Cofio a phendroni

Yr oedd gwylio’r ffilm “Pride” yn destun balchder a mwy i mi nos Iau ddiwethaf. Yr oeddwn yn mynychu ymddangosiad codi arian tuag at ymgyrchoedd hawliau hoyw Victoria mewn sinema ym maestref Carlton, hen gynefin y cyn brif-weinidog ceidwadol Syr Robert Menzies pan yr oedd pêl-droed Awstraliadd ar ei feddwl yn hytrach na’r hen wlad annwyl a’i brenhines. Go brin y byddai “Ming” wedi gweld llawer i fwynhau yn y ffilm. Glowyr ar streic, undebau, hoywon a … disco ! Roedd Cwm Dulais yn rhan o’m “patch” newyddiadurol pryd hynny wrth i mi weithio gyda Sain Abertawe a’r BBC. Yr wyf yn cofio ambell i stori yn y papurau cyffredinol a’r cychgronau hoyw’n adrodd yr hanes arbennig hwn. Ond ar y cyfan fe’i gadwyd o’r golwg hyd nes i’r benawd “Pits and Perverts” ymddangos. 30 mlynedd yn ddiweddarach yr wyf yn dal i deimlo’n lletchwith amdano – yr hanes hynny yw. Ar y pryd pan yr oeddwn yn hel straeon am y streic yn ddyddiol tra yr oeddwn yn byw bywyd “hanner a hanner” fel dyn hoyw. Hanner mewn, hanner mas. Yr oeddwn yn newyddiadura am y streic ac yn gwneud ymgais i fod yn “deg”, sef rhoi sylw i’r ddwy ochr. Ond yn hynny o beth, yr oeddwn yn gwneud union yr un fath ag ‘roeddwn yn gwneud gyda’m rhywioldeb. Hanner mewn, hanner mas. Yn fy nghalon yr oeddwn gyda’r glowyr a’u cymuedau 100%. Nid oedd dewis arall i mi fel ŵyr, nai a chefnder i weithwyr maes glo Swydd Amwythig ac fel rhywun oedd yn gweld parhâd cymundedau glofaöl Cymreig a Chymraeg yn holl bwysig. Wrth edrych yn ôl yn sgîl gweld y ffilm “Pride” yr wyf yn teimlo’n anesmwyth braidd er fy mod i wedi’i mwynhau’n arw. Anesmwyrh am gadw fy mhen i lawr yn yr wythdegau a “gwenud y job” tra yr oedd eraill yn sefyll gyda’r glowyr a’u teuluoedd. Peidiwch â’m cam-ddeall, nid gwisgio sachllian a lludw ydwyf. Yn syml, syweddoli’r ydwyf y gallai’r gair “proffesiynol” wneud môr a mynydd o niwed personol. Ond, a oes ‘na blogpost heb y gair hwnnw dwedwch ?, ond gwell sylweddoli eich camau gweigion hwyr na hwyrach na dal i grwydro ar hyd llwybrau cul a saff. Roedd gweld “Pride” milltiroedd lawer o Gwm Dulais a lleoliad fy hen newyddiaduriaeth yn dechreu’r broses i mi. Ac wedyn, gwnaeth ymddangosiad Siân James ar y rhaglan “O’r Bae” gynnig mwy o sylwedd i mi gnoi cil amdano. Fel wnes i awgrymu yn y blogpost am farwolaeth Gough Whitlam, mae’r weithred o “gofio” yn cynnig mwy nag edrych yn ôl. Braf yw cofio, braf yw rhoi pethe yn eu cyd-destun, braf yw defnyddio hanes (personol A chymunedol) i wella’r bresennol a’r dyfodol. Mae “Pride” yn wir destun balchder i bobl Onllwyn ac i’r hoywon a lesbiaid a safodd drostynt. Ac yn destun dysgu hefyd.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Heb Gategori. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.