Archif Dyddiol: 4 Medi 2017

: Camddeall hiliaeth

Os oedd y stori am fflôt hiliol Carnifal Aberaeron yn ddigon drwg, mae’r ymateb, yn enwedig ar Facebook, wedi bod yn waeth. ‘Dim ond bach o hwyl’ yw’r sylw mwyaf cyffredin, o beth y gwelaf i. Mae’n amlwg nad yw llawer o bobl, gan gynnwys nifer sy’n sgr… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Camddeall hiliaeth

Os oedd y stori am fflôt hiliol Carnifal Aberaeron yn ddigon drwg, mae’r ymateb, yn enwedig ar Facebook, wedi bod yn waeth. ‘Dim ond bach o hwyl’ yw’r sylw mwyaf cyffredin, o beth y gwelaf i. Mae’n amlwg nad yw llawer o bobl, gan gynnwys nifer sy’n sgrechian ‘hiliaeth!’ bob tro mae rhywun yn gwneud sylw angharedig am Gymru neu ei hiaith, yn deall beth yw hiliaeth. Mae’r holl beth yn dwyn i gof helynt Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ar S4C rai blynyddoedd yn ôl.

Mae’n debyg bod gormod o bobl yn credu mai ystyr hiliaeth yw casineb. Os nad ydych yn casáu pobl â chroen tywyll, na’n bwriadu’u pechu, mae’n amhosibl eich bod yn hiliol. Nid oes modd, felly, trwy ddiffiniad, i ‘ddim ond bach o hwyl’ fod yn hiliol.

A bod yn garedig, mae hynny’n hen-ffasiwn. Mae hiliaeth amrwd ac ymosodol yn llai cyffredin heddiw nag yn y gorffennol (er bod Brexit a Trump yn bygwth dad-wneud y cynnydd hwnnw). Bwystfil cynilach o lawer yw hiliaeth fodern.

Nid oes amwysedd am y fflôt: roedd yn hiliol. Fel y dywed Gary Raymond, mae blackface, yn gwbl ddi-eithriad, yn hiliol. Mae mor syml â hynny. A’r ateb i’r ddadl mai dim ond talu teyrnged i ffilm hoffus ac ysgafn oedd y fflôt yw bod Cool Runnings ei hun yn ffilm hiliol. Daeth y sylweddoliad hwnnw’n raddol iawn i mi, gan fod gennyf atgofion hapus o’i mwynhau’n fawr pan yn blentyn, ond mae’n chwerthinllyd o amlwg erbyn hyn.

Yr hyn sy’n arwain pob trafodaeth am stori’r fflôt ar gyfeiliorn yw’r syniad bod galw’r weithred yn hiliol gyfystyr â galw’r hogiau eu hunain yn hilgwn. Rwy’n siwr eu bod wedi dychryn, yn ddiffuant, â’r ymateb, ac nad oeddent wedi bwriadu unrhyw beth cas. Ond mae hynny’n hollol amherthnasol. Y weithred sy’n bwysig, ac roedd y weithred yn hiliol. Dyna ddechrau a diwedd y mater. Nid yw galw’r peth yn gamgymeriad naïf yn gwneud y weithred yn llai hiliol. Yn ddelfrydol, bydd y stori’n wers addysgol i ni gyd, ond yn anffodus nid yw’r ymateb wedi fy llenwi â hyder. Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Dechrau da i mis Medi

Cawsom ddechrau da i’r mis.  Dwi wedi bod yn casglu mwyarduon, sydd yn ardderchog eleni, 


ac yn mwynhau tynnu llyniau ben bore i lawr ar y comin.  Dyma llun tynnais bore Gwener, gyda’r tarth ar y comin, a’r haul yn dechrau dod 


– a dyma llun pum munud yn hwyrach gyda’r haul yn dechrau codi go iawn.  Gwych.


Yn ôl yn yr ardd, mi wnes i dipyn o dacluso p’nawn ’ma. Mae rhai rhannau o’r ardd yn eitha flêr, 

ac yn aml, dydy tacluso ddim yn flaenoriaeth, yn enwedig yr adeg yma o’r blwyddyn pan mae ’na gymaint o waith yn yr ardd llysiau, yn casglu ffrwythau a’r courgettes di-ri, a’r ffa….a hefyd casglu be sydd yn tyfu yn y tŷ gydr. [Mi wnes pesto wythnos diwethaf a dros y penwythnos, sydd yn mynd i’r rhewgell].  Ond heddiw penderfynnais bod rhaid gwneud dipyn o dacluso.  Ond mae’n bwysig cael cydbwysedd.  Yn aml, pan dwi’n symud ryw botyn sydd wedi cael ei adael braidd yn flêr, dwi’n darganfod llyffant yn llechu – ac yn bendant dwi eisio sicrhau bod yr ardd yn lle dda i fywyd gwyllt.  Dyma pwy oedd  ol i un botyn:
Wrth weld faint o lyffantod sydd o gwmpas dwi’n meddwl fy mod i wedi llwyddo o ran llyffantod, beth bynnag.  Ond dwi’n meddwl bydd rhaid i fi symud mwy o’r forget-me-nots yma sydd yn tyfu ym mhob man. 
 [Dwi ddim yn siwr beth ydy’r enw gorau Cymraeg? Mae’r geiriadur yn awgrymu “glas y gors” neu “n’ad fi’n angof”] a wedyn bydd yn haws gweld y cyclamen hawdd.  Mae’r eirin yn gwneud yn dda eleni, yn ogystal a’r afalau, er bod rhai ohonynt wedi pydru ar y goeden.  Ych a fi!
 


Serch hynny, mae ’na ddigonedd i fwyta, a cryn llwyddiant gyda’r aubergines hefyd.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : garlleg amrwd mewn mêl

Dalais annwyd am y tro cyntaf ers blynyddoedd, un trwm iawn hefyd. Mae’n anodd cysgu oherwydd peswch ofnadwy, ac mae’n teimlo fel byddai fy ngwddf yn cael ei brathu gan gyllell weithiau. Dw i’n sâl ers rhyw ddeg diwrnod; bob tro roeddwn i’n meddwl mynd at y meddyg, bydda i’n gwella tipyn. Ac felly dw i heb weld un eto. Yn y cyfamser dw i’n defnyddio home remedies – te seidr finegr afal, olew cnau coco, digon o de llysieuol, garlleg amrwd mewn mêl, ayyb. Dw i’n ddiolchgar, fodd bynnag, nad oeddwn i erioed sâl felly tra oedd y plant adref. Mae gen i ddigon o amser i fod yn sâl bellach. Parhau i ddarllen