Archif Dyddiol: 4 Hydref 2017

Pop Cymru: Gig: Ffenestri, Celwyddau, DJ Gareth Potter | 20:10:17 | Y Ci a’r Piano, Caerfyrddin

fel y moroedd : sioe newydd

Mae’r sioe, Flames of Freedom gan Brifysgol Ozarks newydd gychwyn. Bydd hi’n para tan 16 Tachwedd. Seiliedig ar hanes cyn myfyriwr y brifysgol honno, mae’r sioe’n darlunio ei brofiad a’r bobl o’i gwmpas yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dwedodd fy merch fod hi’n teimlo mor dorcalonnus tra oedd hi’n ymarfer hyd yn oed. (Ches i ddim gair efo hi eto ar ôl y sioe.) Dyma gip ar y sioe. Mae fy merch yn ymddangos sawl tro! Parhau i ddarllen

shitclic: S4Wales

Wnes i ’rioed feddwl bod Port Talbot yn gymaint o bictiwr. O’r tyrrau dur sy’n gefnlen i draeth melyn epig Aberafan i’r cymoedd gleision uwchlaw’r mwg a’r M4, a hyd yn oed colofnau concrid y draffordd fawr brysur – mae gwaith camera Bangyn hynod drawiadol. Cyfres newydd nos Sul yn slot sanctaidd y ddrama Gymraeg am naw. Nid saga sgleiniog fel Teulu mohoni na chyfres noir-aidd arall waeth beth ddywed Llais y Sais – ond cyfres drosedd-deuluol. Sam a Gina, brawd a chwaer ar begynau gwahanol mewn bywyd – y naill (Jacob Ifan) yn weithiwr warws anfoddog sy’n ysu am bach o rym a chyffro yn ei fywyd pan ddaw gwn anghyfreithlon i’w feddiant, a’r llall (Catrin Stewart) yn blismones uchelgeisiol sy’n ymchwilio i lofruddiaeth a achoswyd gan y cyfryw wn. Ac yn y cefndir, cysgod marwolaeth eu tad a saethwyd yn farw ar y traeth o flaen Sam y bychan, a’r gwrthdaro cyson â’r Sgotyn a bwli o lysdad er gwaetha ymgais y fam lywaeth (Nia Roberts) i gadw heddwch. Bu Gillian Elisa yn serennu fel mam-gu neu “Nani” ddi-lol y teulu i ddechrau cyn marw’n ddisymwth – bechod, achos yn bersonol, hi oedd un o’r prif resymau dros wylio yn y lle cyntaf. Ac mae staff yr heddlu (o Gareth Jewell i Suzanne Packer) yn ategiad dwyieithog difyr i’r cyfan. Cyfres ddwyieithog, felly, nid fersiwn gefn-wrth-gefn fel y ditectif nid anenwog hwnnw o’r Borth. Gyda llaw, ai fi ydio, neu oes angen i swyddfa heddlu Cwm Afan fuddsoddi’n sylweddol mewn bylbiau golau? Mae llawer o’r golygfeydd hynny fel bol buwch.

Bu cryn heip am iaith Bang, yn enwedig y golygfeydd helaeth o Saesneg fel sy’n fwy naturiol i’r De diwydiannol. Yn y blyrb cyhoeddusrwydd, roedd llawer o’r cast a’r criw fel y cynhyrchydd Catrin Lewis Defis yn brolio mai fel hyn ’dyn ni’n siarad yn y Gymru fodern. Cymysgedd o frawddegau Cymraeg a Saesneg, Wenglish hyd yn oed. Hmm. Llansawel falle, bendant ddim Llanrwst na Llanllwni. Meddai’r Fonesig Lewis-Defis:

“I think we switch really naturally between both languages and it shows the way that Wales and the Welsh language is today.

“It’s brilliant because we can take the Welsh language further, rather than making an excuse for it and dubbing it in English, we’re going to take the Welsh out there with the English and that makes this project really fresh and innovative.”

Dadl yr awdur Roger Williams (Caerdydd, Pobol y Cwm, Tales from Pleasure Beachac enillydd gwobr BAFTA Cymru am Tir) oedd mai portreadu iaith Cymry’r De ôl-ddiwydiannol – a chyda bron i hanner dwsin o ysgolion cynradd Cymraeg yn ardal Castell-nedd Port Talbot a bwriad i agor ysgol gyfun Gymraeg gynta tre’r dur, does dim amau’r diddordeb a’r brwdfrydedd lleol.  ’Sdim dwywaith am frwdfrydedd y di-Gymraeg dros y gyfres hefyd, a barnu oddi wrth ymateb y twitteratis.  Ond – ac mae hwn yn glamp o ‘ond’ – os mai ceisio efelychu iaith y stryd mae Bang, yna mae’r sinig ynof yn dweud mai’r iaith fain fyddai cyfrwng cyfathrebu’r stad gownsil a swyddfa’r heddlu. Dyna sefyllfa drist ein hiaith yn yr unfed ganrif ar hugain.  Ond byddai rhywun yn dweud bod Pobol y Cwm yn afrealistig hefyd, wrth i’r iaith edwino fwyfwy yng Nghwm Gwendraeth sy’n sail i’r gyfres sebon hirhoedlog.  A fyddai cymeriadau fel Mark Jones a Debbie, a’r to iau fel Sioned, Dani, Tyler, Chester a Hanna yn siarad Cymraeg â’i gilydd?  Yn sicr, mae iaith y thesbians ar wefannau cymdeithasol yn ategu fy amheuon.

Hawdd cytuno felly ag ofnau  Sioned Williams yn Barn fis Hydref  “… mae S4C yn agor y drws i fyd dwyieithog a fydd – os yw’r gyfres yn llwyddiannus – yn anodd ei gau. Ai ‘adlewychu realiti holl gymunedau Cymru yw pwrpas S4C, fel yr awgrymwyd yn y noson lansio, neu ai creu arlwy yn y Gymraeg ar eu cyfer?”

Efallai mai lle BBC Wales ydi darlledu Bang– cyfle i normaleiddio’r Gymraeg mewn cyfres fwyafrifol Saesneg. Lol botes oedd creu sawl fersiwn o Hinterland i blesio cynulleidfaoedd S4C, BBC Wales Seisnig ac yna BBC Four fwy eangfrydig sydd wedi hen arfer â darlledu dramâu Ewropeaidd ag isdeitlau Saesneg ar y sgrin. Ar y llaw arall, diolch i dduw am S4C fel yr unig sianel o Gymru sy’n portreadu bywyd y genedl gyfoes ar ffurf drama. Pryd mewn difri calon oedd y tro diwethaf i BBC Wales wneud hynny?  Belonging wyth mlynedd yn ôl? A na, tydi The Indian Doctor llawn stereoteipiau blinderus o Gymru’r pyllau glo ddim yn cyfri…

A pheidiwch â dechrau gydag adran ddrama ITV Cymru Wales.

Mae Bang eisoes wedi denu diddordeb gan Wlad y Basg, Lloegr ac ambell AS, ac wedi’i gwerthu i orsaf SVT Sweden. Dw i’n mwynhau’r cyfuniad o’r cyffro a’r elfennau teuluol, mae’r ddeialog yn tipyn mwy credadwy na fuodd Y Gwyll erioed, a’r ddau brif actor ifanc yn llywio’r cyfan yn llwyddiannus fel cymeriadau ’da ni’n wir falio amdanyn nhw. 

Ond mae angen i S4C feddwl hefyd am gynulleidfa graidd nos Sul hefyd, a darparu drama mwy draddodiadol ar eu cyfer sy’n sicrhau ffigurau gwylio uwch na chaiff Bang, 35 Diwrnod et al fyth.

 

Parhau i ddarllen

: Chwedl y llawforwyn yn 2017

Ys gwn i faint ohonoch sydd wedi bod wrthi’n gwylio’r gyfres deledu newydd ‘A Handmaid’s tale’ a chafodd ei chyflwyno i ni dros gyfnod y gwanwyn/ haf flwyddyn yma? Gyda’r stori dystopaidd, patriarchaidd, sydd yn iasol o berthnasol i’r cyfnod cyfoes, mewn rhai gwledydd ar hyn o bryd, a’r agwedd weledol syfrdanol o’r gwisgoedd lliwgar, […] Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Chwedl y llawforwyn yn 2017

Ys gwn i faint ohonoch sydd wedi bod wrthi’n gwylio’r gyfres deledu newydd ‘A Handmaid’s tale’ a chafodd ei chyflwyno i ni dros gyfnod y gwanwyn/ haf flwyddyn yma? Gyda’r stori dystopaidd, patriarchaidd, sydd yn iasol o berthnasol i’r cyfnod cyfoes, mewn rhai gwledydd ar hyn o bryd, a’r agwedd weledol syfrdanol o’r gwisgoedd lliwgar, […] Parhau i ddarllen

shitclic: Dyna ddigon, Doc


*SBOILAR


A dyna ni. Mae’r antur fawr ar ben. Y ddrama ddomestig dros ben llestri am sgileffeithiau hyll tor-priodas – wrth i Dr Foster(Suranne Jones) yfed a smocio a fflangellu’i ffordd drwy ysgariad chwerw â’r Simon (Bertie Carvel fel chwip o ddihiryn pantomeim) a thynnu holl drigolion dosbarth canol uwch Parminster i’w pennau. Er gwaetha’r amheuon y byddai’r naill gymar neu’r llall yn gelain erbyn y diwedd, naill ai dan deiars yr Hyundai neu trwy nodwydd angheuol y doc, maen nhw mewn galar parhaus bellach – am eu mab Tom, a gafodd hen lond bol o ddramatics Shakespearaidd ei fam a’i dad, cyn diflannu o’u bywydau. Ac wele bosteri “Missing” o’r cr’adur ar hyd a lled y syrjeri a’r dre, a diweddglo marc cwestiwn.

 Yr antur fawr ar ben meddwn i. Ond efallai bod gan yr awdur Mike Bartlett syniadau gwahanol. Y farn gyffredinol nad oedd hon yn yr un cae â’r gyfres gyntaf hynod boblogaidd. Ond cofier Broadchurch, a gafodd ail gyfres symol uffernol cyn achubiaeth y drydedd a’r olaf un. 
Suranne Jones bia’r gair ola, debyg. 

Rhowch gyfres ddrama wahanol iddi wir dduw.

Parhau i ddarllen

National Library of Wales Blog: #LoveArt

This month TV presenter, Journalist and Designer Huw Rees tells us about his love for art as part of our #LoveArt campaign. He has chosen […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Bwrw Golwg -Un arall o deulu Tŷ’r Ynys

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, pennod arall o gyfres W.Arvon Roberts am bobl Bro Ffestiniog yn America.
Soniais yn rhifyn Mawrth am Nicholas Jones (1812-99) o Dŷ’r Ynys, Cwm Cynfa… Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Mis Hanes Pobl Dduon: Mae’r mis Hydref hwn yn un arbennig

Dathlwyd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU am y tro cyntaf yn 1987, ac mae eleni’n nodi 30 mlwyddiant. Abi Lasebikan, Cyd-Gadeirydd rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol, yn sôn am hanes y mis… Bob mis Hydref yn y DU, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn dathlu llwyddiannau … Continue reading Mis Hanes Pobl Dduon: Mae’r mis Hydref hwn yn un arbennig Parhau i ddarllen

fideo wyth: Neon: Gêm Newydd o Gymru

gan Elidir Jones ‘Da ni’n meddwl am Fideo Wyth fel ryw fath o ddyletswydd sanctaidd. Sticiwch efo fi. Wrth gwrs, ‘da ni’n hoff o sôn am gemau, mawr a bach, ledled y byd. Ond pan mae rhywbeth arbennig yn dod o Gymru – gwlad sydd ddim yn enwog iawn am ei gemau (hyd yn hyn,…

Parhau i ddarllen