Archif Dyddiol: 7 Awst 2017

fel y moroedd : nofel dditectif japaneaidd

Dw i newydd orffen nofel dditectif Japaneaidd gan Kyotaro Nishimura. Yr Arolygydd Heddlu Totsukawa ydy’r prif gymeriad, ac mae o’n datrys troseddau cymhleth fel Sherlock Holmes. Mae’r gyfres honno’n hynod o boblogaidd ers degawdau. Mae gan y gŵr sawl copi ar ei silff; mae o’n eu darllen i ddysgu Japaneg. Dechreuais ddarllen un ohonyn nhw ddyddiau’n ôl, a ches i fy nghyfareddu gan y stori a chymhlethdod y plot. Gwnaethpwyd nifer o ddramâu teledu yn seiliedig ar y nofelau. Ces i gip, ond rhaid dweud mai llawer gwell ydy’r llyfr.  Parhau i ddarllen

fideo wyth: Gemau’r Steddfod

gan Elidir Jones Mae’r Eisteddfod yma. Uchafbwynt y flwyddyn ddiwylliannol, heb os nac oni bai, ac – heb ddefnyddio gormod o hyperbole – y rheswm gorau un i siarad Cymraeg. Briliant o achlysur. Gwych. Rhywbeth wneith newid eich bywyd, heb os nac oni bai. Os nad oes ‘na rywbeth mawr yn mynd o’i le, wrth…

Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: 🗣 Eddie Ladd yn arwain y chwyldro

Cafodd Non Tudur ei syfrdanu mewn disgo hanesyddol yng Nghastell Caernarfon… Parhau i ddarllen

Golwg360: Eddie Ladd yn arwain y chwyldro

Cafodd Non Tudur ei syfrdanu mewn disgo hanesyddol yng Nghastell Caernarfon… Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: ‘Cofia Bantycelyn yr un Pryd.’ Ein gohebydd yn holi Mrs Williams

Tipyn o sôn y dyddiau hyn nad ydym yn gwneud digon o goffadwriaeth ein Pêr Ganiedydd ar dri chanmlwyddiant ei eni.   Gan hynny aeth ein gohebydd ar bererindod i Bantycelyn gan obeithio teimlo peth o’r nefol wynt.   Dyma’i adroddiad. § Ar ôl cael fy nghyfeirio i ddechrau at adeilad mawr llwyd yn Aberystwyth, […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Y Capel Ebeneser Gwreiddiol, Caerdydd

Yn 1826, sefydlwyd enwad Annibynwyr Cymreig cyntaf Caerdydd.  Daeth ei aelodau cyntaf o blith aelodau o Eglwys y Drindod ar Stryd Womanby, a’u man cwrdd cyntaf oedd adeilad The Old Coach House. Mae’n ymddangos mai tafarn oedd hwnnw ar stryd sydd bellach yn Heol y Porth heddiw.  Ymhen tua blwyddyn, cawson nhw safle i adeiladu […] Parhau i ddarllen