Archif Misol: Medi 2017

fel y moroedd : sefyll yn barchus

Ymysg y stŵr hurt yn y byd pêl-droed Americanaidd diweddaraf, mae College of the Ozarks (mae fy nau blentyn yn astudio yno) newydd gyhoeddi byddai timau’r brifysgol yn sefyll yn barchus tra’r anthem yn cael ei ganu, a bydden nhw’n chwarae ond y rhai sydd yn gwneud yr un peth; os fel arall, bydden yn mynd adref heb chwarae’r gêm. Hwre da iawn Ozarks!  Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Diwrnod y Llyfr 2018

Does dim byd penodol wedi ei drefnu eto hyd y gwn i, ond bydd Diwrnod y Llyfr 2018 ar ddydd Iau, 1 Mawrth. Digon o rybudd i chi ddechrau meddwl a threfnu a chysylltu gydag awduron i ddod i’ch ysgolion/ llyfrgelloedd/ cymdeithasau. Gobeithio y bydd pobl yn cofio rhoi sylw i lyfrau o Gymru gan […] Parhau i ddarllen

Rhys Aneurin: Postal Depot Mixed paints on board (93 x 75cm) • £300

Postal Depot
Mixed paints on board
(93 x 75cm) • £300

Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Albwm Newydd: Llwch – Mei Emrys #tiwns #roc


Llwch – Mei Emrys

Allan rwan ar label Recordiau Côsh Records



Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Wythnos – Yr Opera!

Rhydian Morgan yn disgrifio paratoadau diweddar cwmni Opra Cymru

Yn 1957, fe wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi y nofel ffuglen wyddonol gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Wythnos yng Nghmru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis.  60 mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynir op… Parhau i ddarllen

atgof.co: Medi 2017

fel y moroedd : diwrnod cymod

Mae Yom Kippur, diwrnod mwyaf sanctaidd Iddewiaeth, arnon ni. Cofir bod Duw wedi darparu modd i faddau pechodau’r Israeliaid am gyfnod yn ôl Lefiticus 16. Symbol oedd o fodd bynnag; roedd Duw’n cyfeirio at rywbeth llawer mwy a fyddai’n dod, sef Iesu Grist fel yr aberth berffaith dros ein pechod ni, unwaith ac am byth. Fel dilynwr Iesu, bydda i’n parchu Yom Kippur drwy ddiolch iddo am ei faddeuant a gyflawnwyd ar y groes.  Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: PAM NA DDYLAI CATALONIA FOD YN ANNIBYNNOL

Ychydig iawn mewn nifer yw’r rhesymau dros aros yn Sbaen sydd wedi eu cynnig gan y rai sydd yn erbyn annibyniaeth i Gatalonia.


Ryn ni wedi clywed hyd syrffed ‘España es una’ (undod yw Sbaen), ‘byddai Catalonia ar ei phen ei hunan ac na fydd yr un wlad yn y byd crwn yn cydnabod gweriniaeth Gatalanaidd’, ac hefyd (efallai y rheswm lleiaf ei bwys ac heb allu darbwyllo neb o egwyddorion democrataidd) bod yr unben Franco ar ei wely angau wedi erfyn ar y brenin Juan Carlos, a oedd i gymryd lle’r unben fel pen ar wladwriaeth Sbaen, “Alteza, la única cosa que os pido es que preservéis la unidad de España…” (Eich Mawrhydi, yr unig beth yr wyf yn ymofyn i chi ei wneud yw gwarantu undod Sbaen.”

Ond yn awr dyma rywbeth arall mae rhaid ei ystyried cyn mynnu y dylai Catalonia fod yn annibynol. Fe’i cyhoeddwyd rai dyddiau yn ôl yn un o bapurau newydd adain-dde [eithafol] Sbaen, sef yr  ‘ABC’, i daro’r hoelen yn sownd i’r pren: 


“Ni fydd Catalonia annibynnol yn gallu cymryd rhan yng nghystadleuaeth Eurovision. Byddai Sbaen yn rhoi feto ar ei chais ymaelodaeth ac ni allai’r gwledydd eraill gystadlu yn erbyn cenedl sydd heb ei chydnabod yn rhyngwladol.”


Ond y mae iachawdwriaeth ar law, am fod yr adroddiad yn mynd ymlaen fel hyn: “Yn 2004 talodd TV3 (= teledu cyhoeddus Catalonia) am i Andorra ymddangos yn yr ŵyl am y tro cyntaf, ac i lawer bu hyn yn fodd dirgel i Gatalonia gael ei chynnwys yn y gystadleuaeth enwog.”


(h.y. iaith swyddogol Andorra, gwladwriaeth annibynnol, yw’r Gatalaneg).



Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: A new project to chart the ‘Rise of Literacy’ in Europe

How has written text shaped our world through the centuries? This is the theme explored by a new Europeana ‘Rise of Literacy’ project, in which […] Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Y REFFERENDWM ‘ANGHYFREITHLON’ YNG NGHATALONIA – DRENNYDD, Y CYNTAF O FIS HYDREF

Y bwriad gennyf oedd adrodd ticyn bach bob dydd o’r hyn sydd yn digwydd yma yn y rhan hon o Gatalonia, sef yn y brifddinas, Catalonia y mis hwn.

Ond trwy’r dydd mae X (ffug briflythyren enw’r wraig – pwyll pia hi yma ar hyn o bryd!) a minnau wedi bod yma a thraw yn y ddinas yn y protestiadau lu gyda’r miloedd o bobol yn y rhan hon o Gatalonia sydd yn mynnu amddiffyn hawliau sifil yn y parthau hyn, bod y refferendwm yn cael ei gynnal, a bod dewis y ‘Sí’ (ie dros annibyniaeth) yn ennill. 

Y CYFARFOD NEITHIWR
Neithiwr bu cyfarfod mawr gan gefnogwyr annibyniaeth yn y rhan hon o’r ddinas i baratoi ar gyfer refferendwm dydd Sul.

Cyfarfod ‘anghyfreithlon’ yn ôl y stad-o-argyfwng-heb-ei-datgan – hynny yw,  yn gwbl gyfreithlon yn ôl y gyfraith tan ryw bythefnos yn ôl, ac yn gwbl gyfreithlon yn awr mewn egwyddor.

Ond mae llywodraeth Sbaen yn mynnu gweithredu fel pe buasai stad o argyfwng mewn bod – er nad oes y fath stad mewn gwirionedd am nad oes dadl wedi bod yn senedd Sbaen fel y mynn y gyfraith.

Nid oedd hysbysebu agored am y cyfarfod – hanner gair i gall yw’r drefn, neu glywed gan y frân wen pryd ac ym mha le.

HEDDLU YM MHOB TWLL A CHORNEL
Trwy lwc ni ddaeth yr un heddwas neu heddferch ar gyfyl y lle  –  neb o’r pedwar heddlu sydd yn frith ar heolydd y wlad yma y dyddiau hyn – y mae’r ddau heddlu Sbaenaidd sydd wedi dod yn llu – yn eu miloedd – i Gatalonia yn ddiweddar (1) heddlu’r wladwriaeth – Policia Nacional –  (2) a’r corff paramilitaraidd, y Guardia Civil, a’r ddau heddlu Catalanaidd – (3) els Mossos d’Esquadra (‘Gweision y Garfan’) a (4) heddlu’r ddinas.

Mae Twrnai Cyffredinol Sbaen wedi gorchymyn i bob heddlu atafaelu deunydd ar gyfer y refferendwm, ac i chwalu pob cyfarfod sydd yn cefnogi’r refferendwm.

ATAFAELU
Daeth y newyddion y bore ‘ma bod y corff paramilitaraidd wedi atafaelu 2.5 o filiynau o cardiau pleidleisio a phedair miliwn o amlenni yn nhref Igualada. Mae llywodraeth Sbaen yn gosod carreg rwystr ar y llwybr tuag at y refferendwm sawl gwaith bob dydd.

CAU GWEFANNAU

Y cam nesaf inni yw dweud wrth bobol y gymdogaeth ym mha le y mae’r orsaf bleidleisio. Bu rhaid inni brintio arwydd y gellir llwytho i lawr o wefan sydd yn cefnogi’r refferendwm. Ond mae’r heddlu paramilitaraidd yn brysur gau (yn hollol anghyfreithlon) y gwefannau sydd yn cefnogi’r refferendwm ac yn yn rhoi gwybodaeth amdano fel y geill y Catalaniaid fwrw pleidlais.

Ac felly, wrth glicio ar gyfeiriad y wefan, gwelais i hwn:

Chwarae cath a llygoden yw hi – yr heddlu yn cau gwefan, a’r wefan yn ail-ymddangos gyda chyfeiriad arall. Bu sôn fod rhywun wedi ei chlonio ar ‘guardiacivil.sexy’ ond yr oedd yr heddlu wedi cau honno hefyd.

HYSBYSU POBL Y GYMDOGAETH

Dyma gael hyd i lun o’r arwydd mewn adroddiad ar wefan newyddion; ei chwyddo wedyn i faint teidi, rhoi manylion am yr orsaf bleidleisio (lloc = lle, carrer = heol), a’i rhoi ar y wal ym mynedfa y bloc fflatiau yma.

(Annwyl gymdogion, dyma’r orsaf bleidleisio lle y byddwn ni’n bwrw pleidlais y cyntaf o Fis Hydref.)

MEWNFUDO
Mewnfudwyr o Sbaen yw trwch helaeth y boblogaeth yn y rhan hon o’r ddinas ag ychydig iawn o gydymdeimlad â’r Catalaniaid sydd gan y rhan fwyaf. Er taw’r ardal dlotaf o’r ddinas yw hi, mae’r rhan fwyaf yn pleidleiso dros y pleidiau a fydd yn eu cadw yn eu tlodi am genhedloedd lawer – y ddwy blaid adain-dde (Partido Popular – rhyw 18% yn Etholiad Cyffredinol i senedd Sbaen 2016, Ciudadanos – rhyw 12%) a’r Blaid Sosialaidd (23%). 

Cipiodd Podem (cangen Gatalanaidd o Podemos Sbaen) 30% o’r bleidlais, yr unig blaid Sbaenaidd sydd am newid yr hen drefn sglerotig yn Sbaen. Ond pleidiau ‘Sbaen Unedig’ yw’r rhai hyn i gyd, ac yn gwrthwynebu annibyniaeth.

 Y ddwy blaid sydd yn cefnogi annibyniaeth â 14% yn unig o’r bleidlais – Y Chwith Gweriniaethol (Esquerra Republicana de Catalunya) 9% a Chydgyfeiriad (Convergència) 5%.

TYNGED EIN POSTER BACH

Gobeithio nad oes neb yn rhwygo ein poster ‘Benvolguts veïns’ i lawr. Sbaenwyr rhonc yw llawer y ffordd hon – os nad y bobol sydd yn byw yn y bloc fflatiau hwn, efallai dyn neu wraig y post, neu fachan neu ferch y cwmni nwy neu drydan neu ddwr, neu’r taflenni hysbysebu.

Y posteri yn galw am ddemocratiaeth ac am bleidlais dros annibyniaeth yr ym wedi rhoi yn y gymdogaeth yn diflannu mewn dim o beth

Dim ots. Pentwr bach o ‘Benvolguts veïns’ sy gyda ni, ac os diflanniff un poster bach, cymeriff arall ei le.

TALCEN CALED

Talcen caled sydd yma, ond serch hynny yn y dyddiau diwethaf yma, yn wyneb gormes Sbaen, mae sawl un (pleidleiswyr plaid Podem, buaswn yn meddwl) yn y gymdogaeth hyn yn dweud eu bod erbyn hyn o blaid gweriniaeth Catalonia am eu bod yn credu y bydd gwladwriaeth Gatalanaidd yn parchu hawliau sifil ei phoblogaeth, ac nad oes modd newid Sbaen, neu o leiaf am flynyddau lawer. 
Hyd yn oed ambell un yn y bloc fflatiau hwn fuaswn i erioed wedi meddwl y buasent yn cefnogi’r syniad o weriniaeth Gatalanaidd. 

Parhau i ddarllen

Carl Morris: MediaWiki a gwefannau wici Cymraeg

Mae hi’n braf cael fy nghomisiynu i greu wici i glient sef Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Maen nhw fel mudiad am gydweithio ar gyfres o erthyglau amlgyfrwng am hanes yr ardal o drafnidiaeth i chwareli i ysgolion i gapeli ac eglwysi. O safbwynt y datblygwr mae sawl opsiwn ar gyfer meddalwedd wici. MediaWiki yw’r un sy’n … Parhau i ddarllen MediaWiki a gwefannau wici Cymraeg

The post MediaWiki a gwefannau wici Cymraeg appeared first on Carl Morris.

Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Ann Jones AC

Bydd Ann Jones AC yn cynnal ei chymhorthfa nesaf yn Llyfrgell Prestatyn ar 6 Hydref,  4.00 – 5.00 ac yn Llyfrgell Y Rhyl ar 7 Hydref am 10.00 – 11.00. I drefnu apwyntiad, ffoniwch 01745 332813. Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: • O’r pydew i’r palas (Genesis 41:37-57) – Rhodri Glyn (24.09.2017)

http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/24092017_pm_rhodriglyn.mp3
Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 1 Hydref 2017

Croeso cynnes i bawb ohonoch i’n hoedfaon arbennig ym Mro Aled heddiw i ddathlu 450 o flynyddoedd ers rhyddhau’r Testament Newydd yn y Gymraeg. Ar Hydref 7fed, 1567 y cyhoeddwyd y Testament Newydd Cymraeg cyntaf, a William Salesbury o Gae Du, Llansannan oedd yn bennaf gyfrifol am yr orchest hon ynghyd â chyfieithu rhannau eraill . . . → Read More: Dydd Sul, 1 Hydref 2017

Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y Ddau Beth Mawr

Dyna ni wedi bod yn nodi ugain mlynedd oddi ar ein pleidlais dros fesur o ddatganoli. Byddwch yn sylwi ar y gair niwtral ‘nodi’. Dathlu? Go ychydig. Y dyddiau diwethaf bûm yn gofyn yn ddifrifol i mi fy hun, beth fu’r ddau beth mawr yng ngwleidyddiaeth Cymnru oddi ar sefydlu’r Cynulliad. A dyma’r ateb: (1) […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : fenter y merched

Wedi darllen erthygl Cymru Fyw am fenter y merched, gyrrais ddymuniadau gorau at Sara Lewis o Fachynlleth sydd yn rhedeg y Botwm Bach. Ces i ddiolch cynnes yn ôl ganddi. Gwych bod hi wedi gwneud mor dda er gwaethaf ei afiechyd.  Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Does gen i byth amser i ddarllen…

Mae cipio cyfle i ddarllen YN bosibl. Dyma gyngor rhai o griw Y Lolfa… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : falafel!

Roedd Sam and Ella (pizzeria poblogaidd) yn llawn dop pan es i a’r teulu yno am ginio ddoe. Dwedodd fy merch ei bod hi ffeindio tŷ bwyta Canoldiroedd cyfagos, a dyma ni’n penderfynu mynd yno. Hummus, falafel, tahini, bara pita a mwy! (Does gen i ddim diddordeb mewn cig.) Roedd yn anodd dewis rhwng falafel a hummus; dewisais falafel oherwydd nad oeddwn i erioed wedi ei fwyta eto. Wedi aros am hir am yr unig gogydd a’r perchennog o Iran yn brysio i baratoi bwyd i bedwar ohonon ni, cawson ni flas gwych o Ganoldiroedd. Doeddwn i ddim yn gwybod bod bwyd blasus felly ar gael yn y dref yma! Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: #LoveArt

This month TV presenter, Journalist, and Designer Huw Rees tells us about his love for art as part of our #LoveArt campaign. He has chosen  […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Dathlu Diwrnod Barddoniaeth 2017

Pigion o farddoniaeth i’ch ysbrydoli chi roi pensil ar bapur – dim ots beth yw eich hoedran chi! Parhau i ddarllen

fel y moroedd : modrwy arbennig

Roedd fy merch yn Japan eisiau modrwy a welodd ar dudalen Esty i’w phenblwydd. Gwnaed â llaw yng Ngwlad Groeg, mae’r fodrwy syml gyda physgodyn yn gain a chlws. Anfonodd y crefftwr y fodrwy ddiwrnod wedi i mi ei harchebu; derbyniodd fy merch hi mewn wyth diwrnod. Mae hi’n hynod o hapus efo’r anrheg arbennig. Dyma’r tro cyntaf i mi brynu nwyddau o Wlad Groeg! Parhau i ddarllen

Rhys Aneurin: St John’s Churchyard / Cardiff Market Mixed paints on…

St John’s Churchyard / Cardiff Market
Mixed paints on board
(93 x 75cm) • £315

Parhau i ddarllen

Dyma dwi'n feddwl am hyn…: Mapio Enwau Cymraeg Cymru

Mae’n ddiwrnod ieithoedd lleiafrifol Ewrop heddiw, felly dwi wedi penderfynu rhyddhau prosiect mapio bach dwi wedi bod yn datblygu. Y nod yw casglu’r enwau lleol mae pobl yn eu defnyddio am eu cynefin ac yr ardal o’i hamgylch. I agor y map, cliciwch y llun isod:     Mae gan bob cenhedlaeth ei enwau eu hunain am eu hardal leol, boed yn ddarn o dir, coedwig, afon neu adeilad. Mae’r enwau yna yn rhan o hanes ardal, a dwi’n meddwl bod hi’n bwysig trio cadw cofnod ohonynt cyn iddyn nhw ddiflannu. Mae’r map yma yn un ffordd o wneud hyn….

Cafodd y post yma Mapio Enwau Cymraeg Cymru ei weld yn gyntaf ar Dyma dwi’n feddwl am hyn….

Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Syllu ar walia’ – Ffion Dafis

‘Nid stori dylwyth teg mo stori y gyrliog afieithus un…’ Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Gwobr haeddiannol

Llongyfarchiadau cywir i Steffan ab Owain ar y fraint a ddaeth i’w ran yn ddiweddar pryd y Tlws Coffa Eirug Wyn’ iddo am ei gyfraniad neilltuol, a gwirfoddol yn ei fro ar hyd nifer fawr o flynyddoedd.

cyflwynwyd ‘

Mae ganddo golofn ‘STOLPIA’ yn Llaf… Parhau i ddarllen

fideo wyth: Galwad y Byd Digidol

gan Elidir Jones Dwi wastad wedi bod yn ffan o gasglu pethau’n gorfforol. Llyfrau, ffilmiau, cerddoriaeth, ac wrth gwrs, gemau… does ‘na ddim byd tebyg i’r teimlad o siopa am rhywbeth yn y byd go-iawn, mewn siop go-iawn. O sganio’r silffoedd, a dod allan efo cant a mil o bethau doeddech chi ddim eisiau o…

Parhau i ddarllen

Cyfnewidfa Arfer Da: A ddylem fod yn symud i ffwrdd o arfarniadau?

Yn ein blog diweddaraf, mae Russell Higgins, Partner Dysgu Adnoddau Dynol Swyddfa Archwilio Cymru, yn ystyried y broses arfarnu ac yn rhannu ei brofiadau o’r sioe dysgu a datblygu CIPD yn ôl ym mis Mai.  Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer cynyddol o gyflogwyr wedi bod yn symud i ffwrdd o arfarniadau blynyddol ffurfiol ac […] Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Rhoi’r “rhwydwaith” mewn rhwydweithiau cymdeithasol

Cyn i mi ddechrau gweithio i Research in Practice a Research in Practice for Adults, awgrymodd Chris Bolton (a.k.a. whatsthepont) i mi edrych ar ‘The New Social Learning: A Guide to Transforming Organizations Through Social Media’ gan Tony Bingham a Marcia Conner. Fe wnaeth y llyfr yma effeithio sut wnaethon ni ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yng Nghyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae fe wedi gwneud i mi feddwl am rôl rhwydweithiau ar-lein yn fy swydd newydd. Mae hyn yn eironig gan mai dyma’r rôl gyntaf rydw i wedi cael am 8 mlynedd ble dyw cyfryngau cymdeithasol ddim yn rhan o’m disgrifiad swydd, ond mae’n berthnasol hefyd achos mae Cyfarfod Blynyddol Swyddogion Cyswllt Research in Practice for Adults yn edrych ar ddulliau arloesol o ddysgu a datblygiad gofal cymdeithasol i oedolion. Dilynwch #LOAM17 i weld y drydar o’r digwyddiad.

Dysgu rhwng cyrsiau

Mae’r ffordd draddodiadol rydyn ni’n dysgu yn ymagwedd ffurfiol lle mae dysgwyr yn cael ei weld fel derbynwyr diolchgar. Mae hwn gyda phroblemau os ydym yn meddwl am sut ni’n cymryd perchnogaeth o’r dysgu yna. Mae’r status quo yn ddefnyddiol wrth dysgu prosesau syml sy’n gweithio mewn ffordd achos ac effaith, ond mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio mewn amgylchedd cymhleth lle dyw un maint ddim yn addas i bawb.

Fe wnaeth y trydar a’r blogbost yma gan Think Purpose ysgogi mi i feddwl ychydig mwy am y peth…

The 2,500 year old lesson everybody ignores cos it’s too hard https://t.co/FqWrPwovRm

 — @ThinkingPurpose

Nid yw digwyddiadau a gweithgareddau dysgu yn allbynnau yn eu hunain, ond yn rhy aml dyma sut maen nhw’n cael ei weld o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn amlwg mewn llefydd ehangach hefyd. Rydyn ni’n dal i gyfrif beth sydd ddim yn bwysig e.e. faint o bobl wnaeth mynychu cwrs, yn hytrach nag os wnaeth unrhyw beth newid o ganlyniad. Ac i fod yn deg, rydyn ni’n gwneud hyn achos dyma beth sy’n hawdd i’w fesur.

Sut ydyn ni’n myfyrio?

Dyma ble rydw i wedi ffeindio gall cyfryngau cymdeithasol ychwanegu gwerth. Ar wahân i LinkedIn. Rwy’n casáu LinkedIn. Mae fe wedi cael ei reoli’n ofalus, jyst rhag ofn eich bod chi’n cael hwyl ac yn dod ar draws rhywbeth diddorol. Ac maen nhw’n anfon cymaint o sbam i chi.

Fel unrhyw offer defnyddiol, rhaid sicrhau nad yw cyfryngau cymdeithasol yn ddiben ynddo’i hun. Os ydyn ni’n defnyddio nhw mewn ffordd effeithiol, mae nhw’n gallu gwneud dysgu a datblygu yn rhan o’ch dydd. Os ydyn ni’n defnyddio nhw mewn ffordd wael, dyw e ddim yn lot mwy na dweud wrth bobl eraill pa mor glyfar ydych chi. Ac yn aml, mae’r platfformau yma yn gwbl ymylol ac yn cael eu hanwybyddu. Mae hyn achos mae natur yr amgylcheddau ni’n gweithio mewn yn golygu bod e’n hawdd gwneud hynny. Mae Leah Lockhart wedi ysgrifennu blogbost wych ar pam mae gweision cyhoeddus yn anwybyddu digidol:

“I’d argue public services nurture these low skills and send people down a spiral of de-skilling with their outdated browsers, outdated operating systems and messy IT infrastructures”

Mae blogbost Think Purpose yn sôn am ragoriaeth fel ymarfer. Mae cyfryngau cymdeithasol weithiau’n cael eu gweld fel pethau negyddol (ac rydw i wedi bod yn brwydro i sicrhau fy mod i’n ei ddefnyddio nhw mewn modd cynhyrchiol), ond maen nhw hefyd yn gallu helpu ni i rannu a chydweithio’n agored fel rhan o’ch bywyd bob dydd. Mae’r rhannu yma yn golygu does yna ddim ffiniau rhwng arbenigwyr a dysgwyr, felly mae’n haws i fynd i’r afael â’r hierarchaeth y mae gwasanaethau cyhoeddus a dysgu a datblygu wedi eu hadeiladu.

Rwy’n ffeindio hyn i gyd yn ddiddorol iawn, ac mae’n rhywbeth y mae Bingham a Conner yn galw yn Mashups yn y llyfr. Rwy’n rili hoffi Mashups Rôl yn benodol achos maen nhw’n hwyluso’r nodweddion y byddai lot o ni’n hoffi gweld yn ein gwasanaethau cyhoeddus — sefydliadau sy’n gweithio gydag eraill, sy’n cysylltu â nhw ac yn datblygu eu blaenoriaethau o’r cymunedau yna:

“Mashups change work’s traditional linear and separate roles into a culture of co-production, co-design, and co-development, mixing responsibilities among everyone involved in a new cyclical process. In the case of the new social learning, it’s not about simply giving people online communities or wikis and getting out of the way. It is about a new iterative and inclusive model where anyone is able to create, use, publish, remix, repurpose, and learn.”

Mae hyfforddiant traddodiadol yn aml yn cynnig atebion i broblemau sydd eisoes wedi’u datrys. Does yna ddim pwynt ail-ddyfeisio’r olwyn, felly dydw i ddim yn dweud does yna ddim rôl o gwbl ar ei gyfer. Mae’n gallu gweithio’n dda ar gyfer dysgu am theori, ond dyw e ddim yn cynnig lot o gyfle i fyfyrio ar ymarfer. Dyma pam mae gweithio’n agored o ddiddordeb i mi, ac mae’n ddiddorol gweld sut mae Neil Tamplin a phobl eraill sy’n gwneud nodiadau wythnosol yn edrych yn ôl dros eu profiadau ac yn eu rhannu nhw gydag eraill. Siaradodd Neil am hyn yn yr Ŵyl Tai:

“If your purpose has something to do with improving the lives of people who need housing then I would argue you are morally obligated to share anything that advances that cause, no matter how small or seemingly insignificant.”

Mae hyn i gyd yn teimlo’n newydd a lletchwith ar hyn o bryd wrth i ni symud o’r meddylfryd confensiynol y mae Paul Taylor yn amlinellu yn ei flogbost ar yr ofn o weithio’n agored. Ond fel mae fy nghyn-gydweithiwr Ena Lloyd yn dweud, rhaid bwrw ymlaen nes eich bod chi’n cael eich dal.

Adeiladoliaeth Cymdeithasol

Fe wnes i ddysgu am Adeiladolaeth Cymdeithasol trwy’r llyfr hefyd. Mae’n theori sy’n disgrifio sut mae pobl yn dysgu gyda’i gilydd. Mae’n amlinellu sut mae pobl yn datblygu eu dealltwriaeth o rywbeth — rydych chi’n ei drafod â phobl eraill, gweld sut mae eu naratif yn gweithio gyda’ch un chi ac o ganlyniad byddwch yn datblygu dealltwriaeth well.

Roedd syniadau ymddygiadol yn golygu bod pobl yn cael eu hystyried yn dderbynwyr goddefol hyd nes y dechreuodd Jean Piaget newid meddwl pobl yn y 50au. Ond os chi’n gofyn i mi, mae lot o’r meddylfryd yna’n dal i fod mewn lle nawr. Arweiniodd gwaith Piaget i’r defnydd o chwarae rôl ac efelychu mewn dysgu. Felly, y tro nesaf rydych chi’n teimlo’n anghysurus mewn cwrs hyfforddi, chi’n gwybod pwy sydd ar fai.

Dysgu ymarferol trwy rwydweithiau

Rydw i wedi gwneud lot o ddefnydd o’m rhwydweithiau dros yr wythnosau diwethaf, o chwilio am hyfforddwyr gofal cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg i ddod o hyd i arfer da mewn dysgu ar-lein (diolch yn fawr iawn Noreen Blanluet, Anne Collis a Dave Briggs). Rydw i hefyd yn gobeithio fy mod i’n wirioneddol gymdeithasol a fy mod i’n talu pobl yn ôl trwy helpu a rhannu’r pethau da mae pobl yn gwneud. Rwy’n caru’r syniad o fyd ble mae rhannu a derbyniaeth yn flaenllaw.

Ac i gyfeirio yn ôl ato blogbost Think Purpose, mae siawns well gyda fi i wneud cyfryngau cymdeithasol i weithio i mi os rwy’n canolbwyntio ar beth rydw i eisiau cyflawni yn hytrach na’r cyfrwng. Dyna pam rwy’n cwympo mas o gariad â Facebook — dyw e ddim yn dod â fi’n agosach i bobl. Mae cyfryngau cymdeithasol ar ei orau pan rydyn ni’n meddwl am bwrpas.


Rhoi’r “rhwydwaith” mewn rhwydweithiau cymdeithasol was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Sengl Newydd: Dim Troi Nol – Sarah Wynn #tiwn

Dim troi yn ol – Sarah Wynn  Parhau i ddarllen

fel y moroedd : seren dwbl

Mae fy merch hynaf a’i gŵr yn ymweld â ni rŵan. Gwylion ni ffilm enwog (ymysg y teulu) a gynhyrchwyd ganddi yn 2003. Double Star ydy teitl y ffilm sydd yn ymwneud â merch swil a’i hoff chwaraewr pêl-droed o’r enw Brian Lackham. Actiwyd gan ei chwiorydd, brawd a’i ffrindiau, a ffilmiwyd gan ei chwaer, mae’r ffilm yn hynod o hwyl efo cynifer o glipiau clyfar er nad oedd ganddi gymorth technoleg ddiweddarach. Chwaraeodd fy merch arall a oedd yn saith oed ar y pryd rôl ategol. Mae hi’n astudio theatr mewn prifysgol bellach. Sori, dim ar gael gan Amazon! Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored 2017

Wybodaeth Am Ddrysau Agored Pob blwyddyn, mae adeiladau a lleoliadau yn agor Drysau Agored Cadw, gan roi cyfle i bobl ymweld â channoedd o atyniadau ar draws y gwlad am ddim. Ar ddydd Sadwrn 30 Medi, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnig mynediad arbennig i’r cyhoedd. Er bod y Senedd a’r Pierhead ar agor i’r … Continue reading Ymweld â’r Senedd a’r Pierhead: Drysau Agored 2017 Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad; Y Gadair Wag (Llenyddiaeth Cymru)

Dros y misoedd a’r wythnosau diwethaf, nodwyd digwyddiad o bwys yng Nghymru; canmlwyddiant marw’r bugail Ellis Evans yn Y Rhyfel Mawr. Bu farw’r Cymro o fferm Yr Ysgwrn ar gae yn Ypres, Gwlad Belg, ar y 31ain o Orffennaf, 1917. … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Amaethyddiaeth, y Gymraeg a Brexit

Mae gen i gof i ffrwyth rhyw ymchwil neu’i gilydd i sut bleidleisiodd ffermwyr yng Nghymru yn refferendwm Ewrop a gafodd ei gyhoeddi yn Sioe Frenhinol y llynedd awgrymu i tua 60% ohonynt bleidleisio i adael yr UE.  Wna i ddim cymryd arnaf fy mod y… Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: Launching the Welsh Music Archive

At a special ceremony on Friday, 22 September, The National Library of Wales launched its Welsh Music Archive Programme in the presence of the folk […] Parhau i ddarllen

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Diwedd Crefydd?

Anaml iawn y gwelaf fi unrhyw beth ar y teledu ar fore Sul. Ond wythnos i heddiw, a minnau’n mynd i oedfa erbyn 11 o’r gloch, mi ddigwyddais weld un o raglenni crefyddol y bore.  Rhaglen drafod oedd hi, a chan nad oes gen i gof i mi weld yr un hysbyseb rwy’n tybio mai […] Parhau i ddarllen

cymraeg – gwallter: ‘Fabula’: Llŷr Gwyn Lewis a Borges

Nôl ym mis Gorffennaf, yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon, fe brynais i gasgliad newydd Llŷr Gwyn Lewis, Fabula.  Dim ond ddoe y dechreuais ei ddarllen.  Fel darllenydd confensiynol, penderfynais i gychwyn gyda’r darn cyntaf yn y gyfrol, ‘Hydref yw’r gwanwyn’.  Mae iddo is-deitl, ffug-academaidd, ‘fabula, historia ac argumentum yn yr Ariannin’, sy’n eich […] Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: “Taith Na i Garchardai Gwenwynig”

https://noprisonsdecymru.noblogs.org/post/2017/09/15/end-toxic-prisons-tour-taith-na-i-garchardai-gwenwynig/ “Dros yr Hydref bydd Campaign to Fight Toxic Prisons o’r UDA yn teithio’r DU gyda Community Action on Prison Expansion. Ledled y byd mae carchardai yn niwediol yn gymdeithasol ac ecolegol. Bu pobl gyffredin o’r UDA yn trefnu gwrthwynebu carcharu torfol a difrod amgylcheddol fel ei gilydd, gan lwyddo i ohirio adeiladu’r unig garchar […] Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig Gwener 13: Calfari, Yr Oria | 13:10:17 | Ty Siamas, Dolgellau | Dan 18

Blog Glyn Adda: Cwestiwn cyfansoddiadool

Wel ar fy ngwir, dyna’r Arglwydd wedi ei gyhuddo o regi yn y seiat ! Y cwestiwn mawr cyfansoddiadaol yw, a yw’r Blaid Annibynnol yn mynd i’w ddisgyblu? A welir ef yn y cwt ci gyda Neil McEvoy? Ac os daw hi i hynny, pa bryd y caiff y chwip yn ôl ? Disgwyliwn glywed […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : siomi ar yr ochr orau

Wedi i Lara Trump gael ei babi, mae pobl eraill yn cymryd ei lle i ddarlledu Newyddion Gwir ar dudalen Facebook yr Arlywydd Trump yn ddiweddar. Ces i fy siomi ar yr ochr orau ddoe o weld Joy Villa’n gwneud y gwaith. Roedd hi’n ddewr iawn mynegi ei barn fisoedd yn ôl yn cefnogi’r Arlywydd er gwaethaf nifer o fygythiadau a gafodd. Mae’n wych bod hi wedi cael swydd yn Nhŷ Gwyn. A dyna ysgrifennais ar y sylw. Derbyniais “hoffi” ar un waith. Ces i sioc i weld gan bwy – POTUS ei hun!! (Efallai ei staff a bostiodd, ond dim ots.) Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig: Crumblowers, Cadno, Llestri Gweigion, Sybs a DJ Elan | 06:10:17 | Earl Haig, Eglwys Newydd

Pwy ydy’r Crumblowers? Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Fideo: Cwl ac yn Rad – Omaloma | Sesiwn @ochr1

Dilynwch Ochr 1https://www.youtube.com/user/Ochr1Prynwch Tiwns Omaloma ymawww.siop-pop.cymru/omaloma Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog

Bnawn Llun Medi 4ydd fe ymddangosodd cynrychiolaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn gerbron Pwyllgor Craffu Iechyd Cyngor Sir Gwynedd i gyflwyno tystiolaeth dros gael gwasanaethau pwysig yn ôl i’r ardal. Yno hefyd, i ddadlau yn wahanol, roedd cymaint ag wy… Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig: Y Niwl, Palenco, Papur Wal a DJ Dilys | 20:10:17 | Clwb Ifor Bach, Caerdydd #TWRW

Trefnwyd gan TWRWfacebook.com/twrwclwb Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig: Gwilym Bowen Rhys, Patrobas, Glain Rhys | 06:10:17 | Clwb Ifor Bach, Caerdydd #TWRW

Trefnwyd gan TWRWfacebook.com/twrwclwb Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig: Yr Eira, Y Cledrau, Yr Oria a DJ Pydew | 29:09:17 | Clwb Ifor Bach, Caerdydd #TWRW

Trefnwyd gan TWRWfacebook.com/twrwclwb Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Gig: Adwaith, Marged, Serol Serol, DJ Gwenno a Patblygu | 13:10:17 | Clwb Ifor Bach Caerdydd #TWRW

Trefnwyd gan TWRWfacebook.com/twrwclwb Parhau i ddarllen

fel y moroedd : penblwydd y gŵr

Penblwydd y gŵr oedd hi ddoe. Er mwyn ddathlu, aethon ni i Katfish Kitchen, tŷ bwyta poblogaidd yma sydd yn arbenigo yn catfish, a ffefryn y gŵr. (Ces i gyw iâr oherwydd nad ydyw i’n hoffi’r pysgod hwnnw.) Roedd y bwyd yn dda. Es at y til i dalu er mai’r gŵr sydd yn gwneud y gwaith talu fel arfer; ei benblwydd oedd hi wedi’r cwbl. Yna, tra oeddwn i yn y gawod gyda’r hwyr, roddwn i’n cofio’n sydyn fy mod i’n anghofio ychwanegu cildwrn at y bil! (tramgwydd difrifol yn America) Ysgrifennais nodyn sydyn at y weinyddes ac amgáu pum doler mewn amlen i roi iddi.  Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: 5 Rheswm i Ymweld â’r Senedd y Penwythnos Hwn

Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â’r Senedd? Dyma’r penwythnos olaf i weld y Pabïs: Weeping Window, a fydd yn gadael Caerdydd ar 24 Medi. Ewch am dro i’r Bae y penwythnos hwn a chanfod pum rheswm i ymweld â’r Senedd. 1. Pabis: Weeping … Continue reading 5 Rheswm i Ymweld â’r Senedd y Penwythnos Hwn Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: A look back at the ’97 Referendum using the Library’s electronic resources

This week saw the 20th anniversary of the Welsh referendum that paved way for the creation of the National Assembly for Wales. I decided to […] Parhau i ddarllen