Archif Dyddiol: 5 Rhagfyr 2017

Gwneud pethau gwell - Medium: Agor gwasanaethau cyhoeddus i fyny

Rwy’n caru fy mod i’n gallu wirfoddoli a helpu i gynnal cyrsiau hyfforddi gofal cymdeithasol fel rhan o’m swydd.Roedd ein cwrs ni ar weithio gyda rhieni sydd ag anableddau dysgu yn hynod o ddiddorol. Roedd yna gymaint o bethau diddorol ynddi y gallai g… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : dod i rym

Methais i gysgu’n dda neithiwr gan feddwl am y dyddiad cau. Codais am bump i weld newyddion Breitbart. Hwrê! Wnaeth o ddim! Na arwyddodd yr Arlywydd Trump Waiver! Mae Deddf ynglŷn â Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem o 1995 yn dod i rym ers 12 o’r glo… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Gawn ni stori?

Mae hwn yn berl o gasgliad. Dyma gyfrol clawr caled o 24 o chwedlau a straeon am arwyr Cymru gan y diweddar John Owen Huws. Dim ond 49 oed oedd John pan fu farw yn 2001, ond nefi, mi wnaeth o gyflawni cymaint yn ei fywyd. Mi wnes i ddod i’w nabod pan gawson ni’n […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Yr Ynys – Lleucu Roberts

Blas o nofel YR YNYS gan Lleucu Roberts – y gyntaf yn y drioleg YMA. 2140. Ynys yn yr Arctig. Cyn i fomiau niwclear ddod yn agos at ddinistrio bywyd ar y ddaear yn 2030, aeth 49 o bobl i guddio mewn ogof ar ynys oer, anghysbell. Ganrif yn ddiweddarach mae cymdeithas wedi datblygu yno. […] Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Sgotwrs Stiniog -Llwybrau

Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans.

Yn y gorffennol rwyf wedi cerdded y ‘llwybr sgotwrs’ i’r ddau Lyn y Gamallt laweroedd o weithiau, a hynny ar bob awr o’r dydd a’r nos. Tybed a oes unrhyw sgotwr yn ei gerdded erbyn hyn? Dau ddarn… Parhau i ddarllen

Cymraeg – Y Silff Lyfrau | the Welsh Bookshelf: Prolog – ‘Efa’ gan Bethan Gwanas

Prolog o ‘Efa’ gan Bethan Gwanas – y gyntaf yn nhrioleg Y Melanai. Ar ei phen-blwydd yn 16 oed, rhaid i Efa, tywysoges y Melanai, ladd ei mam, y frenhines. Dyna’r drefn yng ngwlad Melania ers milenia; trefn sy’n sicrhau mai brenhines ifanc, iach a chryf sy’n rheoli.Ond fu Efa erioed yn un am ddilyn […] Parhau i ddarllen