Archif Dyddiol: 1 Mawrth 2013

Asiffeta: Blog di-Dwi Pantycelyn




“Dante – dos i’w ddilyn

Shakespeare tro i’w fyd

A chofia Pantycelyn yr un pryd”

Y geiriau yma (gan Elfed?) wnaeth Anti Nerys ‘sgwennu yn fy llyfr llofnodion pan oeddwn i yn oddeutu 11 oed.  Darganfyddais y llyfr llofnodion eto tra’n symud ty yn ddiweddar.  Saesneg oedd y rhan fwyaf o’r negeseuon ynddo.

Y peth trist ydi nad oeddwn i’n deall neges Anti Nerys ar y pryd.  Pantycelyn? Who he? Medda fi

Mae’n rhaid fy mod wedi cael cip o enw WilliamWilliams Pantycelyn ar dudalen mewn llyfr emynau yn yr ysgol sul tra’n canu ‘Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigonneu debyg.  Os fysa hynny wedi digwydd heddiw  byd we fyd-eang mi fyswn i wedi ‘gwglo’ Pantycelyn’ a dysgu ond yr unig Panycelyn o ni’n adnabod bryd hynny oedd bynglo, ger Bro Rhyddallt yn Llanrug. 

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, mi wnes i ddod ar draws y llyfr yma hen gist yn lloft atic yn ty fy Nhaid a cofiais am neges Anti Nerys yn fy llyfr llofnodion – o’r diwedd mi ddysgais pwy oedd William Williams Pantycelyn.



Yn rhyfedd ddigon, erbyn i mi fod yn 11 oed, roeddwn yn gyfarwydd â Shakespeare, ac hefyd yn gwybod am y Bronte’s a Charles Dickens.  (Rwy’n cofio cael ‘sterics plentynaidd oherwydd nad oedd fy rhieni yn gadael i mi fynd ar y tripiau ysgol gynradd gafodd eu trefnu i Stratford-Upon-Avon ac i Haworth – o ni ddim yn deall mae methu afforddio talu i fi fynd oedda nhw)  Wyddwn i ddim pwy oedd Dante cofiwch – o ni’n meddwl mai gair Lladin am ddannodd oedd o!  Wyddwn i ddim pwy oedd Daniel Owen na Saunders Lewis chwaith a er fy mod wedi clywed am Kate Roberts ond dim yn gyfarwydd hefo ei gwaith hi o ni jyst yn meddwl mae dynas o Rhosgadfan oedd yn gallu sgwennu oedd hi a roeddwn yn gwybod bod T. Rowland Hughes wedi sgwennu am foi o’r enw Wiliam Jones nath ddweud ‘cadw dy blydi chips’.  Roeddwn yn gwybod pwy oedd Beethoven a Mozart ond erioed wedi clywed am Joseph Parry na William Mathias.  Roeddwn yn adnabod gwaith Van Gough a Michaelangelo ond doedd enwau fel Augustus John a Richard Wilson yn golygu dim i fi.   Fe wyddwn am Einstein ac Alexander Graham Bell ond nes i ddim ond dysgu am Dr Tom Parry Jones wrth glywed amdano ar y newyddion yn ddiweddar wedi iddo farw.   O ni’n gwybod hanes Florence Nightingale ond glywais i erioed am Betsi Cadwalader, dim nes i bwrdd iechyd Gogledd Cymru newid ei enw!  O ni’n ffan o gerddoriaeth Saesneg a fyswn i’n eistedd o flaen y teledu bach du a gwyn i wylio a recordio Top of the Pops ar fy mheiriant caset ac mi fyswn i wedi cynhyrfu a mwy na thebyg  llewygu os fysa Freddie Mercury neu Sting wedi cnocio fy nrws!  Roedd gennai obsesiwn hefo Adam Ant a peintio gwyneb fy nghefnder hefo Tippex i wneud o edrych yn debyg iddo a rhoi eyeliner ar hogyn drws nesa a cael o i ganu caneuon Gary Numan.  Yn anffodus fyswn i heb allu gwahaniaethu rhwng Geraint Jarman o Geraint Lovgreen a fyswn i wedi cau drws yn glep ar Rhys Mwyn a Cleif Harpwood os fysa nhw wedi dod i drws fi i ganu carolau.

Roeddwn yn arfer ceisio cuddio neu ymddiheurio fy anwybyddiaeth am bod gennai gywilydd ond erbyn hyn rwy’n hyn a fymryn yn gallach ac rwy’n deall mae felna oedd pethau a dyna fo.  Yn sicr nid oes bai fy rhieni, sut fedar neb drosglwyddo unrhywbeth i unrhywun os na ydio ganddyn nhw i’w drosglwyddo yn y lle cyntaf   Roedd Mam a Dad wedi hen adael ysgol ac yn gweithio erbyn iddynt fod yn 16, a gadael ysgol yn 16 oedd hanes ni, y 5 plentyn hefyd.  Doedd fy rhieni ddim yn byw ar drethdalwyr y wlad, mae gennai barch mawr iddyn nhw erbyn heddiw am weithio yn galed a gwneud y gorau gallent, yn anffodus ond dim yn syndod o gwbwl nid oedd safon addysg na safon iaith ar dop y agenda nac yn flaenoriaeth.   Roedd yn ddigon o waith iddynt i gynnal y cartref a’r teulu, doedd ganddynt ddim dewis dim ond byw yn gynnil iawn o un diwrnod i’r llall ar gyflog pitw.  Ac roedd ganddynt y boen fawr ychwanegol, a hynny oedd bod un o fy annwyl chwiorydd yn bur wael ers ei genedigaeth,  nid oedd disgwyl iddi fyw yn hir a buodd yn ôl a mlaen sawl gwaith i Ysbyty’r Royal Free yn Llundain am driniaeth arbennigol.  Diolch iddo, mae hi’n dal yma, mae hi’n dal i weld arbennigwr unwaith y flwyddyn, ond mae hi’n fyw ac yn iach ac yn hapus ac yn fam i dri o blant ei hun erbyn hyn.
Fedrai’m cael ddoe yn ôl ond mi fedrai newid sut rwy’n gwneud petha heddiw a fory.  Rwy’n deall erbyn heddiw mai felna mae petha i lawer iawn iawn o Gymru Cymraeg.  Mae na nifer fawr o bobol sydd fel fi yn ofnadwy o falch o fod yn Gymraeg, yn caru’r wlad a caru’r iaith ond sydd yn gwybod ‘chydig iawn am ddiwylliant a treftadaeth ein gwlad.  Diolch i’r we byd eang mae gennym bellach fynediad i wybodaeth helaeth a rwy’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd er nad yw popeth rwyf yn ei ddysgu yn aros yn fy mhen.

Y peth sydd wastad yn rhyfeddu fi ydi faint yr wyf i (a sawl un arall) yn ei gofio, heb unrhyw ymdrech o gwbwl o’r hyn a ddysgais yn yr ysgol gynradd.   Rwy’n cofio gymaint mwy o fy ngwersi cynnar na’r gwersi ysgol uwchradd oherwydd fel bob plentyn ifanc roeddwn yn awyddus a parod i ddysgu, erbyn i mi gyrraedd yr ysgol uwchradd roedd y cyffro o wneud ffrindiau newydd a cheisio uniaethu hefo nhw a chadw i fyny hefo nhw yn fwy pwysig na dim.  Roeddwn yn awyddus i gael fy nerbyn ac roedd gwrando ar yr un cerddoriaeth, darllen yr un cylchgronau a gwylio’r un rhaglenni teledu a fy ffrindiau er mwyn uniaethu yn llawer mwy pwysig na’r gwaith ysgol.  Wedyn wrth gwrs daeth hormons a hogia a make-up a gwallt a dillad a mynd allan i joio yn flaenoriaeth.   Mae profiad pawb yn wahanol a dylanwadau pawb yn amrywiol ond dyna oedd fy mhrofiad i.  Rwy’n cofio mwy o be ddysgais yn yr ysgol gynradd na gofiaf o unrhyw beth arall rwyf erioed wedi ddysgu yn fy mywyd.

Mi fyddai’n clywed pobol yn dweud weithiau “I went to a Welsh school but I’ve totally forgotten the language!”  Rybish! ‘selective amnesia’ neu snobyddiaeth ydi peth felly.

Mae gen i berthynas sydd yn 70 mlwydd oed, cafodd ei fagu ar aelwyd Saesneg ond cael addysg gynradd Cymraeg yng Ngogledd Cymru cyn symud i fyw i lloegr am ei addysg uwchradd.  Prin iawn fydd o’n cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg ers blynyddoedd ond mae hynny o Gymraeg mae o’n gofio yn anhygoel ac yn Gymraeg fydd o’n trio ei orau i sgwrsio hefo ni bob amser ac mae o’n fendigedig i’w glywed.

  

A dyna pam fy mod yn credu yn gryf y dylai pob un ysgol gynradd Gymraeg yng Nghymru fod yn ysgol cyfrwng Gymraeg neu o leia yn ysgol ddwyieithog.  Petai’r ysgolion cynradd yn rhoi yr un pwyslais ar iaith, hanes a diwylliant Cymru ac yn rhoi hyder i’r plant i ddefnyddio’r Gymraeg ac i fod yn falch o fod yn Gymraeg drwy blethu’r ieithioedd a’r diwylliant yn rhwydd, mi fysa hynny yn gwneud mwy na dim byd arall fedar neb byth ei wneud i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw.    Pam nad ydi pob ysgol gynradd yng Nghyrmu yn ysgol Gymraeg?  Allan o 1412 ysgol cynradd yng Nghymru dim ond 461 sydd yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.  Boncyrs ta be?    Mae digon o gyfleon ac amlygiad i’r iaith Saesneg o’n cwmpas bob dydd, siarad, darllen, teledu, radio, ffilmiau, papurau newydd, gwefannau ond prin iawn ydi’r cyfleon Cymraeg.   Gan bod gallu plant ifanc i ymdopi hefo dysgu pethau newydd ac i lyncu gwybodaeth yn rhyfeddol – os nad ydynt yn cael cyflwyniad cadarn i’r Gymraeg yn yr ysgol Gynradd yna byddwn yn colli cyfle gwerthfawr i roi yr anrheg iddynt o gael y gallu i siarad a’r siawns i garu iaith fydd yn aros hefo nhw am oes.



Dydd Gwyl Dewi Hapus


“Gwnewch y pethau bychain”

x

Parhau i ddarllen

Lidstoons: “Euogrwydd”

Dwi’n licio chwilio am ymadroddion penodol ar Twitter. Un o fy hoff rai ydi “kicked a cat”. Triwch chi o. Ddewch chi o hyd i berlau fel’ma, yn siŵr i chi. “Guilt” I like searching for specific phrases on Twitter. One of my favourite ones is “kicked a cat”. Try it. You’ll come across pearls… Read more. Parhau i ddarllen

Lidstoons: “Bywyd Trist Dilwyn Habib”

“The Sad Life of Dilwyn Habib” Translated text: “No birds again today.” Parhau i ddarllen

Lidstoons: “Edifeirwch”

“Regret” Translated text: Panel 1 – “I don’t have enough to do. I think I’ll start a blog.” Panel 2 – “But why write…” Panel 3 – “When I can draw!” Panel 4 – “Two hours later…”; “I hate myself.” Parhau i ddarllen

All articles - y-selar.com: Brwydrau Allweddol Cwpan Jarman

 
Wrth i’r gystadleuaeth fawr nesáu, rydan ni wedi dewis rhai o frwydrau mwyaf diddorol Cwpan Jarman.
Gareth Iwan (C2) v Barry Chips (Y Selar)
Dau hen ben, sydd efallai wedi colli ychydig o’u cyflymder bellach, ond sydd yr un mor gyflym eu meddwl ag erioed. Y ddau’n arfer chwarae 5 bob ochr efo’i gilydd, ond heb ddod wyneb yn wyneb ers rhai blynyddoedd.
Ceri Cunnington (Cigfrain Sbensh) v Ryan Kift (Y Llesbians)
Dau o gymeriadau mwyaf y gystadleuaeth, ond dau wahanol iawn o ran pryd a… Parhau i ddarllen

Y Llwyfan: Munud i Feddwl (Post Cyntaf) – BBC Radio Cymru

Trafod datganiad Leanne Wood ynghylch cydweithio i gael mwy o ferched i’r Senedd oeddwn  i ar gyfer slot Munud i Feddwl, Radio Cymru fore heddiw (48.47) http://www.bbc.co.uk/programmes/b01qtbqp Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Podlediad newydd Pethe

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi podlediad newydd ‘Pethe’, fydd y cynnwys trafodaethau am ddigwyddiadau diweddaraf byd y celfyddydau. Lisa Gwilym, ein cyflwynwraig newydd a chriw cynhyrchu Pethe sydd yn … Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Podlediad newydd Pethe

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi podlediad newydd ‘Pethe’, fydd y cynnwys trafodaethau am ddigwyddiadau diweddaraf byd y celfyddydau. Lisa Gwilym, ein cyflwynwraig newydd a chriw cynhyrchu Pethe sydd yn … Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Pethe Fi

Yr wythnos yma mae Manon Wyn, un o griw cynhyrchu ‘Pethe’, yn trafod ei chynlluniau ar gyfer yr wythnos sydd i ddod. Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Pethe Fi

Yr wythnos yma mae Manon Wyn, un o griw cynhyrchu ‘Pethe’, yn trafod ei chynlluniau ar gyfer yr wythnos sydd i ddod. Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Mostyn Agored

Sut da chi’n mynd ati i werthuso darn o waith celf? Pa mor bwysig ydi’r gallu i ddehongli a deall gwaith celf? Beth sy’n gwneud darn o waith celf yn … Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Mostyn Agored

Sut da chi’n mynd ati i werthuso darn o waith celf? Pa mor bwysig ydi’r gallu i ddehongli a deall gwaith celf? Beth sy’n gwneud darn o waith celf yn … Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Pethe ar ei Newydd Wedd

Cyflwynydd newydd, arddull newydd a digonedd o straeon newydd o fyd y Celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt – dyma Pethe ar ei newydd wedd. Lisa Gwilym fydd yn dod … Parhau i ddarllen

ywers: Blas ar ddysgu Basgeg!

Mae Elin Haf Gruffydd Jones yn uwch ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr Fflim a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hi ydy cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant. Mae hi’n siarad sawl iaith ac ymysg yr ieithoedd hynny mae … Continue reading  Parhau i ddarllen

Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT): Gêm Rygbi Elusennol

Clwb Rygbi Llewod Caerdydd 15 – 31 Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daeth Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol i ben gyda gornest rygbi rhwng tîm y Cynulliad Cenedlaethol a’r tîm rygbi cyntaf o chwaraewyr hoyw, a’r unig dîm hyd y gwyddom, yng Nghymru. Roedd tîm rygbi’r Cynulliad ar faes y gad ddydd Sadwrn, 23 […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cyfarchion o oklahoma

Dydd Gŵyl Dewi Sant Hapus!

Dw i’n bwriadu coginio cawl cennin a bara brith i swper fel arfer. Mae gan ysgol fy mab wisgo ysgol ond un diwrnod bob mis mae’r plant yn cael gwisgo beth bynnag maen nhw eisiau. Heddiw ydy’r diwrnod digwydd bod. Dewisodd y mab grys tîm Dinas Caerdydd. Prynais hwn yng Nghaerdydd pan es i Gymru am y tro cyntaf yn 2007. Cafodd orchymyn gan ei fam i sôn am Ddydd Gŵyl Dewi wrth y dosbarth! Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Hir oes i’r chwyldro

Y bore’ma pan o’n i’n ymweld a Derby wnes i weld dau beth sy wedi tanlinellir holl anghyfiawnder cymdeithasol sy wedi dod yn sgil polisïau llywodraethau’r 35 mlynedd ddiweddaraf.

Yn gyntaf wnes i weld cyn tenant i mi, o’r cyfnod pan o’n i’n gweithio fel Swyddog Tai yn rhoi cymorth i bobl a oedd wedi cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol lleol. Roedd y gŵr bonheddig yma yn dioddef o amwysterau dysgu a ddim wedi ymdopi efo bywyd yn dda iawn nac yn gallu cynnal swydd. Ers i mi ei weld y tro diweddaf, 6 mlynedd yn ôl, mae o bellach wedi colli ei braich de o ganlyniad i gancr. Rŵan mae o’n byw mewn fflat efo cymorth warden preswyl, ond mae’r cyngor lleol ar fin diddymu’r cymorth hyn. Ar ben hynny mae’r gŵr o dan bwysau gan y DWP i fynd yn ôl i’r gwaith. Dyma siampl berffaith o’r gwaith diafoledig sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Codi bwganod am bobl yn cam-drin y gyfundrefn lles ac yn gorfod pobl i drio gweithio sy wir ddim yn gallu gweithio. Yn wir ddyn ni’n ôl i’r gwerthoedd Fictorianaidd oedd y bondigrybwyll Mrs Thatcher yn arddel sef rhagfarnu a cham-drin pobl dlawd, pobl anabl a phobl di-rym pan mae’r cathod tewion yn y ddinas yn Llundain yn bocedi taliadau bonus o filiynau o bunnoedd.

Wedyn wrth i mi gerdded nôl i’m car ar ôl cael fy negeseuon o’r dref mi wnes i weld car efo rhifau plât Cymru arno wedi’i barcio o flaen tŷ digon cyffredin. Wn i ddim os oedd y perchennog yn dod o Gymru neu yn Gymro neu Gymraes Cymraeg ond roedd ‘na siawns go dda ei fod o / ei bod hi. Tebyg mae’r car yn berchen i un o filoedd o Gymry sy wedi gorfod gadael Cymru er mwyn cael swyddi. Does dim digon o fuddsoddi mewn ardaloedd tlawd Prydain. Mae’r cymunedau yn edwino a’r iaith yn gadael y fro Cymraeg efo’r bobl ifanc.Dyma agwedd arall o’r anghyfiawnder cymdeithasol sy ar droed ar hyn o bryd. Er gwaethaf holl rethreg am y Gymdeithas Fawr, mae’r rhan fwyaf o’r cyfoeth Brydain yn cael ei ganoli yn Llundain a’r de-ddwyrain o Loegr. Wfft i weddill y wlad, wfft i’r hen ardaloedd diwydiannol boed yng Ngogledd a chanolbarth Lloegr, yr Alban neu Gymru. Dw i’n diogon hen i gofio’r Llwyodraeth Thatcher wrthi yn dinistrio (yn ddi-angen!) yr holl byllau glo a’r diwydiannau trwm. Y cyfiawnhad ar y pryd oedd gwasgu chwyddiant allan o’r system economaidd,  roedd hyn yn bropaganda ac yn gelwydd noeth. Y gwir reswm oedd dial ar y NUM a hefyd i ddinistrio grym economaidd pob rhan arall o’r DU er mwyn rhoi’r holl rym economaidd yn nwylo’r crachach, y ddinas a’r Blaid Tori. Pan ddaeth Tony Blair i rym, roedd y dasg wedi’i wneud ac roedd gormod o ofyn ar y Blaid Llafur i wrth wneud y newidiadau hyn. Roedd cyflogaeth yn dod yn ôl, ond dim ond trwy dyfu maint gwasanaethau a’r biwrocrataidd. Felly nôl at Lywodraeth Tori diafoledig arall efo Cameron ac unwaith eto pobl gyffredin yn cael eu targedu efo polisïau’r toriadau.

Mae Bancwyr wedi achosi’r crisis economaidd ond pobl gyffredin a phobl ar fudd daliadau yn talu’r gost. Mae Cameron yn dweud does dim arian ar ôl. Celwydd noeth eto. Mae digon i hel y fyddin allan i Afghanistan, mae digon i wario 25 billion ar Drident. Beth ddylai’r llywodraeth wneud yn tynnu mas o Drident, tynnu mas o ryfeloedd drud dramor a defnyddio’r pres i gynnal a chadw’r gwasanaethau lles a’r budd daliadau i bobl anabl.

Mi fydd yr hen ddynes Thatcher yn gadael y byd yma cyn bo hir. Piti garw ni fydd ei syniadau hunllefus yn mynd gyda hi. Parhau i ddarllen

elinbach: Half-Shadow

Numbness coarses, greedily digesting a soul:Too weak to reflect in these muddy waters,But shimmering – simmering – in envySelfish, glaring and seeping -A deluge of broken, sharp piecesA solemn mist through drowning vision,Settling with a sigh upon… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Y Llwybr Cul

Rhywle gartref mae gen i lyfr o’r enw “Labour’s last chance?: the 1992 election and beyond”. Casgliad o draethodau gan rai o’r seffolegwyr gorau Prydain yw’r llyfr ac mae’r teitl yn esbonio’r cynnwys. Ar ôl colli etholiad 1992 pan oedd bron popeth yn gweithio o’i phlaid oedd modd i’r Blaid Lafur ennill byth eto oedd y cwestiwn. Amwys oedd yr atebion.

Cyhoeddwyd y llyfr ym Mai 2004. Llai na thair blynedd yn ddiweddarach enillodd y blaid Lafur y nifer fwyaf o seddi yn ei hanes ac etholwyd Tony Blair yn Brif Weinidog.

Rwy’n codi’r pwynt oherwydd bod cwestiwn digon tebyg yn cael ei ofyn ynghylch y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Os nad oedd hi’n bosib ennill mwyafrif yng ngwyntoedd teg 2010 pa obaith yn y dyfodol?

Yr ateb syml i’r cwestiwn yw wrth gwrs bod hi’n bosib i’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif. Yn wir, os nad yw’r blaid yn cwympo’n ddarnau mae hi bron yn sicr o ennill un rhywbryd. Serch hynny mae’r llwybr tuag at fwyafrif yn yr etholiad nesaf yn edrych yn gulach ac yn gulach wrth i ddydd y cyfri agosau.

Y dadansoddiad gorau o broblemau’r Ceidwadwyr mi ddarllen yw hwn gan Paul Goodman cyn aelod seneddol Ceidwadol sy’n un o olygyddion gwefan dylanwadol “Conservative Home”.

Yn ôl Goodman mae ennill mwyafrif yn 2015 yn amhosib oherwydd pedair ffactor. Methiant y blaid i apelio at leiafrifoedd ethnig, undod yr asgell chwith, rhaniadau ar yr asgell dde ac anfantais strwythurol y map etholiadol yw’r ffactorau hynny.

Mae canlyniad Eastleigh yn cymhlethu’r ddwy ffactor olaf.

Trwy guro’r Ceidwadwyr mae Ukip wedi dwysau’r rhaniadau ar y dde. Mae unrhyw obaith na fydd y blaid honno’n ffactor yn yr etholiad nesaf yn prysur ddiflannu a does dim rhaid iddi wneud chwarter cystal â gwnaeth hi yn Eastleigh er mwyn dylanwadu ar y canlyniadau mewn llwyth o etholaethau ymylol.

O safbwynt y ffactor olaf, y broblem strwythurol, amcangyfrifir y bydd angen i’r Ceidwadwyr bod saith y cant ar y blaen i lafur yn y bleidlais boblogaidd er mwyn sicrhau mwyafrif o un. Mae hynny’n glamp o fynydd – ond mae’r guru etholiadiol Peter Kellner wedi darogan y gallai’r Torïaid sicrhau mwyafrif mewn ras llawer agosach pe baent yn cipio rhyw ddau ddwsin o seddi o’r Democratiaid Rhyddfrydol – seddi tebyg iawn i Eastleigh.

Pa obaith o hynny nawr?

Parhau i ddarllen

BaeColwyn.com: Mewn harmoni gyda’r Welsh Lady

Mae’r dyn yn dal yn dynn (armlock?) yn llaw y ddynes Gymreig ac yn cuddio ar y chwith mae na ddyn arall gyda barf. Wow. Ding-dong yn y Dingle. Parhau i ddarllen

daflog: Ydi’r camera yn caru Carwyn?

Ers 2009 mae gan Llywodraeth Cymru sianel ar YouTube sy’n cyhoeddi pigion achlysurol am waith y llywodraeth a datganiadau gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones. Dyw e ddim yn arbennig o boblogaidd a pwy all feio pobl am hynny? Ddoe, ddiwrnod yn gynnar, fe gyhoeddwyd cyfarchiad Dydd Gŵyl Dewi gan Carwyn Jones, yn saesneg yn […] Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 3 Mawrth 2013

Darlleniad y Dydd: Marc 4: 13-20 (BCND tud.41 / BCN: tud.37)

Bore da a chroeso i oedfaon y dydd! Roedd dydd Gwener, Mawrth 1af yn ddiwrnod i ddathlu’r Beibl yn Gymraeg! Roedd yn 25 mlynedd union ers cyhoeddi’r Beibl Cymraeg Newydd, ac mae’r Beibl cyfan mewn Cymraeg cyfoes wedi cael ei lansio ar . . . → Read More: Dydd Sul, 3 Mawrth 2013

Parhau i ddarllen