Archif Dyddiol: 23 Ebrill 2017

Y Papur Gwyrdd: Gwyddonwyr doeth yn herio ffolineb Donald Trump

Ynghanol y gwallgofrwydd cyfoes ymysg gwleidyddion asgell-dde sy’n gwadu bodolaeth Cynhesu Byd-eang a Newid Hinsawdd, diolch o galon i’r miloedd di-ri’ o wyddonwyr gynhaliodd Orymdeithiau dros Wyddoniaeth mewn 600 o ddinasoedd ledled y byd ddoe, wrth nodi Dydd y Ddaear. … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Mari lygatlas

Seren yr ardd ar hyn o bryd ydi Omphalodes (cherry ingram).

Mae’r lluniau yma braidd yn fflat eu lliw, a delweddau digidol fel hyn ddim yn medru cyfleu harddwch y glesni a symlrwydd hyfryd blodau Mari lygatlas.

Wrth bori mewn siop recordiau ail-law yn ddiweddar, mi welis i sengl Angylion Stanli, Mari Fach, ar werth am ugain punt. Mi es adra’n reit handi er mwyn chwilio am y copi brynais i Parhau i ddarllen

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Geiriau’r hen bunt

Os oes gennych bentwr o hen bapurau £5 dan fatres y gwely, mae gennych lai na phythefnos i’w gwario.  Ar ôl Mai 5ed, bydd y papurau hyn yn ddiwerth yn y siopau.  Bydd yr un peth yn wir am yr hen ddarnau punt ar ôl Hydref 15 eleni wedi i ni gael y darn punt […] Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig:Pesda Roc 2017 – Lastigband, Argraph, Phalcons, Radio Rhydd, Ffug, Maffia Mr Huws | Neuadd Ogwen, Bethesda | 29-30:04:2017

Roc yn Bethesda 2017

 























Nos Sadwrn 29:04:2017 7.30yh £5
Lastigband
Argrph
Phalcons
DJ Delweddau Hen Dduwiau

Nos Sul 30:04:2017  7.30yh £10
Maffia Mr Huws
Ffug
Radio Rhydd
DJ Morrison

Tocynnau

Siop Ogwen, Bethesda

www.neuaddogwen.com Parhau i ddarllen