Archif Misol: Mawrth 2017

fel y moroedd: gwanwyn

Mae’n anhygoel o braf fy mod i’n medru mynd am dro yn y gwanwyn! Roeddwn i’n arfer gorfod aros tu mewn cymaint â phosib oherwydd fy alergedd. Mae’r tymor yn para am dri mis o leiaf, ac felly roeddwn i’n methu mwynhau’r blodau a gwyrddlesni’r dail ers blynyddoedd. Eleni, fodd bynnag, roeddwn i’n sylwi nad oeddwn i’n tisian ar ôl cerdded tu allan. Effaith y driniaeth geiropracteg rhaid bod! Wedi cael damwain flwyddyn yn ôl, dw i’n mynd at y doctor yn gyson hyd yma er fy nghefn wedi gwella. Dw i’n teimlo’n braf cael triniaeth beth bynnag. Doeddwn i ddim yn disgwyl yr effaith ar fy alergedd. Syndod pleserus annisgwyl! Parhau i ddarllen

helo gan helen: amser i siarad

Mae bywyd yn gymhleth ac ansicr, ac weithiau rydym yn wynebu heriau sy’n cael effaith ddofn arnom ni. Pethau fel straen, afiechyd, profedigaeth, diffyg hunan-barch. Mae’r byd yn cau amdanom ac rydym yn teimlo ofn – gwaethaf oll – ar ein pen ein hunain. Gall cael rhywun i siarad â nhw wneud gwahaniaeth mawr. Felly […] Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Pwy sy’n nawddoglyd?

Mae pawb sy’n cefnogi Donald Trump yn hiliol. Pawb, yn ddi-eithriad.

Mae’r datganiad uchod yn aml yn ennyn ymateb chwyrn, a hynny gan lawer o ryddfrydwyr yn ogystal â chefnogwyr y ffasgydd oren twp. Efallai mai’r mwyaf cyffredin yw gofyn yn rhethregol ‘felly mae bron hanner poblogaeth America’n hiliol?’ fel petai’r cwestiwn ei hun yn abswrd a bod ateb y gadarnhaol yn golygu colli hygrededd yn anorfod. Ond ‘ydyn’ yw’r ateb yr un fath. Nid yw’r ffaith bod canran sylweddol o’r boblogaeth yn arddel daliadau hiliol yn gwneud y daliadau hynny’n llai hiliol.

Rwy’n credu bod llawer hefyd yn camddeall y cyhuddiad. Nid yw dweud bod rhywun yn hiliol o reidrwydd yn golygu eu bod yn casáu pawb â chroen tywyll. Mae hiliaeth yn ffenomen gynilach na hynny (er mae’n llai cynnil bellach nag yr oedd flwyddyn yn ôl, gan fod buddugoliaeth Trump wedi rhoi ‘caniatâd’ i bobl arddel eu hiliaeth yn fwy agored yn hytrach na chadw’n dawel).

Fel rheol, mynnir mai dadrithiad economaidd oedd yn bennaf gyfrifol am ganlyniad yr etholiad. Nid yw hynny’n hollol anghywir, o reidrwydd; fe chwaraeodd ran, yn enwedig mewn taleithiau ôl-ddiwydiannol fel Michigan ac Ohio. Ond mae’n anghyflawn, a hefyd yn gamarweiniol o gofio bod cefnogwyr Trump, ar gyfartaledd, yn gyfoethocach na rhai Clinton. Y gwir plaen yw bod arolygon academaidd wedi dangos dro ar ôl tro mai’r hyn sy’n esbonio’r canlyniad orau yw ‘pryderon’ ynghylch amrywiaeth ethnig. Os oes un peth sy’n rhagweld cefnogaeth unigolyn tuag at Trump, yna’u safbwyntiau am hil yw hwnnw. Mae’r patrwm yn hollol glir.

Nid yw’r syniad bod cyni economaidd yn troi pobl yn hiliol yn dal dŵr beth bynnag. Fe all wneud y rhagfarn sydd eisoes yn llechu ynddynt yn fwy amrwd, am wn i, ond mae hynny’n amlwg yn golygu bod yr hiliaeth yn bodoli’n dawel yn barod. Yn ogystal, roedd ymgyrch Trump ei hun mor amrwd hiliol, mae’n berffaith synhwyrol dweud bod pawb oedd yn fodlon anwybyddu hynny’n hiliol hefyd, hyd yn oed os oedd ganddynt flaenoriaethau eraill.

Cwyn cyffredin yw bod galw cefnogwyr Trump i gyd yn hiliol yn nawddoglyd. Mae’n anodd gwadu hynny mewn gwirionedd. Mae hiliaeth yn dwp, felly mae’n dilyn bod galw pobl yn hiliol gyfystyr â’u galw’n dwp. Ni wadaf chwaith fy mod yn llawn dirmyg tuag at gefnogwyr Trump i gyd, er fy mod ar yr un pryd yn cydymdeimlo i raddau helaeth â syniadau Chris Arnade ynghylch y ‘rhes flaen’ a’r ‘rhes gefn’. Mae Arnade yn dadlau’n gryf yn erbyn datganiadau fel yr un sy’n agor y blogiad hwn. Ond onid yw dadansoddi ymddygiad cefnogwyr Trump mewn termau anthropolegol a sosio-economaidd hefyd yn nawddoglyd, os nad hyd yn oed yn fwy felly? Fel petaem ni bobl addysgiedig yn deall y trueiniaid hyn yn well na hwy eu hunain. Rwy’n credu ei bod yn amhosibl osgoi bod yn nawddoglyd y naill ffordd na’r llall fan hyn. Weithiau mae’r gwir ei hun yn nawddoglyd.

Cwyn arall yw bod galw cefnogwyr Trump yn hiliol yn annhebygol iawn o’u darbwyllo i droi’u cefnau arno a throi’n rhyddfrydwyr da. Mae’n siwr bod hynny’n gywir (er yn achos y rhan fwyaf ohonynt, rhaid gofyn a oes unrhyw beth all newid eu meddyliau?). Eto i gyd, erys y ffaith eu bod yn hiliol, ac mae anwybyddu hynny’n beryglus. Yr hiliaeth ei hun yw’r broblem. Mae mynd i’r afael â dirywiad sosio-economaidd yn orchwyl hanfodol ynddi’i hun, ond mater ar wahan yw hwnnw (a Trump yw’r person gwaethaf un i ddatrys y broblem honno beth bynnag).

Os mai’r nod yw newid meddyliau cefnogwyr Trump, mae angen osgoi eu galw’n hilgwn er mai dyna ydynt mewn gwirionedd (fel y dysgodd Clinton wedi helynt y ‘basket of deplorables‘). Y broblem felly yw bod dweud y gwir weithiau’n strategaeth annoeth. Nid yw hynny’n sefyllfa anghyffredin. Er enghraifft, wrth drafod â chreadyddion, mae nifer o anffyddwyr yn awgrymu nad oes rhaid ymwrthod â Duw er mwyn credu mewn esblygiad. Mae rhai o’r anffyddwyr yn credu hynny’n ddidwyll, ond diau mai strategaeth sydd ar feddwl y rhan fwyaf. Mae’n hynod annhebygol bod ffwndamentalwyr Cristnogol yn mynd i droi’n anffyddwyr mewn chwinciad, felly mae’n gwneud synnwyr i geisio’u darbwyllo bod modd iddynt ddal eu gafael ar syniad creiddiol bodolaeth Duw tra’n derbyn ffeithiau syml eraill am y byd. Ond y gwir yw nad yw esblygiad theistaidd yn gwneud y mymryn lleiaf o synnwyr mewn gwirionedd, ac mae rhaid dewis: Duw ynteu esblygiad. Rwy’n cael trafferth cyfaddawdu â’r gwirionedd am resymau strategol, a hynny’n rhannol oherwydd ei fod yn…nawddoglyd. Dyna reswm arall, am wn i, na allwn i fod yn wleidydd. Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 2 Ebrill 2017

Darlleniad y Dydd: Sechareia 9:9-10 (BCND:tud.863 / BCN: tud.787)

Croeso cynnes i bawb i’n hoedfaon heddiw. Wrth i ni nesáu at y Pasg, gweddïwn am gymorth yr Ysbryd Glân i sylweddoli mor wych ydyw’r Arglwydd sy’n achub, ac mor hyfryd o bendant yw’r gair “gorffennwyd” a ddaeth o enau Iesu cyn iddo farw ar y . . . → Read More: Dydd Sul, 2 Ebrill 2017

Parhau i ddarllen

fel y moroedd: anymarferol

Bwriad nobl, ond na fydd yn gweithio oherwydd y natur sylfaenol ddynol . Dw i’n sôn am waharddiad ar arfau niwclear a gynigwyd gan y Pab Francis at y Cenhedloedd Unedig. Mae’n debyg i waharddiad ar gynnau; dim ond y bobl sydd yn parchu’r gyfraith a fydd yn ufudd i’r gwaharddiad, ac felly dim ond y drygionus a fydd yn berchen ar yr arfau wrth adael y bobl dda heb fodd i amddiffyn eu hun. Diolch i Nikki Haley a lefarodd yn erbyn y syniad ar unwaith. Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gwasg mewn Gwasgfa (2)

Dyma unwaith eto ddogfen a gyhoeddais ar y blog hwn, Gorffennaf 2013, ar ôl ei hanfon at ‘Grŵp Gorchwyl a Gorffen’ a sefydlwyd gan lywodraeth Cymru ar y pryd. Credaf fod rhai o’r sylwadau yn dal yn berthnasol yn wyneb y drafodaeth heddiw ar ddyfodol Y CYMRO. *          * Bûm yn […] Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: Pete Davis: Observations, Collections, Recollections. A Lifetime in Photography

At the moment the Gregynog Gallery is host to a major retrospective exhibition of Welsh photographer Pete Davis. In the exhibition there are photographs spanning […] Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: 26ain Mawrth 2017

Sul y MamauDyma’n blodau haul yn barod fel anrhegion.Cawsom hefyd stori gan Sian – hanes Iesu Grist yn gwella’r dyn dall. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: 19fed Mawrth 2017

Bedydd ac Oedfa Ysgol Sul. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: 12fed Mawrth 2017

Cyfle heddiw i edrych ar boster or Pilipinas ddefnyddiwyd yng Ngwasanaeth Gweddi Byd-eang y Chwiorydd.  Mae’n dangos y gwrthgyferbyniadau sydd yn y wlad.  Tlawd a chyfoethog, llygredd ac ardaloedd hardd. Prinder bwyd a bwyd iach.  Cafwyd… Parhau i ddarllen

atgof.co: Melinau ar Heno

anturypaleone: BWYD

Ar ôl darllen llyfr gwych Lara Catrin, Llyfr Bach Paris, on ni’n meddwl bydde ni’n dwyn ‘chydig o’i syniad hi a sôn am y caffis/bwytai fi’n hoffi o amgylch Munich. Nawr FULL DISCLOSURE dyw’r rhan fwyaf o rhein ddim yn fwytai Almeinig achos wel mwy ‘na dim dyw’i bwyd nhw ddim mor ddiddorol a hynny, … More BWYD Parhau i ddarllen

fel y moroedd: sodlau i gigio

Mae pawb wrth ei fodd efo hi – pawb, sef y rhai sydd yn caru Israel. Mynegodd Nikki Haley ei chefnogaeth gadarn i Israel unwaith eto o flaen cynulleidfa AIPAC. Nid dim ond yn y gair; atal gwnaeth hi hyd yma dau ymosodiad yn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Israel. Dwedodd hyd yn oed ei bod hi’n gwisgo sodlau er mwyn cicio unrhyw un fydd yn bwlio Israel! (symbolaeth, neu pwy a ŵyr?) Wrth gwrs ei bod hi’n medru bod yn ddewr felly oherwydd yr Arlywydd Trump. Mae hi’n adlewyrchu ei bolisi. Gwych ydy hi beth bynnag. Parhau i ddarllen

fideo wyth: Ymestyn yr Hwyl

gan Elidir Jones Ymddiheuriadau, i ddechrau, bod ‘na ddim podlediad ar ddiwedd y mis, fel arfer. Mae’n eithriadol o brysur yn f8 HQ wrth i ni orffen paratoi llwyth o fideos ar gyfer gwasanaeth ar-lein newydd S4C, ar ben trio crafu bywoliaeth o ddydd i ddydd. O, ac mae Daf wedi bod yn adeiladu llochesi i’r…

Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: “Yfory” cawn gwtsho UKIP?

Mae celfyddyd yn wleidyddol. Dyma atgofiad cras galeri “LD50” Llundain, a gaewyd i lawr gan brotestwyr yn ddiweddar. Roedd gan gelfyddyd warthus yr LD50 neges a symboliaeth ffasgaidd amlwg, gan wahodd siaradwyr yr “Alt-Right” i’w dangosfeydd parchus. Ond beth am gelf gwrth-ffasgaidd, gelf radical felly? Oes bosib creu celfyddyd radical a Chymreig heddiw? Ys wetodd […] Parhau i ddarllen

Bach o bopeth BR: Penwythnosau gyda’r merched ger CaernarfonKebab Bangor ar ôl gig…

Penwythnosau gyda’r merched ger Caernarfon

Kebab Bangor ar ôl gig Datblygu yn Pontio, clwb DB & Peep

Mynd am dro i lyn Ogwen

Dathlu penblwydd Ema rownd ‘dre’.

Parhau i ddarllen

Bach o bopeth BR: LEEDSBwyty HansaGaleri TeteleyTeils Neuadd y DrefBrics farchnad…

LEEDSBwyty HansaGaleri TeteleyTeils Neuadd y DrefBrics farchnad y dre Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: #LoveArt

Josef Herman was a local hero and the community was very proud of him. “I have always appreciated the work of Josef Herman. When I […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Beth sydd yna i’w ddweud?

BlogMenai.com: Newyddion drwg i’r Toriaid yng Nghonwy

Llai na phum mlynedd ar ol ennill is etholiad yn Neganwy ar ran y Toriaid mae’r Cynghorydd Julie Fallon wedi penderfynu sefyll fel cynghorydd annibynnol.  Mae yna stori y tu ol i ymadawiad o’r fath gan amlaf.  Byddai’n ddiddorol gwybod beth y… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: corea

Mae fy nwy ferch yn Corea ar eu gwyliau ers dyddiau. Roedd un o’r ddwy’n gweithio fel athrawes Saesneg yno am flwyddyn o’r blaen ac felly mae ganddi nifer o ffrindiau. Mae hi’n medru dangos y lle oedd hi’n arfer byw i’w chwaer tra bod nhw’n cael amser … Parhau i ddarllen

gwennanelin: http://www.nspk.org.uk/images/COST_Workshop_UNamur_Business__Lear…

http://www.nspk.org.uk/images/COST_Workshop_UNamur_Business__Learning_Center_March_2017_Programme.pdf Parhau i ddarllen

gwennanelin: Language policy issues in ‘new speaker’ contexts (workshop) Critical ethnographic perspectives

Language policy issues in ‘new speaker’ contexts (workshop) Critical ethnographic perspectives Parhau i ddarllen

gwennanelin: COMBI | Communication competences for migrants and disadvantaged background learners in bilingual work environments

COMBI | Communication competences for migrants and disadvantaged background learners in bilingual work environments Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: #WorldTheatreDay

Yesterday was World Theatre Day and provided an opportunity to reflect on Wales’ performance tradition.  Although the tradition may be still young in Wales in […] Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2017.

Mae’r llyfrau wedi eu dewis eto eleni a dyma nhw, efo disgrifiadau’r Cyngor Llyfrau/ y panel dewis: Teitlau’r rhestr fer Gymraeg: ABC Byd Natur  gan Luned Aaron (Gwasg Carreg Gwalch) Trwy gyfrwng y lluniau collage gwreiddiol o wahanol wrthrychau a delweddau o fyd natur, caiff y plentyn ifanc ei hudo i fynd ar daith natur […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Mae desgiau bwrdd gwyn Gartrefi Melin wedi hyrwyddo newid ymddygiad cadarnhaol, arbed arian ac adnoddau, a hefyd gwella’i arfer Diogelu Data! Isod mae Ena Lloyd yn blogio ar y stori y tu ôl i’w desgiau. Galwais heibio’n ddiweddar i weld Trisha Hoddinot yn Cartrefi Melin ar ôl i Mari Arthur o Cynnal Cymru sôn am […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Etholiadau’r cyngor – Powys

Show full headerMae’n siwr nad oes yna lawer o flogiadau – na dim arall – lle mae’r geiriau Plaid Cymru a Powys yn ymddangos ar yr un pryd.  Serch hynny mae’n fwy na phosibl y bydd etholiadau cyngor 2017 yn torri tir newydd o safbwynt y Blaid.Yn h… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: brwydr

Roeddwn i wedi gohirio’r gorchwyl hwn. Yn awr neu byth. Roedd y pridd yn feddal wedi glaw trwm; roedd hi’n oeraidd, efallai am y tro olaf yn y tymor. Penderfynais chwynnu gwely’r gellesg glas. Fel disgwyliwyd, roedd yn ofnadwy. Cafodd o ei feddiannu gan chwyn nerthol anghyfreithlon yn llwyr, ac roedd y trigolion cyfreithlon druan yn cael eu llethu gan yr ymwthwyr. Dyma ddechrau’r gwaith yn ffyrnig. Ar ôl hanner awr mae’r gwely blodau’n dwt, ac mae’r gellesg glas yn edrych yn hapus a diolchgar. Parhau i ddarllen

atgof.co: Malinau

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Doleri

Mae’r bunt yn werth tipyn llai ers i Mrs May gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf y bydd, ddydd Mercher, yn anfon llythyr at yr Undeb Ewropeaidd i gychwyn y drafodaeth ynghylch telerau gadael yr Undeb.  Chewch chi ddim cymaint o ddoleri’r America wrth gyfnewid eich punnoedd erbyn hyn.  Mae hynny’n golygu y bydd eich gwyliau nesaf yn […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y Ddamnedigaeth

Ydi, mae hi’n ddrwg. Dyn o’i go’ yn Arlywydd America. Dyn annymunol iawn yn Arlywydd Rwsia. Y lladdfeydd ofnadwy yn y Dwyrain Canol. Ffrainc, unwaith yn rhagor, yn fflyrtian ag eithafiaeth adain-dde. A dowch i Gymru. Argyfwng Y Cymro, sef ein hargyfgwng ni, y dosbarth proffesiynol Cymraeg, a’n hargyfwng fel Cymry’n gyffredinol. Sef bod llai […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Etholiadau cynghorau lleol – Caerdydd

Dwy sedd yn unig enillwyd gan y Blaid yn 2012 – colled o 5 sedd o gymharu a 2007 – er i’r bleidlais ar draws y ddinas ond disgyn y mymryn bach lleiaf.  Ers hynny mae is etholiadau a chynghorwyr yn croesi’r llawr wedi cynyddu’r grwp i 5.  Cynn… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: darlunio

Wedi treulio wythnos o wyliau yn cysgu’n ddigon ac yn ymlacio gartref , aeth fy merch ifancaf yn ôl i’r brifysgol yn Missouri heddiw i ail-ddechrau tymor prysur. Ar wahân i wneud y gwaith cartref, roedd hi wrthi’n darlunio golygfa oddi wrth y fersiwn ddiweddaraf the Beauty and the Beast. Rhaid i mi ddweud ei bod hi’n hynod o dda. Mae’r tŷ’n ddistaw iawn unwaith eto. Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dyma destun anerchiad i Gynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe ar 8 Mawrth 2017. Bum mlynedd ar hugain yn ôl des i i Brifysgol Abertawe, neu Goleg y Brifysgol Abertawe fel yr oedd hi ar y pryd, i fod yn gyfrifol am ei Llyfrgell – syndod mawr, […] Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Hoff Lyfrau Sonia Edwards

  Mae Sonia Edwards wedi cyhoeddi rhyw 30 llyfr i gyd, ar gyfer plant ac oedolion ac mi enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1996 am Glöynnod a’r Fedal Ryddiaith yn 1999 am Rhwng Noson Wen a Phlygain. Llwyddodd i sgwennu’r holl lyfrau tra roedd hi’n athrawes (Gymraeg) yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn.  A […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: llysgennad i israel

Cafodd David Friedman ei gadarnhau fel y llysgennad i Israel o’r diwedd er gwaethaf gwrthwynebiad ffyrnig gan y Democratiaid (ar wahân i Mr. Manchin annwyl) a’r rhyddfrydwyr gan gynnwys rhai Iddewon rhyddfrydol hyd yn oed. Dewiswyd gan yr Arlywydd Trump efo’i holl fendith, mae o’n ddyn perffaith i’r swydd bwysig hon. Mae o’n barod i gychwyn gweithio yn Jerwsalem, prif ddinas Israel. Pob bendith. Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: Protest Na i Ffair Arfau Caerdydd: Mawrth 28ain

Wythnos nesaf bydd ffair arfau “DPRTE” yn dychwelyd i’r Motorpoint Arena yng Nghaerdydd. Bydd diwrnod o brotest yn eu herbyn, rhwng 8 y bore a 5.30 y prynhawn, gan gwrdd tu allan i’w drysau. Cyfarfod o gwmnïau mawr a’r Ministry of Defence sydd yn cynhyrchu, gwerthu a defnyddio offer milwrol yw’r DPRTE. Mae’r dechnoleg hon […] Parhau i ddarllen

Golwg360: Pedwar Cymro i’w gwylio yn 2017

Alun Chivers yn gobeithio am dro ar fyd ym Morgannwg gyda dyfodiad y genhedlaeth nesaf o gricedwyr ifainc o Gymru Parhau i ddarllen

Golwg360: Argyfwng newyn – beth all Cymru’i wneud

Richard Powell, Cyfarwyddwr Diogelu Plant Byd-eang yr elusen Achub y Plant yn egluro sut y gall Cymru ymateb i argyfwng newyn Dwyrain Affrica, lle mae 16 miliwn o bobol ac 800,000 o blant dan 5 oed mewn peryg mawr. Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: CLASURON MIHANGEL MORGAN

Edrych yn ol ar rai o glasuron Mihangel Morgan, un o awduron mwyaf dyfeisgar a bywiog y Gymru gyfoes… Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Cymhorthfa Ann Jones AC

Bydd Ann Jones AC yn cynnal ei chymhorthfa nesaf yn Llyfrgell Prestatyn ar 31 Mawrth,  4.00 – 5.00 ac yn Llyfrgell Y Rhyl ar 1 Ebrill, 10.00 – 11.00. I drefnu apwyntiad, ffoniwch 01745 332813. Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 26 Mawrth 2017

Darlleniad y Dydd: Luc 9:51-56 (BCND:tud.76 / BCN: tud.69)

‘Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser. Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth….’ Dyma gyfarwyddyd y Salmydd i bobl Dduw yn Salm 105 ac mae’n anogaeth addas i ninnau hefyd ar gychwyn Sul arall. Wrth i ni foli’r Arglwydd heddiw gallwn ddod â’n beichiau, . . . → Read More: Dydd Sul, 26 Mawrth 2017

Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Why Labour and Plaid Cymru should support a Welsh independence movement

Wales faces ruin. Picture by Les Haines (CC BY 2.0)

In two or three years, we could be looking at a very different United Kingdom, if it exists at all.

Scotland could be an independent country and Ireland a united one. Corbyn will have led Labour to a cataclysmic defeat, reducing the party to an ineffectual rump of some 150 seats.

Wales will become an economic backwater as Brexit wipes out much of the manufacturing and agricultural industries. The economy will be even more centralised in the South East of England.

This is the bleak future that we face here in Wales. However, both Labour and Plaid Cymru, the small and capital ‘N’ nationalist parties in Wales, have been very slow to adapt to these changes.

If you look at the issues being debated in the Welsh Assembly, it’s as if nothing has changed at all.

Labour and Plaid Cymru’s paralysis is best understood when you realise that nationalism is ultimately driven by self-interest.

Labour’s rugby-nationalism

Labour supported the creation of the National Assembly because they knew that they would be running it. And the kind of nationalism it has nurtured while in office has been carefully calibrated to ensure that this remains the case.

Andy Burnham identified this nationalism while discussing devolution for Manchester last week:

“Compare what happened in Wales and Scotland. In the former, Carwyn Jones pioneered a distinctive, patriotic brand of ‘red-shirt Labour’ dressed in the national rugby colours. In the latter, following the death of Donald Dewar, no high-profile Labour figure arrived to pick up the devolution torch and a large hole was left for others to fill.”

In other words, Labour has deliberately nurtured a form of nationalism that is ultimately a thin veneer that can be donned where needed to win public support.

This is a brand of nationalism that reminds their core vote of their working-class, industrial, Labour-supporting Welsh identity but at the same time:

a) avoids the cultural nationalism that could make them sympathetic to Plaid Cymru

b) is too ‘banal’ to stir up the kind of ‘hot’ nationalism that could lead to independence, and as such make it harder for Labour to win power at Westminster.

This non-offensive ‘rugby-nationalism’ allows the people of Wales to blow steam for 80 minutes during the Six Nations but does not allow for a broader discussion about Wales’ constitutional predicament.

It’s no coincidence that Shane Williams was the poster boy for Wales’ devolution referendum in 2011, or that WRU chief Roger Lewis was the chairman. Rugby-nationalism is Labour’s favoured brand of nationalism.

Plaid Cymru’s cultural nationalism

Plaid Cymru, meanwhile, have settled for a form of nationalism that embraces the cultural differences between Wales and England but does not call for any radical constitutional change.

This is because it has not ultimately been in their supporters’ interest, either, for Wales to break away from the United Kingdom.

Plaid’s cultural nationalism depends on Wales’ national institutions – be they libraries, museums, TV channels, universities, publishers or theatre groups – for sustenance.

But it is felt (rightly or wrongly) that without the Treasury’s largesse these institutions may not exist at all.

Cultural nationalism can be ‘banal’ too, especially if one has a well-paid job at a cultural institution, or is happy as long as ‘Pobl y Cwm’ is on every night at 8pm. And although Wales’ culture is being slowly eroded, the process has been too slow to shock cultural nationalists into action.

Both these nationalisms, Labour’s rugby nationalism and Plaid’s cultural nationalism, have served both parties well so far.

Plaid’s cultural nationalism has little appeal among the working class in the valleys. And Labour’s rugby-nationalism seems awfully shallow to middle-class Welsh-speakers such as myself. But between them they’ve locked up 52% of the vote and 41 of the 60 seats in the Welsh Assembly.

So far there’s been very little incentive to change and embrace a radical ‘hot’ nationalism that demands constitutional change. But the situation is now fast moving, and they’re going to have to do so or risk losing their grip on power at the Welsh Assembly, and in doing so lose Wales itself.

EnglandandWales

If Scotland and Ireland do leave the UK, Wales is very likely to revert back to its pre-1707 Act of Union role as a constituent part of England.

Wales has since at least the 19th century ridden on Scotland and Northern Ireland’s coat-tails and claimed that it too should be given special status within the United Kingdom.
It’s difficult however to see Wales on its own being able to make a strong case for special treatment. It will soon just be another region of England, like Manchester, that enjoys some devolution.

Labour fully recognise that this scenario is a possibility, but continue to delude themselves that Wales will have special clout within a post-break up England.

Carwyn Jones has over the past few years claimed that the House of Lords could be re-formed in order to give Wales equal representation, or that the UK could be federalised.

This week he seems to be belatedly concluding that a Tory-run UK Government has little interest in Wales.

No one can blame them either. There are only two things that the Conservatives fear – one is that they lose power, and the other is that they lose part of the UK.

Wales can’t threaten the first. The country would make up just 5% of the population of ‘EnglandandWales’. And Wales isn’t a ‘swing seat’ in electoral terms, but a solid Labour one. There are a few seats in the north-east (and Carwyn Jones’ own Bridgend) that the Tories would love to have, but they don’t need them.

If Wales was a US State, it would be somewhere like Georgia. Very few electoral votes, and so solidly partisan that no presidential candidate would ever bother visiting.

Contributionism

But Wales can threaten to leave the UK. The Conservatives, staunch British nationalists, fear the continued break-up of the UK more than anything else.

The thought of Wales breaking away, even if they don’t care how Wales gets on the rest of the time, would be enough to make them reconsider their neglect of the country.

The above seeems obvious. But Welsh Labour don’t see it because they suffer from a contributionist mindset which has plagued the country for centuries.

It can basically be summed up as the belief that if Wales behaves and contributes to the British Empire it will be rewarded.

This belief had some (mistaken) foundation in the 19th and early 20th century when Wales was booming due to the industrial revolution. Wales desperately wanted to be recognised as an equal partner in the Empire alongside England and Scotland. Minor triumphs such as crowning the Prince of Wales at Caernarfon castle in 1911 made them think that they were finally being rewarded and recognised for their loyalty.

This delusion continues to this day. In the aftermath of the first Independence Referendum in Scotland, Wales’ former First Minister Rhodri Morgan called for Wales to be rewarded because “the country didn’t put the whole of the UK through the mincer via referendum or civil war” as Scotland had.
It is Scotland of course that has subsequently enjoyed all of Westminster’s attention – and all because that threat of separation hangs over Westminster like the Sword of Damocles.

A grim future

Wales may have only two years before the UK is ripped apart and replaced by EnglandandWales. But it won’t be called EnglandandWales – it will be called England.

If we want to survive as a nation, it’s time to put the contributionist mindset aside and consider how we can stop a dominant Conservative party ignoring Wales culturally and economically.

The Welsh language and culture would be done for. The cultural institutions which nurture the ethnic nationalism that is at the heart of Paid Cymru would be closed.

There would be no justification for a Welsh rugby or football team. The neglected post-industrial Wales which is the bedrock of Labour’s electoral dominance would rapidly de-populate as public investment dries up completely.

The population would age rapidly as the young migrate to the South East of England. Only retirees would move in the other direction. Wales’ seacoast would be a streak of Tory-voting blue.

The core vote Welsh Labour and Plaid Cymru rely on would soon cease to exist. Neither rugby-nationalism or cultural nationalism can survive without a rugby team or a culture.

Neither of these parties can sit back and hope for the best. One is a Welsh National Party and the other is only now electable in Wales. If they don’t change, they will quickly face an existential crisis. And so will the country.

Wales needs them to back a radical independence movement.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd: seddau cynnes

Roedd yn oer iawn yn annisgwyl pan aeth fy mab i Japan. Dim ond siaced ysgafn, het a menig roedd ganddo i gadw’n gynnes. Wedi iddo a’r criw’n cerdded o gwmpas am oriau bob dydd, roedd yn ollyngdod mawr i eistedd ar seddau cynnes y trên. Mae yna wresogydd o danyn nhw. Roedd fy mab wrth ei fodd efo nhw a seddau cynnes tai bach yn Japan! Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Y Dde ragfarnllyd, y Chwith apolegyddol: brodyr (a chwiorydd) i’w gilydd

Ar ôl terfysgiaeth Islamaidd, daw’r pryfaid yma o’r pren: Y Dde ragfarnllyd, y Chwith apolegyddol. Mae’r ddwy ochr cyn waethed a’i gilydd. Y ddwy ochr yn chwilio am fai. Y ddwy ochr wedi eu rhwymo gan edioleg. Methu’n lan a datglymu eu hunain. Gwrthod, i ddweud y gwir. Yn hapus yn ei rhaffau. Fel pob […] Parhau i ddarllen

: Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae

Croeso i’r flog diweddaraf. Heddiw fe welais safle adeiladu’r Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae, sydd werth £57 miliwn. Rydw i wrth fy modd y bydd ffordd ar agor i fysus mewn da bryd ar gyfer Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ym … Continue reading Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: • Beth ddylai ddigwydd yn eglwys Crist? (Colosiaid 3:15-17) – Rhodri Glyn (19.03.2017)

http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/19032017_pm_rhodriglyn.mp3
Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Diffinio gair

Cafodd y wasg felen, sef bron y cyfan o’r wasg ddyddiol Brydeinig, fodd i fyw pan fu farw Martin McGuinness. Cafwyd symffonïau o hunangyfiawnder ar ran pobl a gwladwriaeth nad ydynt ERIOED, yn eu HOLL HANES, wedi defnyddio YR UN TAMAID o drais i hyrwyddo buddiannau gwleidyddol. Daeth i’m cof ddarn bach o ddialog gan […] Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Hybu Darllen

Dyna fy mhregeth i ers blynyddoedd. Dwi wedi cyfarfod nifer o bobl sy’n deud eu bod wedi trio hoffi nofelau, ond wedi methu – dynion gan amlaf, ond nid bob tro. Iawn, dan ni gyd yn wahanol ac yn mwynhau pethau gwahanol; mae rhai jest yn methu derbyn straeon dychmygol, neu o leia yn methu […] Parhau i ddarllen