Archif Misol: Ebrill 2018

fel y moroedd : i shtula

Mae gan fy merch hynaf grŵp gwaed A. Mae hi’n hynod o drefnus. Dyma ei chês a baciodd ar gyfer ei siwrnai. Prynodd anrhegion i blant y gymuned fach hefyd – Pocky, Kitkat, siocled a menyn cnau daear gan Reese’s (kosher maen nhw i gyd.) Mae hi newydd gyc… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Cwis: Cymry y y Sgrîn Loyw / Welsh of the Silver Screen

How well do you know the Welsh of Hollywood? Take this stellar little quiz to find out. Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Dyddiad i’ch dyddiadur 2

Mae mis Mai yn Fis Hanes Lleol a bydd Llyfrgell y Rhyl yn nodi’r achlysur gydag arddangosfeydd a chyfres o sgyrsiau. Bydd y sgyrsiau cyntaf gan Glwb Hanes y Rhyl, ar 17 Mai am 11.30am ac eto am 2.00pm gyda … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Cyfweliad â Neil Rowlands o parallel.cymru ar AmeriCymru / Interview with parallel.cymru’s Neil Rowlands on AmeriCymru

Ces i’r fraint i ateb cwestiynau gwych oddi wrth Ceri o AmeriCymru y penwythnos ‘ma… / I had the privilige to answer questions by Ceri from AmeriCymru this weekend…
Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Celwydd yr wythnos

Wnaeth plaid Lee ddim sicrhau unrhyw bwerau ychwanegol pan wnaethon nhw blygu glin i lywodraeth Doriaidd Llundain wythnos diwethaf. Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Dilys Price: Yr awyrblymwraig solo hynaf yn y byd / The oldest female solo parachutist in the world

Dechreuodd Dilys neidio allan o’r awyrennau yn ei 50au; nawr mae dros 1000 o neidiau gyda hi, ac yn ôl The Guiness Book of Records mae hi’n yr awyrblymwraig solo hynaf yn y byd. Mae hi wedi sefydlu’r elusen Touch Trust. Yma, mae Lynda Pritchard Newcombe yn esbonio mwy am eu bywyd… Dilys started jumping… Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Brwydr y tafodieithoedd – a’r goblygiadau anffodus!

Mawr y cynnwrf, rwyf wedi cael cyhoeddi cerdd ar blog y cyfnodolyn llenyddol Y Stamp! Enw’r gerdd yw ‘Brwydr y tafodieithoedd’ ac mae hi’n rhoi blas ar un o’r materion sydd yn achosi pryder i mi fel darlithydd cyfrwng Gymraeg – sef hierarchaeth y tafodieithoedd. Pwrpas ein darpariaeth yw rhoi mynediad at astudio pynciau ysgolhaig […] Parhau i ddarllen

Sara Louise Wheeler: Brwydr y Tafodieithoedd…

Ar y 27ain o fis Chwefror 2018, cyhoeddwyd fy ngherdd am tafodieithoedd ar blog y cyfnodolyn llenyddol ‘Y Stamp’.
Parhau i ddarllen

fel y moroedd : bwrdd neges

Dyma’r bwrdd neges a gafodd fy mam yn anrheg ben-blwydd. Casglodd fy merch yn Japan luniau o’r teulu efo neges – Baba, tanjoubi omedetou! (Pen-blwydd Hapus, Nain!) Dwedodd fy mab oedd yn dipyn o her i dynnu lluniau o’i babis. Roedd fy mam wrth ei bodd … Parhau i ddarllen

fel y moroedd : llety yn jerwsalem

Ar ôl gorffen y murlun yng ngogledd Israel, bydd hi a’i gŵr yn cael gwyliau am ddeg diwrnod yn dathlu ei degfed pen-blwydd priodas. Mae hi newydd fwcio llety (airb&b) yn Tel Aviv a Jerwsalem! Mae’r llety yn Jerwsalem yn agos iawn at Giât Jaffa. Byd… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia -Mawnogydd

Pennod arall o gyfres boblogaidd Steffan ab Owain, yn parhau ei drafodaeth ar flodau’r grug.

Faint a wyddoch chi am y planhigyn grug a mawnogydd?    
Ar ôl imi ysgrifennu fy mhwt diwethaf* cofiais am un neu ddau o bethau eraill a fyddai’r hen bobl yn… Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Ubuntu 18.04 LTS

Croeso i Ubuntu 18.04 – y fersiwn diweddaraf o’r system weithredu poblogaidd Linux. Mae’r newidiadau yn cynnwys defnyddio bwrdd gwaith GNOME yn lle Unity, er, mae yn edrych yn weddol debyg. Mae’n cynnwys cnewyllyn Linux 4.15; Xorg fel y gweinydd dangosydd rhagosodedig, yn lle Wayland; cefnogaeth i emojis lliw (*y nodwedd pwysicaf un* 😉 ); […]

The post Ubuntu 18.04 LTS appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Warws, Doc Dwyreiniol Bute (Dinistriwyd gan Dân)

Wedi ei adeiladau, o bosibl, yn rhan o’r hen Cardiff and Channel Mills, ac wedi ei ymestyn i fyny yn ddiweddarach, safai’r warws yn y ffotograff gan Mary Traynor ar lan ddwyreiniol Doc Dwyreiniol Bute. Fe’i dinistriwyd gan dân, damweiniol mae’n debyg, ar 12 Ionawr 1986.  Roedd adroddiad yn y South Wales Echo drannoeth yn […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Laura Karadog: Creu Ap Cwtsh: Ap i helpu chi i ddod i adnabod eich hun / Creating Ap Cwtsh: An app to help you get to know yourself

Mae criw yn Abertawe a Gorllewin Cymru wedi creu adnodd newydd i’ch cychwyn chi ar y daith o ddod i adnabod eich hun. Yma, mae Laura Karadog, athrawes yoga trwy gyfrwng y Gymraeg, yn esbonio mwy… A group of people from Swansea and West Wales have created a new resource to start you on the… Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Ambell i reg

(Ymddangosodd yn y Tyst, Mawrth 2018) Ydych chi’n rhegi? a) Ydw – on’d ydi pawb? Mae’n rhoi tipyn o liw i’n hiaith. b) Byth c) Dim ond pan eith hi’n slip arna i. Yn ôl Stephen Pinker, seicolegydd ac ieithydd, mae pum rheswm posib dros regi: Tramgwyddo rhywun, eu bygwth, eu dychryn neu effeithio arnynt […] Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 29 Ebrill 2018

Darlleniad y Dydd: Ioan 20:30-31 (BCND:tud.127/ tud.116)

Croeso cynnes i bawb ohonoch i oedfaon Sul olaf mis Ebrill. Cofiwch na fydd Oedfa’r Fro heno yn Llansannan ond yn hytrach yng Nghefn Berain, a bydd croeso i unrhyw un sydd am ymuno hefo ni. Lle bynnag y byddwn yn addoli Duw heddiw, gweddïwn am arweiniad yr . . . → Read More: Dydd Sul, 29 Ebrill 2018

Parhau i ddarllen

fel y moroedd : mwy o ddyfais

Unwaith eto roedd rhaid i mi ychwanegu dyfais i’r bwydwr adar. Gwelais Blue Jay yn bwyta’r hadau ddoe. Maen nhw’n hynod o gyfrwys; ffeindion nhw fodd. Dyma ludo chopsticks tafladwy ar y top er mwyn atal yr adar mawr rhag cyrraedd yr hadau. Gobeithio y … Parhau i ddarllen

Rhys Aneurin: Duke St arcade rooftop (2018) Emulsion on board (35 x 45 cm)

Duke St arcade rooftop (2018)
Emulsion on board
(35 x 45 cm) Parhau i ddarllen

Cynghorydd Pete Prendergast: Digwyddiadau wedi eu mynychu gan y Cadeirydd yn Ebrill 2018

05/04/18 – Beirniadu ymgeiswyr yng Nghystadleuaeth Celf Ysgolion Sir Ddinbych ynghyd â’r artist lleol Keith Bowen yn Neuadd y Sir, Rhuthun.
15/04/18 – Digwyddiad Gwirfoddolwyr Sefydliad Prydeinig y Galon a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gymunedol Wellington… Parhau i ddarllen

Blog y Cynulliad: Mae angen trawsnewid y cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru o ran eu hiechyd emosiynol a’u hiechyd meddwl

Cyfweliad â Lynne Neagle, Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Mae’r Pwyllgor yn lansio ei adroddiad ar y newid mawr sydd ei angen o ran y cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru o ran eu hiechyd emosiynol a’u hiechyd meddwl. Pam wnaeth y Pwyllgor benderfynu craffu ar y … Continue reading Mae angen trawsnewid y cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc yng Nghymru o ran eu hiechyd emosiynol a’u hiechyd meddwl Parhau i ddarllen

Llyfrgelloedd Sir Ddinbych: Sesiwn Agored – Dydd Iau Mai 3ydd, Llyfrgell Y Rhyl 10:00-1:30

Dysgwch am y broses achub ac ailgartrefu. Dewch i gwrdd ac anifail wedi ei fabwysiadu. Syniadau ar sut i hyfforddi eich anifail. Byddwch yn berchennog cyfrifol. Galwch fewn, gofynwch cwestiwn! Llyfrgell Y Rhyl, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl, LL18 3AA, … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Cymdeithas yr Iaith: Cymunedau Byw Cwis y Flwyddyn

Mae hwn yn dod o’r Pecyn Cymunedau Byw gan Gymdeithas yr Iaith.  Pwrpas y pecyn yw cefnogi pobl sydd yn trefnu gweithgareddau anffurfiol i roi cyfleoedd i bobl ddefnyddio a chymdeithasu yn yr iaith. Dyma fersiwn digidol o Gwis y Flwyddyn, sydd wedi cael ei greu gan sawl cyfrannwr sy’n aelodau o Gymdeithas yr Iaith. … Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: • Yr Efengyl a Phaganiaeth – Rhan 1 (Actau 14:1-21) – Rhodri Glyn (22.04.2018)

http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/22042018_pm_rhodriglyn.mp3
Parhau i ddarllen

fel y moroedd : 96 oed

Mae fy mam yn 96 oed heddiw. Ymwelodd ei dwy wyres â hi i ddathlu ei phen-blwydd. Anrheg go arbennig oedd casgliad o luniau’r teulu mewn ffurf bwrdd neges. Roedd hi’n hapus dros ben. Edrychwch ar ei “gwenu miliwn doler.” Er bod ganddi osteoporosis… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Gwylio byd natur

Wythnos diwethaf daeth ffrind i aros o America; ond efo fi am ychydig o ddyddiau; felly cymerais amser i ffwrdd o’r gwaith.  Ac ar ol yr holl law, dyna ni’n cael haf bach – ar ol dydd Mawrth beth bynnag.  Felly aethon am daith cerdded bore Me… Parhau i ddarllen

anarchwaethus / gwefan anarchaidd yn y Gymraeg: Protest yn erbyn torriadau i Glybiau Ieuenctid Gwynedd! 3/05/2018

Bydd protest am 12 o’r gloch Dydd Iau y 3ydd o Fai, tu allan i brif adeilad cyngor Gwynedd, Caernarfon, dros gadw clybiau ieuenctid ar agor.

Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/427410064351814/
Cofiwch, os gwyddoch am ddigwyddia… Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Warws, Collingdon Road / Rhodfa Lloyd George, Caerdydd

Mae’r darlun yn dangos storfa rawn a safai ar ochr orllewinol Doc Bute y Gorllewin.  Yn ystod y 1980au a 90au, cafodd y rhan fwyaf o’r adeiladau o’i amgylch eu dymchwel i greu lle ar gyfer ailddatblygu Bae Caerdydd.  Er nad oedd wedi ei restru yn statudol, arbedwyd y storfa rawn oherwydd y tybiwyd bod […] Parhau i ddarllen

Y Papur Gwyrdd: Taith Ewropeaidd y dylwn fod yn rhan ohoni – i drechu tlodi

Ers troi’n wefan yn unig, mae’r Papur Gwyrdd wedi canolbwyntio mwy na’r hen gylchgrawn papur ar bynciau’n ymwneud yn benodol â’r amgylchedd, fel cynhesu byd-eang a newid hinsawdd. Ond mae pryderon mawr eraill yn hawlio’n sylw hefyd – megis y … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Prif Weithredwr Elfed Roberts: 100 Diwrnod i fynd tan Eisteddfod Caerdydd / 100 Days to go until the Cardiff National Eisteddfod

Dim ond 100 diwrnod sydd i fynd tan gychwyn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd eleni, a chymerodd y Prif Weithredwr, Elfed Roberts, y cyfle i sôn rhywfaint am y Maes a’r hyn fydd i’w weld yn y Bae yn ystod ei Eisteddfod olaf cyn ei ymddeoliad. There are only 100 days to go before the… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : rhwystr ychwanegol

Llwyddodd Yoni (y wiwer) i ddringo i’r bwydwr adar! Gwelais fo wrthi pedair gwaith y bore ‘ma. Bwytaodd yr holl hadau flodau haul mewn munudau. Rhaid ei fod o wedi hyfforddi ei hun, a chryfhau ei gyhyrau! Roedd rhaid i mi ddyfeisio rhwystr ychwanegol. … Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Rhoi’r gorau i gyfarfodydd wythnosol

Rydym wedi penderfynu i roi’r gorau i’n gyfarfodydd tîm wythnosol yn ddiweddar, o leiaf fel digwyddiad wythnosol rheolaidd.

Roedd y cyfarfodydd yma’n eithaf defnyddiol i ddechrau. Roeddwn i’n newydd i’r sefydliad ac roedd e’n anodd iawn gwybod beth oedd wythnos waith fy nghydweithwyr yn edrych fel. Roedd y gyfarfodydd hefyd yn ffordd ddefnyddiol o hybu cyfathrebu ynghylch ein llwythi gwaith.

Ar ôl trafodaeth ddiweddar, wnaethon ni penderfynu doedden nhw ddim yn ddefnyddiol bellach, ac mae yna sawl erthygl ar-lein yn awgrymu bod hyn yn wir i lawer o sefydliadau (gan gynnwyr yr un arbennig yma gan Jason Fried o Basecamp). Yn waeth na hynny, roedd e’n teimlo fel bod y gyfarfodydd yma’n rhwystro ein hymdrechion i wella sut ni’n gweithio gyda’n gilydd.

Roedd ein diwrnod tîm ddiweddar yn ymgais i ddod â’n syniadau ni at ein gilydd, ond roedd y cyfarfodydd yma’n gwneud y gwrthwyneb. Trafodom sut byddai tîm da yn edrych yn ein diwrnod tîm, ond yn ein cyfarfodydd wythnosol fe fyddwn i’n amlinellu ein gwaith fel unigolion. Drwy ddod â rhestrau o dasgau i’n gyfarfodydd, roeddem yn rhannu pa mor brysur oedden ni, a thrwy hyn roedden ni’n atgyfnerthu ein rhesymeg o weithio ar dasgau unigol yn lle cefnogi’n cydweithwyr yn ein gwaith. Roeddem yn canolbwyntio ar dasgau yn lle ble allwn ni ychwanegu gwerth.

Mae diwylliant yn air sy’n cael ei ddefnyddio lot mewn gwasanaethau cyhoeddus a thu hwnt. Ond fel rydw i wedi dweud (neu ei ddwyn) o’r blaen, diwylliant yw’r ymddygiad ni’n gwobrwyo neu ei gosbi. Roeddwn yn annog y tîm i restru pa mor brysur oedden nhw ac yn cydnabod hynny.

Yna penderfynom siarad am ein gallu a’n capasiti yn ein cyfarfodydd tîm, cyn cymryd ymagwedd hollol wahanol. Bellach mae gennym Blychau Cymorth ar ein bwrdd gwyn lle gallwn rhestru ble yr hoffem gael cymorth, a gallwn mynd ati i gynorthwyo’r person yna pan rydym yn cael cyfle. Rwy’n ymwybodol fy mod gen i’r siawns i wobrwyo ymddygiadau gwahanol nawr, er enghraifft pan mae pobl yn rhannu eu bod nhw’n cael trafferth, sy’n cymryd gyts pryd ni’n gweithio mewn cymdeithas sy’n cosbi methiant (er nad yw hyn o fudd mewn amgylcheddau cymhleth), a hefyd pan rydym yn helpu ein gilydd mas.

Mae Dan Pink wedi dadlau yn ei lyfr Drive: The Truth Sight About What Motives Us, mai’r cymhelliant mwyaf effeithiol yw ymreolaeth, meistrolaeth, a phwrpas. Nawr mae gan bob aelod o’r tîm reolaeth o’u maes gwaith eu hunain, ac mae pawb ysgogi’r gwelliant yma. Drwy rhoi’r gorau i fodelau cymhelliant hen fel yr ofn o gosb, rydym mewn sefyllfa da i wella’n gwaith.

https://medium.com/media/9af759ee624eb2078bf4b89d0fac9d86/href

Dydyn ni ddim yn gwybod os fydd hyn yn gweithio i ni eto (amser a ddengys), ond mae hyn yn teimlo’n well. Mae’r gwybodaeth roedden ni’n rhannu ar gael os mae ei angen, mae fe jyst yn meddwl bod rhaid i mi weithio bach yn galetach i’w wneud yn weladwy ac i annog gyfathrebu anffurfiol a chydweithio. Beth bynnag sy’n digwydd, rydym wedi arbed amser y cyfarfod (hanner awr, neu dwy awr pam chi’n meddwl bod hyn yn hanner awr i bedwar aelod o staff), ac os wnawn ni hyn yn iawn, bydd gennym ddull mwy cydweithredol o weithio hefyd.


Rhoi’r gorau i gyfarfodydd wythnosol was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cwestiwn i Olynydd

Gyda chyhoeddi ymddeoliad Carwyn Jones a’r dyfalu ynghylch ei olynydd, ni chlywais eto yr un o’r sylwebyddion yn galw i gof yr UN PETH MAWR a wnaeth Carwyn yn ystod ei dymor fel Prif Weinidog, sef cyhoeddi y byddai ‘mwy na chroeso’ i longau tanfor Trident angori yng Nghymru pe bai raid iddynt ymadael â’r […] Parhau i ddarllen

atgof.co: Mawrth-Ebrill 2018

fel y moroedd : fel y moroedd 2018-04-23 15:34:00

Coginiodd Missy, ffrind da i fy merch yn Japan amrywiaeth o seigiau dros fy merch sydd gan amrywiaeth o alergedd bwyd, a gwahodd eu ffrindiau i gael picnic dan goed. Roedd Missy hyd yn oed yn darllen yn helaeth am alergedd bwyd er mwyn paratoi’r bwyd “… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Colofn Chwaraeon: Amser Ychwanegol gyda Matthew Jones: Marc De Lerpwl ar Cwpan Cymru / Extra Time: South Liverpool’s mark on the Welsh Cup

Yn colofn Amser Ychwanegol ym mis Mehefin mae Matthew Jones yn cyflwyno stori anarferol a hanesyddol- pan ennillodd tîm o Lerpwl Cwpan Cymru! In June’s Extra Time column Matthew Jones introduces an unusual and historic story- when a team from Liverpool won the Welsh Cup! “Os edrychwch ar ein chwaraewyr, roedd gennym ni yn wirioneddol pedwar… Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Patrick Jemmer: Adleisiau’r Rhyfel i Orffen Pob Rhyfel / Echoes of the War to End All Wars

Pan o’n i’n blentyn ro’n i’n astudio hanes yn yr ysgol nes mod i’n bedwar ar ddeg (neu rywbeth fel hynny), a mwynhawn i ddysgu am Harri’r 8fed, ei wragedd i gyd, a’r mynachod; ac am Elisabeth y 1af, a’r holl gynllwynio a thorri pennau. Ond, ddysgais i erioed am hanes modern o gwbl. Wedi… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Pwy enillodd gwpan Sioe Geffylau 1898?

Erthygl gan Dewi Prysor.

Yn y lluniau isod mae cwpan arian hardd a roddwyd fel gwobr i’r ‘Best Tradesman’s Turn Out’ (y masnachwr oedd wedi gwneud yr ymdrech orau i addurno ei geffyl a throl, mae’n debyg) yn Sioe Geffylau Blaenau Ffestiniog 1898.

Mi welwch o’r orgraff sydd arni ei bod wedi ei chyflwyno gan William Parry, Ocsiwnîar o Flaenau Ffestiniog. Tydi hi ddim yn glir os mai cyflwyno’r Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Cwis: Mae bob ateb yn cyfrif! / Every answer counts!

Don’t like maths? Try this week’s quiz – you can count on it to spell out the answers! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: Ysgol Sul Maesyneuadd

22ain Ebrill 2018Geiriau ola Iesu Grist i’w ddisgyblion cyn iddo fynd i’r nefoedd:”Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas a’r Tad, Y Mab a’r Ysbryd Glan. Dysgwch nhw i wneud poepth… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch rhagfarn wrth-Gymraeg

Mae Rod Liddle yn ddyn diflas a dwl a diog, gyda record hir o sarhau siaradwyr Cymraeg a sawl grŵp arall. Bu wrthi eto’n ddiweddar, a bu’r ymateb, yn naturiol, yn ffyrnig.Pob tro mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae dadl ynghylch y ffordd orau i ni yma… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : hydrangea

Mae’r gŵr newydd blannu hydrangea, ei ffefryn. Y broblem fawr yn y tir yn Oklahoma ydy bod yna lawn o gerrig; Rhaid bod mwy ohonyn nhw na phridd. (Roedd yn ofnadwy o galed palu beddau i’n hanifeiliaid anwes ni.) Gobeithio bydd y blodau’n blodeuo’r flwy… Parhau i ddarllen

Rhys Aneurin: 3/5: Dros Pont Wood St. (2018) Emulsion on board (35 x 45 cm) •…

3/5: Dros Pont Wood St. (2018)
Emulsion on board
(35 x 45 cm) • £315 (framed/wedi’i fframio) Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Dawns y Deinasor – unwaith eto

Mae yna ormod o gwestiynau yng ngholofn Gwilym Owen (Gwarth Cyngor Gwynedd) i’w hateb nhw i gyd – mae yna 9 ohonyn cwestiwn yn ôl fy nghyfri i – a llawer llai o atebion wrth gwrs.  Carwn fodd bynnag wneud sylw ar un neu ddau o’i sylwadau.Mae … Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Stori fyddwch chi ddim yn ei darllen yn Golwg, Golwg 360 na Newyddion BBC

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: D. Geraint Lewis a D.I.Y. Welsh: Rhybudd! Mae’r chwyldro gramadegol wedi cyrraedd / Beware! Grammatical revolution in progress

Rwy’n dod o Ynys-y-bŵl, pentref glofaol, ger Pontypridd, oedd wedi colli ei Gymraeg (ac eithrio yn y capel). Rydw i wedi dysgu Cymraeg – fel ail iaith yn yr ysgol, wedyn mewn cwrs arbennig yn y Brifysgol yn Aberystwyth cyn derbyn gradd i ddechrau ac yna M.A. yn y Gymraeg. Dilynais gwrs llyfrgellydd a bûm… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : arwydd newydd

Wedi pen-blwydd Israel, y peth nesaf cyffroes (ar wahân i siwrnai fy merch i Israel i greu murlun) bydd agor Llysgenhadaeth America yn Jerwsalem y 14ed Mai. Postiodd Hananya’r llun hwn – arwydd newydd! Mae Guatemala a Honduras yn dilyn America. Clywais… Parhau i ddarllen

Bethan Gwanas: Bedwen Lyfrau 2018

Bydd Bedwen Lyfrau 2018 yng NGHAERFYRDDIN! MERCHER 9 – SADWRN 12 MAI Digwyddiadau Ddydd a Nos mewn lleoliadau amrywiol ac i gyd yn rhad ac am ddim – nifer cyfyngedig ar gyfer rhai sesiynau plant. Popeth i blant yn y bore, a sesiynau oedolion ar ôl cinio. Bydd llyfrau ar werth ymhob digwyddiad gan Siop […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Eglwys Norwyaidd, Doc Gorllewin Bute

Yn y 19eg ganrif, roedd Caerdydd yn un o dri phrif borthladd Prydain, ynghyd â Llundain a Lerpwl.  Llynges fasnachol Norwy oedd y drydedd fwyaf yn y byd a daeth Caerdydd yn un o’i phrif ganolfannau gweithredu. O 1866, anfonodd Sjømannskirken, rhan o Eglwys Lutheraidd Norwy, weinidog i wasanaethu ar gyfer anghenion Norwyaid a oedd […] Parhau i ddarllen

Parallel.cymru- Cylchgrawn digidol dwyieithog: Mared Lewis: Creu Fi a Mr Huws a llyfrau eraill i ddysgwyr / Creating Fi a Mr Huws and other books for learners

Un o awduron mwya’ poblogaidd Cymru yw Mared. Yn 2017 rhyddhaodd hi nofel ar gyfer dysgwyr hyderus, Fi a Mr Huws. Yn gynnar yn 2018 bydd yn rhyddhau addasiad ar gyfer dysgwyr newydd, Y Stryd. Yma, mae hi’n dweud rhagor am y llyfrau hyn wrthon ni, ac yn trafod ei hun a’i ‘sgrifennu hi. Mared… Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 22 Ebrill 2018

Darlleniad y Dydd: Eseciel 12:1-7 (BCND:tud.2760/ tud.692)

Croeso cynnes i chi i’n hoedfaon heddiw. Dwi ar hyn o bryd (prynhawn dydd Iau) yn rhyfeddu at y tywydd hafaidd yr ydym yn ei fwynhau (ymddiheuriadau mawr os ydych yn darllen hwn ar ddydd Sul a hithau’n oer a glawog eto!) O’r diwedd mae’r gwanwyn wedi cyrraedd . . . → Read More: Dydd Sul, 22 Ebrill 2018

Parhau i ddarllen