Archif Dyddiol: 10 Awst 2017

Anffyddiaeth: Ynghylch gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth ein hunain drwy’r amser

Ymddengys bod siaradwyr Cymraeg o dan warchae braidd ar hyn o bryd. Efallai bod yr ymosodiadau’n teimlo’n fwy cyson nag yn y gorffennol oherwydd y cyfryngau cymdeithasol. Mae twpsod anwybodus bellach yn ysgrifennu cynnwys eu meddyliau ar y we yn hytrach na’u cadw’n breifat, ac mae’r un rhwydweithiau’n gweithio fel larwm i alw’r Cymry i’r gâd bob tro y gwelwn rywbeth sy’n ein tramgwyddo.

Ond mae’n bosibl hefyd bod yr ymosodiadau’n dwysáu. Yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol – mae Brexit yn symptom o greisis hunaniaeth yn Lloegr i raddau helaeth – gellir synhwyro bod drwgdybiaeth tuag at amrywiaethau mewnol yn y Deyrnas Gyfunol yn cynyddu. Beth bynnag sy’n mynd ymlaen, roedd caredigion y Gymraeg yn disgwyl y gwaethaf pan drydarodd y rhaglen Newsnight brynhawn ddoe am eu bwriad i gynnal trafodaeth am yr iaith. Os rywbeth, roedd yr eitem a ddarlledwyd hyd yn oed yn waeth na’r hyn a ddychmygwyd gan y pesimist mwyaf yn ein plith. Dau westai, dim un ohonynt yn siarad Cymraeg, ac un yn ffwl rhagfarnllyd di-nod a’i fryd ar efelychu Katie Hopkins. Efallai bod llawer o siaradwyr yr iaith yn brysur yn yr Eisteddfod ar hyn o bryd, ond roedd hyn yn hurt.

Dylem osgoi theorïau cynllwyn fan hyn. Nid arwydd o elyniaeth bwriadol gan gynhyrchwyr y rhaglen yw eitem fel hwn. Y gwir poenus yw nad ydym yn ddigon pwysig i haeddu hynny. Anwybodaeth lwyr sy’n gyfrifol. Roedd yn amlwg drwy gydol yr eitem nad oedd gan Evan Davis y syniad lleiaf am y pwnc; fe awgrymodd fwy nag unwaith mai hobi yw’r Gymraeg, yn hytrach na chyfrwng naturiol bywyd cannoedd o filoedd o drigolion y wladwriaeth. Mae’n ddealladwy bod newyddiarurwyr, cynhyrchwyr ac ymchwilwyr rhaglenni fel Newsnight yn anwybodus amdanom; Saeson yn byw yn Llundain ydynt, wedi’r cyfan. Nid yw’r iaith Gymraeg yn croesi’u meddyliau fel arfer. Rhaid dweud bod gweld rhaglen o’r fath yn gwneud smonach o bwnc cyfarwydd yn gwneud i mi amau’u hadroddiadau am faterion nad wyf yn gwybod cymaint amdanynt; nid wyf wedi gallu ymddiried yn The Economist yn yr un ffordd ers darllen y llanast llwyr hwn, chwaith.

Rwy’n teimlo’n eithaf diymadferth am hyn i gyd. Creu stwr a chodi ymwybyddiaeth yw’r unig ateb, am wn i. Mae gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth fel grwp cymdeithasol dro ar ôl tro yn waith digalon, ond mae’n debyg mai dyna’r unig ddewis. Nid oes unrhyw un arall yn mynd i roi chwarae teg i ni, felly mae fyny i ni ein hunain. Am resymau amlwg, dim ond siaradwyr Cymraeg sy’n deall yn iawn beth sy’n mynd ymlaen yn y byd Cymraeg. Dyna natur ieithoedd gwahanol. Nid ein bai ni yw hynny. Y cyfan allwn ni ei wneud yw esbonio. Trafodwch yr iaith Gymraeg yn Saesneg, a phopeth arall, yn naturiol, yn Gymraeg. Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Problem go iawn

Dwy gic i’r hen Gymro yr wythnos yma, a dim byd newydd yn hynny. (1) Sports Direct, Bangor. (2) Newsnight neithiwr. Am (1), ie digon tila. Ac am (2), ie, nodweddiadol, disgwyliadwy. Ond am (1) a (2) dywedaf eto, fel yr wyf wedi dweud droeon o’r blaen am bethau tebyg: mae rhagluniaeth yn gyrru pethau […] Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Ail Wampiad gorau caneuon Caryl Parry Jones? via @creureu

Ail wampiad gorau o ganeuon Caryl Parry Jones?

— #CREU (@creureu) August 7, 2017

Calon – Diffiniad

Seithfed Nef – DJ Dafis

Invaders Hapus – Clinigol
Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Estron (Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru)

 Mae mwynhau yn y ’steddfod yn gallu teimlo’n rhyfedd, gan y bu Mam farw yn ystod wythnos y Brifwyl yn 2014.  Ar adegau ar y Maes, pan fydd rhai’n holi ‘sumai?’, bydda i’n oedi weithiau cyn ateb ‘da iawn diolch’. … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Cowbois ac Impiaid

Wrth docio’r goeden afal Enlli sy’n tyfu fel espalier acw, mi darodd fi y gallwn i ddefnyddio ambell frigyn i greu coed afal Enlli newydd.

Bu’r Fechan yn tyfu coed afalau o hadau tua tair/pedair blynedd yn ôl. Mae un yn tyfu yma fel coeden fach ‘step-over’ ac ambell un wedi eu plannu’n ddistaw bach yn y dull ‘guerilla’ mewn llefydd eraill! Ond mae rhai o’r coed ifanc dal yma mewn potiau. Y peryg Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Cynnydd hyd yma: Datblygiad Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd y Rhos

Dyma luniau sydd yn dangos y cynnydd hyd yma ar safle Glasdir. Diolch i Wynne Construction am ddarparu’r lluniau.   Mae’r prosiect yma yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’u Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif. Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Ynglyn a’r etholiad a darlith Roger Scully yn yr Eisteddfod

Ymddiheuriadau i ddechrau – dwi yn y ‘Steddfod a does gen i fawr o fynediad i drydan, ac oherwydd hynny mae charjio ffon yn hunllef braidd.Ta waeth am son peddwn i am ddarlith gan Roger Scully yn yr eisteddfod ar ymgyrch a chanlyniad etholiad mis Mai y… Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Gŵyl Dai: Bowlenni Pysgod, methiant a chymhlethdod

Read this blog post in English Yn ddiweddar cynhaliodd y Sefydliad Tai Siartredig yr Ŵyl Dai sydd yn fath newydd o ddigwyddiad er mwyn rhannu ffyrdd newydd o weithio. Mae Dyfrig Williams yn rhannu’r hyn a ddysgodd isod. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r Sefydliad Tai Siartredig er mwyn rhannu’r hyn a ddysgwyd […] Parhau i ddarllen