Ein dyfodol dystopaidd

Rwy’n argyhoeddedig erbyn hyn bod y dyfodol yn wirioneddol dywyll. Gyda phob difrifoldeb, rwy’n dechrau teimlo ein bod yn llithro tuag at ddystopia totalitaraidd, a hynny o fewn f’oes fy hun. Mae democratiaeth ar drai ymhob man, ac nid oes rheswm i dybio nad parhau i waethygu fydd pethau. Un o brif hanfodion cymdeithas sifig iach yw’r syniad bod pawb sy’n byw ynddi’n rhannu’r un fersiwn o realiti (i raddau, o leiaf). Heb hynny, mae trafodaeth adeiladol yn amhosibl, ac mae awdurdod sefydliadau cyhoeddus yn dadfeilio. Pan ddyfeisiwyd y rhyngrwyd, y disgwyl oedd y byddai’n arwain at boblogaeth hynod wybodus, gyda holl ffeithiau’r byd ar flaen ei bysedd. Wrth gwrs, mae holl ffeithiau’r byd ar flaen ein bysedd, ond fel y gwyddom bellach, y broblem yw bod llond byd o lol yn cystadlu am sylw hefyd. Yn groes i’r disgwyl, mae technoleg a’r we yn bygwth y syniad o realiti y mae modd i ni gyd gytuno arno. Mae’n hawdd canfod gwybodaeth gywir a defnyddiol ar y we, ond mae’r un mor hawdd canfod a chreu nonsens. Yn hytrach na chryfhau’r syniad o realiti gwrthrychol, tuedd pobl yw creu eu swigod epistemolegol eu hunain. Dyma dir ffrwythlon ar gyfer theorïau cynllwyn. Nid ffenomen newydd mo hyn, wrth reswm; mae’r reddf i anwybyddu safbwyntiau neu ffeithiau anghyfleus wedi bodoli erioed, ac mae’n dod yn amlycach pan mae carfannau sylweddol o bobl yn dechrau teimlo eu bod yn cael eu ‘gadael ar ôl’ diolch i anghydraddoldeb rhemp. Ond mae’r we wedi gwneud y broses yn llawer haws a llawer iawn mwy niweidiol (ac am barhau i wneud hynny). Nid oes digon o sylw’n cael ei roi i’r ffaith frawychus ein bod yn agos iawn iawn at y pwynt lle bydd yn hawdd creu fideos ffug ond argyhoeddiadol o unrhyw berson yn dweud neu wneud unrhyw beth o dan haul. Bydd canlyniadau hyn yn bellgyrhaeddol a thrychinebus: erbyn etholiad arlywyddol nesaf America yn 2020, mae perygl na fydd yn bosibl credu unrhyw glip fideo. Bydd fideos ffug yn drysu pawb, a bydd clipiau go iawn, o bwys, yn cael eu cyhuddo o fod yn ffug (mae’r broses yma eisoes wedi dechrau; mae Donald Trump bellach yn honni nad ei lais ef sydd yn y fideo Access Hollywood lle cafodd ei recordio’n disgrifio’i ddulliau camdrin menywod). Nid oes modd gorbwysleisio’r niwed bydd hyn yn ei achosi. Yr unig ganlyniad posibl fydd dadfeilio pellach y sffêr gyhoeddus. Canlyniad anochel hynny, yn ei dro, fydd mwy a mwy o awtocratiaeth. Mae awtocratiaeth yn ffynnu pan mae popeth yn edrych yn llanast, gan mai’r demtasiwn yw chwilio am arweinydd newydd anghonfensiynol a gwrthsefydliadol i roi ‘trefn’ ar bethau (er mai mwy fyth o lanast sy’n dilyn hynny fel arfer). Mae hynny ynddo’i hun yn hen ddigon o reswm i fod yn nerfus, ond ar y cyd â’r dechnoleg sydd am gael ei datblygu dros y degawdau nesaf, dylai godi ofn gwirioneddol arnom. Rydym yn clywed llawer am geir fydd yn gyrru’u hunain, a dronau Amazon fydd yn cludo parseli’n awtomatig, ond nid oes digon o sôn am ddibenion militaraidd y math yma o dechnoleg. O safbwynt milwrol, byddai’r manteision yn amlwg. Bydd galw mawr amdano hefyd. Ystyrier, er enghraifft, y ffaith bod dronau am barhau i wella a’u pris am ostwng; nid yw’n anodd dychmygu terfysgwyr yn manteisio arnynt yn y blynyddoedd i ddod. Yr ateb ‘amlwg’ i’r broblem honno gan ein llywodraethau fydd dronau gwrth-ddronau’n plismona’r awyr. Mae’n anodd peidio gwenu wrth wylio clipiau o robotiaid yn agor drysau a chwarae pêl-droed a gwneud backflips. Ond ar ôl ychydig eiliadau, mae fy meddwl yn dychwelyd at y ffaith mai prif ddefnyddwyr y dechnoleg yma yn y pen draw fydd ein byddinoedd a gwasanaethau ‘diogelwch’. Bron heb i ni sylwi, bydd y byd o’n cwmpas yn dechrau efelychu ffilm wyddonias ddystopaidd, gyda pheiriannau awtomatig arfog ar batrol ymhob man. Ar yr un pryd, mae technoleg eisoes yn adnabod ein gwynebau’n awtomatig a galluogi gwladwriaethau i gadw golwg ar ein holl weithgareddau. Mae system sinistr eisoes yn cael ei gosod yn China. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith mai gwladwriaeth dotalitaraidd sy’n arloesi yn hynny o beth, ond ni fydd yn cymryd llawer o amser i’n llywodraethau ninnau chwennych tegannau tebyg. Mae grymoedd gwrth-ddemocrataidd felly am fod yn magu stêm ar yr union adeg pan mae technoleg ar fin ei gwneud yn haws nag erioed i gyfundrefnau awtocratig ein rheoli. Rwy’n aml wedi beirniadu paranoia ar y blog yma, ac mae’n bosibl fy mod yn euog o’r un peth. Bydd raid i chi faddau i mi a chaniatáu’r un chwiw yma. Ond bob tro rwy’n meddwl am y pwnc hwn, rwy’n mynd yn llai a llai gobeithiol. Efallai bod y darlun uchod yn eithafol, ond erbyn hyn rwyf fwy neu lai’n sicr mai dyma lwybr y degawdau nesaf, o leiaf yn rhannol.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.