Archif Dyddiol: 17 Hydref 2017

fel y moroedd : cinio bach ar y dec

Gollyngodd y tymheredd yn sydyn fel does dim pryfed annifyr tu allan. Roedd braidd yn oer pan es i am dro’r bore ‘ma, ond mae hi wedi cynhesu yn ystod y dydd. Penderfynais fwyta cinio bach (tost efo caws, moron a seleri) ar y dec cefn. Roedd yn braf. Roedd yr awyr yn las las. Roedd popeth yn disgleirio yn yr haul. Distaw iawn oedd hi ar wahân i ambell i aderyn neu ddau. Gwelais yellow jacket yn prysur flasu’r diferyn o’r mêl ar fy mhlât. Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2018

Mae’r llyfrau wedi eu henwi ar gyfer: Cystadleuaeth Llyfrau i Ysgolion Cymru 2017–2018! Dyma i chi’r rhai ar gyfer Rownd Sirol Blynyddoedd 3 a 4 – cliciwch ar y ddolen:   Darllen_Dros_Gymru_Rownd_Sirol_Bl._3_a_4_2017-2018 Falch o weld rhain yno! 9 allan o 10 llyfr yn rai gwreiddiol Cymraeg – da. A dau gan fam a merch, digwydd […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Argymhellion y Comisiwn Ffiniau

Mae’n debyg y bydd yna gryn dipyn o ddoethinebu am y newidiadau i’r etholaethau San Steffan sydd wedi eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ffiniau heddiw.  Mae’r ymarferiad yn un cwbl ddibwynt i raddau helaeth – mae’n anhebygol iawn o ddigwydd.Mae’r llywodr… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Yr ardd a llysiau’r hydref

Mae’r hydref wedi bod yn wych eleni, a dan ni wedi bod yn mwynhau’r llysiau o’r ardd am fisoedd.  Mae’r betys wedi bod yn dda, a rŵan dan ni’n dechrau bwyta’r llwyth o gennin sydd yn yr ardd.  


Felly, yn hytrach na cawl tomato [er bod tomatos ni wedi gorffen, mae tomatos lleol ar gael] cawl cenin sydd ar y fwydlen. Ond wedi dweud hynny, gwnes cawl tomato hyfryd dydd gwener gyda cynhwysion lleol i gyd – shalots a tatws o’r ardd, [gwelir isod] a mae o mor dda i gael bwyd sydd wedi dod o’r ardd, neu gardd rhywun arall reit agos.


Mae digon o waith tacluso a chwynio i wneud yn yr ardd.  Ond y gwaith sydd yn cymryd sylw ar y funud ydy’r adnewyddiad y ty gwydr.  Mwy am hynny yn y fan, ond un llun bach….mae rhan o’r to newydd [ar y chwith] yn ei le.

Ond dwi’n methu lawrlwythio lluniau diweddar o’r camera.  Mae’r teclyn bach sydd yn dal y cerdyn SD ac yn rhoi o i fewn i’r cyfrifiadur yn gwrthod gweithio.  Mor rhwystredig!  Bydd rhaid mynd i’r siop “afal” yng nghanol Milotn Keynes.  Dim rhywbeth i edrych ymlaen ato.

Parhau i ddarllen