Sgwrs Gwrth-Ffasgaidd ym Methesda!

Trafodaeth gyda Rhwydwaith Gwrth-Ffasgaidd Glannau Merswy a gwrth-ffasgiaid Cymreig 7pm, 2/4/2018, Caffi Cyfrannu i Rannu, 57 Stryd Fawr Bethesda Mae Fforwm yr Eliffant Binc yn trefnu i ymgyrchwyr ddod o Lannau Merswy i siarad am pam bod hi’n bwysig i ni wrthsefyll hiliaeth a ffasgiaeth yn yr oes sydd ohoni. Gydag agenda llymder yn gwneud ein bywydau fwyfwy anodd ers crisis cyfalafol cychwynnodd degawd yn ôl – mae’r cyfryngau adain dde (The Sun, Daily Mail ac ati) wedi bod yn annog i ni feio’r bobl mwyaf bregus – ffoaduriaid, mamau sengl a phobl ar budd daliadau. Gwelwn Islamoffobia a hiliaeth yn cynyddu yn ein bywydau pob dydd yn ogystal ag yn y newyddion. Dyma ran o’r system aflan yw’r rhain sydd yn ein gormesu a’n gwahanu ni rhag ein gilydd mewn cyfnod ble mae angen i ni uno a threfnu er mwyn curo’r rhyfel dosbarth mae’r Torïaid yn ein llarpio efo. Bydd yr ymgyrchwyr o’r grŵp “Rhwydwaith Gwrth-Ffasgaidd Glannau Merswy” (Merseyside Antifasict Network – chwiliwch amdanynt ar-lein) yn trafod y cysylltiadau hyn rhwng cyd-sefyll dosbarth gweithiol ac atal hiliaeth, Islamoffobia a ffasgiaeth. Bydd hefyd gwrth-ffasgiaid Cymreig yn sôn ychydig am weithredoedd ffasgaidd a gwrth-ffasgaidd yng Nghymru heddiw. Ymunwch â ni yn Caffi Cyfrannu i Rannu Bethesda ar yr 2il o Ebrill am 7yh. Bydd lluniaeth ar gael, croeso i bawb ond ni fyddwn yn dioddef hilgwn os ydynt yn dod i darfu ar y sgwrs yn unig. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno – mawr obeithiwn bydd y drafodaeth yn ffrwythlon ac yn arwain at weithredu. Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/1386555221449275/ Os oes gennych chi ddigwyddiad radical i anarchwaethus hysbysebu, cysylltwch!
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.