Archif Dyddiol: 27 Hydref 2017

Gofalaeth Fro'r Llechen Las: Dilyn Crist trwy redeg yr yrfa

  Am ryw reswm, chefais i erioed fy nhemtio hyd yn oed i ystyried rhedeg Marathon. Tua thair milltir oedd y ras draws gwlad yn Ysgol Brynrefail, a dyna’r ras hiraf i mi ei rhedeg. Yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol mi oeddwn (os cofiaf yn iawn) yn seithfed yn y ras honno, er […] Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Annibyniaeth!

Felly mae Catalwnia wedi mynd amdani a datgan ei hannibyniaeth o’r diwedd, yn dilyn y refferendwm ddechrau’r mis. Wrth gwrs, datgan y peth yw’r rhan hawdd. Ar yr un pryd, mae Sbaen wedi cadarnhau ei bwriad i ddiddymu llywodraeth Catalwnia. Dyma pam rwyf wedi bod yn gymharol besimistaidd ers dechrau’r broses; mater o gael ei chydnabod gan wledydd eraill Ewrop fydd hyn i gyd yn y bôn, a’r gwir yw nad oes gan y rhan fwyaf o’r rheiny lawer o gymhelliad i fynd yn groes i Sbaen yn hynny o beth. Rwy’n amau mai prif obaith y Catalanwyr yw ymateb Rajoy cïaidd arall gan lywodraeth Rajoy, fyddai wedyn yn cadarnhau yn llygaid y byd mai gan Gatalwnia mae’r tir uchel moesol.

Y prif gŵyn yn erbyn beth sy’n digwydd yw bod y refferendwm yn anghyfreithlon. Mae hynny’n wir; ni roddodd Sbaen  ei sêl bendith iddo. Ond mae hefyd yn wir bod cyfansoddiad Sbaen – dogfen a luniwyd ym 1978 fel cyfaddawd ar ôl claddu Franco a rhoi cynnig ar ddemocratiaeth – yn gwahardd hyd yn oed y posibilrwydd o’r fath beth. Mae’r syniad o annibyniaeth i ‘ranbarthau’ Sbaen felly’n dead end cyfansoddiadol. Gellid newid y cyfansoddiad, ond pa obaith oedd i Gatalwnia gyflawni hynny ar ei phen ei hun, â Sbaen ei hun mor gadarn yn erbyn y fath syniad?

Mae hyn yn codi cwestiynau dyrys ynghylch beth yn union yw cyfraith. Mae galw rhywbeth yn ‘anghyfreithiol’, fel petai hynny’n ddechrau a diwedd ar y ddadl, yn ddi-ystyr. Wedi’r cyfan, holl bwrpas gwleidydda yw newid cyfreithiau, ac mae hynny’n digwydd yn ddyddiol ledled y byd. Nid mewn ystafelloedd pwyllgor diflas yn unig y mae’r broses honno’n digwydd, chwaith. Elfennau hollbwysig eraill yw pwysau gwleidyddol gan ymgyrchwyr, gan gynnwys protestiadau a dulliau anghyfansoddiadol. Roedd llawer o weithredoedd Gandhi, Martin Luther King Jr a Nelson Mandela yn anghyfreithlon, ond yn foesol gywir.

Daeth bron pob gwlad yn y byd, ar y llaw arall, i fodolaeth trwy ddulliau ‘anghyfreithlon’. Pan ddywedodd y Taoiseach Leo Varadkar na fyddai’n cydnabod canlyniad refferendwm Catalwnia, a’i fod yn ‘parchu llysoedd a chyfansoddiad Sbaen’, f’ymateb cyntaf oedd mynd i chwilio am faint o barch a ddangosodd tuag at gyfraith a chyfansoddiad y Deyrnas Unedig (fel ag yr oedd hi adeg Gwrthryfel y Pasg) ar achlysur y canmlwyddiant y llynedd. Ni chefais fy siomi (blas: “As we stand here today, we bow our heads in respect to honour the men and women who fought here at this location in 1916. We acknowledge their courage and their ideals and we promise to try and complete their mission“). Felly hefyd pan gwynodd Guy Verhofstadt, cyn-brif weinidog Gwlad Belg, bod y refferendwm yn annemocrataid, fe gymerodd hi dair eiliad i mi ganfod disgrifiad gwefan swyddogol ei wlad ei hun o sut daeth honno i fodolaeth. Ac roedd y rheiny’n chwyldroadau arfog! Ai’r awgrym fan hyn yw y byddai gan y mudiad annibyniaeth yn Nghatalwnia fwy o hygrededd petaent yn chwifio gynnau?

A bod yn onest, ni ddylai ymateb arweinwyr eraill Ewrop fod yn destun syndod. I raddau helaeth, nid oes ganddynt ddewis ond mynegi cefnogaeth i’r status quo. Ond nid yw’n gwneud rhyw lawer o synnwyr i sôn am gyfreithlondeb wrth drafod annibyniaeth mewn gwirionedd. Cyn i wlad ennill ei hannibyniaeth, mae’r syniad yn swnio’n rhyfedd hyd yn oed i’r ymgychwyr eu hunain. Ond unwaith daw’r cydnabyddiaeth, uno drachefn yw’r syniad od. Rwy’n gobeithio’n fawr y caiff Catalwnia ei chroesawu gan y byd ehangach yn y pen draw, ond, os yw hynny am ddigwydd o gwbl, gall gymryd misoedd. Grym moesol – y tir uchel moesol – a phragmatiaeth wleidyddol fydd yn dyngedfennol, nid darn o bapur a ysgrifennwyd bedwar degawd yn ôl. Parhau i ddarllen

fel y moroedd : golygfeydd

Mae gan wefan NHK (gorsaf darlledu genedlaethol Japan) fideos byr diddorol. Mae’r fideo hwn yn sôn am y dyn oedrannus sydd yn paentio golygfeydd ar waliau baddondai ers 60 mlynedd. Cafodd ei wahodd i ddangos ei sgil celfyddydol i blant yr ysgol . Roedden nhw’n gyffro i gyd, a dwedodd un ohonyn nhw fyddai fo eisiau fod yn brentis iddo! Dw i’n cofio mwydo mewn bath poeth yn y baddondai ac edrych ar olygfa braf Mynydd Fuji amser maith yn ôl. 

Yn anffodus dydy’r fideo ddim ar gael bellach. Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Ymgynghoriad cyn-gynllunio ar gyfer 3-16 ysgol Gatholig arfaethedig newydd yn y Rhyl

Bydd disgyblion, rhieni a thrigolion yn cael eu cyfle cyntaf i adolygu cynlluniau ar gyfer yr ysgol Gatholig 3-16 arfaethedig newydd yn y Rhyl fel rhan o ymgynghoriad cyn – gynllunio  sydd ar fin cychwyn. Mae Cyngor Sir Ddinbych ac Esgobaeth Wrecsam yn gofyn am farn ar y cynnig drafft ar gyfer ysgol Gatholig newydd […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2017

Roeddem ar ben ein digon o glywed fod tair o’n llyfrau ni wedi cyraedd rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017. Ond faint ydych chi’n gwybod am y llyfrau hyn? Parhau i ddarllen

fideo wyth: Gemau’r Nadolig 2017: Wyth o’r Goreuon

gan Elidir Jones Mae Calan Gaeaf bron yma. Felly mae’n hen bryd dechrau trafod y Dolig. Mae’n wir ddrwg gen i. Ond y gwir ydi, mae’r llif cyson o gemau newydd sy’n arwain i fyny at yr ŵyl bob blwyddyn wedi dechrau’n barod. Mae ‘na dair gêm fawr i gyd yn cael eu rhyddhau heddiw. Neno’r tad….

Parhau i ddarllen