Archif Misol: Mai 2017

fel y moroedd: nid hummus yn unig

Er mwyn boicotio Israel yn drylwyr –
yn gyntaf, taflwch allan y cyfrifiaduron, ffonau symudol, teclyn gemau cyfrifiadur; peidiwch â gweld fideo ar alw; peidiwch â phrynu cynnyrch o dramor; peidiwch â defnyddio nifer o  feddygaeth hanfodol… oherwydd bod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael eu dyfeisio, cynhyrchi neu gynllunio un ffordd neu’r llall gan wyddonwyr, cwmnïau neu lywodraeth Israel. Mae’r rhestr yn para’n hir. Wir, mae’n hynod o anodd boicotio Israel os byddwch chi eisiau ei wneud yn gydwybodol. Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Ailddysgu 2017-05-31 19:39:00

Diwrnod eithaf braf heddiw eto – dydd olaf Mai, fy hoff mis [dwi’n meddwl….. mae Hydref  yn wych…. a Mehefin hefyd].  Ar y comin, mae’r blodau ymenyn allan o hyd,

 a mae blodau’r elderflower allan hefyd [bydd rhaid edrych yn y geiriadur am y gair Cymraeg]. Ond ro’n i’n synnu i weld y madarch yma 


allan wrth fynd am dro gyda’r wyrion prynhawn yma.  Mae o’n edrych fel madarch arferol – un bwytadwy – ond ym mis Mai? Braidd yn gynnar!

Tra ’roedd y wyrion yn cysgu dros amser cinio, llwyddiais i rhoi’r planhigion tomatos yn ei lle yn y tŷ gwydr – dwi’n defnyddio’r cyfundrefn sydd ar a gael gan cwmni o’r enw Greenhouse Sensation  sydd yn gweithio’n dda.  A hefyd yn yr ardd, dwi wedi rhoi dwy o’r courgettes allan yn ei lle – gyda dipyn o amddiffyniad: peledi organic  i atal gwlithod, ond wedi eu cuddio dan clochau bach neu mewn jariau bach fel bod yr adar ddim yn medru cael nhw.  Hefyd mae un o’r planhigion mewn coler copr, ac un mewn coler plastic ac yn olaf,  cwrw i atynnu’r gwlithod…

Ond gawn ni weld os bydd hwn i gyd yn llwyddianus.

Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: #LoveArt

It deserves to be seen “Who painted this picture?  And who’s the subject?  The object itself, without a frame, is silent: the canvas is unsigned […] Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Y Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif, yn y fro rhwng y Fenni a Threfynwy

Yn llyfr J. E. Southall (1855-1928) “Wales And Her Language Considered From A Historical, Educational And Social Standpoint  With Remarks On Modern Welsh Literature And A Linguistic Map Of The Country. Newport, Mon. 1892” ceir sylwadau diddorol am gyflwr y Gymraeg yn yr hen Sir Fynwy yn y cyfnod hwnnw, ganrif a chwarter yn ôl..
Dyma a ddywedir ym Mhennod 9 o’r llyfr, lle y mae’n sôn am y ffin rhwng yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith a’r ardaloedd Seisnigedig.


(Am mai blog Cymraeg yw hwn, yr wyf wedi trosi’r hyn a ddywedwyd ganddo o’r Saesneg. Ceir y testun gwreiddiol yn nghwt pob trosiad.)


O ysgrifbin y Cyrnol J. A. Bradney y daw y darn a ganlyn. Yn Nghwrt Tal-y-coed, saith milltir o Drefynwy, mae’r cyrnol yn byw ac nid oes odid neb cymhwysach i siarad am gyflwr yr iaith yn nwyrain y Sir (= yn nwyrain Sir Fynwy). Yn ogystal â siarad Cymraeg y mae hefyd yn darllen yr iaith.

“Fe ddysgais innau’r Gymraeg gan frodor o Langatwg Dyffryn Wysg, sydd o hyd yn fyw ac yn byw yn gyfagos ac yn gweithio bob dydd yn y lle hwn. Mae ganddo wybodaeth drylwyr o’r iaith, er ei fod yn gwbl ddiaddysg. Yr wyf yn credu bod gwybodaeth o’r Gymraeg gan bawb o hen bobl y fro o gwmpas Langatwg Dyffryn Wysg. Yn Llangatwg Feibion ​​Afel nid oes neb ar ôl sy’n medru siarad Cymraeg, er bod sawl un o’r hen bobl yn gwybod rhywfaint ac yn gallu deall brawddegau syml; ond mae offeirad yn dweud wrthyf iddo ddarganfod, ryw 25 mlynedd yn ôl pan oedd yn gurad yn Llangatwg Feibion ​​Afel, bod y to hŷn ym mhentref Llanfaenor (ym mhlwyf Llangatwg Feibion ​​Afel) yn go brin eu Saesneg ac iddo fynd i’r drafferth o gael hyd i lyfrau defosiynol yn Gymraeg iddynt, a buont yn ddiolchgar iawn iddo am hynny.

Yn Llandeilo Gresynni mae’r genhedlaeth hŷn o bobl y fro, er nad ydynt yn gallu sgwrsio ryw lawer, yn gallu deall Cymraeg i raddau, a byddant yn cwyno bod eu rhieni yn arfer siarad Cymraeg gyda’i gilydd, a Saesneg i’w plant. Gellir dweud yr un peth am bob un o’r plwyfi o gwmpas y fan hyn – Pen-rhos, Tre-gaer, Llanfihangel Ystum Llywern, Llanddingad, ac yn y blaen. Pentref Cymraeg oedd Llanarth hyn yn lled ddiweddar. Dywedodd  gwraig oedrannus o’r fan honno wrthyf, un sy’n siarad Cymraeg, ac yn enedigol o’r Pit, ger Clydda, fod pawb o drigolion y Pit yn siarad Cymraeg yn arferol yn nyddiau ei phlentyndod. Yn Llanfable ceir ambell wasanaeth Cymraeg yn y capel, ac yng nghapel Llanddewi Rhydderch cynhelir gwasanaeth Cymraeg yn aml. Yng nghapel Tal-y-coed ceir gwasanaeth Cymraeg yn achlysurol.


Ond yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae boblogaeth y fro i gyd wedi newid i raddau syfrdanol – mae mewnfudwyr wedi dod o bob man, ac mae’r brodorion wedi symud allan i fannau eraill. Mae wedi digwydd i’r fath raddau yn y plwyf hwn, Llanfihangel Ystum Llywern, nes nad oes ond un unigolyn, dyn canol-oed, sydd yn enedigol o’r fan hon. Mae’r trigolion eraill bob un (ac eithrio, wrth gwrs, y plant) wedi eu geni yn rhywle arall. Mae’r un peth wedi digwydd yn y plwyfi cyfagos i’r un graddau fwy neu lai. Felly pan eir ati i gael hyd i rywrai oedrannus neu ganol-oed a all ddweud rhywbeth am yr hyn a ddigwyddai yn y dyddiau a fu, gwaith anodd yw cael hyd i rywun o’r fath. Wrth gwrs, ymhlith y llu o fewnfudwyr sydd wedi dod yma y mae llawer sy’n siarad Cymraeg, ac y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnal eu hiaith, ac yn helpu i’r rhai sydd yma eisoes i’w cadw ar lafar. Yr wyf innau yn un o’r rhai sydd, boed yn gam neu’n gymwys, yn gwneud popeth i gefnogi’r iaith, a dwyn perswâd ar bobl i siarad â’u plant yn Gymraeg yn hytrach na Saesneg.”

O blith y Cymry Cymraeg sydd yn gweithio imi y mae tri o Sir Fynwy – un sydd yn hanu o Langatwg Dyffryn Wysg, un a anwyd yn Llanddewi Fach, ond a fagwyd yn Llangybi, ac un arall a anwyd yn Llanofer.


Gellir gweld y pennod i gyd yn y fan hon: 

DIWEDD

Parhau i ddarllen

atgof.co: Bedwen Lyfrau

BlogMenai.com: Yn y cyfamser ym myd rhyfedd Plaid Lafur Arfon _ _

_ _ mae’r syniad o gyfieithu eu stwff o’r Saesneg i Urdu a ieithoedd Dwyrain Ewrop yn cael ei ystyried er mwyn gallu cyfiawnhau cyfieithu i’r Gymraeg. Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Pam bod Albert Owen yn debygol o golli yn Ynys Mon i Ieuan Wyn

Oherwydd bod y bleidlais isaf gafodd Ieuan erioed – pan gollodd i Keith Best yn 1983 – fil yn uwch na’r bleidlais uchaf gafodd Albert erioed.Record Albert mewn etholiadau San Steffan:2010 – 11,4902005 – 12,2782001 – 11,906Record Ieuan Wyn yn etholiadau… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: jane ar silff

Roeddwn i wrthi’n rhoi trefn ar gwpwrdd dillad a dod ar draws y paentiad a baentiodd fy merch hynaf yn 2002 (pan oedd hi’n 18 oed) – portread o Jane Austen. Roeddwn i’n arfer gwirioni ar ei nofelau ar yr adeg honno, a rhoddodd fy merch y paentiad yn an… Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Ann Jones AC

Bydd Ann Jones AC yn cynnal ei chymhorthfa nesaf yn Llyfrgell Llanelwy ar 2il Mehefib,  4.00 – 5.00 ac yn Llyfrgell Y Rhyl ar 3ydd Mehefin am 10.00 – 11.00. I drefnu apwyntiad, ffoniwch 01745 332813. Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: • Cofion at y Colosiaid (Colosiaid 4:7-18) – Rhodri Glyn (28.05.2017)

http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/28052017_pm_rhodriglyn.mp3
Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Galluogi staff i ddefnyddio data’n well

Read this blog post in English Sut gallwn ni alluogi staff Swyddfa Archwilio Cymru i ddefnyddio data’n well? Mae Dyfrig Williams yn edrych yn ôl ar yr hyn a ddysgwyd o’n prototeip ar gyfer Archwilio Iechyd. Yn fy ngwaith ar y prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad, rydw i wedi bod yn edrych ar […] Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Prydain a Saudi Arabia

(Munud I Feddwl 30 /5/ 2017)Fel arfer bydda i’n paratoi testun fy sgwrs Munud I Feddwl ryw bum… Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Talking to the few, not the many

Arfon ydi’r etholaeth fwyaf Cymraeg ei hiaith yng Nghymru – ac yn wir y Byd.  Hyd oed pan mae yna filoedd o fyfyrwyr yn ein plith mae tua dau draean o’r boblogaeth yn siarad y Gymraeg – gyda ‘r mwyafrif llethol ohonom yn ei siarad fel mamiaith. &n… Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: • Gweddïo ac Efengylu (Colosiaid 4:2-6) – Gwion Dafydd (21.05.2017)

http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/21052017_pm_gwiondafydd.mp3
Parhau i ddarllen

fel y moroedd: memorial day

Diolch i’r dewr a roddodd eu bywydau i roi rhyddid i ni.  Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Gair o Gariad (Theatr Bara Caws)

Wnes i erioed ddisgwyl rhannu slow-dance yn Llangefni â Lleuwen Steffan ond dyna’n union wnes i’r wythnos hon. Dim ond un o syrpreisys bychain Gair o Gariad (Theatr Bara Caws) oedd hyn, mewn cynhychiad annisgwyl dros ben. Mae’n berfformiad sy’n dathlu cariad yn … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Y Dinesydd: Bwytai Merch y Ddinas – Bwrw’r Sul

Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Y Tŵr (Music Theatre Wales & Theatr Genedlaethol Cymru)

Cafodd opera newydd Y Tŵr dderbyniad gwresog iawn ar ei noson agoriadol yn Theatr Sherman, Caerdydd. Clywyd bonllefau o gymeradwyaeth, a saethodd rhai o aelodau’r dorf i’w traed, dan deimlad mawr yn dilyn profiad anghyffredin. Teg dweud i ddiweddglo rymus … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Cylchgrawn Barn – Bwytai: Adolygiad Beach House, Bae Oxwich

Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Y Dinesydd: Bwytai Merch y Ddinas – Sêr Michelin De-Ddwyrain Cymru

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: O San Steffan i’r byd Serameg

Byd y cartwnydd ‘Mumph’.

Ar Stad Bryn Coed oedd fy nghartref cyntaf yn Llan, ond wedi ychydig fisoedd (efallai blwyddyn neu ddwy) fe symudon ni i’r tai cyngor a gafodd eu hadeiladu ar hen safle Capel Engedi, y tri tŷ sy’n cysylltu Belle Vue a Heo… Parhau i ddarllen

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: O’r galon

Dydi Manceinion ddim yn bell oddi wrthym yn y rhan hon o Wynedd.  Ond rywsut, nos Lun diwethaf roedd hi’n nes o lawer.  Fwy na thebyg bod rhai ohonoch wedi bod mewn cyngerdd neu ddigwyddiad arall yn yr union Arena y lladdwyd 22 o bobl a phlant ac yr anafwyd degau’n ddifrifol gan yr hunan […] Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Llifbryfaid

Mae’r diawlad yn eu holau!

Mi suddodd fy nghalon pan welais y ddeilan dyllog gynta.

 Mewn ychydig ddyddiau, os ga’n nhw lonydd, mae’r larfau yn bwyta a thyfu, a bwyta mwy…

 …gan droi dail yn sgerbydau gweigion.

Gallan nhw droi llwyn cyfa yn llanast mewn wythnos. Mae’n talu i gadw golwg ym mis Mai.

Degllath oddi wrth y coed cyrins cochion a’r gwsberins sy’n cael eu cnoi, mae nythiad o Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Mr Phormula – Sengl a Albwm newydd ar ei ffordd

Pop Cymru: Tiwn bore Sul: Hunlle yn Nunlle – Ffa Coffi Pawb

Golwg360: BLOG: Osgoi y gwir am oblygiadau Brexit

Huw Prys Jones yn dadlau bod pwnc pwysicaf yr etholiad yn cael ei anwybyddu Parhau i ddarllen

fel y moroedd: hoopoe

Wedi profiad cyffrous a gafodd hi ar ddechrau ei phythefnos yn Efrog Newydd, mae bywyd fy merch a’i gŵr wedi setlo. Mae yna siopau o bob math gerllaw, ac mae hi’n mwynhau cerdded o gwmpas efo’r ci. (Mae ei gŵr yn sâl yn anffodus.) Cafodd hi ysbrydoliaeth gelfyddydol gan Afal Mawr a’r cyfarfod efo Lior Raz fel dechreuodd baentiad sydd yn cynnwys aderyn cenedlaethol Israel, sef Hoopoe. Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Llyfr Cymraeg yn teithio’n bell

Mi ges i neges diddorol drwy Facebook heddiw, gan Nia Thomas o Gaerdydd, a dyma fo: Helo! Dwi’n teithio yn Ngwlad Thai ar hyn o bryd a wnes i weld dy lyfr ar werth yn siop Backstreet Books yn Chiang Mai am 180 Thai Baht! Roedd y Beibl Cymraeg ar werth am 200 THB yno […] Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig: Twrw trwy’r dydd | Clwb Ifor Bach, Caerdydd | 28:05:17

Twrw trwy’r dyddCowbois Rhos BotwnnogHMS MorrisLos BlancosAdwaithGlain RhysDJ Elan EvansDJ Andrew Rhys LewisClwb Ifor Bach, Caerdydd28:05:17 | 1600www.clwb.net Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig: Geraint Jarman ar Band, Maffia Mr Huws | Copa | 09:06:17

Geraint Jarman ar BandMaffia Mr Huws9fed o Fehefin 2017Copa, Caernarfonhttps://www.facebook.com/copacfom Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Cymeryd y pys? EP newydd Ers Oes Pys – Pys Melyn #tiwns

Pop Cymru: Cinema – Uumar #tiwn #chwarafonuchel

Golwg360: BLOG: Mae’n rhaid siarad yn onest am Islamiaeth

Mae yna le i ddicter cyfiawn yng nghanol yr ystrydebau gwag, meddai Aled Gwyn Job Parhau i ddarllen

fel y moroedd: breuddwyd merch

Ymwelodd yr Arlywydd Trump a Mrs.Trump â merch sydd yn dioddef o ganser yn Israel tra oedden nhw yno ond 27 awr. Breuddwyd y ferch oedd cyfarfod Mr. Trump, a chafodd o ei wireddu. Byddai hyn wedi fod yn newyddion mawr pe bai arlywydd arall wedi ymweld â hi, ond anwybyddodd y prif gyfryngau hyn i gyd; dim syndod. Parhau i ddarllen

Golwg360: BLOG: Cannes yn cyfareddu

Dylan Edwards sydd yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes ar ran golwg360 Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Sut i ymateb i newyddion ffug

Rwan bod y tymor y cynghorau newydd wedi cychwyn mae’n amlwg ar ol wythnos neu ddwy yn unig bod ‘newyddion ffug’ am barhau i fod yn un o nodweddion y ffordd mae’r gwrthbleidiau yn gweithredu.  Mae yna hen hanes o hyn yng Ngwynedd wrth gwrs – gyda … Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 28 Mai 2017

Darlleniad y Dydd: Salm 110 (BCND:tud.556/ tud.508)

Bore da i chi gyd a chroeso cynnes (cynnes iawn efo’r tywydd yma!) i’r gwasanaethau ar hyd y Fro. Gofynnwn y bydd Duw yn ein bendithio heddiw ac yn caniatáu i ni ddod i’w adnabod yn well wrth i ni ddod o dan awdurdod Ei Air bywiol.

Ein . . . → Read More: Dydd Sul, 28 Mai 2017

Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Mis Mai ar odrau’r mynydd

Mae wedi wyth o’r gloch. Bu’n ddiwrnod heulog, chwilboeth, ac mae’r awyr las di-gwmwl yn parhau, er i’r haul suddo dros orwel garw Craig Nyth y Gigfran hanner awr a mwy yn ôl.

Wrth fy ochr, yn yr ardd gefn, mae un o’r genod yn darllen, yn ôl ei harfer, ac un arall yn strymio alaw newydd ar hen iwcaleili. Mae teulu drws-nesa i’r chwith yn bwyta eu swper a sgwrsio am ddigwyddiadau’r dydd, a’r Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cyfarfod doron

Aeth fy merch a’i gŵr i Efrog Newydd i warchod ci eu ffrind am bythefnos. Maen nhw’n cael mynd o gwmpas y ddinas hefyd. Pwy wnaethon nhw gyfarfod ar stryd yn Manhattan ond Lior Raz, cynhyrchydd a phrif gymeriad Fauda, rhaglen boblogaidd Israelaidd! Y fo ydy ei hoff actor! Mae hi gyffro i gyd a sgrifennodd hi lyfr ata i’n disgrifio’r hanes. Mae Lior wedi gweld celf fy merch o’r blaen gan gynnwys ei bortread a baentiodd hi, a’i hoffi; penderfynwyd byddai ei phaentiad o samurai yn cael ei anfon at ei dŷ yn Israel. Cafodd fy merch ei tharo yn yr holl hanes, pa mor gwrtais a diymhongar ydy Lior er ei fod o’n ddyn amlwg tra ei bod hi’n neb. Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Rhod y Rhigymwr -llyfryn bach cyfrinachol

Cefais nifer o lyfrau difyr yn ddiweddar gan Beryl Williams, Bryn Brisgyll, Llan Ffestiniog. Mae Beryl ar fin mudo i Harlech, ac yn awyddus i gael gwared ag ambell lyfr. Ymysg y rhai a roddodd i mi, mae teipysgrif a gyhoeddwyd gan R. J. Williams, Fronheulog, Gellilydan – ‘Atgofion, Cymeriadau a Dywediadau Diddorol’ – a welodd olau dydd ryw ddeugain mlynedd yn ôl.

O fewn dalennau’r deipysgrif, Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Y gwaith yn mynd rhagddo’n dda ar ailwampio adeiladau cyfredol Ysgol Glan Clwyd

Mae’r gwaith yn parhau ar ailwampio’r adeilad cyfredol ar safle Ysgol Glan Clwyd. Mae’r gwaith hwn yn rhan o’r prosiect sydd yn cael ei gyllido ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif. Mae’r contractwr Willmott Dixon ar hyn o bryd yn ymgymryd a ailwampio’r […] Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: Gwlad y Gân: Valériane Leblond and Peter Stevenson

On Wednesday, 10 May, 2017 a fascinating lunchtime lecture by the artist Valériane Leblond and Welsh folklore expert, Peter Stevenson, was held in the Drwm, […] Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau?

Fel rhywun sydd ddim yn gwybod ystyr y gair ‘gwyliau’, mae Chris Bolton a.k.a. whatsthepont, Rheolwr y Gyfnewidfa Arfer Da, wedi bod yn dysgu am waith y Comisiwn Gwarantau yn Nova Scotia.

Mae’r comisiwn wedi bod yn gwneud bach o waith ar ariannu torfol, gan fod nhw’n edrych i gynnig eithriadau fel bod busnesau bach a chanolig yn gallu codi arian mewn ffordd newydd. Mae fe hefyd yn golygu bod gan fuddsoddwyr ffordd arall o fuddsoddi ynddynt. Maen nhw wedi cynnal sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn ffeindio allan barn pobl.

Ariannu torfol yw lle mae prosiect yn cael ei ariannu trwy gyfraniadau o nifer fawr o bobl, fel arfer dros y rhyngrwyd. Fel ffan mawr o gerddoriaeth, rydw i wedi cymryd rhan mewn ychydig o ymarferion ariannu torfol, lle mae cerddorion yn edrych i gynhyrchu gwaith byddai ddim yn gweld golau dydd fel arall. Dim ond un enghraifft yw hynny — mae ‘na gymaint o brosiectau rhyfedd a rhyfeddol, o lyfr coginio da’r thema o facwn i gerflun pwmpiadwy tri metr uchel o ben Lionel Richie.

Ydy e’n bosib i wasanaethau cyhoeddus gymryd rhan mewn ariannu torfol? Mae ariannu torfol wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae yna sawl platfform gwahanol, o IndieGoGo i Kickstarter. Mae’n ddiddorol gweld bod yna hyd yn oed platfform ar gyfer prosiectau dinesig, sef Spacehive. Mae fe eisoes ‘di cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch cyllid yng Nghanolfan Gymunedol Glyncoch, lle bydd canolfan gymunedol newydd yn cael ei hadeiladu i gwrdd ag anghenion y gymuned.

Mae Nesta wedi gofyn rhai cwestiynau allweddol yn y blogbost yma — oes ‘na pherygl bydd arian torfol yn cymryd lle arian cyhoeddus? Ydyn e’n bosib i ariannu torfol gweithio ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch? Mae’r rhain yn gwestiynau pwysig iawn i’w gofyn. Ond maent hefyd yn edrych ar bwyntiau cadarnhaol, a hoffwn ychwanegu un arall — gallai hwn newid y berthynas rhwng darparwyr a phobl sy’n derbyn gwasanaethau?

Yn y Gyfnewidfa Arfer Da rydym yn cydnabod bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus newid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu a gan bwy. Rydyn ni eisoes wedi gweld hynny yn ein seminar dysgu a rennir ar Ail-lunio Gwasanaethau yng Nghaerdydd, lle wnaethon ni arddangos gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu darparu gan ymddiriedolaethau, y sector gwirfoddol a chynghorau cymuned. Yn yr un seminar dywedodd Tony Bovaird wrthym fod chwe miliwn o bobl yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus, a bod yna chwe deg miliwn o ddinasyddion yn y Deyrnas Unedig. Serch hyn, mae cydbwysedd y grym yn dal i ffafrio’r lleiafrif. Gallai ariannu torfol helpu i newid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweld pobl, fel bod nhw ddim yn cael eu gweld fel derbynwyr diolchgar, ond yn hytrach fel pobl sydd â rhan allweddol i chwarae mewn gwasanaethau cyhoeddus?

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.


Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau? was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

atgof.co: 4 Miliwn

BlogMenai.com: Yr olwynion yn dod oddi ar yr ymgyrch i gamarwain

Ar Asgwrn y Graig: Ogla da

Dwi’n medru dilyn fy nhrwyn yn hamddenol o gwmpas yr ardd ar hyn o bryd, a chael llond gwynab o ogla hyfryd bob ychydig lathenni.
 

 Nemesia -planhigyn sy’n byw mewn pot ar y patio, ac yn llenwi’r ardal eistedd efo ogla fanila cryf.

Lelog fach -hyfryd, ac yn blodeuo fel mae’r fanhadlen gyfagos yn gwywo.

Rhosyn mynydd -arogl cynnil ond gwerth ei gael. Yr unig flodyn dwbl sydd yn yr ardd. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: gŵyl jerwsalem

Er bod Jerwsalem wedi bod yn brif ddinas Israel ers i’r Brenin Dafydd ei gorchfygu 3,000 mlynedd yn ôl, adunwyd Jerwsalem 50 mlynedd yn ôl ar ôl y Rhyfel Chwe Diwrnod yn yr hanes modern. Mae hi’n aros yn brif ddinas Israel am byth a bythoedd. Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth i wella iechyd a llesiant

Nôl ym mis Tachwedd, cyflwynodd Sarah Wills, Gofal, weithdy yn ein digwyddiad ‘Gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaethi wella iechyd a llesiant’. Yn y blog hwn, mae Sarah yn cyflwyno Gofal i ni, beth y mae’n ei wneud a’r datblygiadau cadarnhaol ers ein digwyddiad… Ynglŷn â Gofal Mae gan Gofal weledigaeth syml – ‘Iechyd meddwl […] Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dolydd

Ar Galwad Cynnar, yn ddiweddar, roedd rhywun [Trevor Dines, efallai?] yn siarad am ddolydd, ac am wahanol ragleni i ail-sefydlu dolydd traddodiadol.  Mae ein comin ni, ond dipyn dros bum munud i ffwrdd o’r tŷ [ar droed] yn perthyn i’r ParksTrust, sydd yn rheoli’r rhan fwyaf o’r tir ’gwyrdd’ yn Milton Keynes.  Mae nhw wedi penderfynu ail greu dôl traddodiadol mewn cae ar waelod y comin.  Dyma rhan o’r gwaith i ddechrau’r prosect yn ôl yn yr Hydref gyda’r tractor yn gweithio yn y cae:





 Roedd yr arwydd [isod] yn dweud wrthan ni am y prosiect a wedyn gnwaeth y waith ddechrau:  


yr un ffordd a soniodd Trevor Dines amdano – torri’r ’gwair’ o ddôl traddodiadol, yn llawn o’r hadau, a gadael i’r hadau gnweud ei gwaith.

Dan ni felly ond ar y cam gyntaf.  Ond mae hyd yn oed rhoi gorau i ddefnyddio chwyn laddwyr [a peidio’r pori] wedi cael effaith yn barod.  Dan ni’n dechrau gweld blodau yn dod yn ol i’r cae nesa i’r cae yma.  


Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Mwy am y ‘codiad cyflog’ – neu spot the difference

Sion Jones mis Chwefror 2017.Sion Jones mis Mai 2017:Mae trimis yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Parhau i ddarllen