‘Fabula’: Llŷr Gwyn Lewis a Borges

Nôl ym mis Gorffennaf, yn siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon, fe brynais i gasgliad newydd Llŷr Gwyn Lewis, Fabula.  Dim ond ddoe y dechreuais ei ddarllen.  Fel darllenydd confensiynol, penderfynais i gychwyn gyda’r darn cyntaf yn y gyfrol, ‘Hydref yw’r gwanwyn’.  Mae iddo is-deitl, ffug-academaidd, ‘fabula, historia ac argumentum yn yr Ariannin’, sy’n eich rhybuddio, yn ddigon teg, i fod yn wyliadwrus, rhag ofn bod yr hyn sydd i ddilyn yn wahanol i’r hyn mae’n esgus fod. Ar yr olwg gyntaf, felly, rhyw ddyddiadur teithio sydd yma – taith i Buenos Aires a’r Wladfa gan yr adroddwr a’i gyfaill, ‘L.’  Ac i ddechrau cawn naratif digon plaen, gyda straeon unigol lliwgar: ymweliad â bwyty parrillada, nodweddiadol o’r brifddinas; mynd ar goll ar y strydoedd; y palmantau a’u sgwariau bychain; parti mewn bloc o fflatiau.  Ond yn fuan ni allwn ni osgoi’r ysbryd sy’n stelcian pob awdur yn yr Ariannin, sef rhith Jorge Luis Borges.  (Ym mhob un o’i straeon rhyfedd mae Borges yn gwyntyllu’r posibilrwydd o fyw mewn mwy nag un byd, profi mwy nag un realiti.)  Mae’r adroddwr ac L. yn penderfynu ymweld ag amgueddfa – tŷ hynafol yn y ddinas.  Ynddo does neb yna sydd ar gael i’w tywys ond y curadur a pherchennog (dienw) y tŷ: ‘dyn penfoel, gwyn ei fwstash’. Esbonia’r dyn nad yw’n gwbl glir am hanes y tŷ a’i hanes personol e, gan gyfeirio at y ffaith bod dim gwahaniaeth yn Castellano rhwng stori ffug a hanes gwir – ‘historia’ yw’r gair i’r ddau.  Mae’n disgrifio ei hun fel ‘the archaeologist of memory, the custodian of this house of destiny’ (geiriau Borgesaidd iawn).  Atgofir yr adroddwr gan ei ymchwil academaidd ar bobl yn yr oesoedd canol, oedd yn arfer peidio â gofyn y cwestiwn, ‘ydy’r hanes hwn yn wir?’, ond yn hytrach, ‘ydy e’n gredadwy?’ Symuda’r ddau ymlaen i’r Gaiman, ym Mhatagonia, lle mae geiriau’r curadur yn atseinio yn eu meddyliau.  Tref afreal, allan o’i amser yw’r Gaiman, yn arbennig yn yr hydref, pryd roedd ond ychydig o bobl i’w gweld ar y strydoedd.  Er siom yr ymwelwyr mae pob peth ar gau – bwyty, y felin yn Nolavon, amgueddfa’r glaniad cyntaf ym Mhorth Madryn.  At hynny, mae’n nosi yn rhy gynnar, a’r holl dref yn mynd i gysgu, beth bynnag, llawer cyn hynny.  Er mwyn clywed ‘llog geg o Gymraeg’ maen nhw’n mynd i mewn i siop ddillad Bet.  ‘Rhyw hen siop yn niwl y cof’ yw hon.  Mae ei chynnwys yn hen ffasiwn iawn.  Dechreua Bet adrodd stori mewn llyfr y roedd hi wedi’i gael o’r llyfrgell symudol, a cyn hir nid yw’r adroddwr yn medru gwahaniaethu rhwng y stori hon a hanes Bet ei hun.  Ar ddiwedd y darn mae’r ddau yn paratoi at fynd i Esquel a Trevelin. Rhan o ddyddiadur teithio sy gennym yma, felly – neu ffuglen lwyr (a LlGL heb fod o fewn 500 milltir o’r Ariannin erioed yn ei fywyd)?  Cwestiwn teg, ond anodd i ateb.  Ond, yn fy achos i, daeth haenen arall o ansicrwydd i’r profiad o ddarllen y darn hwn.  Achos dwi i wedi troedio’r un un llwybr â LlGL, i Buenos Aires ac ardal Chubut.  Neu, i fod yn fanwl gywir, mae LlGL wedi dilyn yn fy nhraed i, oherwydd digwyddodd y daith hon rai blynyddoedd yn ôl. Cerddodd ‘C’ a fi trwy strydoedd diarth Buenos Aires a mynd ar goll ynddynt. Hala amser yn y caffis enwog yn y ddinas.  Mynd i weld y stadiwm lle mae Boca Juniors yn chwarae a Maradona yn cael ei addoli o hyd. Ymweld â Llyfrgell Genedlaethol yr Ariannin a gweld ystafell y Llyfrgellydd – neb llai na Jorge Luis Borges (er iddo farw flynyddoedd ynghynt, roedd ei rith yn fyw ac yn iach yna). Wedyn aethon ni lawr i Drelew a’r Gaiman, a chael y trefi’n dawel iawn, yn ystod eu gaeaf, a llawer o’r atyniadau ar gau (agorwyd bwyty yn unswydd ar ein cyfer).  Methon ni â chyfarfod â Tegai Roberts yn amgueddfa’r Gaiman (yn y darn, mae hi newydd farw).  Yn wahanol i’r ddau yn y darn, roedden ni’n ddigon lwcus i gwrdd â hen fenyw a fynnodd inni ddod i mewn i’w thŷ, ac wedyn mynd â ni yn ei hen gar i weld rhai o’r ffermydd Cymraeg mas yn y wlad.  Wedi hynny, aethon ni tua’r Andes ac aros yn Esquel ac ymweld â Trevelin. Neu, o leiaf, dyna beth mae fy nghof yn ei ddweud.  Ond ar ôl darllen Llŷr Gwyn Lewis, alla i fod mor siŵr am sicrwydd fy atgofion?  Ydyn nhw’n gwbl ddibynadwy?  Wedi meddwl ymhellach, a oes rheswm i gredu imi fod yn yr Ariannin o gwbl?  Dwi newydd chwilio am luniau o’r daith, mewn albwm neu ar y cyfrifiadur, fel ‘prawf’.  Ond does dim i’w gweld, mae’n debyg.  Efallai fy mod i wedi dychmygu’r profiad i gyd.  Mae’n gorwedd, fel rhyw stori fer anysgrifenedig, yn fy ngof. Wir, mae swydd ‘archeolgydd y cof’ yn un anodd.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Heb Gategori. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.