-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
Dewis Mis
Chwilio
Archif Dyddiol: 9 Mehefin 2018
fel y moroedd : tlws crog
Ces i anrheg gan y gŵr yn annisgwyl ddoe. Tlws crog hardd a wnaed yn Israel. Mae’r crefftwr yn gwneud eitemau hardd o fetel y rocedi a lansiwyd gan Hamas, a ffrwydrwyd yn Israel. (Roedd gen i un arall mewn ffurf Seren Dafydd, ond collais o yn anffodus…. Parhau i ddarllen
Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Undod (Canolfan Berfformio Cymru)
Pe bai’n bosib i ddrama lwyfan fynd yn ‘viral’ ar amrantiad, byddai Undod yn siwr o brofi llwyddiant mawr. Mae’r ddrama wreiddiol Gymraeg sy’n gafael â’r gwyliwr gerfydd y gwâr, wrth gyfathrebu neges glir, amserol iawn. Gair o gyngor, felly, i … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Llafar Bro: Briwsion -priodas ac angladd
Cyfres Nia Williams
Priodasau
Mi roedd priodas yn achlysur cymdeithasol i’r holl ardal. Adnewyddwyd Capel y Rhiw tua 1948 a bu nifer o briodasau yn dilyn hynny. Mrs Griffiths (mam June, Marjory a Dilys) oedd gofalwraig y capel. Y hi oedd yn rhoi’r ar… Parhau i ddarllen
Hacio'r Iaith: Llongyfarchiadau i Delyth Prys – Gwobr Adeiladu Cymru, Womanspire 2018
Llongyfarchiadau i Delyth* ar ennill y wobr arbennig yma. Diolch i’r rhai wnaeth ei henwebu, yn gydweithwyr a chyn-gydweithwyr. Mae broliant llawn i’w weld ar dudalen newyddion Prifysgol Bangor. *datgan diddordeb 😉
The post Llongyfarchiadau i Delyth Prys – Gwobr Adeiladu Cymru, Womanspire 2018 appeared first on Hacio’r Iaith.