Ynghylch rhagfarn wrth-Gymraeg

Mae Rod Liddle yn ddyn diflas a dwl a diog, gyda record hir o sarhau siaradwyr Cymraeg a sawl grŵp arall. Bu wrthi eto’n ddiweddar, a bu’r ymateb, yn naturiol, yn ffyrnig. Pob tro mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae dadl ynghylch y ffordd orau i ni ymateb. Mae dau brif ddewis, sef gwylltio’n gacwn a chreu stwr, neu ei anwybyddu. Mae rhinweddau i’r ddau opsiwn. Shock jocks yw pobl fel Liddle, sy’n dweud pethau ymfflamychol er mwyn denu sylw, felly gellir dadlau mai gwireddu’u dymuniadau yw rhoi ocsygen cyhoeddusrwydd iddynt. Ar y llaw arall, mae anwybyddu’r sylwadau’n creu’r argraff nad oes gwrthwynebiad i’r fath agweddau, ac mae perygl i hynny’u normaleiddio’n dawel. Anwybyddu sydd orau yn achos pobl di-nod ar Twitter, efallai; os mai dim ond dwsin o ddilynwyr sydd ganddynt, mae rhoi sylw iddynt bron yn sicr o fod yn wrth-gynhyrchiol. Bwriad fy nghyfrif Take That, Welsh, wrth ail-drydar pobl sy’n gwneud sylwadau dwl a jôcs blinedig am y Gymraeg, yw rhoi proc bach i’w hysbysu nad ydynt yn agos at fod mor wreiddiol a beiddgar ag y maent yn tybio. Ond ar y cyfan, rwy’n credu dylid osgoi pile-ons yn yr achosion hynny. Mae’n wahanol pan mae’r siaradwr yn sylwebydd adnabyddus gyda phlatfform mawr. Mewn achosion fel hynny, mae ymateb gyda pile-on blin yn strategaeth synhwyrol. Mae’n bwysig sicrhau bod darllenwyr sy’n anghyfarwydd â ‘dadl’ yr iaith yn gweld bod sylwadau fel rhai Liddle yn anghywir. Mae darbwyllo’r Sunday Times a’r Spectator, neu Liddle ei hun, bod dweud pethau twp am yr iaith Gymraeg yn fwy o drafferth nag o werth yn nod rhesymol iawn, a’n enghraifft o siaradwyr Cymraeg yn ymateb i ryddid mynegiant Liddle a’i gyhoeddwyr gyda’u rhyddid mynegiant eu hunain. Dywed Liddle: ‘And yet as a result of this little spat I will now feel it incumbent to make a joke about Wales in every column I write, which might get boring for the readers’. Dylem ‘alw’r blyff’ fan hyn, a pharhau i ymateb. Mae Liddle yn gywir i ddweud y byddai hyn yn troi’n ddiflas yn fuan iawn i’r darllenwyr, ac felly i’w gyhoeddwyr. Mae gan garedigion yr iaith Gymraeg fwy o stamina yn hyn o beth; os mai mater o fynd yn ôl ac ymlaen nes bod un ochr yn cael llond bol yw hyn am fod, yna dim ond un enillydd fydd.Eto i gyd, mae yna rai pethau dylai amddiffynwyr yr iaith beidio’u gwneud yn ystod helyntion o’r math hwn. Fel rwyf wedi’i ddweud ar ôl achos tebyg rai blynyddoedd yn ôl, mynd at yr heddlu yw un. Mae’n ddigon syrffedus pan mae shock jocks fel Liddle yn ymateb i feirniadaeth trwy swnian am eu rhyddid mynegiant. Ond mae ceisio defnyddio grym y wladwriaeth i gau eu cegau yn sensoriaeth. Dylem osgoi galluogi’r bobl yma i ferthyru’u hunain ar allor rhyddid mynegiant, oherwydd dyna’n union maent yn gobeithio amdano. Rheswm ymarferol a phwysig arall i beidio ag annog y wladwriaeth i ddyfarnu pa safbwyntiau i’w caniatáu a pha rhai i’w gwahardd yw bod deddfu o’r fath yn anochel, yn hwyr neu’n hwyrach, o gael eu defnyddio’n erbyn carfannau llai grymus. Hyd yn oed os mai gwarchod lleiafrifoedd rhag y mwyafrif yw’r bwriad wrth eu cyflwyno, mae hanes hir o rymoedd o’r fath yn gweithredu i’r cyfeiriad arall. Mae grwpiau lleiafrifol yn ddrwgdybus o’r wladwriaeth am reswm; pam felly ymddiried yn y wladwriaeth i ddefnyddio’r fath bŵer yn y modd ‘cywir’? Ymateb arall y mae’n hen hen bryd i amddiffynwyr y Gymraeg roi’r gorau iddi yw honni mai sarhau’r Gymraeg yw’r ‘rhagfarn dderbyniol olaf‘. Mae Liddle ei hun yn dangos yn glir nad yw hynny’n agos at fod yn wir, gan ei fod wedi bod yn dweud pethau hiliol a misogynistaidd yn nhudalennau rhai o bapurau newydd a chylchgronnau mwyaf adnabyddus y Deyrnas Gyfunol ers degawdau. Nid oes angen ‘dychmygu petai wedi dweud hyn am grŵp x’, oherwydd mae’n gwneud hynny bron yn wythnosol. Dim ond chwilio Google yn sydyn sydd ei angen er mwyn gweld bod pob grŵp o dan haul yn honni mai hwy yw targed y ‘rhagfarn dderbyniol olaf’. I fod yn glir, mae’n deg, i raddau, bod carfannau penodol yn canolbwyntio’n bennaf ar y rhagfarn sy’n eu hwynebu’n uniongyrchol, gan mai dyna’r math maent fwyaf cyfarwydd ag ef. Ond mae honni bod rhagfarn wrth-Gymraeg yn ‘dderbyniol’ mewn modd nad yw’n wir am ragfarnau eraill yn gwneud i ni edrych yn wirion, a’n rhoi hygrededd i’r ystrydeb ein bod yn fewnblyg. Un peth yw canolbwyntio ar yr hyn sy’n effeithio arnom yn uniongyrchol, ond peth arall yw anwybyddu’n llwyr y rhagfarn nad yw’n effeithio arnom. Nid oes gennym hawl i ddisgwyl i leiafrifoedd eraill a’u cefnogwyr gyd-sefyll â ni os ydym am fod mor ddi-hid ynghylch rhagfarn yn eu herbyn hwythau. Ni ddylai fod angen cyfleu’r syniad bod rhagfarn wrth-Gymraeg yn arbennig neu’n unigryw mewn rhyw ffordd er mwyn ei gwrthwynebu. Mae’r traddodiad o hiliaeth yn erbyn pobl â chroen tywyll yn waeth nag unrhyw beth mae siaradwyr Cymraeg croenwyn wedi’i wynebu erioed, ac nid yw cydnabod hynny’n niweidio’n hachos o gwbl gan fod y ddau beth yn wrthun. Un enghraifft arall ymysg llu o ragfarnau diog yw lol gwrth-Gymraeg Liddle a’i debyg, ac mae dweud hynny’n ddigon.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.