Archif Misol: Hydref 2017

Blog – Golwg360: ? Y Brexit Cyntaf a William Salesbury – Ffydd Mewn Iaith

Aled Gwyn Job sy’n bwrw golwg ar weledigaeth a phenderfyniad William Salesbury o Lansannan… Parhau i ddarllen

Rhys Aneurin: Deffro / Awaken (2017) Emulsion on board (93 x 75cm)…

Deffro / Awaken (2017)
Emulsion on board
(93 x 75cm)
rhysaneurin.com Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: Hydref Aflonydd

Cafwyd peth cynnwrf yng Nghymru dros y mis diwethaf. Dyma grynodeb anarchwaethus. Solidariaeth â Chatalwnia Yn dilyn ymgais gwladwriaeth Sbaen i sathru protestiadau a refferendwm annibyniaeth Catalwnia dangoswyd solidariaeth ar hyd Gymru. Hyd a wyddwn ni, cynhaliwyd ralïau yn Llangefni, Caernarfon, Aberystwyth, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd, y rhan fwyaf wedi trefnu gan y grŵp annibyniaeth […] Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Llyfrau lliwio Cymraeg

Isio cefnogi llyfrau Cymraeg ond ddim yn hoffi darllen? Neu’n nabod rhywun sydd ddim yn hoffi darllen am ryw reswm? Neu ydach chi’n un o’r miloedd sy’n cael pleser wrth liwio? Wel, dyma syniad ar gyfer anrheg Nadolig:   Mae Lliwio’r Chwedlau / Colouring Welsh Tales gan yr artist Dawn Williams yn cynnwys 21 o […] Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: ? Fel darllen am ormes Franco

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dychmygwch y sefyllfa …

Penderfynodd yr hen G.A. dro yn ôl beidio â chyhoeddi mwy nag un ysgrif ar yr un diwrnod, oherwydd fyddai neb yn diolch iddo. Ond mae’r newydd am Gatalonia heddiw yn ei wthio i dorri’r rheol. DYCHMYGWCH … Carwyn a’i lywodraeth yn alltudion yn y Wladfa, wedi ffoi am eu heinioes rhag dialedd y Santes […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hetiau

Mae’r gŵr yn dal i fwynhau ei ymddeoliad. Mae o’n fodlon iawn o’r ffaith bod ganddo amser i wneud beth mae o eisiau ei wneud. Ei brosiect diweddar oedd – rhoddodd o drefn ar ei hetiau a oedd ar ben gwely sbâr yn anhrefnus. Phrynodd o ddim byd; defnyddiodd bethau amrywiol yn y garej. Cafodd gynifer o “hoffi” ar dudalen Facebook. Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: ? ASau, rhyw a dechrau newydd

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Y Mynydd a Mi

Os ewch chi i grwydro’r Moelwynion ryw dro, y tebygrwydd ydi y gwelwch chi Dewi Prysor yno, gan fod y mynyddoedd yn denu’r awdur oddi wrth ei gyfrifiadur yn rheolaidd. Yn y bedwaredd erthygl yng nghyfres Y MYNYDD, mae’n egluro pam.

Pan mae bobol… Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cic ynteu rhodd ? (2)

Cystal dweud rhywbeth bach am argymhellion Comisiwn y Ffiniau, cyn i bawb anghofio amdanyn nhw unwaith eto. Rhai yn darogan na ddaw dim byd o’r peth pa un bynnag. Gwnes ryw ychydig o sylwadau ar 9 Medi y llynedd, pan oedd rhyw fwmian am hyn o’r blaen. Heddiw mi ailadroddaf bwynt neu ddau am yr […] Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: Edmund Jones, “The Old Prophet”

Tomorrow is Halloween – the eve of All Hallows’ or All Saints’ Day. It is also the anniversary of what is regarded as the start […] Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Llongyfarchiadau – gan gynnwys un i BBC Llundain am ymddiheurio …

Llongyfarchiadau i S4C am ddarlledu cyfres hynod ddiddorol a phwysig ‘Her yr Hinsawdd’ dros yr wythnosau diwethaf. Gyda’r arbennigwr yr Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe, yn cyflwyno, roedd yn dda cael y ffeithiau gwyddonol am y bygythiad sy’n ein wynebu. … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Catalonia a’r gyfraith

Mae’r ffaith bod llywodraeth Prydain ac arweinyddiaeth yr UE yn cefnogi llywodraeth Sbaen yn eu anghydfod efo llywodraeth Catalonia wedi ei seilio ar y ddadl bod llywodraeth Sbaen yn gweithredu’n unol a’r gyfraith tra bod llywodraeth Catalonia yn gweit… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2017

Ysgol Undydd Cymraeg Derby a Chylch Dysgwyr Cymraeg DerbyCafodd Ysgol Undydd Cymraeg Derby  ei chynnal ar Sdawrn 28 o Hydref gan Gylch Dysgwyr Cymraeg Derby (CDCD). Mae’r digwyddiad yn tynnu pobl o nifer fawr o drefi ar draws canolbarth Lloegr a t… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : saboth shalom

Crasais Challah i Saboth ddoe am y tro cyntaf. Mae gen i beiriant bara i baratoi toes. Dim ond ei phlethu yn y ffurf oedd angen. Wedi rhoi cymysgedd o wy a dŵr ar y pen, gosodais i hi yn y popty. Ar ôl hanner awr, dyma gael torth braf o Challah! Gweddïais Weddi’r Bara a’i bwyta’n hapus efo’r gŵr. Roedd yn flasus iawn.

Saboth Shalom. Parhau i ddarllen

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Dilyn Crist trwy redeg yr yrfa

  Am ryw reswm, chefais i erioed fy nhemtio hyd yn oed i ystyried rhedeg Marathon. Tua thair milltir oedd y ras draws gwlad yn Ysgol Brynrefail, a dyna’r ras hiraf i mi ei rhedeg. Yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol mi oeddwn (os cofiaf yn iawn) yn seithfed yn y ras honno, er […] Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Annibyniaeth!

Felly mae Catalwnia wedi mynd amdani a datgan ei hannibyniaeth o’r diwedd, yn dilyn y refferendwm ddechrau’r mis. Wrth gwrs, datgan y peth yw’r rhan hawdd. Ar yr un pryd, mae Sbaen wedi cadarnhau ei bwriad i ddiddymu llywodraeth Catalwnia. Dyma pam rwyf wedi bod yn gymharol besimistaidd ers dechrau’r broses; mater o gael ei chydnabod gan wledydd eraill Ewrop fydd hyn i gyd yn y bôn, a’r gwir yw nad oes gan y rhan fwyaf o’r rheiny lawer o gymhelliad i fynd yn groes i Sbaen yn hynny o beth. Rwy’n amau mai prif obaith y Catalanwyr yw ymateb Rajoy cïaidd arall gan lywodraeth Rajoy, fyddai wedyn yn cadarnhau yn llygaid y byd mai gan Gatalwnia mae’r tir uchel moesol.

Y prif gŵyn yn erbyn beth sy’n digwydd yw bod y refferendwm yn anghyfreithlon. Mae hynny’n wir; ni roddodd Sbaen  ei sêl bendith iddo. Ond mae hefyd yn wir bod cyfansoddiad Sbaen – dogfen a luniwyd ym 1978 fel cyfaddawd ar ôl claddu Franco a rhoi cynnig ar ddemocratiaeth – yn gwahardd hyd yn oed y posibilrwydd o’r fath beth. Mae’r syniad o annibyniaeth i ‘ranbarthau’ Sbaen felly’n dead end cyfansoddiadol. Gellid newid y cyfansoddiad, ond pa obaith oedd i Gatalwnia gyflawni hynny ar ei phen ei hun, â Sbaen ei hun mor gadarn yn erbyn y fath syniad?

Mae hyn yn codi cwestiynau dyrys ynghylch beth yn union yw cyfraith. Mae galw rhywbeth yn ‘anghyfreithiol’, fel petai hynny’n ddechrau a diwedd ar y ddadl, yn ddi-ystyr. Wedi’r cyfan, holl bwrpas gwleidydda yw newid cyfreithiau, ac mae hynny’n digwydd yn ddyddiol ledled y byd. Nid mewn ystafelloedd pwyllgor diflas yn unig y mae’r broses honno’n digwydd, chwaith. Elfennau hollbwysig eraill yw pwysau gwleidyddol gan ymgyrchwyr, gan gynnwys protestiadau a dulliau anghyfansoddiadol. Roedd llawer o weithredoedd Gandhi, Martin Luther King Jr a Nelson Mandela yn anghyfreithlon, ond yn foesol gywir.

Daeth bron pob gwlad yn y byd, ar y llaw arall, i fodolaeth trwy ddulliau ‘anghyfreithlon’. Pan ddywedodd y Taoiseach Leo Varadkar na fyddai’n cydnabod canlyniad refferendwm Catalwnia, a’i fod yn ‘parchu llysoedd a chyfansoddiad Sbaen’, f’ymateb cyntaf oedd mynd i chwilio am faint o barch a ddangosodd tuag at gyfraith a chyfansoddiad y Deyrnas Unedig (fel ag yr oedd hi adeg Gwrthryfel y Pasg) ar achlysur y canmlwyddiant y llynedd. Ni chefais fy siomi (blas: “As we stand here today, we bow our heads in respect to honour the men and women who fought here at this location in 1916. We acknowledge their courage and their ideals and we promise to try and complete their mission“). Felly hefyd pan gwynodd Guy Verhofstadt, cyn-brif weinidog Gwlad Belg, bod y refferendwm yn annemocrataid, fe gymerodd hi dair eiliad i mi ganfod disgrifiad gwefan swyddogol ei wlad ei hun o sut daeth honno i fodolaeth. Ac roedd y rheiny’n chwyldroadau arfog! Ai’r awgrym fan hyn yw y byddai gan y mudiad annibyniaeth yn Nghatalwnia fwy o hygrededd petaent yn chwifio gynnau?

A bod yn onest, ni ddylai ymateb arweinwyr eraill Ewrop fod yn destun syndod. I raddau helaeth, nid oes ganddynt ddewis ond mynegi cefnogaeth i’r status quo. Ond nid yw’n gwneud rhyw lawer o synnwyr i sôn am gyfreithlondeb wrth drafod annibyniaeth mewn gwirionedd. Cyn i wlad ennill ei hannibyniaeth, mae’r syniad yn swnio’n rhyfedd hyd yn oed i’r ymgychwyr eu hunain. Ond unwaith daw’r cydnabyddiaeth, uno drachefn yw’r syniad od. Rwy’n gobeithio’n fawr y caiff Catalwnia ei chroesawu gan y byd ehangach yn y pen draw, ond, os yw hynny am ddigwydd o gwbl, gall gymryd misoedd. Grym moesol – y tir uchel moesol – a phragmatiaeth wleidyddol fydd yn dyngedfennol, nid darn o bapur a ysgrifennwyd bedwar degawd yn ôl. Parhau i ddarllen

fel y moroedd : golygfeydd

Mae gan wefan NHK (gorsaf darlledu genedlaethol Japan) fideos byr diddorol. Mae’r fideo hwn yn sôn am y dyn oedrannus sydd yn paentio golygfeydd ar waliau baddondai ers 60 mlynedd. Cafodd ei wahodd i ddangos ei sgil celfyddydol i blant yr ysgol . Roedden nhw’n gyffro i gyd, a dwedodd un ohonyn nhw fyddai fo eisiau fod yn brentis iddo! Dw i’n cofio mwydo mewn bath poeth yn y baddondai ac edrych ar olygfa braf Mynydd Fuji amser maith yn ôl. 

Yn anffodus dydy’r fideo ddim ar gael bellach. Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Ymgynghoriad cyn-gynllunio ar gyfer 3-16 ysgol Gatholig arfaethedig newydd yn y Rhyl

Bydd disgyblion, rhieni a thrigolion yn cael eu cyfle cyntaf i adolygu cynlluniau ar gyfer yr ysgol Gatholig 3-16 arfaethedig newydd yn y Rhyl fel rhan o ymgynghoriad cyn – gynllunio  sydd ar fin cychwyn. Mae Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Wrecsam yn gofyn am farn ar y cynnig drafft ar gyfer ysgol Gatholig newydd […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2017

Roeddem ar ben ein digon o glywed fod tair o’n llyfrau ni wedi cyraedd rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017. Ond faint ydych chi’n gwybod am y llyfrau hyn? Parhau i ddarllen

fideo wyth: Gemau’r Nadolig 2017: Wyth o’r Goreuon

gan Elidir Jones Mae Calan Gaeaf bron yma. Felly mae’n hen bryd dechrau trafod y Dolig. Mae’n wir ddrwg gen i. Ond y gwir ydi, mae’r llif cyson o gemau newydd sy’n arwain i fyny at yr ŵyl bob blwyddyn wedi dechrau’n barod. Mae ‘na dair gêm fawr i gyd yn cael eu rhyddhau heddiw. Neno’r tad….

Parhau i ddarllen

Plaid Cymru Cangen Llundain London Branch: Cyfarfod Tachwedd 2017 November Meeting

Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar Nos Fercher 8fed Tachwedd 2017, 19:30, Canolfan Cymry Llundain, Heol Ysbyty Llwyd.  Rhagor o fanylion gan yr Ysgrifennydd. Our next meeting will be held on Wednesday 8th November 2017, 19:30, London Welsh Centre Gray’s Inn Road.   More details from … Continue reading Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 29 Hydref 2017

Darlleniad y Dydd: Iago 1:16-18 (BCND:tud.251/ tud.230)

Bore da bawb, a chroeso mawr i chi i’n hoedfaon a hithau’n Sul olaf Hydref (gydag awr ychwanegol yn y gwely)! Yr wythnos hon, bydd y plant yn cael mymryn o seibiant yn ystod hanner tymor a bydd miliynau o Gristnogion ar draws y byd yn coffáu digwyddiad . . . → Read More: Dydd Sul, 29 Hydref 2017

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : heddwch?

Clywais fydd yr Is-lywydd Pence yn ymweld ag Israel dros Hanukah. Lwcus iawn! Wrth gwrs nad am wyliau mae o’n mynd, ond er mwyn siarad ag arweinwyr Israel ac Awdurdod Cenedlaethol Palesteinaidd ynglŷn â gwireddu heddwch yn yr ardal. Yn fy nhyb i, does dim pwynt siarad ag Israel ar y pwnc oherwydd mai dyna’r union beth maen nhw eisiau ers iddyn nhw gael eu sefydlu fel gwladwriaeth yn 1948. Rhoddon nhw ddarn o dir i “Balestininaid” er mwyn ennill heddwch tro ar ôl y llall, ond na ddaeth heddwch erioed oherwydd nad heddwch mae’r ochr arall eisiau ond meddiannu’r tir cyfan a dinistrio Israel. Na fydd heddwch nes iddyn nhw newid eu hamcan sylfaenol. Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: • O’r Aifft i’r addewid (Genesis 50) – Celfyn Williams (22.10.2017)

http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/22102017_pm_celfynwilliams.mp3
Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: Celebrating UNESCO’s World Day for Audio-Visual Heritage

UNESCO’s World Day for Audio-Visual Heritage (WDAVH) is celebrated by screen and sound archives all over the world. It takes place each year on October 27th, […] Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: 10 o ffeithiau ar gyfer 10 mlynedd o ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru

Mae Mis Hanes Pobl Dduon Cymru yn dathlu deng mlwyddiant eleni. Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU am y tro cyntaf yn 1987, mae hefyd yn nodi 30 mlwyddiant eleni. Bob mis Hydref yn y DU, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn dathlu llwyddiannau pobl dduon a’u cyfraniadau at ddatblygiad cymdeithas; technoleg; yr … Continue reading 10 o ffeithiau ar gyfer 10 mlynedd o ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: #LoveMaps – Rhys Jones

Mapping change and changing maps – blog post by Professor Rhys Jones, Aberystwyth University as part of our #LoveMaps Campaign “There is something disconcerting about […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia -nofio a sgleintio

Yn nhrydedd erthygl ein cyfres arbennig ar Y MYNYDD, cawn flas ar anturiaethau Steffan ab Owain a’i gyfeillion yn nyfroedd yr ucheldir yn y bennod yma o’i gyfres ar ‘Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au’.

Gan fy mod wedi sôn am rai o’n h… Parhau i ddarllen

shitclic: Danmark am byth!



Mae’r hydref tamp a thywyll yn dechrau cau amdanom. Sy’n golygu mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol ac ymarferion corau mewn festris moel a neuaddau pentref llaith gyda’r hwyr, pan mae’n llawer haws gorwedd ar wely o glustogau, troi’r gwres ‘mlaen a chynnau dwsin o ganhwyllau i gyflwyno mymryn o hygge i’n byd. Ond hyd yma, symol ar y diawl ydi’r arlwy dramatig. Mae BBC Four, cartref gwreiddiol popeth Ewro-noir yn siomedig iawn ar y funud, sy’n golygu bod *rhaid mynd i’r Fox & Hounds bob nos Sadwrn rŵan. A ’sdim byd o werth wedi’i recordio i leddfu’r penmaenmawr ar bnawniau Sul wedyn. 

Taki’r drefn felly am Walter Presents, gwefan bocsets Channel 4, gyda chyfresi gwych (a ddim mor wych) o Sweden i’r Iseldiroedd a Brasil. Arferiad diweddar ydi darlledu’r bennod gyntaf ar Channel 4 cyn gorfodi’r gwyliwr i fynd ar-lein i wylio’r gweddill. Arferiad yr oes am wn i, gyda mwy o mwy yn gwylio ar gyfrifiaduron llechi neu ffonau poced â sgrin bys bawd, ond dw i’n foi reit ffasiwn ac yn dal i ffafrio’r hen Doshiba draddodiadol yng nghornel y lolfa. Mae S4C yn ein prysur hannog i wneud yr un peth hefyd, gyda Hansh a’u tebyg ar youtube. Dw i ddim balchach.
Ond yn ôl at Norskov. Sdim dau ddarn o gorff ar ganol pont na ditectifs siwmperog mewn warysau bol buwch fel y cyfyrdryd eraill o Ddenmarc, ond hanes plismon o’r enw Tom Noack (Thomas Levin, gohebydd newyddion Borgen gynt) sy’n  dychwelyd i’w dref borthladd enedigol lle mae cyffuriau’n rhemp – ac sy’n taro’n nes adref wedi i’w gyn-gariad farw o orddos o gocên pur. Ond fel y gyfres Daneg eraill, mae ’na bolitics ynghlwm wrth y cyfan a tharo bargeinion amheus iawn tu ôl i’r wên deg a’r sbin cysylltiadau cyhoeddus. Mae’n llifo’n dda, yn cynnwys cymeriadau crwn dy’ch chi’n malio amdanynt, ac wedi’i gosod ganol gaeaf noethlwm fel pob cyfres noir gwerth ei halen. O, ac mae’r gwaith ffilmio’n dilyn yr arddull Scandi lle mae awyrluniau’n dangos goleuadau ceir yn nadreddu yn y nos. Heb sôn am ambell dŷ go chwaethus yr olwg. Mae Nordisk Film & TV Fond wedi cyhoeddi bod cyfres arall i ddod.  
Super!

Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Rhyl Library Reading Group – 2il Tachwedd, 11.00 – 12.00

Black Rabbit Hall Eve Chase Does fawr ddim yn digwydd yn Black Rabbit Hall – mae amser yn ymddangos fel ei fod yn treiglo’n arafach yn y cartref gwyliau delfrydol hwn yng Nghernyw. Nes bod y peth gwaethaf yn digwydd … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

: Cer i grafu, George W Bush

Rwyf wrthi’n darllen llyfr o’r enw Trump Revealed  ar hyn o bryd. Mae’n cadarnhau rhywbeth oedd eisoes yn amlwg, sef na ddylai ymddygiad twp (ond hyderus), egotistig, rhagfarnllyd a thwyllodrus yr Arlywydd Trump fod yn syndod o gwbl i unrhyw un. F… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cer i grafu, George W Bush

Rwyf wrthi’n darllen llyfr o’r enw Trump Revealed  ar hyn o bryd. Mae’n cadarnhau rhywbeth oedd eisoes yn amlwg, sef na ddylai ymddygiad twp (ond hyderus), egotistig, rhagfarnllyd a thwyllodrus yr Arlywydd Trump fod yn syndod o gwbl i unrhyw un. Fel hyn mae’r dyn wedi bod erioed, yn ddi-ffael. Mae Trump yn greadur anarferol, sef dyn heb unrhyw rinweddau, yn llythrennol, o gwbl.

Fel sydd efallai’n amlwg o’r blog, mae’r niwed sy’n cael ei achosi gan Trump yn dipyn o obsesiwn gennyf. Roedd ei ethol yn drychineb. Eto i gyd, fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, mae’n bwysig cofio nad ymddangos yn sydyn o wagle a wnaeth y dyn. Symptom ydyw, nid gwraidd y broblem ei hun, ac mae angen i bobl roi’r gorau i obeithio y byddai cael gwared ar Trump (trwy ba bynnag ddull) rywsut yn caniatáu i ni gario ymlaen fel pe na bai ei arlywyddiaeth wedi digwydd o gwbl.

Dyma pam cefais fy ngwylltio gan sylwadau George W Bush yr wythnos diwethaf. Nid oherwydd eu bod yn anghywir; i’r gwrthwyneb. Maent yn gyfoglyd o ragrithiol, gan mai Bush ei hun sy’n gyfrifol am y smonach presennol i raddau helaeth. Nid oes modd gor-ddweud y difrod a wnaethpwyd gan gyfnod hwnnw fel arlywydd. Ef oedd yn gyfrifol am gamgymeriad geo-wleidyddol mwyaf trychinebus a di-angen yr hanner canrif diwethaf. Trwy ddechrau rhyfel Irác, fe achosodd lanast yn y Dwyrain Canol, ac wrth ddefnyddio celwyddau noeth er mwyn ei gyfiawnhau fe wnaeth fwy na neb i erydu ymddiriedaeth y bobl yn eu llywodraeth. Ar ben hynny, roedd yn annog y defnydd o artaith, roedd yn rhagfarnllyd, ac fe aeth ati’n fwriadol ac agored i danseilio’r gwirionedd ei hun fel cysyniad.

Nid oes unrhyw beth yn newydd am Trump, felly. Braenarwyd y tir ar ei gyfer gan Bush. Yn wir, wrth ddilyn cyfeiriad y Blaid Weriniaethol yn gyffredinol ers dyddiau Nixon, gwelir bod ymddangosiad rhywun fel Trump fwy neu lai’n anochel. Mae’r blaid yn ei chyfanrwydd yn drewi.

Mae Trump hyd yn oed yn waeth na’r hyn a gafwyd gynt, ond rwy’n ffieiddio’n llwyr at y nostalgia diweddar am Bush. Dyma wir berygl arlywyddiaeth Trump: y cyfan fydd angen i’r Gweriniaethwyr ei wneud yn y dyfodol er mwyn ymddangos yn dderbyniol yw bod yn well na’r fuckwit presennol. Dyna fydd y safon. Dyma pam rwy’n argyhoeddedig bod y niwed presennol am bara am ddegawdau; yn wir, mae’n berffaith bosibl nad Trump fydd yr isafbwynt. Parhau i ddarllen

fel y moroedd : ongl wahanol

Wrth gwrs bod popeth yn edrych yn fwy hwyl wyneb i waered! Llun fy ŵyr ydy hwn. Fe wnaeth pob un o fy mhlant yr un peth pan oedden nhw’n fabis. Efallai fy mod i wedi ei wneud hefyd, ynghyd â nifer o bobl eraill dw i’n siŵr. Dan ni wedi stopio eisiau gweld y byd o ongl wahanol wrth i ni fynd yn hŷn. Parhau i ddarllen

Rhys Aneurin: Ugly Arriva building (2017) Emulsion on board (93 x 75 cm) •…

Ugly Arriva building (2017)
Emulsion on board
(93 x 75 cm) • £300
rhysaneurin.com

Parhau i ddarllen

Bach o bopeth BR: Photo

National Library of Wales Blog: #LoveArt – Meri Huws

Over the next four weeks Welsh Language Commissioner, Meri Huws will introduce her favourite art works from the Library’s collection as part of the #LoveArt […] Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: • Gwireddu’r freuddwyd (Genesis 43) – Rhodri Glyn (15.10.2017)

http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/15102017_pm_rhodriglyn.mp3
Parhau i ddarllen

shitclic: 5 peth


Erthygl ysbeidiol am raglenni sy’n hoelio sylw, ac sy’n dal ar gael ar Clic ac Iplayer
Russia with Simon Reeve, BBC2
Cyfres dywysedig lle mae’r cyflwynydd hawddgar yn teithio miloedd o filltiroedd ar draws gwlad fwya’r byd, mewn hofrennydd, jetsgi eira a’r Trans-Siberian eiconig (tipyn mwy atyniadol a dibynadwy na Non-Arriva Wales). O ‘glampio’ mewn iwrt gyda ffermwyr ceirw lle mae tymheredd o -30 gradd yn gyffredin, ymweld â ‘Vegas’ Vladivostok llawn casinos i ddenu’r biliwnyddion Asiaidd, gweld effeithiau erchyll alcohol ar werin bobl, chwilio am deigrod Siberia, picied i gaffi sy’n eilunaddoli Putin, i dreulio diwrnod cyfan yn y ddalfa gyda’i griw camera gan yr FSB hynod amheus (KGB yr 21ain ganrif) – go brin fuodd Judith Chalmers ar wibdaith o’r fath. Mae’n awr diddorol dros ben (hyd yn oed os nad yw’r cyflwynydd felly), yn weledol wych ac yn agoriad llygad i wlad gyfareddol dan law haearnaidd yr Arlywydd. Jest peidiwch â sôn am Gwpan y Byd 2018.
Deuawdau Rhys Meirion, S4C
Cyfaddefiad – welais i mo’r gyfres gyntaf, ar ôl ’laru braidd efo’r hollbresennol Mr ‘Anfonaf Angel’ ar y pryd. Ac yn niffyg adloniant nos Wener, a chryn ganmoliaeth gan eraill, fe rois i gynnig ar hon. A mwynhau. Yn arw. Oce, doedd un Elin Fflur ddim cweit at fy nant, ond mi fwynheais i raglenni Daniel Lloyd (heb Mr Pinc) ac Al Lewis yn arw, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at yr unigryw Lleuwen Steffan o Lydaw. Cyfuniad o sioe siarad, canu a theithio – a syniad hollol wreiddiol i S4C am unwaith. Siŵr braidd y gwelwn ni CD arall erbyn Dolig?
The Deuce, Sky Atlantic
Gwylio hollol hanfodol i ffans The Wire, cyfres ddrama am fasnach gyffuriau Baltimore y 1990au. Diwydiant pornograffi Efrog Newydd y 1970au ydi’r gefnlen y tro hwn, a llond Times Square o gymeriadau brith – y pimps, y puteiniaid a’r perchnogion busnes – wedi’u gwau’n gelfydd mewn stori sy’n datgelu dow-dow a chyfres sy’n diferu o naws fanwl-gywir y cyfnod, o’r Cadillacs i’r fflêrs, y smociwrs a’r strydoedd llawn tomenni sbwriel. Dychmygwch gymeriadau Daniel Owen neu Dickens wedi’u plannu’n NYC. Gyda Maggie Gyllenhaal a James Franco yn serennu fel actorion a chynhyrchwyr. Ac na, nid pyrfyn mohonof er gwaetha’r testun coch.
Dylan ar Daith, S4C
Mae Mr Golwg wedi codi pac unwaith eto, ac ar ôl ymweld â Gwlad Yncl Sam ddwy flynedd yn ôl, y Wlad Sanctaidd oedd y gyrchfan ddiweddaraf. Hanes Lily Tobias a gawsom yn ‘O Ystalyfera i Israel’, awdur ac ymgyrchydd fu’n dyheu am diriogaeth i’w chenedl Iddewig. Ond hanes trist hefyd, gyda sawl clec personol ar y ffordd, gan gynnwys llofruddiaeth ei gwr dan law’r Arabiaid yn Hebron wrth iddi ’sgwennu golygfa debyg mewn nofel ar y pryd. Tipyn o sylwedd nos Sul, ganol X Factor a saga sebonllyd am frenhines Loegr.
Bang, S4C
Dw i’n dal i wylio, er ddim mor awchus â thrydedd cyfres 35 Diwrnod. Gweler y blogbost flaenorol am ddiffyg amynedd.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : chwiban

Mae gen i ofn cŵn dieithr. Roddwn i’n arfer cario ymbarél efo fi wrth fynd am dro er mwyn ei ddefnyddio fel tarian yn erbyn cŵn rhydd. Mae yna declynnau ar gael i’w rwystro ond dw i byth eisiau eu brifo. Chwiban efallai. Roeddwn i’n rhyw feddwl prynu un. Yna daeth y gŵr o hyd i chwiban a gafodd yn anrheg gan fyfyriwr o Japan flynyddoedd yn ôl a’i anghofio, wrth iddo dacluso ei swyddfa ddyddiau’n ôl. Mae hwn yn berffaith! Mae o’n gwneud sŵn efo sain traw ofnadwy o uchel. Mewn ffurf Anpanman ydy o hyd yn oed. Dw i’n cael cerdded heb ofn bellach.  Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: ? Arglwyddi – wedi cael llond bol

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth Parhau i ddarllen

Golwg360: Arglwyddi – wedi cael llond bol

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Sesiwn Crefft Spooktacular – Llyfrgell Y Rhyl, 31ain Hydref, 2.00yh

Advertisements Parhau i ddarllen

fel y moroedd : gorffen olion y diwrnod

Dw i newydd orffen y nofel gan Kazuo Ishiguro, sef the Remains of the Day a enillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel. Nid stori antur ydy hi, ac felly mae rhai pobl yn ei beirniadu’n “hollol ddiflas,” ond i ddarllenwyr sydd yn gwerthfawragi stori sydd yn eich gwneud chi’n meddwl yn ddwfn, mae hon yn nofel dda. Mae ganddi neges gadarnhaol hefyd. Dw i am weld y ffilm rŵan a serennir gan Anthony Hopkins ac Emma Thompson; mae rhyw glip yn edrych yn ffyddlon wrth y nofel. Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Sengl newydd: Perlau – Crawia – allan rwan

Sengl newydd PerlauCrawia Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: Ysgol Sul Maesyneuadd – Daniel yn ffau’r llewod!

22ain Hydref 2017 – hanes Daniel gawsom heddiw. Hanes Duw yn edrych ar ein holau pan fyddwn mewn ofn neu’n bryderus mewn sefyllfa anodd.  Bu’r ddau ddosbarth yn edrych ar hanes Daniel yn cael ei arbed oddi wrth y llewod, gan iddo weddio ar Dduw.&n… Parhau i ddarllen

Pop Cymru: Rhagarchebwch albwm newydd Band Pres Llareggub – LLAREGGUB [LP]

Allan Rhagfyr 4ydd 2017https://bandpresllareggub.bandcamp.com/album/llareggub-lp Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Cylch Darllen y Dysgwyr – Llyfrgell Rhuthun, 30ain Hydref, 3.00yh

Rebel Rebel Jon Gower Casgliad o 21 stori fer gan yr awdur poblogaidd Jon Gower. Mae’r straeon yn amrywiol, o ran hyd ac o ran themâu, a chaiff sawl rebel adnabyddus (e.e. David Bowie, Mick Jagger a James Dean) ei … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Blog – Golwg360: ? Leanne – oherwydd y peryg, mae hi’n saff

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth Parhau i ddarllen

Golwg360: Leanne – oherwydd y peryg, mae hi’n saff

Blog bach cyn cinio gan Dylan Iorwerth Parhau i ddarllen