Archif Dyddiol: 5 Mawrth 2013

Ar Asgwrn y Graig: Pry’ blodyn

Pryf hofran gynta’r flwyddyn yn yr ardd gefn ar ddiwrnod ola’r mis bach; yn hel paill ar y bocs gaeaf (Sarcoccoca).

Mae 280 math o bryf hofran ym mhrydain, ac mae’n anodd eu nabod heb eu lladd a’u hastudio o dan y meicrosgop, ond mae’r bwa yn un o wythiennau adenydd hwn, yn ei roi yn y teulu Eristalis*.

Y rhain sy’n treulio cyfnod o’u bywydau fel larfa efo cynffon hir, mewn pyllau dwr budr Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cerdded

Mae swyddfa’r gŵr yn bell o bopeth arall yn Ysgol Optometreg, felly rhaid cerdded braidd yn hir i wneud neges. Yn aml iawn bydda i’n gwneud mwy na hanner dwsin o “siwrneiau” fach mewn dwy awr. Dw i ddim yn meindio o gwbl; dw i’n cael ymarfer corf tra bydda i’n gweithio. Mae’n ofnadwy o wyntog heddiw. Parhau i ddarllen

Meddyliau: Sut i ymweld a Phoznań drwy gyfrwng y Gymraeg, neu: penwythnos Dewi Sant

Yn y byd lle nad ydy’r iaith Gymraeg yn ddigon gweladwy wrth ystyried gwasanaethau cyfoes, mae yna le lle bydd hi ar gael i bawb a fyddai’n fodlon i’w chlywed: Poznań, Gwlad Pwyl!

Yn ystod y penwythnos diwethaf, cawson y geiriau yma eu gwiredu wrth i ni gael gwestai arbennig: Cymraes o Ogledd Cymru, sydd yn Wrocław ar hyn o bryd, yn astudio gwyddor gwleidyddiaeth yno, yn dilyn cynllun Erasmus. Roedd gynnon ni wyl arbennig- diwrnod Dewi Sant, felly penderfynodd hi ymuno a ni a gweld rhai o lefydd diddorol ym Mhoznań.

Cyrhaeddodd hi ar ddydd Gwener, tua henner dydd. Ynghynt, roedd fy ffrind a finnau’n brysur yn y brifysgol, roedden ni’n ceisio hysbysebu Gwyl Dewi i bobl allan o’r Adran. Wnaethon ni brintio taflenni arbennig i hyrwyddo dau gyfarfod yn y dafarn a gwylio ffilm am fomio Tryweryn. Hefyd, roedden ni’n clymu cennin a chennin Pedr wrth ganllaw grisiau (pob hwyl, tydi?)

Beth bynnag, yn fuan roedd rhaid i ni adael a mynd i orsaf trenau i groeso ein ffrind. Wrth gwrs i ddechrau doedden ni ddim yn gallu ei gweld, roedd degau o bobl yn mynd tu fewn ac allan o’r tren, ond rywsut llwyddom i ddod o hyd i’w gilydd. Aethom yn syth adref, yn siarad am ei thaith ar y ffordd. (Dyma dro cyntaf i ni gael ein synnu gan ei hawsed i ddysgu’r Bwyleg – dim ond am wythnos a hanner oedd hi’n dysgu, ond roedd hi’n cofio llawer o eiriau ac ymadroddion, ac roedd hi’n cronni a chofio llwythi ohonyn nhw pan oedden ni’n crwydro efo hi o gwmpas y ddinas!) Wedyn roedden ni’n eistedd yn fflat fy ffrind, ac aros am ffrind arall i ddod efo bwyd (roedden ni i gyd yn llwgi!) Y diwrnod yma, wnaethon ni goginio ‘pyry z gzikiem’, sef tatws gyda chaws gwyn, nionod a sbeisys. Math o bryd tradoddiadol Poznań ydy hwn, er nad ydw innau’n ei fwyta’n rhy aml. Ar ol bwyta, roedden ni’n rhy lawn i gerdded, felly arhoson ni gartref tan prynhawn hwyr, yn sgwrsio a gwrando ar gerddoriaeth. Wedyn, aethom i fflat ffrind arall i nol sach gysgu sbar, ac i’r dafarn: Gwyl Dewi oedd hon! Roedden ni’n gyntaf i gyrraedd, ac roedden ni’n poeni na fydd neb arall yn dod, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef bod eithaf llawer o bobl wedi ymgasglu gyda’r amser. Cawson ni noswaith braf iawn, yn yfed, trafod pynciau gwahanol (yn eithaf ffyrnig weithiau!) a chael llwythi o hwyl. Aethom adref yn hwyr iawn, ac roedd rhaid i ni baratoi ar gyfer y diwrnod canlynol.

Wnaethon ni gyfarfod a’i gilydd ar Hen Farchnad, er mwyn iddi weld un o symbolau Poznań – geifr mecanyddol yn gwffio ei gilydd ar glocdwr bob haner dydd. (Dilyniant chwedl ydy popeth: unwaith, roedd rhyw ddyn cyfoethog i ymweld a Phoznań, ac roedd criw o bobl yn paratoi gwledd  grand i’w groeso. Cig carw oedd i fod yn brifbryd o fwyd, ond wnaeth helpwr y cigydd ei losgi. Roedd rhaid iddo fyrfyfyrio, felly penderfynodd rostio cig geifr. Ond yn anffodus iddo, dihangodd ei eifr, dringo clocdwr y ty cyngor, a dechrau gwffio. Chwedl difyr, on’d ydy?) Ar ol i ni weld y geifr, cawsom dro bach o gwmpas yr Hen Farchnad, wedyn i gael brecwast ar gyfer llysieuwraig, yna i brynu rogale marcińskie (croissant arbennig efo past pabi a mel, a chnau ar dop) ac yn y diwedd taith fach o gwmpas Stary Browar (canolfan siopa mwyaf ‘snobaidd’ / ffroenuchel ym Mhoznań). Cawson ni goffi enfawr a bwyta’r rogale, ac wedyn roedden ni’n cerdded a cheisio prynu rhywbeth ar gyfer parti pen-blwydd ffrindiau fy ffrind a finnau. Ar ol sawl awr dychwelom adref, lle wnaethon ni baratoi cinio blasus, ac wedyn aethom allan, gan iddynt fynd i’r parti.

Y diwrnod canlynol oedd y diwrnod olaf fy ffrind ym Mhoznań. Yn anffodus, doedd fy ffrind o’r Adran ddim yn teimlo’n rhy dda (rhyw ffliw ofnadwy), felly dim ond fi a’r ffrind o Wrocław a aeth allan y tro yna. Diwrnod cerdded oedd hwnna, aethom i barc Sołacki (mi wnes i son amdano yn un o gofnodion ynghynt ar y blog yma). Doeddwn i ddim yno ers meitin, felly pleser enfawr oedd dychwelyd! Roedd y diwrnod yn eithaf braf (efallai bach yn wyntog, ond doedd dim ots gynnon ni), ac wnaethon ni gerdded o gwmpas y parc i gyd bron iawn, yn rhyfeddu at brydferthwch y golygfeydd (wel, o leiaf minnau ;)). Ar ol y parc hwn, penderfynon ni fynd i Malta, lle efo llyn artiffisial. Rhaid i mi gyfaddef nad ydw i mor hoff o’r lleoliad yma, yn enwedig wrth gymharu a pharc Sołacki, ond weithiau mae’n werth ymweld ag ef. Ar ol i ni weld rhan o Malta, roedd yn rhaid i ni fynd ‘nol adref, ac ar ol cael pryd o fwyd blasus arall, roedd yna amser i ni fynd i’r orsaf trennau.

Penwythnos llawer o hwyl a sbri oedd y tri diwrnod yma, dwi’n falch iawn i mi gael cyfle i weld fy ffrind o Gymru a defnyddio cymaint o’r Gymraeg! Bechod nad oedd hi’n gallu aros am fwy, ond dwi’n wir gobeithio bydd hi eisiau dod ‘nol rhyw ddiwrnod! Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Ti, chi a fi

Mae derbyn rhifyn y mis o Barn wastod yn bleser – er taw fy nhasg gyntaf bob mis yw cael cipolwg sydyn i weld os oes ‘na straeon neu safbwyntiau i ni eu colli! Dydw i ddim am gyfaddef yn fan hyn a ydy hynny wedi digwydd y tro yma!

Yn hytrach cefais ysbrydoliaeth am bost bach gan golofn Vaughan Hughes lle mae’n cwyno am yr hyn mae’n gweld fel defnydd amhriodol o ti a thithau ar raglenni newyddion Radio Cymru. Dyma ddisgrifiad Vaughan o sgwrs rhwng cyflwynydd â chadeirydd y Bwrdd Iaith.

“Roedd y ti a’r tithau diddiwedd, a chywair dau-fêt-yn-cael-clonc y sgwrs gyfan yn rhoi’r argraff anghysurus i mi fy mod yn clustfeinio ar sgwrs breifat… mae’r defnydd o chi o gymorth i gynnwys y gwrandäwr yn hytrach na’i ddieithrio.”

Dydw i ddim yn teimlo’n gryf iawn am y peth ond yn bersonol rwy’n tueddu defnyddio chi gyda ffigyrau cyhoeddus hyd yn oed os ydy’r rheiny’n iau na fi. Ar y llaw arall mae’n gas gen i gael fy ngalw’n chi gan rywun sy’n ti i mi! Safonnau dwbwl efallai – neu arwydd fy mod yn heneiddio!

Ta beth mae’r ddadl ynghylch safonau iaith yn un sy’n digwydd yn gyson yng nghoridorau’r BBC gyda rhai’n adrodd straeon arswyd am grwpiau ffocws yn cael trafferth i ddeall Cymraeg cymharol syml ac eraill yn mynnu bod yn rhaid tynnu llinell yn rhywle. Mae lle mae’r “rhywle” yna yn gwestiwn arall, wrth gwrs!

Fy nghrwsâd arbennig i yw un i achub y ferf gryno. Efallai bod dyddiau “gallaswn” a “gwybuant” wedi mynd ond gwrthodaf dderbyn bod “Mae Dafydd Jones wedi dweud” yn haws i ddeall na “dywedodd Dafydd Jones”. A do, rwyf wedi clywed “mae x wedi dweud” yn cael ei ddefnyddio.

Mewn gwlad sydd wedi methu cytuno’n derfynol ynglŷn ag orgraff ei hiaith ysgrifenedig ar ôl pymtheg can mlynedd efallai ei bod hi’n anorfod bod y darlledwyr yn dal i ymgecru ar ôl cwta dri chwarter canrif!

Mae ‘na beryglon wrth symleiddio’r iaith ond ar y llaw arall mae Cymraeg sydd yn orffurfiol ac yn bedantig yn gallu bod yn hyll ac yn ofnnadwy o anodd ei deall.
Roeddwn yn meddwl am hyn wrth wrando ar araith Leighton Andrews yn y ddadl ynghylch safonau iaith ddoe. Roedd hi’n llawn o jargon y gwasanaeth sifil gyda’i geiriau aml sillafog, anghyffredin. Roedden nhw i gyd yna – anghymesuredd, anstatudol, tryloywder a’r gweddill ohonyn nhw.

Mae’r eirfa fiwrocrataidd hon yma’n hyll a chan amlaf yn ddiangen yn Saesneg. Mae ei chyfieithu’n slafaidd i’r Gymraeg ac yna disgwyl i Weinidog sy’n dysgu’r iaith ei defnyddio yn wirion bost.

<!–Get Adobe Flash player
<!–

Parhau i ddarllen