Archif Dyddiol: 26 Awst 2017

: Awst yn Anogia

O’r dudalen gyntaf rydych yn ymwybodol eich bod yn nwylo meistr. Roedd Gareth F. Williams yn athrylith, boed yn ysgrifennu … More Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Gwario mawr ar Senedd Cymru

Mae’n dda deall bod Darran Hill yn cadw llygad barcud ar wariant Llywodraeth Cymru ac yn cwyno’n groch am wariant o £1.8m ar rhywbeth neu’i gilydd yn Senedd Cymru.

Mae’n siwr ei fod yn gywir i ddadlau bod £1.8m yn swm sylweddol.  Wedi’r cwbl mae’n tua 1/200 o’r hyn mae’r trethdalwr yn cael y fraint o’i dalu am beth sydd i bob pwrpas yn annedd breifat yn Llundain.
Neu’n 1/3,900 o’r hyn y gallai’r gwariant ar ddeddfwrfa arall fod – yr un yn Llundain. 

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : tomatos coch

Es i farchnad ffermwyr y bore ‘ma am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Cynhalir dan do enfawr bellach, ac mae yna fand hyd yn oed a oedd yn creu awyrgylch dymunol. Wedi rhoi cip ar bob stondin, dewisais un a oedd yn gwerthu maint lleiaf (i fi a’r gŵr.)  Prynais bwys o domatos coch coch. Gwerthir gwin lleol hefyd, ond yn anffodus doedd gen i ddim digon o bres parod. Y tro nesa efallai! Parhau i ddarllen