-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archif Dyddiol: 3 Mawrth 2013
Pin Dwr Trefor: HWYL A SBRI
3ydd Mawrth 2013 – heddiw roedd cyfle i ddysgu am Masnach Deg a chael hanes siocled o Ghana. Mae Comfort yn tyfu cocoa a’i werthu i gwmni Masnach Deg. Ers hynny, :18 Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i dd… Parhau i ddarllen
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Kaerat eo kreiz Kerdiz: / Ruioù, tud, istor ha tizh!
Yvonne, Tomaz, Bleuenn, Jonathon, Madison a Nolwenn yng Nghaerdydd, wedi’r cyfarfod i siarad Llydaweg yn Rummers Tavarn.
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Berc’hed, Bleuenn, Mona, Tomaz, Rhiannon a Havard
Llydawiaid ifainc yn cael y fraint o gwrdd â Chymro a Chymraes sydd yn deall hanes Llydaw ac yn cofio cynifer o bobl bwysig yn hanes ei brwydr i gadw ei hunaiaeth yn yr ugeinfed ganrif.
Cymdeithas Cymru-Llydaw: Jonathon, Bleuenn, Yvonne, Dafydd a Tomaz – Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
Jonathon, Bleuenn, Yvonne, Dafydd a Tomaz – Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, a photo by bara-koukoug on Flickr.Llydawiaid a Chymry’n mwynhau’r brifddinas… Parhau i ddarllen
fel y moroedd: gŵyl ferched
Roedd bron i mi anghofio eleni eto! Fe osodais y dolis neithiwr. (Dylwn i fod wedi gwneud hynny wythnos yn ôl.) Mae gwisgoedd y dolis yn edrych yn hynafol braidd (fel y perchennog!) Pob hwyl i’r holl ferched bach. Parhau i ddarllen
Anturiaethau Bwyd a Diod: Ocsiwn Win y Fenni, 23 Chwefror 2013
Mae cwmni arwerthwyr J. Straker, Chadwick & Sons yn cynnal ocsiwn win yn y Fenni bob tua deufis. Rhyw bythefnos cyn bob ocsiwn, maen nhw’n cyhoeddi catalog o’r hyn fydd ar werth ar y diwrnod. Ro’n i wedi bod yn pori drwy’r catalog yn pendronni o’n i am fynd. Er ei bod hi’n bosibl gwneud cynigion … Continue reading →
Parhau i ddarllen
Glo Man: Cantorion yn cyrraedd y brig
Mae côr o ddisgyblion ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth Côr Cymru 2013 S4C.
Bydd Côr Ysgolion Uwchradd Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ffurfio dri mis yn ôl yn cystadlu am le yn y rownd derfynol y mis nesaf.
Gwasanaeth cerdd y Cyngor sy’n trefnu’r côr merched ac mae’r cantorion i gyd yn ddisgyblion yn ysgolion uwchradd y sir. Islwyn Evans, athro cerdd peripatetig, yw arweinydd y côr.
Dywedodd Gareth Kirby, Cydgysylltydd y Gwasanaeth yn Sir Gaerfyrddin ei fod wrth ei fodd â chyflawniad y côr.
“Hwn yw’r tro cyntaf i wasanaeth cerdd y sir roi cynnig ar y gystadleuaeth ac rydym wedi cyrraedd y rownd gynderfynol. Rydym ni’n falch iawn o’r disgyblion a’r staff sy’n cymryd rhan. ” meddai.
“Mae Côr Cymru yn un o brif gystadlaethau corawl Cymru. Ffurfiwyd y côr gwta dri mis yn ôl ac mae’r gamp yn adlewyrchu’r doniau lleisiol ardderchog sydd gennym yn Sir Gaerfyrddin.”
Cynhelir y rownd nesaf yn Aberystwyth ym mis Chwefror a chaiff ei darlledu ar y teledu ychydig ar ôl hynny.
Ychwanegodd y Cynghorydd Keith Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Carai’r adran addysg longyfarch y disgyblion a’r athrawon ar gyrraedd y rownd gynderfynol. “Mae’n adlewyrchu gwaith caled y disgyblion, y rhieni a’r athrawon ynghyd â’r doniau naturiol sy’n cael eu meithrin gan y gwasanaeth cerdd.”
All articles - y-selar.com: Llawn dop yng ngwobrau’r Selar
Y Bandana oedd yr enillwyr mawr yn Noson Wobrau’r Selar yn Neuadd Hendre neithiwr.
Cipiodd y grŵp o Wynedd dair gwobr mewn noson gofiadwy i ddathlu llwyddiant y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Y nhw oedd yn cloi’r gig yn Neuadd Hendre, ac efallai fod hynny’n addas iawn ar ôl iddynt gipio un o brif wobrau’r noson sef ‘Band Byw Gorau’.
Mae tlysau Cân Orau am ‘Heno yn yr Anglesey’ a Record Fer Orau am y sengl ‘Heno yn yr Anglesey / Geiban’ hefyd yn eistedd ar silff ben tân aelodau’r… Parhau i ddarllen








