-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archif Misol: Chwefror 2013
Heddwch a Chyfiawnder: Dydd Gwyl Dewi
Mae Mis Mawrth yn dechrau gyda’n gŵyl genedlaethol Dydd Gŵyl Dewi. Byddwn yn canu ein hanthem mewn sawl cinio Gŵyl Dewi gydag arddeliad arbennig. Fel heddychwr caf drafferth gyda’r llinell “Ein gwrol rhyfelwyr..” Mae bod yn wladgarol yn cael ei gysylltu gydag amddiffyn ein cenedl mewn modd treisiol rhyfelgar. Dyna a wnaeth ein harwyr mwyaf […]
Parhau i ddarllen
All articles - y-selar.com: Cyhoeddi Carfannau Cwpan Jarman
Y Nyth Lliwgar
Alun Gaffey
Gwyn Pari
Osh Tal
Osh Retro
Gwyn Elwyn
Sŵnami
Ifan Ywain
Ifan Davies
Gerwyn Murray
Lewis Williams
Tom Ayres
Gruff Jones
Huw Ynyr Evans
C2
Gruff Pritchard
Gareth Iwan Jones
Dylan Meirion Roberts
Irfon Jones
Peredur (brawd Gareth Iwan)
Rich (brawd Rhys Aneurin)
Oranje Rhos Botwnnog
Aled Hughes
Iwan Hughes
Dafydd Hughes
Osian Williams
Euron Jones
Hefin Jones
Sion Owen
I Ka Ching
Gwion Schiavone
Gruff Ifan
George Amor
Dafydd Evans
Gethin… Parhau i ddarllen
All articles - y-selar.com: Rhestrau Byr llawn Gwobrau
Mae rhestrau byr holl gategoriau Gwobrau’r Selar bellach wedi’i cyhoeddi.
Fe gyhoeddwyd y ddwy restr olaf yn ecsgliwsif ar raglen Y Lle ar S4C heno.
Datgelwyd mai Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana a Candelas ydy’r grŵp sydd ar restr fer categori ‘Band Byw Gorau’ y gwobrau.
Cyhoeddwyd rhestr fer categori ‘Cân Orau’ hefyd, gyda ‘ Heno yn yr Anglesey ’ gan y Bandana yn ymuno â dwy o ganeuon Sŵnami, sef ‘Mynd a Dod’ ac ‘Eira’ ar y rhestr fer.
Mewn partneriaeth newydd gyda Cân i… Parhau i ddarllen
fel y moroedd: jack bara caws
Cafodd ei ethol yn gynghorydd yn Aberteifi fisoedd yn ôl. Fo ydy’r Japaneaidd cyntaf erioed i fod yn wleidydd yn y DU. Akira Shimazaki ydy ei enw a gelwir yn Jack Bara Caws gan y bobl leol. Mae o’n teimlo’n ddwfn caredigrwydd y bobl a roddwyd iddo dros flynyddoedd ac eisiau gweithio’n galed drostyn nhw. Parhau i ddarllen
Rhys Aneurin: Ffrindiau meddwDrunken friends
Ffrindiau meddwDrunken friends Parhau i ddarllen
CRISTNOGBLOG: Diwrnod #beiblibawb
Mae’n 25 mlynedd union ers cyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd, ac mae’r Beibl cyfan yn cael ei lansio ar Wefan www.beibl.net am y tro cyntaf. … Dathlwch! Rhannwch adnod neu wirionedd o’r Beibl sy’n bwysig i chi gyda’ch ffrindiau – defnyddiwch unrhyw gyfrwng: Dwedwch wrth bobl am gariad rhyfeddol Duw. ANFONWCH Y NEGES YMA YMLAEN I’CH FFRINDIAU!
Mae Dydd Gwener, Mawrth 1af yn ddiwrnod i ddathlu’r Beibl yn Gymraeg!
Ymunwch gyda ni!
Gweplyfr (Facebook)
Trydar (Twitter)/Skype
tecstio
e-bost
blog
YouTube
neu unrhyw ddull arall…a cofiwch gynnwys yr hashnod (hashtag) #beiblibawb
Fel mae Salm 78 yn ein hannog:
“Dweud fod yr ARGLWYDD yn haeddu ei foli!
Son am ei nerth a’r pethau rhyfeddol a wnaeth.”
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cymdeithas Cymru-Llydaw 2013-02-28 11:21:00
Dewch i siarad Llydaweg
Tafarn y Rummers, gyferbyn â Chastell Caerdydd, ddydd Sadwrn, 2 Mawrth, am 1pm.
Bydd tri Llydawr ifanc sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd yn treulio’r flwyddyn yn Aberystwyth yn falch o gael cwrdd â chi yno.
+++++++++++++++++++++++++++
Un emgav a vo evit brezhonegañ e Tavarn ar Rummers, e-tal Kastell Kerdiz, da 1eur, d’ar sadorn 2 a viz Meurzh.
Tomaz, Mona ha Bleuenn a vo eno eus Breizh, ha Madison ha Rhisiart eus Aberystwyth.
Deuit niverus
++++++++++++++++++++++++++++++++
Blog Glyn Adda: Yr Eisteddfod, y Llywodraeth a’r “Dwsin”
Dyma lythyr bach a anfonodd yr hen G.A. (dan enw arall) i GOLWG, gan fawr obeithio y byddai’n ymddangos heddiw, 28 Chwefror. Nid oedd GOLWG am ei gyhoeddi. Dyma hi’n Wythnos Cytuno â Gwilym Owen eto. Fe daw’r rheini yn eu tro. Cwbl briodol yw ei sylwadau (21 Chwefror) ar y ffordd y mae […]
Parhau i ddarllen
BBC - Blog Vaughan Roderick: A Oes Heddwch?
Mae rhai o sefydliadau Cymru wedi addasu i ddatganoli yn well na’i gilydd. Nid beirniadaeth yw dweud hynny. Doedd dygymod a bod yn genedl gyda llywodraeth ar ôl saith canrif o straffaglu ymlaen heb un byth yn mynd i fod yn hawdd! Wedi’r cyfan mae’r hyn sy’n ymddangos fel atebolrwydd i wleidydd yn gallu ymddangos fel ymyrraeth wleidyddol yr un sy’n atebol.
Gan edrych o’r tu fas ymddengys i mi fod ambell i sefydliad cenedlaethol wedi dygymod a’r newid yn ddigon hawdd. Rwy’n meddwl am gyrff megis Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Cyngor Chwaraeon. Gallwn fod yn gwbwl anghywir. Mae’n bosib bod ‘na rycsiyns y tu ôl i’r llenni. Os felly clywais i ddim byd amdanynt.
Mae ambell sefydliad wedi methu’r prawf yn llwyr. Prifysgol Cymru yw’r enghraifft amlwg ond dim ond nawr y mae ambell i Gyngor a Choleg yn sylweddoli bod ‘na feistr newydd ar y tŷ.
Mae hynny’n dod a ni at benderfyniad y Llywodraeth i gomisiynu adolygiad o’r Eisteddfod Genedlaethol.
O safbwynt y Llywodraeth does ‘na ddim elfen o fygythiad yn gysylltiedig â’r peth. Mae’r Eisteddfod yn annibynnol. Os ydy hi’n dewis anwybyddu argymhellion yr adolygiad mae perffaith hawl ganddi i wneud hynny heb unrhyw gosb ariannol. Os ydy’r wŷl ar y llaw arall yn derbyn y cyfan neu rhai o’r argymhellion yna fe fyddai’r Llywodraeth yn fodlon cynyddu ei chymhorthdal. Pa le sy ‘na i boeni? Wedi’r cyfan mae’r rheiny syn cynnal yr adolygiad yn garedigion y Gymraeg.
Nawr edrychwch ar y sefyllfa o safbwynt Eisteddfodwr pybyr – un sy’n ystyried y Brifwyl yn “gaer fechan olaf” i’r Gymraeg mewn môr o Saesneg. Gellir synhwyro ei ofnau.
“Pa mor ddidwyll yw’r llywodraeth mewn gwirionedd? Oes ‘na agenda gudd? Onid yw gwneud yr Eisteddfod yn fwy croesawgar i’r Di-Gymraeg yn gyfystyr a glastwreiddio ei Chymreictod?”
“Wedi’r cyfan,” medd ein eisteddfodwr dychmygol “mae’r Eisteddfod wedi profi ei bod yn fodlon newid gyda’r amseroedd. Bob blwyddyn cynhelir adolygiad o lwyddiannau a methiannau’r wŷl gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol. Mae’r broses yn dryloyw gyda’r cyfan yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod. Pam fod angen adolygiad allanol yn ogystal?”
Ond beth am benaethiaid yr Eisteddfod? Gellir darllen eu tystiolaeth i’r ymchwiliad yn fan hyn. Mae’n ddarn cytbwys iawn o waith sy’n awgrymu bod yr Eisteddfod wedi ymateb yn bositif i’r ymchwiliad – ar gychwyn y broses o leiaf.
Mae’n ymddangos bod pethau wedi suro rhywfaint ers hynny yn bennaf oherwydd pryder tîm rheoli’r Eisteddfod y gallai’r ymchwiliad argymell canoli’r Eisteddfod ar ddau safle parhaol. Yn ôl y Prif Weithredwr, Elfed Roberts fe fyddai hynny’n drychineb a galwodd ar garedigion yr Eisteddfod i ysgrifennu at yr ymchwiliad i ddatgan eu gwrthwynebiad i’r syniad.
Nawr dydi ddim yn bry ar wal yng nghyfarfodydd y grŵp gorchwyl a gorffen. Dydw i ddim yn gwybod felly faint o sail sy ‘na i ofnau Elfed a’i dim rheoli.
Gwn hyn. Mae sylwadau Elfed a rhai’r trefnydd Hywel Wyn Edwards ar Bawb a’i Farn rhai wythnosau yn ôl wedi peri siom a syndod i ambell un yn agos at yr adolygiad. Yr ofn yw bod Elfed a Hywel wedi mynd o flaen gofid a’u bod trwy hynny mewn peryg o droi Eisteddfodwyr yn erbyn proses oedd i fod er lles y Brifwyl.
Nid fy lle i yw barnu pwy sy’n iawn ond fe fyddai’n trueni i bawb pe rhywbeth oedd fod yn gyfle yn cael ei weld fel bygythiad.
Rhys Aneurin: Darnau yn seliedig ar y testyn ‘Arfordir’, a fydd yn…

Morglawdd Bae Caerdydd
Cardiff Bay Barrage

Southerdown

Goleudy Y Bari
Barry Lighthouse


Morglawdd Bae Caerdydd
Cardiff Bay Barrage

Pier Penarth Pier
Darnau yn seliedig ar y testyn ‘Arfordir’, a fydd yn cael eu arddangos a’u gwerthu yn Oriel Tonnau, Pwllheli, o’r 23ain o Fawrth ymlaen.
Pieces based upon the topic ‘Coastline’ which will be exhibitied and sold in Tonnau Gallery, Pwllheli, from the 23rd of March onwards.
All articles - y-selar.com: Amserlen twrnament Pêl-droed Y Selar
Siawns fod pawb bellach wedi clywed am un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol sy’n digwydd ddydd Sadwrn yma!
Ydy, mae Gwobrau’r Selar nos Sadwrn wrth gwrs, ond nid dyna sydd gen i mewn golwg fan hyn … ond yn hytrach twrnament pêl-droed Gwobrau’r Selar.
Rydan ni bellach wedi cadarnhau’r holl dimau, a threfnu’r amserlen – felly dyma grynhoi popeth sydd angen i chi wybod isod
Cwpan Jarman – Gwobrau’r Selar
02 Mawrth 2013 – Pwll Nofio Bangor (y cyrtiau ffwti!)
2:00 –… Parhau i ddarllen
fel y moroedd: ffa coffi
Does gen i ddim peiriant malu ffa coffi. (Ddim yn arbenigwr coffi dw i!) Prynais i fag o goffi ar sêl ddyddiau’n ôl a sylweddoli wedyn mai ffa cyfan oedden nhw. Roeddwn i’n bwriadu eu cyfnewid efo rhai wedi’u malu ond cofio bod yna peiriant yn y siop. Dyma fynd â’r bag pan es i siopa’r bore ‘ma a defnyddio’r peiriant am y tro cyntaf. Hwrê! Roedd y coffi’n arogleuo’n hyfryd. Dw i’n mynd i wneud hynny pob tro o hyn ymlaen. Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Cythruddedig Heno
Bu farw Stéphane Hessel yn 95 oed. Almaenwr wrth ei enedigaeth, fe drodd yn Ffrancwr ym 1937 a bu’n ymladd yn erbyn Hitler ar dir Ffrainc fel aelod o’r gwrthsafiad. Yn ddiplomat wrth ei alwedigaeth ac yn athronydd adain-chwith, 3 blynedd yn ôl fe gyhoeddodd ‘Byddwch yn Gythruddedig’ yn erbyn y sefyllfa a welodd yn [...]
Parhau i ddarllen
Y Llwyfan: Adolygiad (Rhaglen Dewi Llwyd) Cyngerdd Llyr Williams – GALERI
18.01.2013 – cyngerdd wedi’i ohirio. Cynhalwyd y cyngerdd 01.02.2013 Beethoven: Sonata i’r piano yn C llonnod leiaf (Op 27/2) – Moonlight Scriabin: Sonata i’r piano Rhif 2 Op. 19 Bartok: Sonata i’r piano (1926) Bridge: Sonata i’r piano Scriabin: Sonata … Continue reading →
Parhau i ddarllen
tu chwith: #anhysbys37
Tu Chwith Rhifyn 37: Anhysbys (Awst 2012) Mynnwch Gopi! Parhau i ddarllen
Rhys Aneurin: Clawr i EP cyntaf Aled Rheon, ‘Sêr yn Disgyn’, allan…

Clawr i EP cyntaf Aled Rheon, ‘Sêr yn Disgyn’, allan yn fuan iawn ar Recordiau Jig Cal.
Cover for ‘Sêr yn Disgyn’ (‘Falling Stars’), the first EP from Cardiff singer-songwriter Aled Rheon, out soon on Jig Cal Records.
Lowri Haf Cooke: Canllaw Bach Caerdydd: Mis Chwefror
I le aeth mis Chwefror dwedwch? O’m rhan i, bu’n fis prysur iawn, a dwi’n falch i ddweud fod Canllaw Bach Caerdydd yn dal i ddenu diddordeb. Dechreuodd y mis gyda chynnwrf mawr; tra’n troedio palmentydd Aberystwyth yn ystod cynhyrchiad Y Bont, beth … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Grwpiau Ffocws i Ymchwiliad Presenoldeb ac Ymddygiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Dros y mis diwethaf, mae’r tîm Allgymorth wedi cynnal 18 grwpiau ffocws gydag ysgolion a sefydliadau dros Gymru ar y mater o bresenoldeb ac ymddygiad. Rhoddwyd cyfle i blant a phobl ifanc o oedran 9 i 21 mlynedd i drafod eu profiadau a’r materion maent yn credu oedd yn fwyaf pwysig wrth ystyried presenoldeb ac […]
Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Llyffantod ac ati
mae &^%$£ WordPress newydd golli pob gair o’r llith hir sgwennais i ETO!!! $%£@£%^&*(££@! BLIN? BERWI! Anadlu’n ddwfn … trio eto: Llun da de? Ioan Llewelyn ( bosib mai ‘y’ ydi o, nid ‘e’) Morgan, mab fy ffrind i gymrodd hwn – a’r rhain: Roedd hi fel Sodom a Gomorra yn eu pwll nhw yn […]
Parhau i ddarllen
fel y moroedd: ci ffyddlon
Mae cŵn yn ffyddlon ym mhob gwlad. Darllenais am y ci hwn yn yr Eidal, diolch i Idris am yrru’r erthygl ata i. Mae’r ci’n fendith i’r trigolion; gobeithio ei fod o’n cael cysur ganddyn nhw hefyd wedi colli’i feistres. Parhau i ddarllen
rhysllwyd.com: Beibl i bawb
Dwi’n cofio gwylio’r ffilm isod am y tro cyntaf tua dwy flynedd yn ôl. Mae’n dogfennu’r diwrnod y cyrhaeddodd y Beibl bobl y Kimyal yn eu haith nhw eu hunain am y tro cyntaf. Mae’r holl beth yn tu hwnt o drawiadol a does dim rhaid i chi gael ffydd eich hun i werthfawrogi hyn. [...] Parhau i ddarllen
Llafar Bro: Ein gwadu a wnaethant..
Chwarae teg i Gyngor Iechyd Cymunedol ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda am gyfeirio’r cynlluniau heno at winidog iechyd Cymru, yn wahanol i’r yes-men llwfr yn y gogledd.Cerddodd dros fil o bobl eto ddydd Sadwrn -yn Llandudno y tro hwn- i wrthwynebu camweiny… Parhau i ddarllen
Glo Man: Lleisiau’r Cwm yn codi arian i Elusen ‘Fields’
Catrin Hughes(Arweinydd Lleisiau’r Cwm o Ddyffryn Aman) a Catherine a Kirsty Fields o Ysgol Gyfun y Strade. Dros y blynyddoedd mae Lleisiau’r Cwm wedi codi miloedd at achosion da, ac maent yn parhau i wneud. Yn ddiweddar fe godwyd £1,000 i elusen ‘Fields’ -elusen sy’n agos iawn at galon Catrin.
Mae Catherine a Kirsty, efeilliaid, o Ysgol y Strade yn dioddef o glefyd unigryw sy’n effeithio’r cyhyrau, ac erbyn hyn mae’r ddwy yn gaeth i gadeiriau olwyn, ac yn ddibynnol ar beiriannau cyfathrebu i sgwrsio. Nhw mae’n debyg yw’r unig rai yn y byd sy’n dioddef o’r clefyd, ac ychydig fisoedd yn ôl, dilynodd S4C y ddwy am gyfnod ar gyfer y rhaglen ‘O’r Galon’, ‘Fy chwaer a fi’ –rhaglen a oedd yn llawn emosiwn, hiwmor a thristwch. Maent yn ddeunaw oed erbyn hyn, ac er eu bod yn byw adref gyda’u rhieni, maent yn ymweld â Ty Hafan yn gyson.Mae’r clefyd erchyll yma’n effeithio ar gyhyrau yn y corff, sy’n golygu bod y ddwy wedi eu parlysu. Maent yn dioddef o hyd at 100 spasm poenus y dydd, ac o ganlyniad, mae eu cyhyrau yn symud yn afreolus.
Mae Catherine a Kirsty, efeilliaid, o Ysgol y Strade yn dioddef o glefyd unigryw sy’n effeithio’r cyhyrau, ac erbyn hyn mae’r ddwy yn gaeth i gadeiriau olwyn, ac yn ddibynnol ar beiriannau cyfathrebu i sgwrsio. Nhw mae’n debyg yw’r unig rai yn y byd sy’n dioddef o’r clefyd, ac ychydig fisoedd yn ôl, dilynodd S4C y ddwy am gyfnod ar gyfer y rhaglen ‘O’r Galon’, ‘Fy chwaer a fi’ –rhaglen a oedd yn llawn emosiwn, hiwmor a thristwch. Maent yn ddeunaw oed erbyn hyn, ac er eu bod yn byw adref gyda’u rhieni, maent yn ymweld â Ty Hafan yn gyson.Mae’r clefyd erchyll yma’n effeithio ar gyhyrau yn y corff, sy’n golygu bod y ddwy wedi eu parlysu. Maent yn dioddef o hyd at 100 spasm poenus y dydd, ac o ganlyniad, mae eu cyhyrau yn symud yn afreolus.
Does neb yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig, ond mae gan y ddwy neges bwysig i bawb-
“Peidiwch â theimlo trueni drosom ni. Does neb yn byw am byth. Byddwch yn hapus a gwenwch”.
Glo Man: Penblwydd Hapus
Cyflwynwn ein dymuniadau da i Dr.Frank Powell a fu’n dathlu ei benblwydd yn 90 mlwydd oed ar Chwefror 22ain. Bu Dr.Powell yn Feddyg Teulu gyda ni am flynyddoedd lawer a mawr yw’r parch iddo yn y Cwm. Penblwydd hapus iawn, Dr.Powell, a gobeithio y bydd sawl blwyddyn arall o’ch blaen i’w dathlu.
Hefyd, bydd ei wraig annwyl, Mrs.Muriel Powell yn dathlu ei phenblwydd yn 91 oed ar yr 13eg o Fawrth eleni. Pob dymuniad da iddynt i’r dyfodol a mwy na dim, iechyd da.
fel y moroedd: ffarwel i’r cardiau
Heddiw cawson ni wared ar y cardiau Nadolig a oedd yn hongian ar y wal. Eithaf hwyr ond mae hi’n anodd dweud ffarwel wrth y cardiau bob blwyddyn. Dw i’n cadw rhai, fodd bynnag, gan: Antwn, Linda, hen ddynes yn Japan a oedd yn byw’n agos aton ni, fy merch hynaf (cynlluniwyd ganddi hi ei hun.) Mae’n lawog trwy’r dydd yn ôl rhagolygon y tywydd. Parhau i ddarllen
BLOG GARDDIO BETHAN GWANAS: Poen y dechnoleg
Mae WordPress yn deud bod angen i mi adnewyddu fy server, wel, lawrlwytho’r fersiwn diweddara. Ond mae’r server yn deud na fedar o neud hynny am fod fy nghyfirifadur yn rhy hen. Does isio gras? Pam na fedran nhw adael pethau fel maen nhw, achos mae’r bocs yma’n gweithio’n iawn, diolch yn fawr! Grrr. Dwi […]
Parhau i ddarllen
Rhys Aneurin: Brasluniau o Stadiwm y Mileniwm, Glan yr Afon yng…
Brasluniau o Stadiwm y Mileniwm, Glan yr Afon yng NghaerdyddSketches of the Millenium Stadium, Riverside, Cardiff Parhau i ddarllen
Meddyliau: Cam o’r Tywyllwch
Helo bobl, jest cofnod byr iawn i roi gwybod i chi am raglen newydd ar Radio Caerdydd, sef Cam o’r Tywyllwch. Rhaglen gan Gwenno Saunders a chriw label Peski ydy hi, ac mae’r cyflynwyr yn trafod (yn y Gymraeg!) cerddoriaeth amgen, electronig ac arbrofo… Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!
24ain Chwefror 2013 – fel rhan o’r Digwyddiad mae’r Clwb Chware Teg! am ddangos eu Trefor nhw i ni a gan bod hi’n ddiwrnod go sych, fe aethom ati i dynnu lluniau o gwmpas y pentref ar gyfer sioe sleids. Fe gawn rannu’r lluniau gyda chi yn fuan! Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI
24ain Chwefror 2013 – ar ein taith drwy’r Beibl cawsom gyfarfod Abraham heddiw. Dyma ni yn y babell yn cael stori gan Angharad Roberts. Bu Abraham yn teithio am hir iawn gan wersylla bob nos. Bu i Abraham a Sara gael babi wedi iddyn &… Parhau i ddarllen
Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!
21ain Chwefror 2013 – Beth yw Eglwys? dyna thema heno ac mae’r criw yn y llun yn ceisio cael pawb, gyda’u gilydd, o un ochr yr ystafell i’r ochr arall! Pobl yw eglwys sydd yn dod at eu gilydd i addoli Duw, i gymdeithasu, i edrych ar ol eu gilydd ac i h… Parhau i ddarllen
Pop Cymru: Gwobrau Selar – 2ail o Fawrth 2013
Tudalen Facebook Parhau i ddarllen
Pop Cymru: Heno ges i ganwyll gan fy nghariad – Plant Duw o’i EP newydd Lliwiau
Lliwau – Plant Duw o Sadwrn.com Parhau i ddarllen
Ar Asgwrn y Graig: Dydd Lluniau
Deffro
Mae’r lili wen fach wedi blodeuo; yr adar wedi dechrau canu…
-daw eto haul ar fryn.
Cynffonau wyn bach cyfarwydd, a blodyn benywaidd coch yr un goeden, yn barod i dderbyn y paill.
Grifft llyffant
Ambell lun oddi ar y ffo^n, wrth grwydro Coed Tafarn Helyg ddoe.
Ges i nhwyllo gan arwyddion y gwanwyn i feddwl am ddechrau dwy neu dair Parhau i ddarllen
fel y moroedd: i’r elyrch
Llongyfarchiadau mawr i’r Elyrch am y fuddugoliaeth! Hyfryd gweld y Gwpan i ddod i Gymru. Tro Caerdydd bydd nesaf! Parhau i ddarllen
Ailddysgu: Darllen, garddio, cogninio, bwyta…
Pedwar peth dwi’n hoffi, er fy mod i ddim yn gwneud llawer o goginio’r dyddiau yma. Ta beth, mae hi wedi nod yn benwythnos oer, oer a llwyd. Gwahanol iawn i benwythnos diwethaf, pan roedd yn teimlo fel Gwanwyn. A fell y does dim llawer o awydd i godi yn y bore, er bod rhaid yn y diwedd i fynd allan gyda’r ci. Ond cyn gwneud hynny, dwi wedi bod yn darllen dipyn bach. Ar y funud dwi’n darllen Y Storïwr. Mae o wedi cael adolygiau da iawn.
Doeddwn i ddim yn siŵr ar y ddechrau, ond rŵan dwi’n mwynhau o gymaint. Llyfr dwi ddim eisiau gorffen, felly dwi’n trio peidio rhuthro trwyddo fo gormod. Dyma be mae Janice Jones yn dweud: “Mae iaith y nofel hon yn llifo, a chyda’i holl haenau a’i holl ddarlleniadau posibl, mae’n gyfrol fydd yn plesio darllenydd mewn modd personol ac unigryw”.
Ond doedd o ddim yn bosib darllen trwy’r penwythnos. Aethom allan i’r meithrinfa yn Buckingham i brynu goeden fedwen arian. Roedd un yn tyfu yn yr ardd gefn: wedi bod yna am flynyddoedd, ond llynedd, roedd yn amlwyg ei bod wedi marw. Mae’r fedwen, ar wahan i fod yn dlws, yn ddefnyddiol iawn i adar gwyllt. Felly roedden ni eisiau un arall, a tra bod ni yna, prynu shallots newydd, oherwydd bod y rhai a aeth i fewn yn y Hydref wedi pydru gyda’r holl glaw, a dipyn o hadau. Rhyfedd fel ei bod bron yn amser i wasgaru cenin, er bod cenin llynedd yn dal yn yr ardd. Ond dim llawer ohonnyn nhw.
Un hoff ryseit ydi “Leek Corustade” yn yr hen lyfr Cranks. A dyna be wnes i ar ol dod yn ol o’r feithrinfa. Roedd hi bron yn dywyll erbyn i fi fynd allan i’r ardd i gasglu’r cenin. A dyma llun o’r “Croustade” wedi ei goginio. Dydy o ddim yn edrych rhy dda yn y llun, ond mi roedd yn flasus!
Meddyliau: Corquiéu
Heddiw, roeddwn i’n tyrchu drwy restr artistiaid Ewropeaidd sy’n creu eu cerddorieath mewn ieithoedd lleiafrifol. A des i o hyd i fand o’r enw Corquiéu, sy’n chwarae cerddoriaeth draddodiadol yn yr Astwrieg.
Mae’r Astwrieg yn agos iawn i Galisieg a Sbaeneg. Dydy hi ddim yn iaith swyddogol, ond mae tua hanner miliwn o bobl yn medru ei siarad (yn cynnwys bach mwy na 100 milo siaradwyr brodorol).
Dyma ddolen i’w proffeil swyddogol ar YT: Corquiéu, dwi’n wir gobeithio y gwnewch chi fwynhau eu cerddoriaeth cymaint a fi, roedd y darganfyddiad yma’n hollol annisgwyl i mi!
LUNED AARON - ARTIST: MOMA, Machynlleth
Ymweld ag Oriel MOMA ym Machynlleth ddoe. Gwaith swreal John Charlesworth ac Emily Hall yn werth eu gweld.
Parhau i ddarllen
LUNED AARON - ARTIST: Oriel Tonnau, Pwllheli
Ymweld ag Oriel Tonnau ym Mhwllheli ar brynhawn Mercher wrth i mi gludo peintiadau newydd yno ar gyfer arddangosfa’r gwanwyn. …
fel y moroedd: rowndabowt yn japan
Un peth a roddodd fraw i mi tra oeddwn i yng nghar fy ffrind neu ar y bws yng Nghymru oedd rowndabowt. Doedd gen i ddim syniad beth oedd beth a phwy sydd gan y flaenoriaeth. Wrth gwrs mai peth cyffredin ydy hwn yn Ewrop ac mae ‘na rai yn America hefyd (dw i erioed wedi gweld un eto.)
Mae yna ddeg ohonyn nhw yn Japan ar y cyfan, ac mae un groesffordd newydd gael ei adnewyddu’n rowndabowt am y tro cyntaf erioed. Mae’r cefnogwyr yn llawn clod; dw i’n cytuno yn y bôn, ac eto mae gen i ofn pan feddylia’ i am y rheol. Parhau i ddarllen
Lowri Haf Cooke: Adolygiad Ffilm: Cloud Atlas (15)
Y Sêr: Tom Hanks, Halle Berry, Susan Sarandon, Jim Broadbent, Hugh Grant Y Cyfarwyddo: Lana Wachowski, Andy Wachowski a Tom Tykwer Y Sgrifennu: Addasiad sgript Lana Wachowski, Andy Wachowski a Tom Tykwer o’r nofel Cloud Atlas gan David Mitchell Hyd: … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
fel y moroedd: prynu cinio
Mae’n heulog ond oer heddiw. Roedd y gŵr eisiau i mi nôl cinio sydyn gan siop ger ei swyddfa. Cerddais drwy’r maes parcio i’r adeilad ond roedd hi ar gau. Chychwynnais tuag at un arall yng nghanolfan myfyrwyr; roedd hi ar gau hefyd, a dweud y gwir doedd hi ddim ar agor eto (am 10:30.) Penderfynais i gerdded i’r stryd fawr at siop coffi. Yna, prynodd frechdan gig a chawl cartref. Cerddais i’n ôl at yr Ysgol Optometreg wrth gario’r pecyn. Roedd yn ofnadwy o oer. Fedra i ddim cwyno oherwydd mai rhan o fy ngwaith oedd hynny. Parhau i ddarllen
Glo Man: Arweinydd Plygain yn Ymddeol
Roedd yr Hen Fethel dan ei sang eleni eto gyda chynulleidfa frwdfrydig wedi ymgynull yno am hanner awr wedi chwech ar fore’r Nadolig i gychwyn yr Wyl yn y modd gorau posib. Bu Emyr Jenkins a’i wirfoddolwyr yn atgyweirio’r capel ymlaen llaw a braf oedd ei weld ar ei newydd wedd yng ngolau’r canhwyllau. Cafwyd darlleniadau o’r Ysgrythur, adroddiadau barddonol a gweddĩau ac fe ganwyd carolau’r Nadolig gydag arddeliad. Llywyddwyd am y bymthegfed blwyddyn yn olynol gan Linden Evans a gyflawnodd y gwaith hwn yn effeithiol iawn ers dyddiau Meirion Evans ei ewyrth. Mawr fu ein dyled i’r ddau ohonynt. Gwnaeth Linden ymddeol o’r swydd hon ar derfyn yr oedfa ond fe gynhelir Plygain yr Hen Fethel y Nadolig nesaf eto o dan lywyddiaeth ei olynydd.
























