Marwolaeth ym Mharadwys

Dyma gofnod anodd i’w ysgrifennu. Dyma gamwedd. Paradwys yw enw glowyr Asturias ar ein hardal fach ni ar arfordir y dwyrain. Fan hyn maen nhw, ac erbyn hyn pobl o bob ran o Sbaen, wedi dod i fwrw haf ers blynyddoedd. Ardal wledig, dawel. Fore Iau diwethaf, yn ei gartref yng nghanol cefn gwlad, roedd ein cyfaill Javier Ardines, sy’n byw ar ochr draw’r afon, wedi codi’n gynnar yn ôl ei arfer i fynd at ei gwch pysgota i ddechrau diwrnod o waith. Ar ôl hynny, yn fwy na thebyg,  byddai wedi treulio amser yn swyddfeydd cyngor Llanes. lle roedd yn gynghorydd o’r Chwith Unedig and yn aelod o glymblaid sy’n rheoli’r cyngor. Chyrhaeddodd e fyth mo’r cei. Yn ôl yr hyn sydd yn hysbys, roedd rhywun neu rywrai wedi dodi nifer o rwystrau ar groed y feudir sy’n arwain o’i dŷ; y math o reilins fydd yn cael ei rhoi o amgylch tyllau mawr yn yr heol. Mae’n debyg ei fod wedi eu taflu nhw i’r ochr, a chario ymlaen. Pan gafwyd hyd iddo ddwyawr yn ddiweddarach, eto heb gyrraedd y ffordd fawr, roedd yn gelain. Drws gyrrwr y car ar agor a’r injan yn rhedeg. Cymydog yn mynd a’i gi am dro a welodd e gyntaf, a ffonio 112. Ond cyn i’r heddlu gyrraedd, roedd ei ferch wedi dod i lawr o’r tŷ: roedd y teulu wedi cael galwad ffôn wrth y llanc oedd yn aros yn yr harbwr i fynd i weithio gydag ef. Roedd y crasfa a gafodd Javier i’w ben gymaint, nad oedd y cymydog wedi ei adnabod ar yr olwg gyntaf. Mab, brawd, gŵr, tad, tadcu, cyfaill, cymydog. Wedi ei golli yn 52 oed. Ac yn ehangach na hynny, y math o gynghorydd sydd gymaint ei angen. Doedd e ddim yn hawlio dim un tâl na chostau gan y cyngor am ei oriau o waith – ac roedd yn cyflawni llawer. Roedd yn gweithio i wella bywyd pobl yr ardal yn ei grynswth, o’r economi i’r amgylchfyd, ac yn gweld lle byddai un yn helpu’r llall. Fe, â’i gyfrifoldeb dros draethau’r ardal, oedd wedi brwydro’n galed i gael meysydd parcio mewn llefydd prydferth prysur, yn hytrach na phawb yn parcio ar y clogwyni ac yn distrywio’r graig a’r planhigion. Eleni agorwyd dau faes parcio, un bob ochr i bentref Llames de Pría, fydd yn diogelu amgylchedd y bufones (lle mae dŵr yr heli yn ffrwydro o dwneli cul yng ngharreg galch y clogwyni ac yn cyrraedd 30m o uchder ar brydiau). Mae hefyd yn ei gwneud yn llawer haws cerdded i’r traeth cyfagos, heb geir ar yr heol fach. Ac mae pobl yn tyrru i’r meysydd parcio, sydd wedi eu hamgylchynnu â choed brodorol. Fydd dim angen cofgolofn tra bydd y bufones yn ddiogel. Roedd ei weithgaredd lleol wedi ei seilio ar ei wleidyddiaeth. Yn nhermau Cymru neu’r DU, comiwnyddion yw’r Chwith Unedig – er taw dim ond rhai sy’n perthyn i’r Blaid Gomiwnyddol. Ac mae sôn yn barod ar y cyfcym taw ffasgwyr a’i laddodd. Boed yn wir neu beidio, mae’n enghraifft a sut mae Sbaen, fel llawer i le arall, â cheudwll enfawr lle oedd canoldir gwleidyddiaeth arfer bod. Ac wrth gwrs mae ganddi hanes, sy’n fyw iawn yn y cof, sydd yn ein hatgoffa pa mor erchyll y gall hynny fod.
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.