Argyfwng y Ddaear – cyflwyniad theatrig ergydiol Cwmni Pendraw

Arwydd gobeithiol oedd hi i garedigion y Ddaear pan gafodd cytundeb ei lofnodi gan tua 200 o wledydd yn 2016, dan arweiniad gwaraidd y Cenhedloedd Unedig, i weithredu ar frys i geisio ffrwyno bygythiad cynhesu byd-eang. Serch hynny, roedd pawb yn deall mai’r dasg fyddai sicrhau bod ein gwleidyddion yn cadw at eu haddewidion. Ganddyn nhw, wedi’r cyfan, mae’r gallu i weithredu polisïau i warchod y plethiad rhwng systemau naturiol y Ddaear sy’n ein cynnal – yn cynnal dynoliaeth a’r myrdd o ffurfiau bywyd eraill, hefyd. Ond sut mae gwneud hynny? Mae angen dychymyg i lunio ffyrdd newydd o wthio pwnc i ben blaenoriaethau gwleidyddion a’i gadw yno. Yn sicr, dylai fod gan y celfyddydau ran amlwg i sicrhau hynny. Yng Nghymru, fel ymhob man arall.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.