’r artistiaid, sef Georgia Ruth Williams. Yn ymuno a Georgia fydd Carwyn Ellis o Colorama, Eryl a Sion o Jen Jeniro, Euron Jôs o Cowbois Rhos Botwnnog, a bydd Ifan Dafydd hefo ni i wneud ail-gymysgiadau fydd yn adlewyrchu’r noson.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you’re reading via RSS, you’ll need to visit the blog to access this content.
Dewch draw i wefan C2 am 9pm nos Fercher – bydd y cyfan yn cael ei we-lifo’n fyw tan 6am! Dwi’n gobeithio blogio yn ystod y nos, a bydda i (@lisagwilym), y criw cynhyrchu @garethiwan @dylmei ac wrth gwrs @c2bbcradiocymru yn trydar drwy’r nos tan y bore bach. Dwi’n edrych ymlaen at noson llawn creadigrwydd, cerddoriaeth… ond dim cwsg.
Hwyl am y tro
Lis
x
Lowri Haf Cooke: Car(iad) cyntaf: Cyrmit, Caerdydd a fi
Wel yn wir. Dwi wedi cael cais! Nawr, cyn i mi fwrw mlaen, efallai y dyliwn i nodi disclaimer i ddweud nad ydw i am annog hyn yn ormodol, gan yn sylfaenol y llyfr sy’n dod gyntaf ac nid y blog. Ac mae … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
O Bell: Ras ryfedd
Mae’r chwarae’n troi chwerw. Gillard yn erbyn Rudd ac fe fydd y cyn Brif Weinidog (a’r cyn Weinidog Tramor a ymddiswyddodd ddoe) yn glanio bore fory. Yna fe fydd y frwydr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Awstraliaidd (a’r wlad hon) … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
city lights...: bob amser yn dda i yfed coffi
Taczaka 20 yw’r le newydd ym Mhoznań. Creuwyd o syniad y bobl ifanc i wneud lle i sgwrsio, ymlacio, gwrando i gerddoriaeth a yfed coffii, wrth gwrs! Dechra dydd ar Taczaka 20 dros brecwast blasus a chwpan. Darllena beth sy’n digwydd yn Taczaka 20… Parhau i ddarllen
mwydro ym mangor: Mwydro ym Mangor – Pennod 17
Nid jyst Neville Powell sydd yn rheoli tîm ym Mangor. Tro yma, mae Jonathan Ervine yn siarad efo rheolwr ail dim Dinas Bangor, Haydn Jones. Am fwy o wybodaeth am y podlediad, edrychwch ar mwydroymmangor.wordpress.com. Cofiwch eich bod chi’n medru … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
mwydro ym mangor: Mwydro ym Mangor – Pennod 16
Tro yma, mae Jonathan Ervine yn trafod stadium newydd Dinas Bangor yn Nantporth efo Richard Williams a Pete Jones. Hefyd, mae’r bennod hon yn cynnwys adroddiad am Dorothy a Florence, yr ieir sydd yn rhagweld canlyniadau’r gemau mawr. Cofiwch tanysgrifio … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
fel y moroedd: dal i gredu
Roeddwn i’n falch o ffeindio un o Lanberis yn westai ar raglen ddiweddaraf Dal i Gredu, Radio Cymru, sef Heather Lynn Jones. Aelod selog o Eglwys Llanbadarn ydy hi, ac mae’n amlwg bod hi’n byw ei ffydd bob dydd. Dyma ofyn i berchennog Maesteg yn L… Parhau i ddarllen
apLlywarch: Cookie Zoo by Colorama [2008]
<p>&amp;amp;amp;lt;p&amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;amp;lt;a href="http://colorama.bandcamp.com/album/cookie-zoo"&amp;amp;amp;amp;amp;gt;Cookie Zoo by Colorama&amp;amp;amp;amp;amp;lt;/a&amp;amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;lt;/p&amp;amp;amp;gt;</p>
……………………………… Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Derbyn Diwedd ETA
Roeddwn i wedi disgwyl cael mwy heddiw am gytundeb gwleidyddion Sbaen ar Wlad y Basg, ond does na ddim, felly af i dros yr hyn ddigwyddodd ddoe – yr unig beth ddaeth heddiw oedd y bleidlais ar lawr y Senedd. Mae’r cyfryngau Basgaidd yn ei alw’n gytundeb na welwyd mo’i fath o’r blaen. Holl bleidiau [...]
Parhau i ddarllen














