Archif Dyddiol: 31 Awst 2017

Blog Glyn Adda: Yr hen, hen broblem

Pryder a phanic ofnadwy heddiw, yn ôl Newyddion S4C a BBC Cymru Fyw. Gostyngiad o 10% oddi ar 2013 yn nifer y Cymry sy’n mynd i brifysgolion “Grŵp Russell”, sef “rhai o brifysgolion mwyaf nodedig y DU”. Hynny yw, dim digon o’n plant galluocaf yn gadael Cymru. Mae llywodraeth Cymru’n cymryd sylw ac yn addo […] Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 3 Medi 2017

Darlleniad y Dydd: 2 Timotheus 2:8-10 (BCND:tud.234/ tud.214)

Croeso cynnes i’r oedfaon heddiw ac i Lais Bro Aled cyntaf tymor yr Hydref. Gobeithio i bawb ohonoch fwynhau’r haf a’ch bod yn edrych ymlaen at ailgychwyn gweithgareddau a chyfarfodydd arferol yr eglwysi a’r Fro. Gweddïwn ar i’r Ysbryd Glân barhau i’n hadnewyddu er mwyn i ni . . . → Read More: Dydd Sul, 3 Medi 2017

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gwirod eirin

Erthygl newydd gan fy merch – ar wirod eirin. Gwirod poblogaidd yn Japan ydy o, ac mae nifer o bobl yn mwynhau ei wneud gartref. Roedd fy mam yn arfer paratoi jwg ddiwedd mis Mai. Mae’n braf i yfed wrth ychwanegu dŵr a rhew. Mae’n gwneud lles i chi hefyd! Doedd gen i ddim diddordeb dysgu’r grefft pan oedd cyfle gen i yn Japan, ond wedi darllen yr erthygl, byddwn i’n hoffi ei wneud o. Yn anffodus, dydy’r cynhwysion ddim ar gael yma! Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr – Stifyn Parri: Cau Dy Geg (Mr Producer)

Wrth ddarllen fy nodiadau yn dilyn sioe Stifyn Parri, Cau Dy Geg,  dwi’n dal i chwerthin lond fy mol; mae’n berfformiad un-dyn unigryw yn yr iaith Gymraeg, sy’n sicr yn werth ei weld. Yn rhannol yn sioe stand-yp, llawn bon-mots … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: #LoveMaps

Chris Catling, Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales Secretary tells us about his love for maps as part of our #LoveMaps […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Stwj Cymreig Putin

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai yn cofio’r blogiad yma ynglyn ag arfer y Tori Felix Aubel i ail drydar stwff o gyfri trydar yr eithafwr Adain Dde, David Jones.  Ers iddo fynd i drafferthion efo’r cyfryngau am geisio dechrau trafodaeth efo eithafwr… Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: BETH OEDD MEDDYGINIAETHAU GWERIN CYMRU?

Cyn meddyginiaeth fodern a’r GIG bu yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ymarfer meddyginiaethau gwerin. Beth oedden nhw? Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Dyddiau Blin

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Roedd rhywbeth yn broffwydol yn adroddiad gohebydd newyddion Trawsfynydd yn ei golofn ar 14 Gorffennaf 1917 yn Y Rhedegydd. Oherwydd y newyddion drwg rheolaidd am golledi… Parhau i ddarllen

fideo wyth: Sut Wnes i Ddysgu Stopio Poeni a Charu Gemau Golff

gan Elidir Jones Dwi’n casau golff. Dwi’n casau popeth amdano fo. Y snobyddrwydd, yr agweddau hen-ffasiwn sy’n frith yn y gêm, cost yr holl beth… mae’r ffaith bod Donald Trump yn ffan yn dweud y cyfan. Nid ‘mod i isio gor-ddweud, ond os ‘da chi’n golffiwr, ‘da chi’n ddim iws i neb, a ddylsech chi…

Parhau i ddarllen