Archif Misol: Awst 2017

gwennanelin: graddio Abertawe

graddio Abertawe Parhau i ddarllen

gwennanelin: graddio Abertawe

graddio Abertawe Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Tudalen Flaen y Diwrnod

Llafar Bro: Stiniog a’r Rhyfel Mawr -priodi, boddi, a phoeni am y chwareli

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Ynghanol yr holl bryderon am golledion ac effaith y rhyfel ar yr ardal, clustnodwyd tudalen gyfan o’r Rhedegydd ar hanes priodas y Cadben Carey Evans, Llys Meddyg, ac O… Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: The National Library of Wales at Wikimania

Just days after the National Library announced they were employing the Uk’s first, and world’s second, permanent Wikimedian I travelled to Montreal in Canada for […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : diffyg ar yr haul

Roedd yn hynod o ryfedd gweld mor o lygaid gwenu ar y ddaear! Parhau i ddarllen

fel y moroedd : o israel gyda chariad

Roedd e-bost personol gan Jane o Jerwsalem yn fy nisgwyl y bore ‘ma. Diolchodd hi am fy nghefnogaeth, a dweud bod ei bys y troed yn gwella’n araf bach. Mae hi angen llawdriniaeth a dweud y gwir, ond yn aros i’r cwmni aswiriant benderfynu talu am y gost… Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd

Cafodd Lora Lewis ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni… A minnau wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu, roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd yn gam naturiol wedi imi ddarganfod mai’r wobr oedd diwrnod yn y … Continue reading Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd Parhau i ddarllen

fideo wyth: Chwarae efo Cariad

gan Elidir Jones Mae chwarae gemau, yn ôl pob stereoteip dan haul, yn orchwyl digon unig. ‘Da ni gyd yn ymwybodol iawn o’r delweddau poblogaidd – yr hogyn tew, chwyslyd, mewn crys T kooky sy’n rhy fach iddo fo, yn eistedd mewn selar damp yn gweiddi rhegfeydd i mewn i headset drwy’r dydd a’r nos. Y… dwi ddim yn…

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Trosffordd, Cyffordd Tyndall Street a’r Ffordd Gyswllt Ganolog, Caerdydd

Trwy adeiladu’r M4 yng ngogledd Caerdydd, dechreuodd gwaith yn y 1970au ar ddatblygu cysylltiadau da o’r draffordd i mewn i rannau deheuol a chanolog y ddinas.   Nawr iddo gael ei gwblhau, mae’r Ffordd Ddosbarthu Berifferol (A4232) yn ffurfio cylch, yn ymylu de Caerdydd rhwng cyffyrdd 30 (Porth Caerdydd) a 33 (Capel Llanilltern) yr M4. […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Stori ryfedd

Stori fach ryfedd o’r Alban ddoe. Nicola Sturgeon, yn ôl adroddiad GOLWG 360, ‘yn anhapus gydag enw ei phlaid’. ‘Pe gallwn droi’r cloc yn ôl i ddyddiau sefydlu fy mhlaid, fyddwn i ddim yn dewis yr enw Scottish National Party.’ Pa enw arall fyddai hi wedi ei roi tybed? A’r peth rhyfedd yw fod hyd […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : dim dyddiad cau

Mae’r gŵr wrthi’n gweithio o gwmpas y tŷ ers ymddeol. Mae ganddo amser i’w wneud o’r diwedd. Mae o’n dal, fodd bynnag, i geisio gorffen rhyw waith papur ar gyfer y brifysgol, symud ei holl eiddo oddi wrth ei swyddfa heb sôn am wneud y ddyletswydd amrywiol yn ei fywyd. Ac felly na fydd o byth yn segur. Y gwahaniaeth ydy nad oes dyddiad cau bellach. Braf iawn! Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Allan Rwan: EP newydd Ffracas – Mae’r Nos Yn Glos Ond Does Dim Ffos Rhwngtha Ni

Mae’r Nos yn Glos ond does dim ffos rhwngtha ni – EPFfracasI KA CHING Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Allan Rwan | Dy Fodrwy Di – Sarah Wynn #tiwn

Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Llyfr Gwag gan Gwilym #tiwn

Llafar Bro: Eisteddfod Lalalaaaaa!

Gallwch chi ddweud bod ‘Steddfod Genedlaethol Boded wedi mwynhau ambell i ddiwrnod o dywydd Stiniog, ond cafwyd dyddiau braf yno hefyd a llawer o bobol y fro wedi mwynhau oriau difyr ar y maes, ac ambell i lwyddiant hefyd.

Roedd Pabell y Cymdeithas… Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Felan yr Eisteddfod? Gwrandewch ar rhestr chwarae Pop Cymru 2017

BlogMenai.com: Ynglyn a’r sibrydion am arweinyddiaeth y Blaid

Wna i ddim treulio llawer iawn o amser yn trafod arweinyddiaeth Plaid Cymru – mae’r cyfryngau wedi bod wrthi trwy gydol Mis Awst, er bod eu straeon wedi eu hadeiladu ar fawr ddim o sylwedd – fel sy’n aml yn wir yr amser yma o’r flwyddyn  &nbs… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : salm 3

Arglwydd, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!Y mae llawer yn codi yn f’erbyn….Ond yr wyt ti, Arglwydd, yn darian i mi….Nid ofnwn pe bai myrddiwn o bobl yn ymosod arnaf o bob tu….Byddi’n taro fy holl elynion yn eu hwyneb, a thorri dannedd y drygionu… Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Fy wythnos gyntaf i yn RiP/fA: Arweinyddiaeth

Rydw i’n wythnos i mewn i weithio ar gyfer Research in Practice a Research in Practice for Adults, ac mae fe wedi bod yn wych hyd yn hyn. Mae gen i ddigon o ddeunydd ar gyfer sawl blogbost, ond bydd un yn gwneud y tro! Dyma fy adlewyrchiadau cychwynnol ar ôl yr wythnos yma.

Arweinyddiaeth

Roedd fy ngwaith yn Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys mentora gyda chydweithwyr mewnol ac allanol er mwyn ei helpu nhw i feddwl am sut y gallant alluogi gwasanaethau cyhoeddus i wella, ond dyma’r tro cyntaf i mi reoli staff yn uniongyrchol. Fe wnaethon ni gynnal digwyddiadau diddorol yn Swyddfa Archwilio Cymru a roddodd lot i mi gysidro am natur arweinyddiaeth dda, ac fe wnaethom hefyd gyhoeddi blogbostau gwych fel yr un yma gan Kelly Doonan ar arweinyddiaeth ddigidol. Roeddwn i eisiau adeiladu ar fy steil arweinyddiaeth cyn dechrau’r swydd yma felly rwyf wedi mynd i’r afael â’r theori trwy ddarllen cwpl o lyfrau.

Mae Neil Tamplin eisoes wedi ysgrifennu blogbost wych ar Turn The Ship Around gan David Marquet, felly fel rhywun sy’n credu’n gryf y dylwn ni ddim ail-ddyfeisio’r olwyn, ni fyddaf yn dyblygu’r hyn mae fe eisoes wedi’i ysgrifennu. Ond fe wnâi ychwanegu fideo o TED Talk Marquet, sy’n drosolwg wych. Yn y fideo mae’n disgrifio sut wnaeth ddatganoli penderfyniadau a chyfrifoldeb i’r lefel fwyaf priodol, sef lle mae gwaith yn cymryd lle.

https://medium.com/media/20bcef6512f41e46b663afbf06958d02/href

Yr ail lyfr rydw i wedi bod yn darllen yw Freedom from Command and Control: A better way to make the work work gan John Seddon. Mae hyn yn rhannol oherwydd dydw i ddim yn meddwl rydw i’n arweinydd sy’n gorchymyn ac yn rheoli’n gor-gadarn (ac nad yw fy rheolwyr gorau wedi bod o’r natur honno chwaith), ac hefyd achos rwy’n ffodus y byddai’n arwain tîm galluog sydd wedi adeiladu arbenigrwydd yn ei swyddi.

Rwy’n gweld fy rôl fel Arweinydd Gwas. Ym myd Rheoli Prosiectau Ystwyth, mae fframwaith Scrum yn diffinio’n glir y Meistr Scrum fel Arweinydd Gwas. Mae hyn yn golygu mai fy rôl i fel arweinydd yw helpu’r tîm i gwrdd â’i nodau, ac i ddatblygu a pherfformio mor uchel â phosib. Arweiniodd Steve Lisle o Swyddfa Archwilio Cymru brosiect Archwilio Sydd Ar Flaen y Gad gyda’r math hwn o feddylfryd, ac mae’n rhywbeth yr hoffwn i integreiddio yn fy ngwaith i. Mae’r dyfyniad yma gan Robert Greenleaf, a ddyfeisiodd y cysyniad fel rhan o’i draethawd “The Servant as Leader”, yn un sy’n crynhoi pethau’n dda:

“The servant-leader is servant first… It begins with the natural feeling that one wants to serve, to serve first. Then conscious choice brings one to aspire to lead. That person is sharply different from one who is leader first, perhaps because of the need to assuage an unusual power drive or to acquire material possessions…The leader-first and the servant-first are two extreme types. Between them there are shadings and blends that are part of the infinite variety of human nature.

“The difference manifests itself in the care taken by the servant-first to make sure that other people’s highest priority needs are being served. The best test, and difficult to administer, is: Do those served grow as persons? Do they, while being served, become healthier, wiser, freer, more autonomous?”

Gan fod y tîm eisoes yn gweithredu eu swyddi i’r dim, does yna unrhyw synnwyr mewn symud cam yn ôl. Mae’n werth edrych ar y trydar yma er mwyn darllen llif Twitter ar gyfer cipolwg o beth all ddigwydd os ydych chi’n dychwelyd yn ôl i arweinyddiaeth gorchymyn a rheoli (rhybudd bach i chi, mae yna ychydig o regi ynddo).

Quick story. I worked in a uni bookshop once. A manager, and four new staff including me. About 3 months into the job, our boss was caught..

 — @Grimeandreason

Rwy’n benderfynol o arwain y gwaith yma’n wahanol, ac yn y dyfodol, rwy’n siŵr o rannu’r heriau rwy’n wynebu a’r pethau da ni’n gwneud ar y ffordd.

Gorbwysedd ar reolau

Rydw i wedi blogio’n ddiweddar am gymhlethdod sefydliadol ar ôl i mi hwyluso trafodaeth ar arloesi yn yr Ŵyl Tai (ac mae Paul Taylor wedi blogio ar hyn yn arbennig ar ei flog ef). Yn ddiweddar, rydw i wedi ffeindio bod lot o bobl wedi dweud bod angen iddynt newid eu polisïau i gynnwys mwy a mwy o gafeatau er mwyn amlinellu pa fath o waith na allant ei wneud, sydd yn ychwanegu mwy a mwy o haenau biwrocrataidd. Felly roedd e’n grêt i ddarllen hwn yn Llawlyfr Staff Neuadd Dartington (lle mae Research in Practice a Research in Practice for Adults wedi’i leoli):

“What is it about rules? Love ’em or hate ’em, they can keep things running smoothly or they can divide nations. We could have policies to cover everything (in fact, we almost used to) but as long as you treat your colleagues and yourself with respect and take care of each other, our customers, and our environment you can’t go far wrong.”

Mae’n braf iawn i weithio i sefydliad sy’n gweld hyn fel y ffordd ymlaen!

Mae’n werth edrych hefyd ar y gwerthoedd yr wyf wedi’u tanysgrifio hefyd fel rhan o’m swydd:

Be Inspiring. We draw on our creativity and uniqueness to inspire positive change.

Be Committed. We are committed to creating the best experience for all.

Be Open. We are open, honest, respectful and fair.

Be Collaborative. Working and learning together, we have the courage to challenge and achieve great things

I mi, dyma’r rhinweddau o pam y dylai pobl weithio’n agored (a dyma lyfr arall sydd ar fy rhestr ddarllen i). Er nad yw cyfryngau cymdeithasol bellach wedi’i sgwennu i mewn i fy nisgrifiad swydd fel yr oedd yn fy swydd ddiwethaf, rwy’n credu fod ganddo rôl bwysig i fy helpu i i ddysgu o bobl eraill ac i rannu beth rwy’n dysgu a gwneud. Hefyd, rwy’n gobeithio bydd hyn hefyd yn galluogi mi i gadw fy sgiliau Cymraeg! Rwy’n rili edrych ymlaen at weithio mewn swydd lle mae dysgu yn ganolog i’m rôl, yn enwedig mewn sefydliad sy’n gweld y gwerthoedd uchod fel rhinweddau hanfodol. Mae yna amser cyffrous o’m mlaen i!


Fy wythnos gyntaf i yn RiP/fA: Arweinyddiaeth was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

fideo wyth: Robotiaid Gorau Horizon Zero Dawn

gan Daf Prys Dyma pam ddyliwn ni fod yn poeni go iawn, anghofiwch niwcs a Nazis a nains, robots yn dwyn ein swyddi ni yw’r broblem mewn ffatriaid Hitachi a Huawei a Honda. Felly pa well na ysgafnhau’r sefyllfa efo fideo bach diniwed am, wel, am robot dinosaurs. Yn sbesiffig, yr 8 robot dinosaur orau…

Parhau i ddarllen

fideo wyth: Helfa Drysor y Stamp

gan f8 (a’r Stamp) Llongyfarchiadau ar gyrraedd Fideo Wyth! Mwynhewch y darnau yma o waith, ac ar eu holau – y cliw nesaf! Da iawn chi. Ymlaen rwan at wefan radio Gymunedol Gymraeg, gan drio peidio ymosod ar unrhyw dollbyrth ar y ffordd, os y medrwch chi.Filed under: Uncategorized Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: treiglo???

Reit, yn gyflym rwan, cyn i’r heddlu cudd sylwi eich bod chi yma yn cynllunio i danseilio’r llywodraeth. Cofio Branwen, a’r deryn bach na anfonodd hi i’w brawd efo SOS? Be oedd enw hwnnw dudwch? Parhau i ddarllen

fideo wyth: Fideo: 8 Robot Gorau Horizon Zero Dawn

gan Daf Prys Robots. Mae pawb yn eu hoffi nhw. Mae pawb yn eu parchu nhw. Mae pawb yn eu caru nhw. Ond pa rai ydi’r gora? Dyna ydi’r cwestiwn. A’r unig ffordd o’i ateb? Rhestr. ‘Api deis. Filed under: Uncategorized Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Y Tu Mewn i’r Synagog Unedig, Heol y Gadeirlan, Caerdydd

Er bod Iddewon yn byw yng Nghaerdydd yn y 18fed ganrif, ni sefydlwyd cymuned Iddewig tan hanner cyntaf y 19eg ganrif.  Agorodd synagog parhaol cyntaf y dref yn East Terrace, sydd bellach yn ffurfio pen deheuol Ffordd Churchill, yn 1858. Yn y 1880au, ymwahanodd rhan o’r gynulleidfa o East Street gan sefydlu synagog ar wahân […] Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: ? BLOG: Gylfi Sigurdsson – y gwir yn erbyn y byd?

Sut aeth Gylfi Sigurdsson o ddweud ei fod am aros ar y Liberty i’r trosglwyddiad mwyaf yn hanes Abertawe? Parhau i ddarllen

Golwg360: BLOG: Gylfi Sigurdsson – y gwir yn erbyn y byd?

Sut aeth Gylfi Sigurdsson o ddweud ei fod am aros ar y Liberty i’r trosglwyddiad mwyaf yn hanes Abertawe? Parhau i ddarllen

fel y moroedd : y swper olaf

Aeth fy merch yn ôl i Japan y bore ‘ma wedi tair wythnos o wyliau gartref ac yn Honduras. Cyflawnodd hi gynifer o bethau pwysig – treulio amser efo’i theulu; cael gwared ar y pentwr o’i heiddo diangen yn ei ystafell; trefnu ei thrwyddedau amrywiol; mynd i weld ei ffrindiau agos a bell. Crasodd ddwy dorth o’i bara banana enwog i’r teulu yn y cyfamser. Roedd hi eisiau bwyta lasagna (ei ffefryn) i swper neithiwr, a dyma fi wrthi drosti hi. Bydd hi’n Nadolig y flwyddyn nesaf pan ga’ i’w gweld hi eto. Parhau i ddarllen

: Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth)

Ar ddydd Llun y Steddfod cyfrannais at sesiwn gyda Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn dwyn y teitl ‘a ydi Cymru’n llithro o’n gafael?’ Roedd yn thema amserol am fwy nac un rheswm, ac wrth edrych yn ôl, roedd amgylchiadau’r bore hwnnw’n rhyw fath o ddameg o’r sefyllfa ehangach dan sylw. Roeddwn yn hwyr … Parhau i ddarllen “Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth)”

The post Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth) appeared first on Y Twll.

Parhau i ddarllen

: Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth)

Ar ddydd Llun y Steddfod cyfrannais at sesiwn gyda Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn dwyn y teitl ‘a ydi Cymru’n llithro o’n gafael?’ Roedd yn thema amserol am fwy nac un rheswm, ac wrth edrych yn ôl, roedd amgylchiadau’r bore hwnnw’n rhyw fath o ddameg o’r sefyllfa ehangach dan sylw. Roeddwn yn hwyr … Parhau i ddarllen “Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth)”

The post Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth) appeared first on Y Twll.

Parhau i ddarllen

Y Twll: Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth)

Ar ddydd Llun y Steddfod cyfrannais at sesiwn gyda Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn dwyn y teitl ‘a ydi Cymru’n llithro o’n gafael?’ Roedd yn thema amserol am fwy nac un rheswm, ac wrth edrych yn ôl, roedd amgylchiadau’r bore hwnnw’n rhyw fath o ddameg o’r sefyllfa ehangach dan sylw. Roeddwn yn hwyr … Parhau i ddarllen “Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth)”

The post Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneilltuaeth newydd a neo-belagiaeth) appeared first on Y Twll.

Parhau i ddarllen

Y Twll: Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneulltiaeth newydd a neo-belagiaeth)

Ar ddydd Llun y Steddfod cyfrannais at sesiwn gyda Simon Brooks a Richard Glyn Roberts yn dwyn y teitl ‘a ydi Cymru’n llithro o’n gafael?’ Roedd yn thema amserol am fwy nac un rheswm, ac wrth edrych yn ôl, roedd amgylchiadau’r bore hwnnw’n rhyw fath o ddameg o’r sefyllfa ehangach dan sylw. Roeddwn yn hwyr … Parhau i ddarllen “Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneulltiaeth newydd a neo-belagiaeth)”

The post Myfyrdodau eisteddfodol: yr Ymneulltiaeth newydd a neo-belagiaeth) appeared first on Y Twll.

Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: Thomas Stephens Letters: Transcripts now available online

As part of a Leverhulme Trust funded project on Thomas Stephens of Merthyr Tydfil at the University of Wales Centre for Celtic Studies, transcripts of […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : mellt a tharanau yn america.

Daeth fy merch adref yn hwyr neithiwr, wedi ymweld â’i chwaer hŷn yn Norman. Roedd storm rymus a symudodd o’r gorllewin i’r dwyrain â’r un cyflymder efo’i char bron. Roedd y glaw mor drwm fel roedd hi’n gorfod stopio ar ochr y draffordd am sbel ynghyd â’r nifer o geir eraill. Gwelodd hi fellten anhygoel o lachar dros yr awyr un ar ôl y llall. Roedd hi wedi anghofio pa mor nerthol ydy mellt a tharanau yn America! Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Tu Mewn, Eglwys yr Holl Seintiau, Adamsdown, Caerdydd

Gall olrhain tarddiad Eglwys yr Holl Saint, Adamsdown yn ôl i 1856 pan adeiladodd Ardalyddes Bute eglwys yn Tyndall Street – ac wedyn ym mhlwyf y Santes Fair – i wasanaethu Anglicaniaid Cymraeg.  Ond ymhen dau neu dri degawd, mae demograffig y rhan hon o Gaerdydd wedi newid; symudodd darpariaeth Gymraeg yn nes at ganol […] Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Steddfod Môn 2017

Dyna be oedd wythnos brysur! Mi ges i andros o hwyl yn darllen darnau o Cadi Dan y dŵr ar stondinau Siop y Pethe a’r Lolfa ar y maes. Ac roedd yr hogan fach yma yn y gardigan felen yn gesan a hanner! Cêsus eraill oedd y plant sgwennodd Chwip o Chwedlau ar gyfer prosiect […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: ARFOR – y ffigyrau

Mae ail gyflwyniad  y syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg (Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin) yn un diddorol.  Syniad Adam Price ydi o wrth gwrs – fe gyflwynodd y syniad gyntaf tua pedair blynedd yn ol pan roedd ail strwythuro awdurdodau lleol ar agenda Llywodraeth Cymru.

Cyd destun ail godi’r syniad ydi bod Llywodraeth Cymru eisiau i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i greu endidau sy’n cymryd cyfrifoldeb am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a’r iaith gyda’i gilydd yn ogystal ag elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.

Mae  nifer o’r unedau newydd sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn croesi ffiniau ieithyddol – a diwylliannol hefyd.

O safbwynt rhywun sydd eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu mae’r syniad yn un i’w groesawu – cyn belled a bod cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn ganolog i genhadaeth yr endid newydd a bod y Gymraeg hefyd yn ganolog i’r ffordd mae’r endid yn cael ei weinyddu a’i reoli.

Yn ei gyfarfod yn yr Eisteddfod i drafod y syniad cafwyd awgrym gan Adam Price gallai Penfro a Chonwy fod yn rhan o’r awdurdod newydd yn ogystal a siroedd Cymreiciach Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Y broblem efo cynnwys Conwy a / neu Penfro ydi y byddai gwneud hynny’s Saesnigeiddio’r endid newydd yn sylweddol.

Os ydi’r awdurdod arfaethiedig i lwyddo – o safbwynt y Gymraeg mae’n rhaid iddo fod mwy – llawer mwy – fel Gwynedd na Chaerfyrddin neu Geredigion o ran ei ethos ac o ran ei iaith weithredol a rheolaethol.   Mae’n rhaid iddo hefyd flaenori amddiffyn a hyrwyddo’r Gymraeg.  Mae’n bosibl dadlau tros hynny os ydi mwyafrif y bobl sy’n byw o fewn tiriogaeth yr awdurdod siarad y Gymraeg.  Mae’n anos gwneud hynny os ydi’r siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif.  
Os ydym yn edrych ar y bedair sir Orllewinol ag eithrio Penfro mae yna fwyafrif bach sy’n siarad y Gymraeg.  Mae’n bosibl dadlau bod y mwyafrif hwnnw’n uwch na’r ffigyrau swyddogol oherwydd eu bod yn cymryd i ystyriaeth niferoedd cymharol uchel o fyfyrwyr – yn arbennig felly yng Ngwynedd a Cheredigion.  Mae’n debyg gen i bod sylwedd i’r ddadl honno yng nghyd destun y mater yma.

Os ydym yn ychwanegu Penfro i’r endid newydd mae’r sawl sy’n siarad y Gymraeg mewn lleiafrif.
Ac os ydym yn ychwanegu Conwy mae’n lleiafrif llai eto.

A beth am Ynys Mon, Conwy, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin?  Wel, unwaith eto mae gennym leiafrif.

Felly yn fy marn bach i, os ydi ARFOR ilwyddo fel erfyn i gryfhau’r Gymraeg, bydd rhaid iddo fod yn endid 4 sir – ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.

Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Blwyddyn yn ddiweddarach – Digwyddiad i randdeiliaid

Flwyddyn ar ôl ei ddigwyddiad cyntaf i randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2016, gwahoddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ôl i fyfyrio ar uchafbwyntiau’r flwyddyn ac i ystyried y blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y Pwyllgor y flwyddyn nesaf. Beth ddigwyddodd? Ar 19 Gorffennaf 2017 bu Aelodau’r Pwyllgor … Continue reading Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Blwyddyn yn ddiweddarach – Digwyddiad i randdeiliaid Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: ? BLOG: Gall ‘ARFOR’ roi bywyd newydd i’r Gorllewin

Aled G Job sy’n gweld posibiliadau mewn un awdurdod ar gyfer y pedair sir Parhau i ddarllen

Golwg360: BLOG: Gall ‘ARFOR’ roi bywyd newydd i’r Gorllewin Cymraeg

Aled G Job sy’n gweld posibiliadau mewn un awdurdod ar gyfer y pedair sir Parhau i ddarllen

atgof.co: Eisteddfod 2017

atgof.co: Eisteddfod 2017

fel y moroedd : arfer newydd

Wedi i’n plentyn ifancaf ni adael cartref, dechreuais a’r gŵr arfer newydd, hynny ydy gwylio You Tube wrth i ni fwyta swper. Dan ni’n dewis dwy neu dair fideo fer, rhwng pump a deg munud yr un. Anerchiadau’r Arlywydd Trump a Prager University ydy’n ffefryn ni. Pobl amrywiol o feysydd amrywiol sydd yn siarad dros Prager U ar bynciau llosg. Weithiau maen nhw’n cadarnhau’r hyn dan nieisoes eu gwybod; troeon eraill agoriad llygaid maen nhw. Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: Sut y gallwn gydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus?

Pam nad ydym yn cydgynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus? Yn y darn hwn, mae Dyfrig Williams yn ystyried sut y gall gwasanaethau cyhoeddus symud o fodel cyfranogi seiliedig ar ddiffyg i fodel seiliedig ar asedau. Erbyn i’r blog hwn fynd yn fyw byddaf wedi gadael Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n drueni oherwydd seminar y Gyfnewidfa Arfer Da Sut […] Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Hollti (Theatr Genedlaethol Cymru)

Cafwyd tipyn o ddrama ar achlysur ‘noson y wasg’ cynhyrchiad Hollti Theatr Genedlaethol Cymru.  Bu’n rhaid gohirio’r digwyddiad chwarter awr i fewn i’r llwyfaniad, am nad oedd y brif actores, Siw Huws, yn teimlo’n dda o gwbl. Roedd yn siom, … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

fel y moroedd : yn jerwsalem

Y mae ein traed bellach yn sefyll o fewn dy byrth, O Jerwsalem… Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem, “bydded llwyddiant i’r rhai sy’n dy garu; bydded heddwch o fewn dy furiau…”
Salmau 122

Lwcus iawn ydy Jane. Mae hi’n darllen, dros baned o goffi, y Beibl am Jerwsalem, yn Jerwsalem! Mae hi’n dal ati sefyll yn ddewr dros Israel er gwaethaf y bygythiadau erchyll gan filoedd o Fwslimiaid.  Parhau i ddarllen

Stopiwch Wylfa: Diweddglo cryf i ymgyrch PAWB yn yr Eisteddfod

Daeth wythnos o ymgyrchu llwyddiannus gan PAWB ar faes yr Eisteddfod i uchafbwynt ar y prynhawn Gwener, Awst 12 yn y Babell Heddwch gydag ymweliad gan Bryn Fôn ac ymgyrchwyr o’r mudiad Japanese Against Nuclear dan arweiniad Shigeo Kobayashi (yn y llun ar y dde). Cawsom berfformiadau a chefnogaeth gan y Moniars, Meinir Gwilym a […] Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Digwyddiad Dymchwel Ysgol Glan Clwyd

Yn y digwyddiad dymchwel diweddar yn Ysgol Glan Clwyd, gwnaethom wahodd ein haelod mwyaf newydd o’r tîm, Kieran, i’r digwyddiad. Dyma sut hwyl gafodd o!!! Fel aelod mwyaf newydd y tîm, cefais gyfle i fynychu digwyddiad dymchwel a thaith yn Ysgol Glan Clwyd fel rhan o waith ailwampio ar raddfa fawr. Pwrpas yr ymweliad hwn […] Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: Unfit for human habitation: living conditions in rural Cardiganshire

Nowadays we all take for granted the daily supply of clean water through our domestic taps. Homes are fully renovated, clean, centrally heated. Rubbish is […] Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: MAGU’R BABAN YN GYMRO

Y Darian Mai 17, 1917 Colofn y Mamau a’r Merched. [Anfoner defnyddiau i’r Golofn hon i ofal Marged Puw, Swyddfa’r Darian, ac od os gan fam neu ferch gwestiwn y carai ei ofyn, gofynned a gwna Marged ei goreu i ateb.] MAGU’R BABAN YN GYMRO. GAN MEGFAN. ‘… Parhau i ddarllen