Archif Dyddiol: 21 Ebrill 2017

fel y moroedd: anghytuno

Mae Fatah ac Hanas yn cytuno â’i gilydd nad oes gan Israel hawl i fodoli. Dydy’r Un sy’n rhoi’r haul yn oleuni’r dydd, a threfn y lleuad a’r sêr yn oleuni’r nos, sy’n cynhyrfu’r môr nes bod ei donnau’n rhuo ddim yn cytuno: 

“Os cilia’r drefn hon o’m gŵydd, yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron.” Jeremeia 31: 35, 36 Parhau i ddarllen

Golwg360: Rhaid i’r Blaid gipio Môn

Y darlithydd newyddiaduraeth Ifan Morgan Jones sy’n dyfalu beth fydd ffawd Plaid Cymru yn yr etholiad ar 8 Mehefin… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Y Saer yn Serennu’n y Selar

Erthygl gan Rhydian Morgan ar lwyddiant un o sêr pop y fro.

‘Nôl ar Nos Sadwrn 18fed Chwefror, cynhaliwyd un o’r nosweithiau mwyaf yng ngherddoriaeth Cymru sef Gwobrau’r Selar* yn Aberystwyth.  Fe sefydlwyd y cylchgrawn yn ôl yn 2004 a dechre… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Nofel ffantasi Saesneg ar gyfer plant 9 +

Dwi’n gorfod argymell hwn – The Girl of Ink and Stars gan Kiran Millwood Hargrave. Hyfryd, hyfryd, hyfryd. Jest y peth i blant (ac oedolion) sy’n hoffi ffantasi – a mapiau! Ac mae’r prif gymeriad yn ferch – ond mi ddylai bechgyn fwynhau’r stori, wir yr! Mae Isabella yn breuddwydio am y gwledydd pell roedd […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Y Cynulliad wedi’i cydnabod unwaith eto efo enwebiad ar gyfer Gwobrau Gwychder Cymru Gweithredu ar Golled Clyw Cymru

Rydym yn falch iawn ein bod ar y rhestr fer unwaith eto yng Ngwobrau Gwychder Gweithredu ar Golled Clyw Cymru. Eleni rydym ar y rhestr fer ar gyfer y categori Rhagoriaeth Gwasanaeth ac wedi cael ein cynnig ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i ragori yn ein ddarpariad o wasanaethau i … Continue reading Y Cynulliad wedi’i cydnabod unwaith eto efo enwebiad ar gyfer Gwobrau Gwychder Cymru Gweithredu ar Golled Clyw Cymru Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: ‘Nôl i’r gwely

Ddwy flynedd yn ôl mi fues i’n newid coed dau wely yn yr ardd gefn, gan feddwl gwneud dau arall yn 2016. Aeth hi’n ddoe arna’i yn gwneud hynny o’r diwedd.

Roedd coed llus -blueberry- yn y gwely triongl, ond doedden nhw ddim yn hoff o’u lle, felly maen nhw wedi mynd i rywle arall. Mae’r mefus alpaidd bach a’r cenin syfi oedd yno hefyd wedi eu symud.

Yn ogystal â phreniau newydd, mae’r pridd Parhau i ddarllen