Archif Dyddiol: 8 Awst 2017

Pop Cymru: Dihoeni – Swnami #pophapus

Blog Glyn Adda: Sawl gwaith mae eisiau dweud ?

Ymateb i GOLWG 360 heddiw,, yr eitem ‘Hogia Môn’. Dyma ddetholiad o bethau a gyhoeddais dros y blynyddoedd diwethaf ar faterion iaith.  Fe welir bod amryw ohonynt wedi eu hanfon i GOLWG, a’u cyhoeddi ganddo.  Eithr onid yw’n bryd i GOLWG, fel – bellach – ein hunig gyhoeddiad seciwlar wythnosol Cymraeg,  ddechrau cymryd sylw o […] Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Y Gau Elyn a’r Gwir Elyn

“the finest trick of the devil is to persuade you that he does not exist”

Charles Baudelaire

 

Dros y misoedd diwethaf mi fûm yn ystyried yn ddigon dwys ar adegau end game cenedlaetholdeb Cymreig,  ac a fyddwn fyth yn cyflawni rhai, os nad pob un, o’n nodau. Y mae’r nodau hynny inni’n hysbys. Oce, y dyddiau hyn y cymysgir â nhw ffeministiaeth, amgylcheddiaeth, cydraddoldeb o bob math, sosialaeth – bob un yn bethau teilwng i raddau tra wahanol – ond dau nod yn unig sydd i genedlaetholdeb Cymreig: parhad ein hiaith a rhyddid ein gwlad. Ategwch atynt yr hyn a fynnwch o’ch daliadau personol, ond o safbwynt gwrthrychol, y ddau nod hynny yw’r alffa a’r omega.

Ond dydi gwybod yr hyn rydych o’i blaid ddim yn ddigon, ac y mae’r sawl sy’n coelio hynny’n naïf. Gwlad naïf, ddiniwed ydyn ni gan amlaf, ac mae hynny wedi bod yn rhwystr enfawr i ni wrth gyrraedd y pen taith a hoffem. Ni wyddom ein gelyn, oherwydd fe’n twyllwyd i feddwl mai arall yw, gan wlad sydd, ysywaeth, yn llawer craffach a chyfrwys na ni.

Fe deallai Gwynfor Evans, dwi’n meddwl. Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â’r dyfyniad adnabyddus canlynol ganddo:

 

Britishness…is a political synonym for Englishness which extends English culture over the Scots, the Welsh, and the Irish.

 

Ond efallai nad ymhelaethodd ddigon yn hyn o beth – neu efallai, nad amgyffredai lawnder yr hyn a ddywedodd. Y mae Prydeindod cyfoes yn hunaniaeth artiffisial a grëwyd â dibenion gwleidyddol yn sail iddi, ond mae’n dwyll ehangach ac yn dwyll y disgynnom i’w fagl yn llwyr. Roedd yn fwy na modd i gyflawni’n gymharol lwyddiannus ddiben Seisnigeiddio Ynysoedd Prydain. Fe hoeliodd yn llwyr ein sylw, ac rydym yn dal i weld Prydeindod fel y gelyn. Fe’n twyllwyd i gasáu a brwydro rhywbeth sydd, yn ei hanfod, ddim hyd yn oed yn bodoli.

Mae hynny’n glyfar. Ac yn glyfrach nag y meiddem feddwl. Achos mae cenedlaetholwyr yn tueddu i gasáu Prydeindod: yn brwydro’n ei erbyn tra bod gan drwch y Cymru gryn ymdeimlad o uniaethu â hwnnw. Ond Seisnigrwydd? Does gan y Cymry ddim ymberthyn iddo.

Yn ddiweddarach beiom ni genedlaetholwyr Lundain – un ddinas – hefyd am holl drafferthion ein gwlad, ac yn ddiweddarach fyth Gaerdydd. Ydyn ni’n bwrpasol, yn fwriadol, camu’n dwp o amgylch y peth hwnnw sydd am ein troi’n genedl angof?

Achos, yn y bôn, nid Prydeindod ydi’r gelyn. Dyma’i dweud hi’n onest: Lloegr ydi’r gelyn.

Does pwynt imi fynd drwy dreigl y canrifoedd ac egluro nad Prydeindod laddodd Llywelyn, na Phrydeindod ychwaith fynnodd drwy Frad y Llyfrau Gleision ddadwreiddio Cymru o’i hiaith a’n Seisnigeiddio. Ond mae’r patrwm yn amlwg. Sylweddolodd y Sais ganrifoedd yn ôl y gallai goncro Cymru drwy arfau a thrais ond na allai lwyr roi ei phobl dan droed ond drwy gyfrwyster llywodraethu (er gwaetha’n twpdra cynhenid rydyn ni dal yn rhyfeddol o wydn – efallai bod yna gysylltiad rhwng y ddau. Wedi’r cyfan, dydi bocsars ddim yn adnabyddus am eu gallu deallusol).

Y broblem oedd sut oedd gwneud hynny. Yn hyn o beth mae Cymru fu a Cymru sydd yn dra thebyg: dderbyniwn ni fyth mo’n Seisnigeiddio ddigywilydd. Y mae hunaniaeth Seisnig yn wrthun i’n gwaed. Ond o’i throsi’n Brydeindod, gwnaed y gwaith yn haws.  

Y peth dwl ydi, hyd yn oed pan ddechreuom ni ddeall taw mwgwd oedd, parhawyd i dargedu’r mwgwd ac nid y gwisgwr.

Rhyfel i’r farwolaeth ydi perthynas Cymru a Lloegr. Nid ein nod ydi rhywsut dinistrio Lloegr – y mae hynny’n amhosib a dydi dinistrio cenedl arall ddim yn beth i’w ddeisyfu beth bynnag. Ond tydi marwolaeth Cymru wrth law Seisnigrwydd ddim yn amhosib; y mae’n fygythiad real ac yn rhywbeth sy’n digwydd ag amlygrwydd cynyddol. Brwydr fythol, ddiflas i barhau yw’r gorau y gallwn obeithio amdano. Ond mae hynny’n well na’r dewis arall.

Yn y bôn, yr hyn dwi’n ei ddweud yma ydi hyn: mae’n rhaid i ni bellach efallai cydnabod yn fwy agored (i ni’n hunain o leiaf) nad Prydeindod ydi’r gwir elyn, eithr Seisnigrwydd, a hynny y dylid ei frwydro.

Nid rhyw alwad ddifeddwl ydi hon ychwaith i rywsut feithrin casineb at y Saeson fel pobl nac unigolion; wedi’r cyfan, mae rhywun i fod i garu ei gymydog, hyd yn oed os ydyn nhw weithiau’n gwneud y peth yn ddiawledig o anodd. Byddwn i’n mentro dweud taw’r Saeson hynny sydd yng Nghymru sydd wedi cymryd at ein gwlad a’n hiaith, neu’r rhai ohonom â gwaed Seisnig ynom, sydd yn fwyaf poenus o ymwybodol o law Seisnigrwydd yn nirywiad parhaus Cymreictod ac agweddau cynifer o Saeson yng Nghymru at eu gwlad ddewis. Ysywaeth, mae rhywbeth hanfodol Seisnig am fynnu aros mewn gwlad rydych wedi dewis byw ynddi a’i chasáu a’i dirmygu’r un pryd.

Mae i Gymru ddau elyn: y gau elyn a’r gwir elyn. Rhown i’r naill ochr y cyntaf. Fe’n cyflyrwyd fel cŵn gan ein meistri i fod ofn hyd yn oed cydnabod yr ail. Ond does amser i’w wastraffu mwyach. Ei gydnabod sydd raid.

Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Nesta Roberts o Ddinbych- y cwsmer cyntaf i ddefnyddio’r caban talu newydd yn Llyfrgell a Siop un Alwad Dinbych.

Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Archwilio arloesol: Dysgu a rhannu gyda Llys Archwilio yr Iseldiroedd

Read this blog post in English Beth all Swyddfa Archwilio Cymru ei ddysgu oddi wrth ddull Llys Archwilio yr Iseldiroedd o ymdrin ag arloesedd? Ymwelodd Dyfrig Williams â’r Hâg i weld sut mae’n gweithio ac i rannu gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da. Ym mis Mai cefais gyfle i ymweld â Llys Archwilio yr Iseldiroedd er […] Parhau i ddarllen