Archif Dyddiol: 7 Mawrth 2013

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 10 Mawrth 2013

Darlleniad y Dydd: Lefiticus 26: 9-13 (BCND tud.117 / BCN: tud.107)

Croeso cynnes iawn i bawb ohonoch i addoli, a gobeithio’n wir fod y mamau yn eich plith yn cael sylw arbennig heddiw! Mae’n rhyfedd beth sy’n mynd trwy feddwl rhywun wrth brynu nwyddau newydd: gobeithio y bydd hwn yn gweithio fel y mae’r hysbyseb . . . → Read More: Dydd Sul, 10 Mawrth 2013

Parhau i ddarllen

Gêmau Clwb Gwyddbwyll.com: Gwyddbwyll.com v Aberystwyth B

Yn dilyn perfformiad da yn erbyn Aberystwyth B ym mis Tachwedd 2012 roedd colli y tro hwn yn ganlyniad siomedig iawn i Gwyddbwyll.com. Dychwelodd Iwan Griffiths i chwarae ar Fwrdd 1 ac roedd ei Amddiffyniad Ffrengig mor gadarn ag arfer. … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

shitclic: Dewi a’i Farn

Fel rheol, mae blwyddyn newydd yn amser i edrych ymlaen yn obeithiol at y deuddeg mis nesaf. Llechen lân, tomen o addunedau ystrydebol, a hei lwc am iechyd a hapusrwydd (a chyfri’ banc gweddol) am sbelan go lew eto. Bechod na ddywedodd rhywun hynny wrth gysurwrs Job Wales in a Year. Dechreuodd cyfres newydd chwe rhan BBC1 ar nodyn digon anobeithiol, ar ôl cyflwyno’r wyth teulu agorodd eu drysau i’r camerâu teledu gydol 2012 – gan gwestiynu dyfodol ffermwyr, pysgotwyr a pherchnogion busnesau bach y genedl. Ac am genedl amrywiol a diddorol hefyd, o’r miliwnydd o dras Iranaidd sy’n ceisio codi safon bwytai a bariau Heol Eglwys Fair, prif stryd slochian y brifddinas, i berchennog ffatri nicyrs olaf Cymru sy’n cyflenwi rhai o enwau mwya’r byd ffasiwn. Saeson y Bala a thenantiaid fferm fynydd uwchlaw Dolgellau sy’n cynrychioli’r Gogs, ac mae’n chwithig tu hwnt clywed Edwardsiaid Tŷ Cerrig yn siarad Saesneg ar y sgrin. Iawn gwneud hynny’n uniongyrchol â’r camera, ond pam ddim gadael iddyn nhw sgwrsio’n naturiol braf yn eu mamiaith rownd bwrdd bwyd neu wrth gyfarch y wyres fach, gydag isdeitlau ar y sgrîn i’r gwylwyr uniaith rhonc? A rhyfedd nad oes lle yn y blwyddiadur i deulu o’r Gogledd-ddwyrain.

 

Mae yna fwy o lais i bobl y Clawdd ar S4C beth bynnag, mewn cyfresi fel Llefydd Sanctaidd, gydag Ifor ap Glyn yn teithio ac yn tyrchu i’r hanes a chwedloniaeth tu ôl i rai o henebion gwledydd Prydain. Rydym eisoes wedi’i weld yn ymdrochi yn nyfroedd oer iachusol Ffynnon Gwenffrewi ac yn crwydro Abaty Glyn y Groes ger Llangollen – llefydd dieithr iawn i mi, mwya’r cywilydd. Diolch i gyfuniad o straeon difyr a’r naws arallfydol arbennig a grëwyd gan waith camera Rhys Edwards ac Angus Johnstone, mae’n ffordd hamddenol braf o dreulio nosweithiau Sul.

 

Mae Pawb a’i Farn yn ymwelydd cyson â’r Gogledd-ddwyrain hefyd, fel rhifyn nos Iau diwethaf o Dreffynnon dan arweiniad tebol Dewi Llwyd. Y dyn ei hun oedd testun rhaglen deyrnged arbennig gan BBC Cymru i un o’i gweision ffyddlonaf (a wrthododd sawl cynnig i weithio yn Llundain gyda llaw) sy’n ffeirio’r stiwdio deledu 200 milltir i ffwrdd yng Nghaerdydd am gwt radio’r Post Prynhawn 200 llath o’i gartref ym Mangor. Roedd cyfweliad Bethan Rhys Roberts a chlipiau newyddion mawr Degawdau Dewi Llwyd yn werth chweil. Bu’n llygad dyst i rai o ddigwyddiadau mawr y tri degawd diwethaf, gan holi’r Dalai Lama, meddwi ar optimistiaeth Mandela yn y Dde Affrica newydd, a darbwyllo Miss World o Wlad yr Iâ i ddweud “noswaith dda” wrth wylwyr S4C adeg uwchgynhadledd Reagan-Gorbachev yn Reykjavik 1986. Cyfaddefodd mai nosweithiau etholiadol ydi uchafbwynt ei yrfa, ac mae ganddo bedigri go dda yn y maes rhwng saith Etholiad Cyffredinol, pedwar Etholiad Cynulliad a dau Refferendwm. Roedd yn ddigon o foi i gyfaddef fod darllediad etholiadol cyntaf S4C ym 1983 yn “llanast trychinebus”, rhwng cyhoeddi canlyniadau anghywir a’r set bwrdd du, a’r gohebydd gwleidyddol Roderick Richards yn brathu’i dafod wrth i’r map cardbord o Gymru weindio fel malwen ar y sgrîn. Bron na allech ni glywed y stiwdio gyfan yn dal eu gwynt. Chwarae teg i’r Bonwr Llwyd am fynnu rhaglenni o’r safon uchaf mewn Cymraeg cywir bob amser, a phob clod iddo am wffio ceisiadau diweddar o’r top i “symleiddio” neu lurgunio’r iaith. Faint o weision eraill y Bîb sy’n ddigon dewr a chadarn i wneud hynny heddiw?

Parhau i ddarllen

shitclic: Gwlad jocs a chantorion

 
Mae’n fis Ionawr diflas, y bil treth swmpus yn ddyledus cyn diwedd y mis, ac anghydfod cerddorion Cymraeg v BBC Llundain yn gyfle perffaith i elynion yr iaith fwrw’u llid yn y wasg a’r cyfryngau Seisnig, fel rhaglen ffonio-a-ffraeo Jeremy Vine ar Radio 2. Diolch i’r drefn am wên gynnes yr actores Sidse Babet Knudsen i lonni’r galon bob nos Sadwrn ar BBC Four. Ydy, mae ail gyfres o’r ddrama orwych Borgen am brif weinidog Denmarc sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng ei llywodraeth glymblaid a’i haelwyd fregus, yn ôl. Un arall sy’n codi’r ysbryd ydi S4C, sy’n ein difetha’n rhacs gyda danteithion newydd ar hyn o bryd. Daeth Dim Byd yn ôl gyda chwarter awr o sgetshis-seren-wib wedi’u seilio sianeli lloeren Cymraeg dychmygol. O’r maes adloniant (Pantomeim Ffermwyr Hiliol) i’r celfyddydau (Gwneud Pethe; Dim Barn; Colli Pethe) a henebion (Creiriau’r Cymry; Taclau Taid; Pres Datyn), mae ’na gomedi geiriol hollol unigryw Gymraeg yma, ac roedd y sianel ddrama (Terry Huws PI; Oh! no J.O) yn cynnwys hen glipiau swreal o’r actor JO Roberts ifanc yn pledu bwledi fel petai Quentin Tarantino wedi cyfarwyddo drama antur ym Menllech. Rhaglenni i’w gwylio drosodd a throsodd yw’r rhain, felly da chi recordiwch nhw i ddotio a chwerthin ar berlau geiriol a golygfeydd gwirion bost fel cymeriad mewn lycra pinc yn gwibio ar draws Maes Caernarfon.

 

Ar ôl mwynhau hiwmor sardonig Sam ar y Sgrîn (“Es-Ffôr-See it again and again and again” mewn ymateb i gŵyn am ailddarllediadau’r Dolig) nos Wener, tro comedïwyr Gig-l oedd hi i ddiddanu’r genedl. Daeth cyfres boblogaidd Live at the Apollo y BBC i’r cof, ond gyda chwarter – os hynny hefyd – o gynulleidfa yn sinema Crosshands. O leiaf roedden nhw’n g’lana chwerthin, rhai mewn cymaint o sterics nes ’mod i’n poeni am eu hiechyd nhw. I fod yn deg, roedd hon yn well na’r disgwyl, yn enwedig perfformiad bywiog Steffan Alun wrth iddo refru am bla o nwyddau Jac yr Undeb yn y siopau’r llynedd. Gwahoddwyd aelod dewr neu feddw o’r gynulleidfa i fachu’r meic hefyd, fel Alun Saunders a dynnodd blewyn o drwyn perchnogion siopau digywilydd a Chymry Cymraeg SWNLLYD Pontcanna. Ar ôl hanner awr o wynebau newydd, hen lawiau clybiau Llundain sy’n perfformio’n Gymraeg am y tro cyntaf ers cantoedd, mae’n hawdd deall brwdfrydedd y cyflwynydd Frank Honeybone am fywiogrwydd y sin yng Nghymru ar hyn o bryd. A chladdu hunllefau Jocars a Da ’di Dil ’de am byth.

 

Ar ôl rhefru yng ngholofn olaf 2012 am ddiffyg rhaglenni cerddoriaeth roc a phop Cymraeg, dyma’r Sianel yn cyflwyno Calennig yn Y Stiwdio Gefn bob nos Fawrth. Anghofiwch am y ffaith eu bod nhw’n rhannu stiwdio Heno nos Wener (Tinopolis ydi’r cynhyrchwyr wedi’r cwbl) a’r gymhariaeth amlwg â sioe Jools Holland, mae’n gyfres syml ddiffwdan sy’n canolbwyntio ar y gân a sgwrs sydyn rhwng y dihafal Lisa Gwilym a’r cantorion ar dri llwyfan.

Parhau i ddarllen

elinbach: Cregyn

fel y moroedd: lle newydd

Pan oeddwn i’n gyrru ar stryd dw i ddim yn mynd arno fo’n aml, gwelais i faner Israel mewn adeilad drwy ffenestr fawr. Doedd gen i ddim amser i fynd yn ôl nes ddoe i weld sut le ydy o – cymdeithas Iddewon? Dosbarth Krav Maga ydy o! Doeddwn i ddim yn gwybod bod yna un yn y dref fach hon. Roedd fy merch hynaf yn mynychu Krav Maga yn Norman am sbel, ond fe wnaeth roi’r gorau iddo gan fod o’n rhy ddwys.  Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Y Gist Amser : Rhys Mwyn

Rhys Mwyn sydd yn dewis tri gwrthrych i’w diogelu at y dyfodol wrth iddo lenwi ‘Cist Amser’ Pethe. Gellir darganfod mwy o glipiau fideo ar Sianel Youtube Pethe.   Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Y Gist Amser : Rhys Mwyn

Rhys Mwyn sydd yn dewis tri gwrthrych i’w diogelu at y dyfodol wrth iddo lenwi ‘Cist Amser’ Pethe. Gellir darganfod mwy o glipiau fideo ar Sianel Youtube Pethe.   Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Pigion

Arolwg a wnaed ar draws Ewrop yn awgrymu’n gryf na ddylid bwyta mwy nac ychydig iawn o ham, selsig ac yn y blaen, rhag ofn marw’n gynnar o broblemau’r galon. Mae Sbaenwyr, yn Asturias a phobman arall, yn bwyta jamón, chorizo ac embutidos bryd ar ô pryd.  Ond y diwrnod o’r blaen roedd arolwg mawr [...] Parhau i ddarllen

www.participationcymru.org.uk: Rhannu gwybodaeth ac adborth – ein Rhwydweithiau Cyfranogaeth Chwefror / Mawrth

Sesiynau ymarferol yw ein Rhwydweithiau Cyfranogaeth sy’n cael eu cynnal i helpu mudiadau gwasanaethau cyhoeddus i edrych ar faterion; defnyddio dulliau gwahanol i ymgysylltu; i rannu arfer da; ac i rwydweithio. Maen nhw’n cael eu cynnal yng Ngogledd, De Ddwyrain … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Arddangosfa Roy Lichtenstein

Yn ddiweddar, ymwelodd Lisa Gwilym ag arddangosfa Roy Lichtenstein yn Tate Modern, Llundain. Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal o Chwefror 21 – Mai 27 2013. Mae Roy Lichenstein … Parhau i ddarllen

Pethe | Pethe: Arddangosfa Roy Lichtenstein

Yn ddiweddar, ymwelodd Lisa Gwilym ag arddangosfa Roy Lichtenstein yn Tate Modern, Llundain. Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal o Chwefror 21 – Mai 27 2013. Mae Roy Lichenstein … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cyfrol Goffa

Ar y cyfan dydw i ddim yn ffan o ddyddiau neu wythnosau arbennig. Rwy’n deall yn iawn pam y mae elusennau a chyrff eraill yn eu clustnodi. Mae’n ffordd hawdd o ddenu sylw a ffocysu gweithgarwch ond erbyn hyn mae ‘na gymaint ohonyn nhw nes eu bod mewn peryg o droi’n ddiystyr. Wyddoch chi, er enghraifft, bod Mawrth 1af, yn ogystal â bod yn Ddydd Gwyl Dewi, yn “Ddiwrnod Rhyngwladol Hunan-Niwed” ac yn “Ddwirnod Cenedlaethol y Mochyn” yn yr Unol Daleithiau.

Mae ambell un o’r dyddiau hyn wedi ennill ei blwyf ac mae dau o’r rheiny’r wythnos hon sef Diwrnod Rhyngwladol y Merched a Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr. Y llyfrau sydd am fy nenu i heddiw!

Roeddwn i’n trafod pynciau ar gyfer rhaglen “O’r Bae” yfory a chafodd y cynhyrchydd, Glesni Jones, y syniad o ofyn i’r panelwyr pa lyfrau oedd wedi cael y dylanwad mwyaf arnyn nhw. Nid eu hoff lyfrau, sylwch, ond y rhai mwyaf dylanwadol. Syniad da. Gwnawn hynny.

A dyma fi’n gofyn y cwestiwn i mi fy hun a sylweddoli bod un o’r llyfrau cafodd y dylanwad mwyaf arnaf hefyd yn un rwy’n ei gasau!

Llyfr gan hanesydd o’r enw Arthur Mee oedd hwn. Yn ddigon rhyfedd roedd ‘na ddau hanesydd a’r enw yna yn ysgrifennu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd un yn medru’r Gymraeg ac yn arbenigo ar hanes Sir Gar. Roedd y llall yn awdur ar sawl llyfr a chyfnodolyn i blant oedd yn mawrygu Prydain a’i hymerodraeth.

Yr ail un oedd yn gyfrifol am yr “Arthur Mee Book of Heroes” – llyfr yr oeddwn yn pori trwyddo’n aml pan yn blentyn – yn bennaf oherwydd y platiau lliwgar a’r bennod olaf ynghylch arwyr oedd yn “ordinary folk”. Roedd y straeon yn y bennod honno yn afaelgar ac yn ysbrydoledig. Roeddent yn llawer mwy diddorol na’r straeon diflas a difflach ynghylch Wellington, Picton, Kitchener a’u tebyg.

Cafodd y llyfr ddylanwad arnaf am ddau reswm. Yn gyntaf fe daniodd diddordeb oes mewn hanes ynghyd ac ymwybyddiaeth bod ‘na fwy nac un fersiwn o’r gorffennol. Yn ail, perodd i mi gwestiynu a bod yn amheus ynghylch hierarchaeth a dosbarth. Mae hynny’n reddf ddefnyddiol i newyddiadurwr.

Ymhlith y gwesteion ar “O’r Bae” yfory mae’r hanesydd Elin Jones sydd wrthi’n arwain adolygiad o’r ffordd y mae hanes Cymru’n cael ei dysgu yn ei hysgolion. Mae’r adolygiad bron yn sicr o ddylanwadu ar ba ffordd y bydd cenedlaethau o blant yn gweld hanes eu gwlad a gellir dadlau bod y canfyddiad o hanes yn sylfaen i genedligrwydd.

Oherwydd bod y gwaith ar ei hanner ni fydd modd gofyn i Elin ynghylch yr adolygiad ond mae’n bosib y bydd ei dewis o lyfrau’n ddadlennol!

Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Dyled Eileen (Theatr Genedlaethol Cymru)

Katharine Hepburn a Spencer Tracy, Richard Burton ac Elizabeth Taylor, Humphrey Bogart a Lauren Bacall; tair rhamant fawr o’r Ugeinfed Ganrif a hudodd gynulleidfaoedd di-ri. Feddyliais i ddim, wrth deithio i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe, y profwn i ramant fawr i gystadlu ag … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Meddyliau: "Y Weithred", y canu, y siarad

Neithiwr fe ddaeth yna ddilyniant Gwyl Dewi Sant ym Mhoznań, ac mi gawson ni gyfle i wylio ffilm ddogfenaidd “Y Weithred”.

Dwi ddim yn sicr faint ohonoch chi sy’n gyfarwydd efo hi, felly mi wna i roi disgrifiad byr ohoni. Ffilm am Gapel Celyn a Thryweryn ydy hi, a gweithred tri dyn a oedd yn ceisio rhwystro llywodraeth rhag foddi’r Cwm; yn ofer.

Ar y cyfan doedd y ffilm ddim yn rhy ddrwg, ond i mi, doedd dim rhaid i’r cyfarwyddwr daflu cenedlaetholdeb Cymreig i’m hwyneb i. Dwi’n gwybod nad ydy’r geiriau hyn yn swnio’n gyfeillgar, efallai dwi wedi defnyddio rhai sy’n rhy gryf, ond mae fy nheimlad ynglyn a’r ffilm yn anodd i’w hoelio (er fy mod i’n gwybod bod rhywbeth anesmwyth ynddi). Efallai ychydig mwy o gydbwysedd? Gan fod y ffilm yn bwysig i ni i gyd, mae’n dangos bod wir angen gweithredu dros y wlad a’r iaith.

Ar ol i’r ffilm orffen dechreuon ni weithdy canu. Wnaethon ni ganu caneuon fel Cyfri’r Geifr, Sospan Fach, Calon Lan, Dacw ‘Nghariad, Carlo (Dafydd Iwan), Dansin Ber (Gwyneth Glyn), Geiban a Be nawni? (Y Bandana) a sawl can Pwyleg. Wedyn bach o siarad efo fy athrawon, a gorffenodd noson hon o hwyl a sbri. Parhau i ddarllen

agssc: Culverhouse Cross

Last week, a few of us from the technical arm of the Archive went on a visit of the ITV Cymru Wales headquarters at Culverhouse Cross, Cardiff. Their film and video archive is now housed with us at Aberystwyth since the end of last year and that is where we transfer footage requests for broadcast. […] Parhau i ddarllen