Sut i wella Cân i Gymru…

…cael gwared â’r gystadleuaeth am byth! mi glywaf y sinigiaid mwyaf yn gweiddi. Yn gam neu’n gymwys, mae Eurovision Cymru yn rhan annatod o ddathliadau Gŵyl Ddewi S4C, law yn llaw â thwrnamaint lluchio cennin(!) Pobol y Cwm, lluniau o blant mewn gwisgoedd Cymreig yn plastro’r papurau lleol a twitter a phaced o Welsh Cêcs o’r Co-op. Dw i’n cofio oes aur S4C diferu-o-bres, a ffilm fawr yn cael ei darlledu ar ddydd ein nawddsant gan un o’n hawduron amlycaf ni – o NelMeic Povey i Sigaret? Saunders Lewis. Ac eleni, efallai fod nifer gwylwyr Cân i Gymrufymryn yn uwch na’r arfer oherwydd eiramagedon. Fe wyliais tan hanner ffordd drwodd, meddwl “ma hyn yn shit” nid yn annhebyg i’r nain yma, cyn lapio amdanaf a mynd am dro i’r lluwchfeydd yn yr Eglwys Newydd. Wedi’r cwbl, mae eira mawr yng Nghaerdydd yn ddigwyddiad mewn oes. Mi fydd Cân i Gymru nôl flwyddyn nesaf doed a ddêl, i ddathlu’r hanner canrif. Os felly, mae eisiau ailwampiad difrifol fel a ganlyn: Rhyddhau’r gynulleidfa. Er mwyn dyn, rhyddhewch nhw o hualau’r blydi byrddau coctel crwn a naill ai gadael iddyn nhw eistedd mewn rhes neu sefyll o flaen y llwyfan. Agorwch far. Unrhyw beth i gael mwy awyrgylch, wmff a sŵn i’r cyfan. Roedd yna fwy o awyrgylch yn achlysur urddo’r Trymp Ddyn. Llai o’r Rheithgor. Mae clywed cantorion proffesiynol fel Al Lewis yn paldaruo am “safon” y caneuon yn embaras a diflas ar ddechrau’r rhaglen. Ewch syth iddi i’r caneuon. Pleidlais y panel. Dewiswch gerddorion proffesiynol i farcio’r caneuon. Ychwanegwch eu sgôr hwythau at un y gynulleidfa hynod blwyfol, sydd ond yn dueddol o bleidleisio dros Tom wyr Vera Bryngwran neu honna sy’n Coleg Metropolitan y Drindod De Cymru Dewi Sant. Go brin wnawn nhw bleidleisio dros y gân. Wynebau newydd. Mae hyd yn oed y criw cefndir yn drewi o glique #CiG. Non Parry, Tesni Jones, Steffan Rhys Williams, wynebau’r gystadleuaeth yn y gorffennol.  Roeddwn i’n gwingo efo’r berthynas rhwng Trystan, Elin Fflur a twitter – yn enwedig y seibiau hir wrth sgrolio-chwilio am bethau gweddus a chanmoliaethus i’w hadrodd yn ôl wrth y genedl. Efallai ei bod hi’n bryd dilyn ôl troed Dechrau Canu a rhoi’r job i gwmni cynhyrchu newydd. Y Ban Geltaidd. Leitir Ceanainn (Letterkenny) Swydd Donegal yw’r lleoliad ddechrau Ebrill eleni. Ddim bod ni fawr callach yma yng Nghymru, a hanes y gân fuddugol yn Iwerddon yn cael fawr o fensh wedyn. Iawn, mae’r wobr ariannol o £5,000 o bunnoedd yn neis (ond tipyn is na’r £10,000 a gynigiwyd diwethaf yn 2010 pan aeth Tomos Wyn gyda Bws i’r Lleuad), ond beth am hynt yr enillydd wedyn? Byddai eitem ar Heno neu rhywbeth yn well na nada. Ta waeth. Dyma rywbeth bach i godi’r galon a dau o uchafbwyntiau’r gystadleuaeth – y llynedd. Peidiwch â ffonio mwyach, mae’r llinellau wedi cau, ac efallai y cewch eich tsiarjio.  
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.