Archif Dyddiol: 10 Awst 2018

fel y moroedd : munich

Cafodd fy merch yn yr Almaen brofiad annisgwyl. Wedi gadael ei ffrindiau yn y gorllewin, teithiodd hi ar y trên i ddychwelyd i’r fferm. Oherwydd newid yr amserlen, roedd rhaid iddi gymryd ffordd arall. Daeth y trên â hi i Munich, a phenderfynodd hi fyn… Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Clirio pethau a’r cynhaeaf

Dwi ddim yn naturiol yn ’minimalist’, ond weithiau dwi yn trio cael rywfaint o drefn a hefyd yn gobeithio os dwi’n medru cael gwared o rai bethau, bydd llai o gwmpas a mwy siawns o fedru ffeindio pethau!Mae ’na fasged yn yr ystafell bwyta yn eistedd ar… Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr: Gair o Gariad (Theatr Bara Caws) – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Mae’n gwneud synnwyr pur i mi fod Theatr Bara Caws yn ail-lwyfannu Gair o Gariad wythnos ’steddfod. Oes na un achlysur arall yn niwylliant yr iaith Gymraeg sy’n ymdebygu i fformat ffilm Love Actually? Mae’r ‘Maes’ blynyddol ei hun yn … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Pantllwyd

Y drydedd bennod yng nghyfres Atgofion Pantllwyd, Laura Davies

Mab hynaf Laura Roberts, Dafydd, a’i wraig oedd yn byw drws nesaf ond cwsmeriaid Kitty Ephraim oedd hi.  Galwn yn tŷ nesaf, lle trigai Mr a Mrs Joe Hughes, rhieni Gwen a Dafydd (nid wyf yn… Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Ailystyried (1)

Ie mi wranta’, rhywrai’n dechrau corddi ynghylch y rheol iaith eto. Efo cyfeillion fel y rhain, pa angen gelynion? Ystwytho’r rheol er mwyn gallu perfformio mewn ‘ieithoedd lleiafrif’ eraill? Ond beth yw ‘iaith leiafrif’? Ym mha gyd-destun, yn ôl pa safon, y diffiniwn ni ‘iaith leiafrif’? Gochelwn rhag troi’r Eisteddfod yn ‘ŵyl ieithoedd lleiafrif’. Nid […] Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Theatr – Anweledig (Cwmni’r Frân Wen) – Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Wedi dwy sioe un-dyn, dyma brofi sioe un ddynes, yn sgil coroni’r Prifardd newydd Catrin Dafydd. Ond nid  dynes gyffredin oedd dan sylw Anweledig, ym mhenllanw cynhyrchiad iasol Cwmni’r Frân Wen. ‘Dynas Debenhams’ fu Glenda (Ffion Dafis) erioed yn ôl … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Hacio’r Iaith 2019: Caerfyrddin

Mae hi’n bleser gen i ddweud ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2019! Fe fydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Fe fydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir. Yn y […]

The post Hacio’r Iaith 2019: Caerfyrddin appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen