Archif Dyddiol: 4 Ebrill 2017

Anffyddiaeth: Erledigaeth ffug y Cristion

Stori wirion y dydd yw’r honiad bod Cadbury’s wedi hepgor y gair ‘Easter’ o’u deunydd marchnata ar gyfer helfa wyau pasg ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roeddwn yn trafod yr helynt ar Taro’r Post yn gynharach (yr eitem gyntaf, ar ôl 2 funud). Fel sy’n aml yn wir pan mae Cristnogion yn cwyno am bethau fel hyn, lol llwyr yw’r stori, fel y dengys eiliad neu ddwy o bori gwefan y cwmni.

Mae’n debyg bod gan lawer o Gristnogion ryw fath o complex merthyrdod (sy’n addas, am wn i, o gofio’r chwedl sy’n sail i’r Pasg). Mae rhyw fath o urddas mewn cael eich herlid ar gam, ac rwy’n credu bod nifer o Gristnogion yn awyddus i hawlio peth o’r urddas hwnnw heb wneud y gwaith caled o ddioddef unrhyw erledigaeth go iawn eu hunain. Gan nad yw Cristnogion ym Mhrydain yn profi unrhyw ormes o gwbl – i’r gwrthwyneb, maent garfan grymus a breintiedig iawn – rhaid iddynt ei ddyfeisio. Dyma sydd hefyd yn gyfrifol am y ‘rhyfel’ chwedlonol blynyddol yn erbyn y Nadolig, sy’n draddodiad arbennig o amlwg yn America. Ysywaeth, yn yr hinsawdd wleidyddol hurt sydd ohoni, gallwn ddisgwyl mwy o hyn ym Mhrydain hefyd.

Yn wahanol i’r Nadolig, sy’n ddim byd o gwbl i’w wneud â Christnogaeth, mae’n anodd gwadu mai stori Iesu Grist oedd sail y Pasg i ddechrau. I’r mwyafrif helaeth o bobl erbyn hyn, fodd bynnag, gan gynnwys fy hun, nid yw’n ddim mwy na phenwythnos hirach na’r arfer i ffwrdd o’r gwaith ac esgus i fwyta siocled. A bod yn blaen, rwy’n croesawu’r ffaith bod llai a llai o bobl yn rhoi lle creiddiol i chwedl y croeshoelio, gan fod y stori honno, a’r athrawiaethau sy’n deillio ohoni, yn ffiaidd. Mae pob croeso i Gristnogion wneud hynny, yn naturiol, ond nid oes ganddynt hawl i ddisgwyl i bawb arall eu dilyn (a llai fyth o hawl i ddisgwyl cydymdeimlad pan maent yn creu helynt ffug). Mae’n beth iach eu bod yn prysur golli’r frwydr honno, ond bydd y cwynion parhaus yn syrffedus iawn yn y cyfamser. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: deddf duw / deddf y byd

Deddf Duw dros fewnfudwyr – Ceisiwch heddwch y ddinas byddwch chi’n symud iddi, a gweddïwch drosti ar yr Arglwydd, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chi.

Deddf y byd dros fewnfudwyr – Cymerwch fantais ar lewyrch y ddinas byddwch chi’n symud iddi, a mynnu eich cyfreithiau a diwylliannau arni hi nes i chi ei meddiannu’n llwyr. Parhau i ddarllen

fideo wyth: EGX Rezzed 2017

gan Elidir Jones Am yr ail flwyddyn yn olynol, wnes i dreulio dyddiau cynta Ebrill yn teithio i Lundain er mwyn mynd i sioe EGX Rezzed. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd efo Rezzed, nid sioe gemau arferol mohoni. Mae’n rhoi llai o bwyslais ar glitz a sbectacl, ac yn canolbwyntio ar ddathlu…

Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: 5 New opportunities during the Edward Thomas centenary

100 years on the National Library of Wales, Aberystwyth is securing the legacy of Edward Thomas by collecting and digitising his archive, with 5 new […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Bod yn agored yn ddiofyn

Sut allai swyddfa archwilio agor ei systemau fel bod gwybodaeth yn agored yn ddiofyn? Siaradodd Dyfrig Williams â Tom Haslam am ddull gweithredu Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd. Rwy’n gweithio ar brototeip Data Agored fel rhan o brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ystod y gwaith yma fe ddywedodd cydweithwyr i […] Parhau i ddarllen

atgof.co: Gwerthwyr gorau – Bestsellers