Cyfansoddiadau Newydd

Mae gwladwriaethau yn amddiffyn buddiannau eu hunain waeth beth yr ideoleg. O ryfel gartref Sbaen i Lywodraeth Prydain a’r UDA yn cefnogi gwrth-ryfelwyr Al-Qaeda yn Syria, mae enghreifftiau lu. Gwelir yr un patrymau wrth i Lywodraeth San Steffan dderbyn Burma yn ôl i’r ‘teulu’ rhyngwladol er mwyn dygymod â bygythiad Tsiena. Gan fod yr Alban a Catalonia ar fin ennill eu hannibyniaeth, neu quasi-annibyniaeth, mae’n rhaid i Gymru ddechrau ystyried sut i ddatrys y cwestiwn oesol hwn: oes modd creu gwladwriaeth anhunanol? Hynny yw, allwn ni greu math gwahanol o wladwriaeth a fydd yn rhydd o’r tueddiadau rhyfelgar, llygredig a hunanol y gwelwn ni o gwmpas y byd? Llwyddodd cyfansoddiad Gorllewin yr Almaen blannu hedyn heddychol yn ddwfn yn nghronbil y genedl. Ac mae ymynysiaeth (isolationism) Iwerddon gyda llawer i’w gynnig. Ac, yn swynhwyrol oll, mae Albanwyr wedi dechrau ystyried y cwestiwn hwn yn barod, ond mewn ffordd lled-ragweladwy sosial-ddemocrataidd. Mae’n rhaid i ni, y Cymry, ddechrau llwyio’r sgwrs ein hunain. Heb os, gall gwlad meddylwyr fel Hywel Dda, Robert Owen, Noelle Davies a Henry Richard ddyfeisio dogfen gyfansoddiadol a allai, ie, fod yn fanteisiol i ni, ond hefyd yn oleuni i’r byd. Ar hyn o bryd, nid oes amheuaeth bod gyda ni egin wladwriaeth yma yng Nghymru sydd cynddrwg â phob un arall, os nad yn waeth. O dynnu pwerau oddi wrth gynghorau etholedig o lefydd megis Ynys Môn a Blaenau Gwent i fynnu bolisiau o’r canol ym Mae Caerdydd, nid ydym yn dangos ffydd yn y ddemocratiaeth a ddylai fod yn ganolog i strwythurau ein gwlad. Mae gennym gomisiwn sydd yn ystyried strwythur awdurdodau lleol gyda chylch gwaith lle na welir dim sôn am y gair ‘democratiaeth’. Mae’r un gwleidyddion sydd yn cwyno am y canran isel sy’n pleidleisio mewn etholiadau ar yr un llaw yn rhoi dim rheswm i drigolion bleidleisio ar y llaw arall. Wedi’r cyfan, pam pleidleisio os nad oes grym gan y rhai yr ydych yn eu hethol? Ac eto, pan mae San Steffan yn bygwth gwneud yr un peth, gyda David Jones yn hanner awgrymu man newidiadau mewn Deddf, mae’r gwleidyddion yn y Bae yn sgrechian. Gydag ymddygiad hunanol fel hyn, sut allwn ni ddisgwyl polisi tramor neu amddiffyn well o’r doethion yn ein Senedd ac ym Mharc Cathays? Byddai rhai yn dadlau mai gwahanu pwerau’n glir rhwng y ddeddfwrfa, y farnwriaeth a’r weithrediaeth yw’r ateb. Ond dyw hynny ddim wedi newid natur hunanol gwladwriaethau pan y daw hi i bolisiau tramor, nag ychwaith wedi sicrhau cyfiawnder cymdeithasol domestig. Gellid dadlau bod annibyniaeth i wledydd bychain yn ateb ynddo eu hunain, gan iddo dynnu pwerau oddi wrth wladwriaeth lygredig a’u rhoi i wladwriaethau diniwed newydd. Ond ffolineb llwyr fyddai credu bod hynny’n ateb digonol. Yn wir, nid oes angen edrych yn bellach na’r ffordd mae’r addewid datganoli 1997 wedi ei dorri’n wracs yng Nghymru, wrth i’r polisiau iaith ac amgylcheddol gael eu tanseilio a’u gwanhau dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, ac er gwaethaf y camgymeriadau mawr diweddar, gallai cyfansoddiad Cymru osod egwyddorion gwyrdd, anhunanol, heddychol, sosialaidd ac amlddwyllianol yn y canol, a, thrwy hynny, arwain y byd. Mae’n hen bryd i ni ddechrau y drafodaeth.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.