Un Diwrnod

Nodyn o bob peth a wnes i heddiw. Dihunais am 0700, cyn y wawr. Codais a mynd i eistedd ar y teras yng ngoleuni lleuad newydd basio’i llawn dwf, ac awgrym o haul yn neshau yn y dwyrain. Clywais dylluan yn symud ar hyd ochr o goedwig. Yn ystod yr hanner awr nesaf, tawelodd y dylluan a thyfai sŵn yr adar bach o bob cyfeiriad. Yn awr ac yn y man symudodd rhyw ddafad yn y cae ar lan yr afon, a’i chloch bach yn canu’n uchel. Yn raddol deuai’r lliwiau: glas y gwair, coch y teras. Roedd gwyn llachar blodau’r jasmin yn torri drwy’r cwbl. Cyn i’r haul ymddangos es i nôl i’r gwely i gysgu awr fach arall. Ar ôl brecwast – orennau mandarin olaf y tymor, cnau Ffrengig wedi’u rhosto, te a mwy o de – roedd hi’n bryd dechrau ar y gwaith. Hen dasg annifyr iawn yw agor ffa, ac roedd y rhain wedi bod yn hongian wrth y sied yn sychu am 6 mis. Eisoes roedd rhai wedi agor eu hunain a dianc. Haul poeth, gwynt cryf ac ambell i gawod byr trwm. Dim o flaen fy llygaid ond ffa duon bach, yn saethu o’r codau ac yn glanio ar lawr yn lle yn y bowlen. Ar y ffordd yn ôl o’r domen ar ôl cael gwared o’r codau, croesi’r heol i siarad â’r cymdogion, a gweld y ferch fach 5 oed yn gwneud llun dewin ar fwrdd-du. yn drawiadol o dda. Ar ôl cinio, agor ffa. A dyna ni. Fydd ddim rhaid gwneud e yfory achos rwyf i wedi gwneud y cwbl. Eistedd ar y teras eto, gyda glased o win pinc o la Rioja, yn gwylio lliwiau’r dydd yn cilio eto.    
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Heb Gategori. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.