Archif Dyddiol: 16 Mawrth 2018

dilyn fy nhrwyn: Photo

fel y moroedd : murlun yn florida

Mae fy merch newydd ddechrau murlun arall ar gyfer tŷ bwyta yn Orlando, Florida. Paentiodd gymaint yn barod ar y diwrnod cyntaf. Bydd hi a’r cynorthwyydd, sef ei gŵr yn aros yno am ddyddiau nes gorffen y gwaith. Maen nhw’n cael ymlacio yn y tywydd braf… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: CYFRES Y LLEWOD

Diolch o galon i Angharad Elen Blythe am hyn. Mi wnaeth hi sôn ar Facebook bod ei phlant wedi gwirioni efo Cyfres Y Llewod, llyfrau Cymraeg i blant a gafodd eu hysgrifennu gan y diweddar Dafydd Parri (1926–2001)(tad yr ap Dafydd-iaid – Myrddin, Deiniol ayyb. Cyhoeddwyd 23 stori gan wasg Y Lolfa yn ystod ail […] Parhau i ddarllen

Addysg yn Sir Ddinbych: Y Prif Weinidog yn agoriad swyddogol Ysgol Glan Clwyd

Mae carreg filltir arbennig wedi’i chyrraedd yn hanes Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy wrth i adeilad newydd sbon yr ysgol gael ei agor yn swyddogol gan y Prif Weinidog Carwyn Jones. Ymwelodd y Prif Weinidog â’r safle heddiw (dydd Iau) i weld canlyniadau’r prosiect gwerth £16.7 miliwn a ariannwyd ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych […] Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: “Silvograph” – Digwyddiad Llofnodi Llyfr, Llyfrgell Y Rhyl, 22, Mawrth

Bydd yr hanesydd lleol a’r awdur Philip Lloyd yn dod i lyfrgell y Rhyl i lofnodi copïau o’i lyfr newydd “Silvograph” am y gwneuthurwr ffilmiau arloesol, Arthur Cheetham. Bydd cyfle prin hefyd i wylio rhai o ffilmiau Arthur Cheetham rhwng … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen